Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
CYNHELIR Y Pt JP JP 1 CyMod.. rn i ? ? i i Taleithiol YM I MANGOR, Ebrill 26 hyd 30, I 1914. Pregethir y Sul, Nos Lun, Nos Fawrth, a Dydd ia u. Nos Fawrth, Ebrill 28 CYNHELIR CYFARFOD CYHOEDDUS Am 7 yn Horeb. Llywydd: Parch. Thos. Hughes, Cad- eirydd y Dalaith. Mater: "Undebyr Eglwysi Rhydd- ion." I anerch: Syr Hy. Lewis, U.H., Prif-athro Thos Rees, M.A., Parch. Hugh Jones, D.D. Nos Fercher, Ebrill 29ain, Cyfarfod Pobl Ieuainc Am 7 yn Horeb. Llywydd T. W. Griffith, Ysw., U.H. Mater: Hawliau y Genedl ar ei Phobl Ieuainc." -1 anerch Parchedigion John 4Celly, John Smith, J. Maelor Hughes." DYDD IAU, Am 9.30 yn Horeb, Y SEIAT FAWR. Odfeuon am 2 a 6 yn St. Paul's a Horeb. CeirTrens rhad a hwylus ar ddydd Iau. Am fanylion yr holl gyfarfodydd a trens, gwe'er LJawlyfr y Cyfarfod Taleithiol, pris cemiog, i'w ") 1..1. ..L 1"" gael gan Mr Arthur LL Jones, 16, Farrar Road, Bangor. j
BAZAAR SPELLOW LANE,I . LERPWL.
BAZAAR SPELLOW LANE, I LERPWL. Fonoudigion,— Diolcbaf am ganiatad i alw sylw at yr uchod. Gwelii hysbysiad am dani mewn colofn arall. Apeliwn yn daer am gynhcrthwy cyfTredinol. Ni fu erioed achos mwy teilwng. Gorfodwyd ni gan amgy lcbiadau i symud o hen gapel Boundary Street. Yr oedd yn rhaid symud, neu foddloni edrych ar yr achos yn marw. Ni wariwya ceiniog yn ofer ar y capel newydd. Yn ol barn llawer dylesid gwario mwy, ond ofnai yr Ym- ddiriedolwyr yr anturiaeth, a chadwas- ant y draul mor isel ag oedd modd. Ond er y cwbl cyrhaeddodd popeth y swm o £ 2,500—swm mawr i eglwys fechan heb fod yn gyfoethog. Gweith- iodd y cyfeillion yn egniol, hyd at aberth mawr; ond erys £ 1,100 ar yr adeilad, a thybia hyn logau o dros C40 bob blwyddyn. Addawodd Pwyllgor Capeli'r Dalaith £ 500 o echwyn, a £ 300 o rad-rodd; ac amcan y Bazaar ydyw galluogi yr Ymddiriedolwyr i ddod i fyny ag amodau'r Pwyllgor, er mwyn sicrhau y symau addawedig, a thrwy hyrmy arbed talu llogau. Teimlwn yn hyf i wneud apel yn yr achos hwn at Gymru gyfan Darperir yn y ddinas hon ar gyfer yr oil o Gymru, ac yn arbennig yr oil o Ogledd Cymru. Daw pobl ieuainc yma yn barhaus o'r tair Talaith ac oni bai am y cartref crefyddol sydd yma ar eu cyfer, y nefoedd yn unig a wyr beth ddeuai o ugeiniau ohonynt. Ond i'n cyfeillioh yng Nghymru sylweddoli hyn, sicr wyf y deuant i'n cynorthwyo yn yr ymdrech bresennol. Diolchwn yn gyn- nes i'r sawl sydd eisoes wedi coilo am- danom, ac apeliwn yn garedig at y I gweddill or rhai y mae Duw wedi bod yn hael tuag atynt. Pe caem ychydig gan lawer, symudid pob pryder oddiar ein rnsddwl. Edrychwn ymlaen yn obeitbiol am lwyddiant ar ein hymdrech. 82, New by Street, JOHN FELIX. Liverpool.
