Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
15 erthygl ar y dudalen hon
YSTUMTUEN. I':!
YSTUMTUEN. I' Llongyfarchwn yn galonog Mr John Morgan, Ystumtuen, a'i Gor Merched Ys- tumtuen a Phonterwyd United, ar eu llwyddiant yn Eisteddfod Gadeiriol Gog- inan y Groglith. Merched Tuen ac Erwyd aeth a hi o ddigon, ac Aberystwyth yn ail iddynt. Llongyfarchwn hefyd Eunice Richards, y Fort, ar eu gwaith yn dod yn gyd-fuddugol ar y Soprano Solo ynyr un Eisteddfod.
SALEM, ACREFAIR.I
SALEM, ACREFAIR. Sul, Ebrill 5ed, cynhaliwyd cyfarfod ysgol lleol yn y prydnawn a'r hwyr, pryd yr holwyd y gwahanol dosbarthiadau gan y brodyr W. Heyward a Thomas Williams y plant, a Evan Williams y rhai mewn oed. Yn yrhwyr darllenwyd papur rhag- orol iawn gan Mr Hugh Kyffin Williams, Rhos, gynt o Acrefair. Ei destyn oedd Yr Ysgol Sul." Wedyn cafwyd rhydd- ymddiddan ar y papur gan y brodyr John Davies, Ed. Hughes, Richard Morris a'r Parch Gwylym Roberts. Treuliwyd Sul hapus a dedwydd. Arweiniwyd y gan gan Mr Edward Hughes, a Miss May Wil- liams wrth yr offeryn. Y Llywydd oedd Mr Evan Williams, yn absenoldeb y lly- wyddes Mrs Coates trwy afiechyd maith. Bydd llawer o gyfeillion ein chwaer ffydd- lawn yn falch iawn o glywed ei bod hi yn gwella, a disgwylir hi yn ol at ei gwaith yn fuan. Hefyd, yr un Sul, cynhaliwyd cyfarfod athrawon i ethol swyddogion ynglyn a'r Ysgol Snl. Fe etholwyd Mrs Coates am y trydydd flwyddyn fel llywyddes Mr Evan Williams yn is lywydd Mr David Owens, Station, yn ysgrifenydd, a Mr J. Milton Roberts yn drysorydd. -1 X. Y. Z. I
ASHTON-IN-MAKERFIELD. I
ASHTON-IN-MAKERFIELD. I Dydd Mercher, Mawrth 25ain, cynhal- iwyd Social gan Gymdeithas y Bobl Ieuainc, i'r amcan o gael Piano yn eiddo i'r eglwys. Yr oedd y bobl ieuainc wedi dod i deimlo fod angen am offeryn o'r fath. Felly penderfynwyd cael un, ac erbyn hyn gallwn ddweyd ei bod wedi cyrhaedd. Penodwyd .\lr Wm. Roberts, arweinydd y gan; Mr Arthur Evans, organydd yr eglwys; a Mr J. Rowlands i chwilio am offeryn. Cawsant afael ar offeryn a hono yn werth ei chael, ac er cael yr arian i dalu am dani, cawsom Social, yr hon a drodd yn llwyddianus Gofalwyd am y te a'r ymborth gan Mrs W. E. Roberts a Miss Nellie Davies, ac y mae y ddwy chwaer yma yn haeddu ein canmol- jaethuwchafameullafur. Credafeubod wedi cael tal boddhaol yn y ffaith fod yr ymdrech wedi Ilwyddo i'r graddau y darfu. Yn cynorthwyo y ddwy chwaer yr oedd y ddau frawd J. Rowlands a W. T. Evans. Maent hwythau yn ogystal a'r ddwy chwaer yn haeddu eu canmol yn fawr. Yn y nos, am saith, cafwyd cyngherdd wedi dan lywyddiaeth y Parch E. J. Parry, wedi ei drefnu gan Arthur a Glan Evans. Bu y cyngherdd eto yn llwyddiant hollol. Yr oedd yn y cyngherdd rywbeth newydd i ni yn Hermon, sef gwasanaeth band o bob rrfsth o offerynau, o dan arweiniad y brawd Thos. Garston, a chafwyd hwyl neillduol wrth eu gwrandaw. Y personau ceddynt Miss Ramsden, Platt Bridge, a Mr Jones a Mr Heaton, o Ashton. Treul- iasom amser neillduol o ddedwydd. Y GYMDEITHAs 'Nds Fawrth, Slain o Mawrth, cawsom bapur ar Man in the light of evolution," gan Mr H. Morris. Yr oedd yn bapur galluog iawn, yn dangos gallu y brawd