Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

[No title]

Gwerth yr Unigol.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gwerth yr Unigol. (W. J. R.). Un nodwedd fawr perthynol i'r ces ydyw anwybodaeth o'r person- ol gan y cymdeithasol. Mae dau eithafion ar y pwynt hwn. Person- ol yw yr oil gan lawer, a chym- deithas ydyw popeth y lleill. Per- son heb gymdeithas ydyw arwydd- air rhai, a chymdeithas heb berson- au yw arwyddair ereill. Gwyddom mae tuedd yr oes ydyw pwysleisio gwerth a hawliau cymdeithas. Gwyddom hefyd mae arfer rhai o'r arweinwyr Sosialaidd ydyw dadleu yn gadarn yn erbyn Unigoliaeth (Individualism) fel gelyn penaf Socialaeth. Gwaedd y mwyafrif ydyw cymdeithas, cymdeithas i bob amcan. Tra yn cydymdeimlo ag amcan Socialaeth, nid ydym yn cydweled a'r moddion gynygir gan rai Sosialwyr er cyrhaedd yr am- can. Mae trefniadau (organiza- tions) yn dda^ond nis gallant sym- ud heb ager nerthot personau byw ynddynt. Rhaid feimlo fod pob person unigol yn aelod byw, han- fodol, a gweithgar o gymdeithas. Mae y math hwnw o Socialaeth sydd yn dysgu fod yn rhaid aberthu yr unigol er mwyn y lluaws, nid yn unig yn anymarferol, ond yn a n- mhosibl. Pwnc mawr cymdeithas ydyw galw allan holl ymadferth- oedd unigol pob aelod. Cylch yw cymdeithas i bob un weithio. Os yw cymdeithas ar ffordd un i weithio, mae o'i lie; os yw yn gadael un heb ei dynu all an, mae yn anghyflawn; ac os y tybia y gall wneud y tro heb yr aelod lleiaf, mae yn colli ei harncan. Ni chyfyd cymdeithas byth uwchlaw graddfa yr unigolion fyddo yn ei chyfan- soddi; felly y ffordd i adfer cym- deithas ydyw adfer dynion bob yn un ac un. Christianity is the dis- covery of the individual," meddai. un awdwr. Tybed a ydyw yn iawn ? Dywed mae crefydd cym- deithas yw crefydd y Testament Newydd, a bod Crist yn ddiwyg- iwr cymdeithasol o flaen pob peth arall. Onid crefydd yr Hen Destd- ment oedd y grefydd gymdeithas- ol? Hanes Iuddevyiaeth, a siarad yn gyffredinol, oedd pwysleisio bywyd cymdeithasol y genedl, yn hytrach na chydnabod hawliau yr unigol. Ond nodwedd arbenig crefydd y Testament Newydd yw ei bod yn rhoddi pwys arbenig ar yr unigol. Nod pennaf Crist oedd deffro unigolion i'w gwir fywyd. Yr.oedd Crist yn achub unigolion i gymdeithas, a gymdeithas yr oedd Ef yn fwy awyddus i gadw un enaid na gwE-Ha amgyichiadau. cymdeithas. Ni- adawodd Crist