DIOLCHGARWGH. I
DIOLCHGARWGH. I Dymunwn fel teulu ddiolch yn gynes i'r cyfeillion anfonasant lythyrau cyd-- ymdeianad a ni yn ein trallod o golli ein hanwylyn bycban. Buont yn gymorth mawr i ni i ymgynal o dan y brofedig- aeth. Dolgellau. W. PRICE. I
MYNYDD BACH. I
MYNYDD BACH. I Nos Wener olaf o Fawrth daeth y Band of Hope a Chymdeithas y Bobl leuainc i'r terfyn. Yn y prydnawn cafwyd te. Bu cyfeillion y capel yn ddigon caredig i ddar- paru pob math o ddanteithion a digon o honynt. Pan mae pobl Mynydd Bach yn gwneyd rhywbeth gwnant ef gyda graen. Eisteddodd llawer i fwynhau y danteith- ion. Ar ol y te cafodd y plant oranges a sweets. Yn yr hwyr cafwyd cyngherdd, a ba'r plant a'r bobl ieuainc wrthi yn gwneyd eu goreu i gael cyfarfod llwyddianus. Llanwodd y Parch J. H. Williams y gad- air hyd yr ymylon, a chododd anerchiad a chan. Gwyr pawb yn y cylch am ei allu fel canwr. Roedd yma hefyd y Parch T. Mason Jones, Trisant. Cawsom arath mor ddiddorol a T. M. ei hun. Nid oes modd cael gofod i enwi pawb fu'n cynorth- wyo. Cawsom ganeuon, deuawdau, ambell i driawd, pedwarawd, a datganodd Parti Merched Salem a Pharti Rhosygell gyda hwyl. Cawsom rai yn canu am y tro cyn.taf yn y Mynydd. Bu'r plant yn adrodd ac yn gwneyd am- bell i Sketch fach. Nis gallwn beidio en- wi M. E. Jones, Ceunant, a M. J. Davies, u ii didtlori y cwmni a hanes y ferch ifanc fu yn London am flwyddyn ond three quarters, ac a ddaeth yn ol heb ei Chym- raeg. Yr oedd yn dda gan bawb weled Mr Morgan James Evans, Ty'nclawdd gyda I ni ar ol ei waeledd hir. Mae clod mawr yn ddyledus i Mr David Mason am ei ffydd- londeb i'r plant yn ystod misoedd y gauaf. Diolchwyd i bawb fu'n cynorthwyo gan yr arweinydd a Mr W. S. Davies. Nid ydym chwaith yn anghofto Miss Sophia Jones, Ty Capel, fu'n gofalu am wneyd tan i'n cadw'n gysurus yn y cyfarfodydd. Terfynwyd cyfarfod ardderchog trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau."
EGLWYSBACH. I
EGLWYSBACH. I "HELYNT A HEULWEN." — Prydnawn a nos Lun y Pasg perfformiwyd y ddrama uchod gan gwmni dramayddol o gapel y Wesleyaid. Bu y cwmni yn dysgu dan gyfarwyddyd y Parch E. Arthur Morris, gweinkk g y lie, ond methodd Mr Morris a bod yn b,esenol oherwydd gwaeledd, ond da genym allu dweyd ei fod yn gwella yn araf. Daeth cynulliad da ynghyd, y lie yn orlawn yn enwedig y nos, a -gwnaeth" y cwmni eu gwaith yn nodedig o dda, yn wir yr oeddynt, fel y dywedodd y Cadeir- ydd,.fel pe wedi eu geni i'r gwaith. Di- ameu y bydd galw am eu gwasanaeth mevvn lleoedd eraill yn fuan. Cadeiriwyd yn ddeheuig gan Dr Olven, Llanrwst, yr hwn a ddywedodd ychydig o eiriau pwrpasol, a chyfranodd swrrranrhy- deddus i'r drysorfa. Bu y ddrama yn llwyddiant perffaith yn mhob ystyr, yr oedd yn ddifyrus ac adeih adol, a gwnaed elw sylweddol at yr achos yn y He. Dyma enwau y gwahanol gvmeriadsu— Y Blaenor, Mr Jesse Williams gwraig y Blaenor, Mrs Enoch Evans eu merch, Miss Jones, y Graig; y Postman, Mr Hugh Jones; merch y Postman, Mrs Davies, Clwt