i ymwneud a'i problemau yma. Cafwyd ymddiddan ar y papur, a phawb yn canmol. Nos Fawrth, Ebrill 7fed, cafwyd rhydd- ymddiddan ar Berthynas yr Ieuanc a'r Eglwys, a'r Eglwys a'r Jeuanc," Agorwyd yr ymddiddan gan y Llywydd, y Parch E. J. Parry. Siaradwyd gan amryw o'r ael- odau ar y.pwnc yma, a siaradwyd yn hynod. o blaen a di-dderbyn-wyneb, a phawb yn yr ysbryd goreu. Credaf y deilliaw lies neillduol oddiwrth yr ym- ddiddan. Credaf y dylem gael niwy o'r cyfarfodydd, a'u cael yn ysbryd a nod. weddai y cyfarfod hwn. Daethpwyd i derfyn cyfarfod bendithiol iawn a phawb yn canmol. GWR UN DALENT. I
.CORRIS. -
CORRIS. Llawenydd mawr dros ben oedd i mi weled yn y Gwyliedydd Newydd diweddaf hanes cyfeillion ieuainc o Corris mor ffyddlon gyda'r achos Cymreil- yn y Brif Ddinas. Yr wyf yn deaii fod un arall yn wir deilwng o sylw, sef Mr R. T. Edwards, 3 Cuthbert Road, Fairfield Road, Upper Edmonton (gynt o Corris) wedi ei benodi fir's tri mis yn ol yn Musical Director y Central Hall, Llundam, a chanddo gor yn nghyd a cherddorfa yn rhifo dros driugain bob nos Sul dan ei ofal. Gwasanaeth cerddorol o haner awr wedi chwech hyd saith bob nos Sul. Yr wyf wedi cael ar ddeall ei fod yn hynod o Iwyddianus hyd yn hyn, ac yn hyderu y parha felly. Mae yn bleser o'r mwyaf genym longyfarch y brawd ar ei syfle anrhydeddus yn nglyn a chaniadaeth gysegredig. Y mae yn Gymro cynes galon ac yn hanu o linach Wesle- ..aidd henafol. Y mae yn nai i'r Parch R. T. Owen, ac i Mr David Owen, Llundain, gynt o Corris. IDRIS. I
SALEM, LLANDDULAS. I
SALEM, LLANDDULAS. I DARLITH.-Nos Lun, Chwefror 23ain, o dan nawdd y Gymdeithas Ddiwylliadol, traddodwyd darlith ar Deulu Abram Wood gan Mr Caenog Jones, Coedpoeth. Buom yn ffortunus i gael cadeiiydd med- rus yn mherson Mr J. C. Evans, Ysw., Ar- iandy Abergele. Er fod y cadeirydd ddim yn aelod o'r Gymdeithas yr odd yn hynod gartrefol yn llywyddu, ac yn ngwy" rieb y ffaith o enwogrwydd y dbrlithydd, rhois- om groesaw i 'all comers iddod i'r cyfar- fod hwn, a gwerthwyd ?ocynau am 0 cheiniog yr un a'i chynal yn y capeLl Daeth nifer lied dda yngiyd, a chafwyd darlith addysgiadol a aiddorol vn mhob ystyr. Cafocld y darlithydc. wrandef-wiad astud, a phawb oedd yno YI: mwvnhau ei sylwadau cyfoethog. Cynhy^iwyd diolch garwch i'r dariitliydd, gan eii Arolygwr, y Parch John Kelly, Abergele, yn cael ei eiiio gall. ein parchus weinidog, y E ,.Humphreys, B.A. B.D, Ynayr un modd I cynygiodd Mr Robert Davies ddiolchgar- wch i'r cadeirydd am lywyddu mor dde- heuig, ac eiliwyd gan Mr Robert Jackson, Penycae, a phasiwyd y ddau gynygiad yn y modd arferol yn unfrydol. Ymadawyd wedi canu emyn a phawb yn dwyn tyst iolaeth mai dyma y ddarlith oreu a dradd- odwyd erioed yn Salem, ac y mae yma edrych ym mlaen am i Mr Jones ddod yma eto i'n gwasanaethu yn lied fuan. CYMDEITHAS DDIWYLLIADOL.—Nos Wen- er, Mawrth 13eg, dan lywyddiaeth ein gweinidog Parch E. 1. Humphreys, B.A. B.D., cawsom bapur gan Mr William Humphrey Jones, Abergele, ar Bolitics yr Oes, sef Y Tir, Housing problem, ac yn y blaen. Cawsom amser difyr a diddorol dros ben. Terfynwyd y cyfarfod gyda di- olchiadau cynes iddo am ei wasanaeth. YSG.
