Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

BAZAAR SPELLOW LANE,I . LERPWL.

DIOLCHGARWGH. I

MYNYDD BACH. I

EGLWYSBACH. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EGLWYSBACH. I "HELYNT A HEULWEN." — Prydnawn a nos Lun y Pasg perfformiwyd y ddrama uchod gan gwmni dramayddol o gapel y Wesleyaid. Bu y cwmni yn dysgu dan gyfarwyddyd y Parch E. Arthur Morris, gweinkk g y lie, ond methodd Mr Morris a bod yn b,esenol oherwydd gwaeledd, ond da genym allu dweyd ei fod yn gwella yn araf. Daeth cynulliad da ynghyd, y lie yn orlawn yn enwedig y nos, a -gwnaeth" y cwmni eu gwaith yn nodedig o dda, yn wir yr oeddynt, fel y dywedodd y Cadeir- ydd,.fel pe wedi eu geni i'r gwaith. Di- ameu y bydd galw am eu gwasanaeth mevvn lleoedd eraill yn fuan. Cadeiriwyd yn ddeheuig gan Dr Olven, Llanrwst, yr hwn a ddywedodd ychydig o eiriau pwrpasol, a chyfranodd swrrranrhy- deddus i'r drysorfa. Bu y ddrama yn llwyddiant perffaith yn mhob ystyr, yr oedd yn ddifyrus ac adeih adol, a gwnaed elw sylweddol at yr achos yn y He. Dyma enwau y gwahanol gvmeriadsu— Y Blaenor, Mr Jesse Williams gwraig y Blaenor, Mrs Enoch Evans eu merch, Miss Jones, y Graig; y Postman, Mr Hugh Jones; merch y Postman, Mrs Davies, Clwt Cot tagf i rbwr, Mr John Williams; y Mr Evan Jones y Ffop, Mr j. Mr Davies, y Clwt; y B< 'avid Jones, Tynyddol. ¡. E' Ei L (j N I LLESTRI CYMUN. Anrhegwyd eglwys Ebenezer a Llestri Cymundeb unigol gan Miss Williams, gynt o Tymawr, Eglwys- bach, ond yn awr yn Conway, ac er fod y chwaer hynaws hon wedi-gadael Eglwys- bach, mae yn amlwg fod ei chalon yn gyn- es at yr eglwys y bu yn aelod mor gyson o honi. Mae y rhodd werthfawr hon yn hynod o dderbyniol genym. Maent yn wir hardd a drudfawr, anhawdd gweled eu I cyffelyb, cofier mai nid Aluminium mo honynt, na chwaith olchiad arian arnynt, ond y mae yn Solid Silver ynghyda Crystal Glasses. Nos Fawrth daeth y parch. O. Madog Roberts, Conway, yma i dros- glwyddo y rhodd i'r eglwys, ac o herwydd afiechyd ein parchus weinidog E'. A. Morris, llvwyddwyd y cyfarfod gan y parch Einion Jones, Llanrwst. Cyflwynodd Mr O. Mad- og Roberts y rhodd mewn modd deheuig iawn fel y medr ef, a dywedodd eiriau car- edig a phwrpasol i'r amgylchiad, a chyn- ygiwyd diolchgarwch gwresog i'r chwaer dros yr eglwys gan Mr D. Roberts, blaencr, yn cael ei ddilyn gan y brodyr David Jones, Isaac Tones, a Robert Williams, ac yn sicr y bydd adgof am y chwaer Miss Williams yn aros yn berarogl yn yr eglwys am amser maith, gellir "Jweydfel y dywed- odd yr Athraw mawr pan ar y ddaear am Mair yn nhoriad y blwch enaint, "Hi a wnaeth weithred dda arnaf fi." Derbynied y chwaer anwyl ein diolchgarwch llwyraf, a thaled yr Arglwydd iddi. DYFFRYNWR.

BRIWSION 0 ABERPENNAR, MOUNTAIN…

I YNYSHIR.

I COEDPOETH. 1

I-ST. PAUL'S, ABERYSTWYTH.