Cot tagf i rbwr, Mr John Williams; y Mr Evan Jones y Ffop, Mr j. Mr Davies, y Clwt; y B< 'avid Jones, Tynyddol. ¡. E' Ei L (j N I LLESTRI CYMUN. Anrhegwyd eglwys Ebenezer a Llestri Cymundeb unigol gan Miss Williams, gynt o Tymawr, Eglwys- bach, ond yn awr yn Conway, ac er fod y chwaer hynaws hon wedi-gadael Eglwys- bach, mae yn amlwg fod ei chalon yn gyn- es at yr eglwys y bu yn aelod mor gyson o honi. Mae y rhodd werthfawr hon yn hynod o dderbyniol genym. Maent yn wir hardd a drudfawr, anhawdd gweled eu I cyffelyb, cofier mai nid Aluminium mo honynt, na chwaith olchiad arian arnynt, ond y mae yn Solid Silver ynghyda Crystal Glasses. Nos Fawrth daeth y parch. O. Madog Roberts, Conway, yma i dros- glwyddo y rhodd i'r eglwys, ac o herwydd afiechyd ein parchus weinidog E'. A. Morris, llvwyddwyd y cyfarfod gan y parch Einion Jones, Llanrwst. Cyflwynodd Mr O. Mad- og Roberts y rhodd mewn modd deheuig iawn fel y medr ef, a dywedodd eiriau car- edig a phwrpasol i'r amgylchiad, a chyn- ygiwyd diolchgarwch gwresog i'r chwaer dros yr eglwys gan Mr D. Roberts, blaencr, yn cael ei ddilyn gan y brodyr David Jones, Isaac Tones, a Robert Williams, ac yn sicr y bydd adgof am y chwaer Miss Williams yn aros yn berarogl yn yr eglwys am amser maith, gellir "Jweydfel y dywed- odd yr Athraw mawr pan ar y ddaear am Mair yn nhoriad y blwch enaint, "Hi a wnaeth weithred dda arnaf fi." Derbynied y chwaer anwyl ein diolchgarwch llwyraf, a thaled yr Arglwydd iddi. DYFFRYNWR.
BRIWSION 0 ABERPENNAR, MOUNTAIN…
BRIWSION 0 ABERPENNAR, MOUNT- AIN ASH. Dydd Sadwrn, Mawrth yr 28ain, hedodd ysbryd pur Mis Jane Thomas, Heol Rhyd-- ychain, o'r He uchod i'r wlad lie na bydd marw mwy. Yr oedd yn oleuedig yn yr Ysgrythyr Sanctaidd, a chanddi barch mawr i'r pethau sydd uchod mewn gwir- ionedd. Yr oedd yn character cryf a glan, ac yn werth eistedd i lawr yn ei chym- deithas i wrandaw ami vn adrodd droi- on yr yrfa," ag mor agos ambell waith oedd nes wedi teimlo fod ei Gwaredwr yn sisial ei eiriau mwyn a sanctaidd, ac nid yn unig yn ei belpu i gario y baich, ond yn ei gario i gyd ei hunan. Magwyd hi rhan fwyaf yn Aberdar, a meddyliai nad oedd oedd llechyn mor anwyl yn y byd. Sym- udodd oddiyno i Cwm Rhondda, a daeth- ant yn ol i'r lie hwn oddeutu ugain mlyn- edd yn oJ. Cyn priodi yr oedd yn aelod yn Bethania, M.C., ac yr oedd ganddi feddwl uchel rhyfeddol o Doctor Saunders, ac hefyd y Parch William James. Bu yn aelod am rhai blynyddau yn nghapel Siloah, Aberdare, wedi iddi briodi a Mr John Thomas, y Saer, a gwelais hi fy hunan yn mynd i hwyliau mawr wrth adrodd ambell>-i ddarn o bregeth i, di- weddar Barch David Price, ei hen weinid- og. Yr oedd ganddi barch dwfn i'r hawddgar a'r athrylithgar y Parch Silyn Evans, gweinidog presenol yr eglwys werthfawr hon. Yr oedd yn aelod byw oddiar ei dyfodiad i'r lie hwn yn Bethania, Caegarw, ac y mae bwlch mawr wedi ei, wneud, a cholled ar ei hoi mewn cyfranu a gweddi; ond daw y rhai hynny i gwrdd a ni yn y gwynt, chwedl