I PRESWYLFA, LLANDUDNO JUNCTION.
PRESWYLFA, LLANDUDNO JUNCTION. Nos Iau, Ebrill 2il, cynhaliwyd Social yn y lie uchod dan nawdd y gwyr priod. Ar ol ein digoni wrth y byrddau, y rhai oedd wedi ei llenwi a'r danteithion goreu, aed ati i gystadlu mewn canu, barddoni, ad- rodd, &c., a chawsom gyfarfod da neilldu- ol. Nid rhyfedd fod y fath lwyddiant ar bobpeth pan gofir pwy oedd wrth y llyw sef Mr J. E. Roberts (Ap Heli) a Mr Thos. Evans, Whitby House. Gwnaed elw o £ 8 10s. 0c. Dyma y trydydd Social a gawsom y gauaiyma, ac oddi wrth y tri gwnaed yn agos i £22. Bwriadem gael un arall dan nawdd y gwragedd, ond mae y tymor prysur wedi dod ar ein gwarthaf, a rhaid i bobl y glanau yma rci pobpeth o'r neilltu, er mwyn gwasanaethu ar y Sais. Mae arnaf ofn Mr Gol. fod eich dar Ilenwyr yn meddwl ein bod yn byw ar Socials, ac fod y Social yn mynd a lie y Seiat yma, ond mae yn bleser genyf eich sicrhau, nad felly y mae. Mae yma Seiad- au a chyfarfodydd gweddio llewyrchus a hwyliog, ac agwedd ysbrydol yr achos yn foddhaol iawn. I wireddu yr honiad yna, wele un engraifft. Drwy ryw anffawd, noson y Seiat ddiweddaf nid oedd yma un brawd i flaenori, ond er hynny aed trwy y moddion gan y chwiorydd, a chaed cyfar- fod, rwyn deal], nad anghofir yn fuan. Credaf na rhaid i ni bryderu, tra bydd genym famau o'r stamp yma. C. i
CLYDACH VALE. I
CLYDACH VALE. I PREGETHWR DIEITHR. Ebrill 12eg, cafodd eglwys y Wesleaidd, o'r He uchod y fraint o wasanaeth y Parch R. Christ- mas Humphreys, Llanbedrog. Da oedd gan luaws o'r eglwys weled ei fod wedi gwella mor dda, ar ol ei hir gystudd. Gobeithir y caiff hir oes i wneud mawr les I eto yn nheyrnas ei Feistr. -Pregethodd yn rymus bore a hwyr. Cafwyd Sabboth fen- dithiol, ac adeiliadol. Hyderwn y bydd llafur gwerthfawr y brawd dan fendith Duw, fel bara wedi ei fwrw jar "wyneb y dyfroedd" t'w gael yn mhen llawer o ddyddiau mewn dychweliad eneidiau at Dduw, a deffroad yr eglwys i.fywiogrwydd mwy gyda dyledswyddau crefyddol. Ie ysbryd y peth byw "a'i-i cynhyrfo i fwy o weithgarwch eto yn y dyfodol, fel y byddo yr eglwys fel dinas ar fryn. Hyn yw dymuniad llawer, heblaw ysgrifenydd hyn o hnellau. CYFAILL.
