Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Llith o Awstralia.

Llythyrau at y Gol.

1-Deiseb Dwyn i

I -CYLCHDAITH COEDPOETH,

CYLCHDAITH CAERGYBI. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYLCHDAITH CAERGYBI. I Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol y Gylchdaith uchod dydd Mawrth, Ebrill 7fed, 1914, yn Bethel, Caergybi, dan ly- wyddiaeth y Parch W. Lloyd Davies, pryd yr oedd yn bresenol y Parchn R. Moreton Roberts a John E. Evans, Mri John Pritch- ard a John Beard, Goruchwylwyr, a chyn rychiolaeth dda o'r gwahanol eglwysi. Darllenwyd cyfran o'r Ysgrythyr gan y Parch Moreton Roberts, ac wedi canu emyn, arweiniwyd y cyfarfod mewn gweddi gan Nlr-L John Williams a John Pritchard. Gofynwyd i'r Parch John E. Evans gym- eryd cofnodion o weittlrediadau y cyfarfod, oherwydd absenoldeb anorfod Mr Llew Jones. Darllenwyd a chadarnhawyd y cofnod- ion. Derbyniwyd cyfrifori yr eglwysi. Llaw- enydd i'r cyfarfod oedd derbyn y cyfrifon yn llawn o bob eglwys, a deall fod cynydd yn rhif yr aelodau u 23 ar y flwyddyn. Cyfeiriwyd yn ddwys at golled y Gylch- daith ac eglwys Bethel yn symudiad drwy farwolaeth, y diweddar Mr William Morris. Pasiwyd i anfon cydymdeimlad y cyfarfod i Mrs Morris. Cyfiwynwyd adroddiad yrys-ol Sul gan; y Parch R. Moreton Roberts. Rhoddwyd peth sylw i fater yr Ysgol Sul, ond gohir- lwyd yr ymddiddan hyd cyfarfod Meliefin. Gwnaed yr un peth gydag adroddiad yr Ysgrifenydd Dirvy^stol, y Parch John E. Evans. Llawenychwyd fod cangen o'r cyngrair newydd wedi ei sefydlu ym mhob eglwys ac eithrio un drwy y Gylchdaith. Darllenwyd taflen y capeli gan Mr John Beard, a rhoddwyd sylw i anaryw bethau ynglyn a chapeli y Gylchdaith --Grant i Rhosneigr, a caniatad i werthu capel Niw- bwrch. Pasiwyd i Mr John Pritchard a J. R. Williams i wneud ymchwiliad i rai materion ynglyn a Irca pcluchod. Addawodd v ddau Oruchwyliwr fynd i'r Cyfarfod Taleithiol. Etholwyd y brodyr canlynol yn gynrych- iolwyr i'r uchod ;—Mr O. E. Hughes, Bod- ehva Mr R. Lake Jones, Caergybi, a Mr R. Morris Roberts, Caergybi, os y metha un o'r brodyr eraill. Daeth mater ty y gwr priod ychwanegol i sylw y cyfarfod. Ymddiriedwyd sicrhau ty, neu rhentu ty i'r pwyilgor psnodedig gan y cyfarfod chwarterol. Pasiwyd fod y ceisiadau am le fel Lay Agent i'r Gylchdaith i fod yn llaw yr Ar- olygwr erbyn y cyfarfod chwarterol nesaf, Gorffenaf 7fed, 1911. Rhoddodd y Gor- uchwyhvyr amcangyfrif o'r gost ychwan- egol, ac o'r Assessment newydd, ynglyn a dyfodiad y trydydd gwr priod a'r Lay Agent i'r Gylchdaith. Gofynwyd i'r Parch W. Lloyd Davies ac R. Moreton Roberts wasanaethu y Gylch- daith am flwyddyn arall. Cydsyniodd y ddau a dymuniad y cyfarfod. Rhoddwyd gwahoddiad unfrydol i'r I Parch R. Conwy Pritchard ddod i'r Gylch- daith i fyw yn Caergybi yn 1916. Dymunwvd ar i'r Goruch wyhvyr sicrhau olynydd i'r Parch Moreton Roberts, Aber- ffraw, ar gyfer 1U16. Rhoddodd Mr Edward Jones gyfrifon y Genhadaeth Dramor. Ystyriwya y cyfrif- on yn foddhaol iawn tra yn cofio yr am I Y}-] C' :c, '> d U gyichiadau. I Terfynwyd cyfarfod da drwy weddi gan yr Arolygwr. I Trwy garedigrwydd Mri Jonathan Math- ias ac Edward Jones, darparwyd gwledd ar gyfer y cynrychiolwyr. Gwasanaeth- wyd wrth y byrddau gan Mrs Beard, Mrs Mathias, a Mrs W. Lloyd Davies. Ar gyn- ygiad Mr John Beard ac eiliad Mr E. D. Williams, diolchwyd yn gynes i'r oil am eu caredigrwydd. Convention.—Yn yr hwyr am 0.30, cyn- haliwyd Convention. Daeth cynuiiiad da ynghyd, a siaradwvd gan y Parchn W. Llovd Davies, R. Moreton Roberts, John E. Evans, John Beard ac R. Lake Jones. Yr oedd ton uchel i'w deimlo yn y cyfarfod hwn, a datganwyd gan amryw fod augen mw-y o gyfarfodydd o'r fath ynglyn a'r cyfarfod chwarler, GOB,

I CYLCHDAITH CARNARFON. __!

I CYLCHDAITH ABERYSTWYTH.j

' CYLCHDAITH DOLGELLAU AC…

RUTHIN.

LLANASA.