Elfed. Cludwyd yr hyn oedd farwol o honni i erw Duw yn Aberdare dydd Iau diweddaf. Gwelais dyrfa fawr yn ymyly drws mewn galar wisgoedd, mewn cydymdeimlad a'r teulu mwyn sydd mewn hiraeth, ac aeth lluawsmewn cerbydau yn dilyn yr Elor- gerbyd yr holl daith i'r Cemetery. Mae ein cydymdeimlad yn fawr a'r plant, sef Mr a Mrs Thomas, Contractor, Kingcroft Mr J. D. Thomas (ei wyr), Undertaker Mr a Mrs Davies, Jeweller, a Mrs Davies, ei unig chwaer. Gwasanaethwyd yn y ty ac ar Ian ybedd gan y Parch J. Philips, ei gweinidog. Dywedodd bethau da am dani. Yn wir i chwi, yr hyn a allodd hon hi a'i gwnaeth. Cafodd fyw hyd 77, a bu farw a'i lamp yn llosgi ac yn goleuo, pan ddaeth y priodfab. Cwsg yn dawel famgu. Cei godi eto yn hardd dy wedd. Dilyned y plant a'r wyrion ei siampl, ac fe ddaw byd gwell iddynt hwythau. Yn Bryn Sion nos Fawrth diweddaf, traddodwyd darlith gan y Parch Evan D. Thomas, Abercynon, ar Rhai o enwogion y genedl, godwyd i anrhydedd o le an- hebyg." Cafodd amser hapus. Cadeir- iwyd gan y Parch David Morgan, ynab- senoldeb y Meddyg Arthur Jones. Diolch- wyd iddynt am eu gwaith cariad. Clywais gyda boddhad fod y Parch J. E. Thomas, gweinidog y Ffrwd (B.), wedi cael amser nodedig pan yn pregethu yng nghapel Castie Street, Llundain, Sabboth yn ol. Fe ddywedir fod hwn yn ddarfel- ydd ac yn broffwyd. Gobeithio yr erys yn hir yn yr eglwys hon i gario y gwaith da y mae wedi ei ddechreu ymhlith y pobl ieu- ainc, pa rhai sydd yn ei garu mor fawr. Fe hysbysir fod gwedd ardderchog ar yr Ysgol Sul yma, ac fod yr Arolygydd gweithgar, Mr D. Williams, y Fferyilydd, wrthi a'i holl galon, a bod yno gydweith- rediad, neb yn tynu yn groes. Ni ddaw llwyddiant heb hyn. Do, fe gafodd fy hen gyfaill mwyn, sef y diweddar Mr J. Williams, Penrhiwceibir, angladd tywysog, a gwr mawr yn Israel Duw, a'i garedigion o bell ac agos wedi dod yno i daflu deigryn hiraeth ar lan ei fedd, ac i ddangos eu cydymdeimlad a'i weddw a'i blant mwyn ac anwyJ. Gweithiodd yn galed mewn byd ac eg- lwys ac ni fu ei lafur yn ofer. Dywedwyd llawer am ei rinweddau gan amryw o weinidogion dydd ei gladdu, ond ni chleddir y gweithredoedd da wnaeth byth. Cyfyd persawr y rhai'n ar ol Sul y blodeu. Gwr mwyn wna: gario mynwes-yn col- edd Calon fawr a chynes I John Williams mae hanes, Y dyn cyfiawn yn llawn lies." Cynhaliwyd cVHdd chwarterol Cylch- daith Aberdare nos Sadwrn yn Vestri Sion, ac fe ddywedir fod cynrychiofwyr Bryn Sion heb fod mewn cynghanedd a'r holl 1 yno. Amser a ddengys pwy sydd yn iawn. Buont yn aros yn hir gyda chwestiwn y gwahodd, Nid oes heddwch yn wastadol gyda hwn. G -,v n -v 'D # lp,,?,,fer Gwn v bvdd yn bleser gan lawer wybod fee'Mr John Jones, Middle Duffryn, un o 1 ) 0 l_t(..J Li :l't.1,C. J .I. brif 1 iaid capel Aberaman, wrth rhocU i ydd o Drysorydd i fyny ei fod ¡ yn maddeu y ddyled (o ymyl deg punt) iddynt. Nid llawer o sort' hwn sydd yn bod. Bendith y Goruchaf fyddo ar ei rhan a Mrs Jones. Melus odiaeth hefyd oedd deal! fod y diweddar