PONTRHYDYGROES.I
PONTRHYDYGROES. I Mae cyfarfodydd plant yng nghapel Wesla, Pontrhydygroes, yn sicr o bron'n atdyniad bob amser. Nid rhyfedd oedd gweld cvnulleidfa fawr nos Sadwrn, Ebrill 4ydd, yn gwrando ar y plant yn mynd trwy eu rhaglen. Gwn ei bod yn rhy faith i chwi ganiatau ei chyhoeddi yn y G. N. Arweiniwyd y cyfarfod gan y Parch T. G. Hughes, B.A. Mrs Davies, Post Office, fu'n trafferthu i ddvsgu'r plant. 'Roedd y plant yn adrodd a dadlu gyda hwyl. Cymeradwyaeth mawr rodd- wyd i'r parti am eu perfformiad o "The Lady Doctor." Synnodd pawb weld y rhain yn mynd i mewn i'r chware. 'Roedd pob un o honynt yn dangos eu bod wedi yfed yn helaeth o ysbryd yr actors sydd yn y cylch. Cawsom hefyd Jack a Joe Davies gyda Miss Anne Jones yn mynd trwy araith rhwng Sem Llwydd a Tomas Bartley-er mai Joe oedd Tomas, a Joe oedd Sem—a Dadgysylltiad a Dadwadd- oliad. Mr Davies, Post Office, gafodd y wobr am hon yn Steddfod Gadeiriol Glanau'r Ystwyth, Awst diweddaf. Caw- som latver o ddifyrwch yn gwrando ar y plant yn canu Character Songs. Bu parti'r plant yn canu rhai troion, ac onibae fod y Sul yn agoshau buasai rhaid iddynt fQd wedi ail ganu. Dyddorol iawn oedd gweld rhen fenyw fach cydweli a'i basged ar ei braich yn gwerthu losin du." Chwarddai pawb wrth weld Von Snes a het silc ei nhain yn union fel'pot llaeth, a'r plant yn ei helpu i ganu'r penillion. 'Roedd Marion yn edrych yn bert fel y Busy Boots a chaw- som hwyl efo'r Monkies on the Stick. Dat- ganodd a pedwarawd gyda hwyl, a rhodd- wyd encore byddarol iddynt. Melus hefyd oedd Miss reg Davies yn canu Dagrau'r Iesu. Dywedodd Mr John Richards, penglog, wrth ddiolch i'r rhai fu'n cyn- orthwyo fod pawb wedi cael gwertheu pres. Felly hefyd ddywedaf innau am y tro olaf eleni.
LLANELWY.I
LLANELWY. I MARWOLAETH.—Drwg iawn ydyw genym gofnodi marwolaeth Mr John Thomas, o'r ddinas hon, yr hyn a gymerodd le ar y laf o Ebrill, yn yr oedran o 65. 'Byr iawn fu ei gystudd-oddeutu wythnos. Gwelodd Duw yn dda felly i un a fu mor ffyddlon a defnyddiol gyda'i achos yn y lie hwn gael y fraint o groesi y glyn yn y man culaf. y fraint, 'er ei fod yn yr oedran uchod nid oedd unrhyw arwyddion o flodau y pren almond i'w canfod. Ni feddyliodd neb fod ei fyr-ysgafn gystudd ef mor agus i gael ei sylweddoli mewn tragwyddol bwys o ogoniant iddo Ef, ond felly y bu. Chwith iawn fydd i aelodau yr eglwys fach yn y ddinas hon o'i golli, Nid oedd dim yn ormod ganddo wneud dros yr achos. Efe mewn gwirionedd oedd ein canghellydd. Mewn nodachfa neu gyngherdd neu Social byddai John Thomas nid yn unig wedi gwneud ei ran, ond wedi gwneud ei oreu bob amser. Bu yn athraw ffyddlawn, ac amryw weithiau yn Arolygwr yr Ysgol Sul. Efe oedd yn gofalu ac yn pioneef y symudiad gyda'r casgliad ar brydnawn Sul tuag at gae! gwr dieithr. Mewn gwir- ionedd coliasom yr aelod mwyaf defnydd- iol yn bosib!, ac y mae colli rhai fel hyn o eglwys fechan yn galled fawr. Ond dy!em gofio geiriau y diweddar Mr Price Hughes yn angiadd ei anwyl gyfaill, ac anwyr gan I bawb trwy Gymru, y diweddar Eglwys- bach—" God buries his workmen but carries on his work." Ydynt, y mae'r gweision goreu yn marw yn y gwaith, ond gobeithiwn y daw ereill yn eu lie. Dydd Sadwrn dilynol hebryngwyd ei weddillion i dir ei hir gartref yn mynwent gyhoeddus y Llan. Darllenwyd wrth y ty gan Arolygwr y Gylchdaith, y Parch D. Darley Davies, Dinbych, a gweddiwyd yn fyr ac i bwrpas gan y, Cynghorydd Mr Boaz Jones, U.H. Yn blaenori yr orym- caith yr oedd Esgob Llanelwy a'r Deon, wedi hynny gweinidogion a blaenoriaid pob enwad, yna aelodau o gangen Urdd y Coedwigwyr (Foresters), o'r hon yr oedd Mr Thomas yn un o'r aelodau hynaf; yna y teulu trallodus a'r dorf enfawr ddaeth i dalu y gymwynis olaf iddo. Yr oedd yr arch wedi ei gorchuddio a blodeudyrch prydferth. Yn nghapel y gladdfa ac wrth lan y bedd gwasanaethwyd gan y Parch i \V. J. Davies, periglor hynaf y ddinas. Dangoswyd cydymdeimlad dwfn a'r teulu ar yr amgylchiad gan bawb yn gyffredinol. Bydded nawdd y nef dros y teulu oil. Nos Sul gwnaed sylwadau prydferth am dano gan ein cyn-weinidog ieuanc y Parch D. R. Thomas, FPint, yr hwn oedd yn digwydd bod yma fel gwr dieithr am y Sul. Chwareuwyd y Dead March ar yr Organ gan Mrs M. E. Jones, Lyndhurst. Bellach nid oes genym ond dweud uwch- ben dy fedd- Cwsg bellaeh, frawd, dy dawel olaf hun, Ac na foed dim i aflonyddu'th fedd Dy Geidwad a'th gymerodd ato'i hun I fyw byth mwy mewn gwlad o hyfryd hedd. ELWYFAB.
