Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

I BWRDD Y GOL.!

INODIADAU WYTHNOSOL. I

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

I TAMEIDIAU GWLEIDYDDOLI

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I TAMEIDIAU GWLEIDYDDOL I Afiechyd y Canghciior. I Blin gennym mai gwanaidd ei iechyd yw Cangellor y Trvsorlys, I ac na fu'n alluog i fod yn y Senedd o gwbl yn absenoldeb y Prif-Wein- idog. Pan ystyriom swm y gwaith a gyflawnodd y blynyddau diwedd- af hyn, synnwn fod ei iechyd cystal ag yw. Eilun gwerin gwlad yw efe, a gwrthrych atgasedd calon pendefigion. Cerir ef yn angerddol, a chasheir ef a chas cyflawn gan filoedd. Er cymaint a w-naeth, bwriada wneud llawer mwy, ac I ynddo ef a'i gynliuniau i weila amgylchiadau'r werin y gorffwys I gobaith y Blaid Ryddfrydol am gael ei hanfon yn ol i'r Senedd gyda mwyafrif adeg yr Etholiad nesaf. Hyderwn y bydd i awelon iachus Llanystumdwy, yn ystod gwyliau'r Pasc. ddwyn ei ynni a'i lais yn ol iddo. Yn lie French. I Y mae y Cadfridog Syr Charles Douglas wedi ei bennodi yn aelod o Gynghor y Fyddin, yr hwn a ymddiswyddodd mewn canlyniad i helynt Ulster. Yn lie Syr Spencer Ewart y mae Syr H. C. Selater wedi ei bennodi. Marchog Newydd. I Y mae y Brenin wedi gosod y teitl o is-iarll ar Syr Sydney Bux- ton, Cyn.Lywydd Bwrdd Masnach, yr hwn sydd ar fedr myned i Ddeheu Affrica, er dllyn Argl wydd Gladstone fel Rhaglaw Cyffredincl. Cyn ei ymadawiad bvdd i'r Is-iarll Buxton gymeryd ei sedd yn Nhy'r Arglwyddi. I Croesawu y Canghellcr. Dyaa Sadwrn, taiocid Mr Lloyd George a'r teulu ymweliad ag Vsgol y Cynghor, Fourcrosses, ger Pwllheli—yr ysgol gyntaf adeilad- wyd yn y deyrnas ar egwyddor cynllun yr awyr-agored. Rhoed i'r Canghellor dderbyniad cynnes gan y rheoiwyr, yr athrawron, a'r plant, a dywedai y buasai yn dda iawn ganddo pe byddai Ty y Cyffredin wedi ei awyro gystal a'r ysgol hon. Cymerodd Mr Lloyd George ddyddordeb neillduol yn yr adeiladau a phopeth oedd yn dwyn. cvsylltiad a'r ysgol. DifFyg ein Cyfundrefn Etholiadol. l Nid anfynych y bydd A. S. yn c\rnrychioliT Ileiafrif yn ei ethol- aeth. Cyfyd hyn o'r diffyg a nod- wedda ein cyfundrefn etholiadol. I'r diben o gywiro hyn y dug Mr Lyeil (R. Edinburgh D.), bender- fyniad ymiaen yn y Ty wedi ei eirio fel hyn That in the opin- ion of this House the system of the alternative vote in Parliamentary elections is urgently needed in order to do away with the admit- ted anomalies in minority repre- sentation." Gwnaed prawf ar gyn- llun yr ail-bleidlais mewn dwy o Daleithiau Gweriniaeth Aws- tralia a gweithia yn deg a didraff- erth. Fel hyn y gweithia. Yn lie rhoddi croes ar gyfer enw'i ymgeis- ycld dewisol cofnoda'r etholwr ei farn drwy ffigyrau 1, 2, a 3. ac os ceir allan wedi cyfrif nad oes gan ymgeisydd fwyafrif clir ar y lleill. gyda'u gilydd, teflir aUan yr isaf ar y rheitr a chyfrifir yr ail-bleid- Ieisiau (2) ar bapurau yr ymgeis- ydd hwnnw, drwy hyn sicrheir fod yr ymgeisydd a etholi*W' n cynrych- ioli mwyafrif o'r eWolwyr. Y mae'r drefn uchod yn gweithio'n well ac yn rhatach na'r ail ethol- iad (second ballot). Dywedodd Mr Pease (Llywydd Bwrdd Aadysg), fod yr experts etholiadol perth- ynol i bob plaid yn ffafrio'r ail bleidlais, ond y byddai'n anheb- gorol, er i'r cynllun weithio, wneuthur i ffwrdd a'r etholaethau deublyg (double-barrelled constit- uencies). Ni ymranwyd ar y mater. Mesur Wyth Awr. Van reol deng munyd carodd Mr T. Wing (R.), ganiatad i gyflwyno Mesur er Gwella Deddf y Glofeydd. 1011, er cyfyngi: oriau gweithio i bersonau a \W ".thient ar enau y glofeydd, megys peiriannwyr, tan- wvr, gofalwyr am y berwedyddion, &c. Darilenvvyd y mesur yn ffurfiol y tro cyntaf. Mr Asquith yn ol yn y Ty. Ar dertyn cwestiynau dydd Llun daeth Mr Asquith yn ol i'r Ty, wedi ei etholiad diwrthwynebiad yn East Fife. Cyflwynwyd ef gan Mr Percy Illingworth, y Pnf Chwip Rhyddfrydig, a MrGulland, y Chwip Ysgotaidd. Rhoed i'r Prifweinidog dderbyniad brwd- frydig gan ei gefnogwyr pan yn cymeryd ei sedd.

Beirdd Eifionydd