Mr a Mrs Watkins, Cross Street, Aberdare, wedi gadael dros gant punt i eglwys Sion. Rhoisant lawer mewn bywyd at achos Iesu Grist, ac yn eu marw ni thynasant yn ol. Eu coffadwr iaeth sydd fendigedig. Cynhaliwyd cymanfaoedd i'r plant dydd Gwener y Groglith, un yn Soar, gan yr Annibynwyr yn cynwys plant o eglwysi Penrhiwceibir, Miskin, a Mountain Ash. Cadeirydd cyfarfod y prydnawn oedd Mr Thomas Hughes, Carmel; hwyr, Mr Morgan Davies, Bethania arweinydd, Mr T. J. Lewis, Ponrhiwceibir organydd, Mr John Griffiths. Aeth pob un trwy eu gwaith yn ganmoladwy. Canodd y plant yn ardderchog, ac fel y dywedwyd gan Mr Rees, M.C., Penrhiwceibir, "Y Gymanfa oraf eto." Cymhellodd Mr D. Evaris, G. & L., am 1 Gymru aros yn ffyddlon gyda'r sylweddol, a pheidio rhoi clust i'r Ragtime Tune sydd yn myn'd heibio mor sydyn ac y deuant. Pleser oedd gweled fod y gwyr ieuainc wedi dod allan mor gryf i gynhorthwyo y plant. Yr oedd y tri gweinidog yno yn siriol iawn, ac yn fynych yn uno gyda'r plant i ganu. lawn o beth fuasai i weinidog Bethania i rhoi unawd—' treat in store.' Y Gymanfa arall yn Bethlehem, M.C., yn cynwys yr eglwysi Abercynnon, Penrhiwceibir, Miskin a Mountain Ash. Llywydd cyfarfod y pryd nawn oedd Mr Pugh, Penrhiwceibir yr hwyr, Mr William Davies, Ysgrifenydd ffyddlon y Gymanfa arweinyddion y prydnawn a'r hwyr, Mri Evan Elias, Tab emacl, a Shadrach Jones, Noddfa hol- wyddorydd, y Parch Gumryn Jones, Mor- iah, Miskin; cvfeilwvr, Misses A. J. Wibber, Noddfa, a E. J. Edwards, Jerusal- em, a Mri W. T. Humphreys, Tabernacl, a Daniel Jones. Hermon. Lleisiau y plant oedd i glywed fwyaf yma. Ni ddaeth y bobl ieuainc allan mor dda i gynorthwyo a'r eglwysi Annibynol. Gresyn hyn, ob- legid mae y Corph wedi arfer a chael enw rhagorol yn ei ymdrech a'i chariad at y plant. A ydynt yn syrthio oddiwrth y gras hwn? Gobeithio nad ydynt. Melus odiaeth oedd gwrando ar y Parch Gum ryn Jones yn holi a'r plant yn ateb mor groew a chlir. Credaf pe byddai Mr Jones yn dod a llyfryn bach allan yn y ffordd syml hon, ac i'r pedwar enwad i fyn'd i mewn am dano ac i'w ddysgu yn eu gob- eithluoedd y gauaf nesaf, y byddai yn troi yn hadau gwych i flaenori yr undeb mawr sydd i ddod yn y man. Gwnaeth yr holl swyddogion yn y lle hwn eto eu gwaith yn ganmoladwy. Gwelais weinidog Hermon yn eistedd ynghanol y capel, dylai fod yn ymyl ei frodyr yn y pwlpud. Terfynwyd Cymdeithas Bobl Ieuainc Bryn Sion am y tymhor, nos Fawrth di- weddaf, trwy i bawb ohonynt (a mwy) eistedd i fwynhau cwpanaid o de a seigiau eraill. Cafwyd adroddiadau yn ystod yr wyl gan Mr W. Henry Atkics a Mrs Samuel Owen yn rhagorol. Canwyd gan Miss Jones, Danydera, a Miss Davies, Mis- kin, yn swynol. Chwareuwyd gan Mr Raymond Howells. LIywyddwyd gan y bardd-bregethwr Ab Hefin. Mae clod yn ddyledus i'r holl swyddogion am eu dyfal- garwch yn ystod y tymor, a'u hymdrech i geisio cael y gwyr ieuainc i faes gwasan- aeth teilwng y Gwr a'u carodd hyd farw dydd Gwener y Groglith ar y Groes. MAB Y WAWR.