TRINITY ROAD, BOOTLF.
TRINITY ROAD, BOOTLF. Nos Lun diweddaf cynhaliwyd y cyfar fod olaf ynglyn a'r Dosbarth Beiblaidd. Bu yn lies adeiladaeth a bendith i'r mwy- afrif fu yn ffyddlon i'w mynychu. Teim- Iwyd diddordeb neillduol yn yr adran oedd yn cael efrydiaeth y penodau di. weddaf o Efengyl loan. Dywedodd ein parchus weinidog, y Parch T. O. Jones (Tryfan), fod yr adran yn rhy ddwys-ddif- rifol i enyn pleidiau a dadleu. Cydwel- odd pawb. Ceir yn yr adran dan sylw j wirioneddau mawr a phwysig, mawredd a gogoniant Person y Gwaredwr er enill dynion i gredu ynddo fel yr etifeddant fywyd tragwyddol. Ar derfyn tymor nat- uriol oedd cyflwyno diolchgarwch i'r ar- weinyddion. Cynygiwyd y diolchgarwch mwyaf cywir y cyfarfod i'r Llywydd, y Parch Tryfan Jones, am ei ffyddlondeb a'r diddordeb a gymer, ac yn coroni yr Oil yr ysbryd hynaws fel athraw a bugail. Gwnaed hyn yn ddoeth ac i'r pwrpas gan yr Is-lywydd, Mr Job Jones, yntau yn hynod hyawdl a meistrolgar fel athraw. Cefnogwyd y diolch yn hynod effeithiol gan Mr Thomas Gittins. Cyfeiriodd at ffyddlondeb Mr Tryfan Jones, pan ystyriem wendid anychdod Mrs Jones, sy'n wael er's misoedd. Da gennym oil ddeall ei bod yn gwella yn raddol. Cyfnerthwyd gan Mr Hugh Davies. Teimlai yn ofidus fod y tymor ar ben gan yr hyn a deimlai, a'r nerth a'r goleuni a dderbyniodd trwy y cyfarfodydd. Teimlwyd diddordeb gan bob oedran o'r chwiorydd. Terfynwyd trwy gyd-ganu emyn ar ddymuniad Mrs M. C. Lewis, ac offrwm gweddi ddwys gan y Llywydd. Ni bydd Mr Tryfan Jones yma y tymor nesaf gan y bydd yn symud i Gj Ichdaith arall—rhaid ymadael. Ni bydd yr holl bersonau a fu yn cyfarfod y tymor hwn gyd-gyfarfod eto, ond gwyn fyd yr eglwysi a'r Gylchdaith fydd dan ei fugeiliaeth ef. E.E. I
-LLANGYNOG I
LLANGYNOG I CYFARFOD PREGETHU.—Cynhaliwyd cyf- arfod blynyddol Carmel dydd Gwener y Groglith, pryd y gwasanaethwyd gan y parchn John Pughe Jones, Cerrigydruidion a Griffith John Owen, penmaenmawr. Yr oedd y capel wedi ei orlenwi, a chafwyd oedfaon gryrnus ac effeithiol. Cododd y llanw yn uchel iawn, yn arbenig yn yr oedfa hwyrol. Arhosed ei ddylanwad ar- nom. Rhoddodd dynion ieuanc yr eg- lwys de cyhoeddus prydnawn GweneJ y Groglith, a daeth nifer fawr i gael te, a gwnaed elw sylweddoi iawn. Mae ffydd londeb y dynion ieuanc hyn yn ddiball. BERWYNFERCH. I
LLANIDLOES. I
LLANIDLOES. I MARWOLAETH.—Mawrth y 2.Jain, bu farw Miss Mary Jerman, Brook Side House, New Street, o'r dref hon, yn84 mlwydd oed. Yr oedd yn ferch i'r diweddar M. Williams Jerman, Builder. Gadawodd yn ei hewyllys haner cant punt i'r Eglwys Wesleaid yma. Y CRYNWYR.—Y Parch Evan Roberts, Caersws, oedd yn siarad yng nghyfarfod y Brotherhood yma nos Fawrth diweddaf. Y pwnc oedd The Democratic Sect (The Quaker in Wales). Dyma yr ail waith i Mr Roberts fod yn siarad. Amser da iawn. Y GOBEITHLU.