I YNYSHIR.
YNYSHIR. SYR WILLIAM JAMES THOMAS, Y.H.. C.S. —Y mae holl ddarllenwyr y G. N. yn gwybod erbyn hyn am haelfrydedd y Marchog ieuanc hwn. Dyma y boneddwr y gwelodd y Brenin yn dda ei anrhydeddu yn ddiweddar a'r gwr hefyd ag y mae holl Gymru yn falch ohono. Llifa ei haelioni fel ffrwd ddistaw, ddofn i gyfeiriad ysbyt- ai, capelau, a gweddwon anghenus. Ddechreu y flwyddyn ddiweddaf, ihodd- odd her i holl eglwysi Ynyshir o bob enwad, gan gynwys Eglwys Lloegr hefyd, y rhoddai ef swm cyfartal i'r hyn gasglent fel eglwysi yn ystod y flwyddyn tuag at eu dyledion. Taflodd addewid fel hyn ysbrydiaeth frwdfrydig i.'r eglwysi, a chas- glasant tua thair mil o bunnau, a thalodd yntau yn ol ei addewid y swm cyfartal iddynt. Cliriwyd felly tua saith mil o bunnau drsvy ei garedigrwydd o ddyled yr eglwysi. Pwy na ddywed, Well done, y Marchog caredig Teimiodd yr eglwysi fod eu tro hwythau wedi dod i gydnabod y fath haelfrydedd gyda diolchgarwch sylweddol. Nos Fer- cher, Mawrth 25ain, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Moriah (M.C.), Ynyshir, i gyflwyno i Syr William anerchiad hardd- yr hard'daf a welsom erioed o ran defnydd a gwaith. Yr oedd y capel eang, hardd, yn orlawn ymhell cyn amser dechreu, yr hyn a ddengvs anrhydedd y Marchog yn ei le ei hun. Llvwyddwyd. gan y Parch E. C. Davies, Saron, yn ddeheuig iawn. Galwodd ar y Parch J. Williams, Hafod, i ddechreu drwy weddi. Siaradwyd ar ran EgI wys Loegr gan y Ficer ar ran Moriah (M.C.) gan y Parch Wilson- Roberts ar ran y Wesleaid Seisnig gan y Parch Wilkins ar ran Saron ('A.) gan Mr D. B. Davies ar ran y Bedyddwyr Seisnig gan y Parch J. T. Phillips, ar ran y Bedyddwyr Cymreig gan y Parch R. B. Jones ar ran y Tabernacl (Press. S) gan Mr Skinner ar ran Bethel (W.C) gan Mr John Jones ac ar ran yr Annibynwyr Seisnig gan y Parch T. H. Manuel. Siaradodd y bonedd- igion hyn yn dda a chwaethus. Nis gall- esid disgwyl dim gwahanol ganddynt ar destyn mor dda, Cyflwynwyd yr anerchiad gan Mr Wil- liam Evans, draper, mewn byr eiriau, ond I pwrpasol iawn. Atebwyd gan Syr William mewn modd cynnes a synwyrlawn. Anogodd y Thai y mae ganddynt dda y byd hwn i rannu peth o'u cyfoeth tra yn fyw, fel ag i gael ad- daliad mewn mwynhad yn eu bywyd. Dywedodd mai helpio eraill, a lliniaru poenau dioddefwyr oedd mwynhad pennaf I ei fywyd ef. Adroddodd iddo dalu ym- weliacl a'r adran o'r ysbyty ag y mae ef wedi roddi i Caerdydd, ac fod yno wraig ag oedd wedi bod o dan driniaeth law-' feddygol, a'i bod yn son gyda balchter am ei hadferiad, a'i bod i gael myned adref dydd Sadwrn. Meddylier, nieddai, am y derbyniad gawsai honna gan ei phriod a'i phant bach i'w chartref. mwynhad a'r ad-daliad i mi am fy ngharedigrwydd.' Cyn eistedd I iawr, rhoddodd her arall i'r eglwysi ag sydd wedi talu eu dyled drwy addaw swm cyfartal a gesglir ganddynt tuag at gyn- orthwyo yr eglwysi sydd a dyled yn aros arnynt. Pwy a wyr na welir haelioni yn llifo dipyn yn bellach i fyny i'r Cwm tuag at eglwysi bychain sydd ar suddo gan ddyled ? Diolchwn i Dduw am dano. Coded lawer o gyffelyb waredwyr, a rhodder iddo ef ddyddiau lawer i wasan- aethu ei oes, ei genedl a'i Dduw yn ei ffordd ddistaw ei hun. Dylem ddweud i'r cor ganu ddwywaith yn swynol iawn o dan arweiniad Mr Gwylyrn Thomas. It Talwyd diolchgarwch i'r cadeirydd gan Mr John, ysgolfeistr, a'r Cynghorwr Morgan Williams, Cymer. Terfynwyd y I cyfarfod rhagorol hwn drwy ganu Dan dy fendith wrth ymadael.' I G, p, T.