—Nos Iau diweddaf, ter- fynwyd y. Band of Hope am y tymor presenol. Bu yn lied llwyddianus o dan ofal Mri R. Edwards, Baxter Francis, Mrs Ellis, M. M. Aston, Miss Price, a Miss F. Rees. Am 4 o'r gloch yr oedd te wedi ei barotoi gan y pwyllgor i'r plant., Yr oedd 80 o blant yn eistedd wrth y byrddau oedd yn llawn o'r danteithion goreu, a phob un yn eu mwynhau yn gampus. Yn yr hwyr cynhaliwyd cyngherdd yn .hollol gan y plant. Yr oedd yr ysgoldy yn llawn, y parch W. T. Ellis yn llywyddu, a'r canu o dan arweiniad Mrs Ellis, a Miss F. Rees yn ol ei harfer wrth yr Harmonium. Cafwyd cyfarfod rhagorol, pawb wrth eu bodd. GOH. I
.Astudio MwngloddiaethI
Astudio Mwngloddiaeth I Hysbysir y cyhoedd fod yn Ysgol Mwn- gloddiaeth Treforris naw ar hugain o ef- rydwyr bob dydd yn dilyn ar gwrs Diploma y Brifysgol tan nawdd Swyddfa Gartrefol y Llywodraeth.. Yn rhinwedd Deddf y Mv/ngloddiau, 1911, y mae yna hefyd gant a deg o efrydwyr un dydd bob wytlmos yn dilyn eu tasg mewn dysg arbennig ynglyn a i- tanddaearol y tymor hwn. j C^ ynygia un o Doriaid mwyaf sclog Mach- ] ynlleth i'r gwarcheidwaid droi 1 r u 11. deb yn dai i weithwyr. Dywed. nad oes angenamyrhensefydliadmwyach. I
ICenhadaethau Efengylaidd.
Cenhadaethau Efengylaidd. (Adgofion Cysurlawn) (Gan y PARCH HUGH HUGHES).  X ABERYSTWYTH. j Nis gwn am unrhyw le mwy manteisiol a dymunol i gynal unrhyw gyfarfod crefyddol cy- hoeddus nag Aberystwyth. Pa enwad bynag fydd yn galw am y cyfryw gynulliadau, givelir pobl oreu a pharchusaf y dref yn dod allan nes gorlenwi y capelau. Pe ceid yr ysbryd hwn yn nghyfeiriad undeb yn mhlith Ymneillduwyr Cymru yn gyffredinol byddai gob- aith am rywbeth pellach. Nid I yw yr undeb a gynygiwyd yn ddiwcddar gan Weinidog Cym- reig, ond ffug hollol. Nid yw undeb cydrhwng dau enwad, yn agor y ffordd i undeb eangach, eithr yn hytrach yn allu effeithiol i bellhau y ddau enwad arall yn arhosol. Oes y mae awgrymiad o'r fath gan un o'r rhai mwyaf am- ddifad o ysbryd gwir undeb yn N-hyffiru, ac un y mae a fyno a bod dau gapel perthynol i'w enwad ei nuri- yn y lie y trigiana yn swnio yn gryf diffyg argyhoeddiad dwfn a gonest ar y mater. Ein hangen blaenaf ydyw ymwasgu at ein gilydd yn nghyfarfodydd yr Eg- lwysi Rhyddion, ac nid eu gadael mewn llawer man y pethau mwyaf llymrig a di=nerth a geir yn yr holl wlad. Ychydig iawn o ddynesad at ein gilydd wyf yn weled hedd- yw yn Nghymru. Eithr y mae Aberystwyth yn un o'r eithriadau ardderchog yn y peth hwn, ac yr oedd hynny yn un fantais arbenig I i'r Geuhadaeth yno, i gael gafael sylweddol a diymdroi ar y lie. QiTreuliais bum noson a Sul yn y dref. Yr wyf yn meddwl mai ar y Sul y dechreuwyd, a chaed ar. wyddion fod yn y bobl ddisgwyl- iadau uchel a gweddiau taer am lwyddiant ysprydol. Yr oedd y dyrfa nos Sul yn fawr iawn, yr hyn ni ddisgwylid hyd yn oed yn Aber- ystwyth. Ymunodd amryw a'r eglwys. Cododd hyny y gwres fesurydd yn dra uchel fel mewn lleoedd eraill, a daeth y tyrfaoedd o hyny allan yn anferth o fawr, a daeth y dref yn llawn o ymferwad crefyddol. Ni phasiodd yr un noson heb i gynifer ymuno a gwahanol eglwysi y dref, yr