I COEDPOETH. 1
I COEDPOETH. 1 I Y GYMDEITHAS DDIWYLLIADOL.—Nos lau, Mawrth 19eg, ydoedd noson olaf ein Cymdeithas am y tymor hwn. Mae'n llawenydd genym ddyweyd fod y tymor wedi bod yn llwyddiant hollol, a phawb yn teimlo eu bod wedi cael amser bendi- gedig yn feddyliol ac ysbrydol. Gada- wyd trefniadau ar gyfer y noson hon i'r chwiorydd, gweithredasant yn ol eu harfer yn ddiguro. Paratowyd Swper godidog, a gwahoddwyd aelodau y Gymdeithas yno i gyfranogi o'r amrywiol ddanteith- ion. Cyn terfynu cafwyd unawdau, ad- roddiadau, etc. Hefyd diolchwyd yn wresog i bawb a fu'n ffyddlon a gweithgar ar hyd y tymor. Llywydd y cyfarfod yd- oedd Mr W. E. Jones. BAND OF HOPE.—Mae tymor llwyddianus y Band of Hope wedi dirwyn i ben. Nos Iau diweddaf rhoddwyd Te ardderchog i'r plant, a daethant i Rehoboth yn dyrfa Ion. Wedi iddynt wledda, cawsom y fraint o'u gwrandaw yn canu ac adrodd, etc. Gwel y rhaglen :-1 ddechreu ton gan y plant, yna Detholiad ar y Berdoneg gan Miss Doris Saunders, Can gan Mr J. E. Parry. Ad- roddiad, Master W. Thomas. Dadl gan Jane a Florence Mitchell. Adroddiad gan Gwen Jones. Detholiad ar y Berdoneg gan Miss S. A. Jones. Can gan Miss A. E. Parry. Adroddiadau, Miss D. E. Griffiths, a Gertrude Jones. Gair gan y Llywydd, Parch Ph. Price. Yna cystadleuaeth, 1, Amy Hughes 2, Jane Mitchell. Unawd ar y Berdoneg etto gan Mr Caradog Kelly. Hefyct deuawd gan Misses S. A. Jones a Buddug Price. Can gan B. Thomas. Ad- rcddiad gan A. Williams. Gwelir oddi- wrth y rhaglen hon hoi llafur y brodyr a'r chwiorydd a fu'n gweithio, ac yn gofalu am y plant ar hyd y gaeaf, sef Mri Edward Jones, Pregethwr T. P. Jones, Mrs Jones, Church Street Mrs E. J. Edwards, Mrs Davies, Library Miss C. Williams, Miss Doris Saunders. Credwn- fod i'r Band of Hope ddyfol disgiaer, I Goii.
I-ST. PAUL'S, ABERYSTWYTH.
I ST. PAUL'S, ABERYSTWYTH. I CANTATA. -Nos Fercher, Ebrill laf, per- fformiwyd Cantata Amos (in full charac- ter) yn y Coleseum, Aberystwyth, gan gor dan nawdd eglwys Wesleaidd St Paul's, a I than arweiniad Mr J. W. Cowley, yn cael ei gynorthwyo gan gerddorfa dan arwein- iad Mr J. Edward Jones. Cadeirydd, D. C. Roberts, Ysw., U.H., Maer y dref. Yr oedd yr Hall wedi ei llenwi gan gynull- eidfa fawr, yr hon oedd yn gwerthfawrogi y perfformiad gyda gwrandawiad astud. Cyflawnwyd gwaith yr ysgrifenyddion gan Mri J. L. Jones a J. E. Burbeck, a'r trysor- ydd gan Mr D. J. Jones, Cyfeilwyr, Miss Dilys Parry a Mr C. Clements. Cynwvsai y cantawd 6 o wahanol olygfeydd yn aw- grymu digwyddiadau yn hdeg lesu Grist. Testyn ycantawd ydoedd "Amos," 'The Cripple of Capernaum, by Pattison. Cym- erwyd y prif gymeriadau i fyny gan y rhai a ganlyn: Mr J. E. Burkeck, Mr D. Thomas, Miss Rossie Jones, Miss Myfanwy Ellis, Mr Albert Burbeck, Mr T. J. Picker- ing, Mr E. J. Hughes, Mr D. J. Williams, Mr D. R. Jones, Mr J. J. Davies, Miss Georgina Ll. Jones, Miss C. A. Burbeck, Mr Ifor Lewis, Miss Annie Evans, a Miss Marie Garner. Yr oedd y llwyfan wedi ei threfnu a'i haddurno yn nghyd agr gvvisg- oedd yn hynod nodwedcliadol o'r cyfnod y cyrnerodd yr hanes le gan Mr W. H. Jones, yr hwn oedd y Stage Manager. Gwnaeth ran helaeth er cael perfformiad cyfiawn o'r cantawd. Trodd y cyfan'allan yn ilwydd- iant yn mhob ystyr, a disgwylir ehv syl- weddol o'r ymgymeriad. GOBLITHi.u. Cyiihaliwyd cyfarfod ter- fynol Gobeithlu St. Paul's nos'Fawrth, Ebrill 7jfed, yn yr Ysgokly. Cadeiriwyd yn ddeheuig gan Mr Thomas Lewis, Queen Street. Dechreuwyd y cyfarfod trwy i'r plant ganu Cono'r lesu," o raglen y Gym- anfa. Yna cafwyd Pianoforte Solo gan Olwen Jones; adroddiad, Annie Jones; adroddiad, D. O. Parry can, Daisy Cow- ley; adroddiad," Lizzie A. Hughes; can, Eluned Lewis can, Ivor Jones adroddiad, MaudieWhite can, Irene Williams; ad- roddiad, Dicky Jones can, Bertha Hughes; adroddiad, Annie Hughes can, Ivor Cow- ley adroddiad, Mary Jane Jones deu- awd, Lizzie a Jennie Hughes adroddiad, Idris Parry pianoforte solo, Maudie White adroddiad, Emrys Doughton can, Myfanwy Richards adroddiad, Annie Davies; can, Hilda Bayley; adroddiad, Bessie Jones a Alice Mason can, Idris Parry adroddiad, Gertie Thomas, Prud- ence Hughes, Katie Jones; pianoforte solo, Irene Jones; a drod ciiad, Lizzie Chamberlain can, Mr Albert Burbeck adroddiad, Idwal Lewis; can, Eluned Lewis; adroddiad, Catherine Hughes; can, Annie Jones, Jennie Hughes, Annie Davies; adroddiad, Ivor Jones a D. O. Parry. Gwasajiaethwyd wrth y Berdoneg gan Miss Maggie Warrington a Miss Bur- beck. Ar y terfyn cafwyd anerchlad pwr- pasol gan y cadeirydd i'r plant a'r rhieni. Diolchwyd yn gynes i'r rhai fu yn gofalu am y Gobeithlu gan ein gweinidog. Gwnaeth y plant eu gwaith yn hollol nat- uriol, a chawsom gyfarfod diddorol dros ben, Gresyn na bai mwy o'r aelodau yn bresenol er rhoi cefnogaith i'r plant a'r rhai fu'n llafurio gyda hwynt am y tymor. Ymadawyd trwy ganu, "Hen Wlad fy Nhadau." Dydd Mercber canlynol gwahoddwyd yr oil o blant y Gobeithlu yn nghyd i'fvvvn- hau eu hunain wrth gwpanaid o de a theiseni. Ni raid dweyd fod y plant wedi mwynhau eu hunain yn iawn yn y cynull- iad hwn. Cyflwynodd Mr H. Jones (Mor- -dwys), felusion ac aurafalau i'r oil o'r plaIlt. Ar Ý terfyn cafodd y plant ddifyru eu hunain mewn clnvareuan diniwaidf, Diolchwyd yn gynes dros y plant i'r rhai fu yn darpaiu y wledd. Goii.