hyn a eangodd y diddordeb yn fawr. Os oedd cen- figen yn meddwl rhywrai, nid oedd arwyddion o hono yn eu siarad a'u hymddygiad. Pethau ffafriol ddat- genid am y gwaith da gan drigol- ion y lie. Os wyf yn cofio yn gywir tua 30 ddaeth i mewn yn ystod y Genhadaeth, ac y mae rhai o honynt yn addurn i grefydd, ac hyd yn oed i'r pwlpud hyd yr awr hon. Dyma y pryd y dychwelwyd un o'r pregethwyr cynorthwyol mwyaf cymeradwy yn Nghymru, a'r hwn hefyd sydd yn un o'r cym- eriedau crefyddol disgleiriaf yn yr eglwys Wesleyaidd. Dyma i pryd hefyd y derbyniodd dyn ieuangc disglaer ei alluoedd meddyliol, fendith newydd, y symbyliad neill- duol yn nghyfeiriad cychwyn preg- ethu yr efengyl. Yn mhen blyn- yddoedd ar ol hyn, clywais y dyn ieuangc hwn yn pregethu efengyl gras Duw gyda grym mawr, a dyna y pryd yr hysbysodd fi o'r ffaith hon er fy mawr gysur. Yr oedd ar y pryd yn weinidog llwyddianus, ac erbyn heddyw, tra yn parhau i draddodi y genadwri fawr yn fynych, y mae yn Aelod Seneddol o fri mawr dros ran o Gymru. Ni ryfeddwn pe gwelwn ef yn y Weinvddiaeth yn mhen blynyddoedd i ddod. A dyma y math o ddynion ddylai gael eis- tedd yn y Senedd. N i ellir dwyn y Wladwriaeth yn mlaen yn ol egwyddorion tragwyddol teyrnas Dduw, ond trwy egnion dynion y mae yr egwyddorion hyny yn allu rheoleiddiol eu bywyd. Yr oedd yn anmhosibl i'r dylan wadau grasol hyn, fethu gadael argraffiadau annileadwy ar lawer meddwl tu fewn i'r eglwys heblaw y sawl a nodwyd. Cadwed yr Ar- glwydd eglwysi Aberystwyth yn unol a chynes fel hyn i'r dyfodol. Dyma lie y mae gwir undeb i gychwyn, ac nis gallwn Wybod i ba le drachefn yr arweinia'r Arglwydd I ei bobl. DOLGELLAU. neblaw bod Doigellau í radaau fel Aberystwyth, yn cael ei nhod. weddu gan ysbryd undeb cyffelyb i'r un a nodais eisoes, cafwyd mantais arall arbenig er sicrhau llwyddiant i'r Genhadaeth hon. Yr oedd Richard Owen y Diwyg I iwr, wedi bod yn llafurio yn y dref am wythnos neu ddwy yn fiaenorol. Yr oedd ef yr adeg yma yn anterth ei boblogrwydd a'i lwyddiant ys- prydol. Dylifai y bobl ato o bob cyfeiriad, fel nad oedd lie i haner y bobl yn fynych yn nghapeli mwyaf y wlad. Dilynid ei weinidogaeth yr adeg yma gan rhyw nerthoedd cyffrous a dyeithriol anghyffredin. Er na chodai ei olygon i edrych ar y bobl hyd o fewn y pump neu y deng munud olaf, byddai yn llwy- ddo i gael llawer o'i wrandawyr i ymwylltio dan y dylanwad, a cholli eu hunan feddiant yn llwyr ar y pryd. Byddai yn y gwasanaeth le ofnadwy mewn gwirionedd yn fynych. Ymddengys iddo gael rhai odfaqn felly yn Dolgellau. Parodd hyn oil i mi deimlo yn ofnus, pry- derus a 4 nervous iawn i wyneb j y sefyllfa. Cyn cyraedd yno, nis gallwn ymryddhau oddiwrth yr ymdeimlad mai elfen oer iawn fu. aswn ar ol y fath losgfeydd odd. aith, eithr wedi dechreu ar fy ngwaith yn enw'r Arglwydd, gwel- ais arwyddion diamheuol mai nid wedi denu y bobl atto ei hun yr oedd Richard Owen dduwiolfrydig eithr at y Meistr Mawr, yr Hwn a arhosodd yn ei ogoniant mawr yn mysg ei bobl wedi i wr Duw" ymadael. Ie, a dyma brawf tra eglur mai "gwr Duw" ydoedd. Nid oedd ynddo ef unrhyw uehel. gais personol is na gwasanaethu Duw mewn purdeb. Y mae uchel- gais hunanol am ymddangos, a chael pob mantais iddo ei hun, a chymered pawb arall eu siawns, yn angheilwng o Weinidog Crist. "vVedi i Mr Owen ymadael, yr oedd awyrgylch y dref yn llawn o'r per- arogl ysbrydol dymunolaf. Er cyrchu i'r cyfarfodydd yn gyson am wythnosau, nid oedd yr arwydd lleiaf fod y lluoedd yn blino. Gor- lanwent y capel, ac nid oedd pall ar eu diddordeb, eu brwdfrydedd a'u hawydd am ddychweliadau. Yr oedd nifer fawr wedi ymuno yn ystod yr wythnosau blaenorol, a daeth nifer dda drachefn. v At hyn oil cafodd llawrer o ael- odau eglwysig cysglyd ddeffroad grymus, ac eraill symbyliad i'w ffydd au hegni i wasanaeth cref- yddol. Pan yno yn pregethu yn ddiweddar, cefais ymgom a dynion lied ieuanc, yn ymlawenhau mewn siarad am y Genhadaeth hono. Hawdd oedd deall oddiwrthynt eu bod wedi derbyn bendith neill- duol iddynt eu hunain trwy y cyf- arfodydd, er eu bod yn aelodau eglwysig. Na thybier gan hyny fod Cenhadaeth o'r fath yn feth. iant os na welir llawer yn ymuno ar y pryd. Y mae llawer ysywaith yn ymuno cyn eu troi, a rhai heb eu troi o gwbl, ac o fysg y rhai hyn yn gyffredin y daw gwrthgil- wyr. Y mae eraill yn mynu troed- igaeth yr enaid cyn proffesu yn gyhoeddus, a dyma y rhai tebycaf o barhau hyd y diwedd. Arferai y diweddar Wm. Aubry, Llan- erchymedd, a dyweyd fod ambell fran yn ehedeg tros ddau neu dri o gaeau ar ol cael ei saethu, cyn syrthio a dod i'r afael, a bod am- bell i bechadur yn gyffelyb yn byw yn y byd am beth amser, ar ol cael ei lorio gan saethau yr efengyl. Y mae amser o'r dychweledigion hyn yn parhau' yn ffyddlon i'w Har- glwydd byth er hyny. Ond y mae eraill deimlant y diddordeb dyfnaf yn y symudiad ac a roddasant y cvmhorth mwyaf er cyrhaedd yr amcan uwchaf wedi eu symud, rhai i leoedd eraill vn y byd hwn, ac eraill i fyd gwell na hwn. Ond tra yn teimlo prudd-der wrth syllu ar eu gwagleoedd, yr oeddwn yn cael fy sirioli yn fawr wrth weled nifer mor liosog o bobl ieuangc byw ac aiddgar sydd yn gwneud i fyny y mwyafrif o'r eglwys yn y presenol. Llemved yr Arglwydd hwynt ag yspryd gwas- anaeth ar y llinellau mwyaf ysprydol. (I barhau).
[No title]
Moduron Newydd. Y mae Cwmni y Ffordd Haiarn yn bwriadu ihedeg modur-bus o Ruthyn i Ceryg-y-druidion, ac o Wyddgrug i Ceryg-y drudion yn ystod yr haf. Tai Ansyber Llanelwy. Ceir fod o dai yn anghymwys i fyw ynddynt o fewn cylch Cyng- hor Dosbarth Gwledig Llanelwy (Ffiint). # Cadeirydd Undeb Cynnulleidfaol Siroedd Gloucester a Henffordd. am yflwy- ddyn ddiweddaf, ydoedd y Parch. Ignatius Jones, Brislington—brodor o Ddyffryn Clwyd. Yr oedd y cyfarfodydd blynyddol yn cael eu cynnal yn Gloucester, yr wyth- nos ddiweddaf, a thraddcdodd Mr Jones ei anerch-iad o'r gadair, ganbwysleisio yr angen am adfynegiad o faterion athraiv- laethol.