Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Llith o'r Llyfrfa.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Llith o'r Llyfrfa. Da gennym adrodd fod rhagol- ygon gwerthiant llyfrau y Maes Llafur am 1914-15 yn hynod addawol. Aeth miloedd (J'f gofyniadau allan ar gyfer y SuI cyntaf o Ebrill, ac y mae yr archeb- ion am Esboniad y Parch W. O. Evans ar y Rhufeiniaid, a Llawlyfr rhagorol y Parch R. W. Jones ar y Damhegion, yn llifo i mewn. Os archeba gweddill yr ysgolion yn debyg i'r rhai sydd eisoes wedi archebu, credwn y bydd y gwerth- iant yn fwy nac y bu erioed ar Lawlyfrau ac Esboniadau y Maes Llafur. Methasom a chyflenwi yr alwad yr wythnos ddiweddaf o'r Rhufeiniaid, gan fod y Rhwymydd yn analluog i anfon y nifer digonol, ond y mae gennym gyflawnder yn awr. Bargeinion. I Gwelir mewn colofn arall hys- bysiad am ddau lyfr ddylai fod yn mhob ty Wesleaidd, ac sydd i'w cael yn awr yn anarferol o rad. Dyma gyfle i ddiogelu Cofiant yr E'dwysbach a Gweithiau Rowland Hughes mewn rhwymiad da am yn agos y drydedd ran o'r pris gwreiddiol. Hanes Wesleyaeth Gymreig. I .Diolchwn i'r brodyr sydd heb I ateb y Cylchlythyr anfonwyd idd- ynt fod mor garedig ag ateb yn ddioed bellach. 1 Llyfrgell y Llyfrfa. Parha y Llyfrgell i gynyddu. Cyhoeddwn yrna restr o'r cyfrolau gafwyd yn rhodd. Teimlwn yn I dra diolchgar If cyfeillion caredig sydd yn barod wedi anfon cyfrolau. Mr Roger Williams, GyfRn, Con- way, oedd y cyntaf i anrhegu y Lh'?gell. Dilynwyd ef yn union ?? Mr W. J! Lewis, PwUheli. velirein bod trwy garedigfwydd y Parch W. G. Evans yn meddu cyfres gyflawn o'r Gwyliedydd. Hefyd cyfres gyflawn o'r Gwylied- ydd Newydd trwy garedigrwydd y Parch D. Gwynfryn Jones. Cafwyd y Gwyliedydd wedi eu rhwymo yn gyfrolau yn barod. Apel. I Pwy a'n hanrhega a'r blynydd- oedd a ganlyn o'r Eurgrawn ? Mae 1815, -16, -17, -18, -19, 1825, 1841,-46,-47, 1853,-54,-58, ac 1893 yn eisieu i gwblhau cyfres yr Eurgrawn" o'r dechreu. At gwblhau cyfres' y "vVinllan" y mae eisieu y blynyddoedd 1850, 1876. a 1903.' Rhodiion i'r Llyfrgell. I Dyma restr o'r llyfrau dderbyn- iwyd a'r rhoddwyr:- Y Drysorgell Efengylaidd. T. Jones a S. Davies. Eurgrawn 1832. Mr Roger Wil- liams, Station Stores, Conway. Elfenau Diwinyddiaeth. T. Jones (ail). Queen Esther. A Paynter, Amlwch. Gan Mr W. J. Lewis, N. P. Bank, Pwllheli. Difyrion y Cysegr. Crynodeb o Hymnau, o waith amrywiol awdwyr, i'w harfer gan y bobl a elwir Methodistiaid Wesleaidd, 1812. Gan Mr W. Jones, Post Office, Bangor. Pymtheg o gyfrolau or Eurgrawn, blynyddoedd cyntaf. Deuddeg o Bregethau. Owen Dav- ies, 1812. Bywyd y Parch Hugh Hughes, 1856. Rhyddid yr Ewyllys. Owen Wil- liams, 1864. Cofiant y Parch. R. T. Owen. Hugh Jones. Esboniad ar Epistolau loom. Hugh Jones. Ymneillduaeth Cymru. Hugh Jones; Esboniad ar Efengyl loan. T. Jones Humphreys. E, sboitiad ar y Ptiliufeiiiiaid. T. Jones Humphreys. Canmlwyddiant Wesleaeth Gymreig. T. Jones Humphreys. Blodau Glyn Dyjï. Lewis Meredith. Cofi int a Phregethau y Parch. J. Pi ice Roberts. R. Lloyd Jones. NeilLduolion.A thraiviaethol y Trefn- yddion Wesleyaidd. R. Lloyd J ones. Yr Epistol at y Rhufeiniaid. David Pritchard, Tregarth. Yr Epistol at y Galatiaid. Owen Evans. Cofiant y Tri Brawd. O. IVladoc Roberts. Cofadail CanviIwyddiant Marwol- aeth John Wesley. Hyffordd a Beread. Owen Davies. Gan P. Jones-Roberts. Y Bywgraffydd Wesleaidd. Hum- ilis. Gan Mr J. Price Jones, Bee Hive, Abermaw. Eurgrawn 1862 a 1864. Gan In- spector W. Jones, St. Domingo Vale, Liverpool. Y Gwyliedydd. Blynyddoedd cyf- lawn o 1877 hyd 1908. Gan y Parch W. O. Evans er cof am ei anwyl dad, y Parch William Hugh Evans. Y Gwyliedydd Newydd.—Blynydd- oedd cyflawn o 1909—1913. Yr Esboniad Beirniadol. Idrisyn. 3 cyfrol: Gen.—Deut.; Mat.— Actau; Rhuf.—Datguddiad. Gan y Parch D. Gwynfryn Jones. Eurgrawn 1824. Gan y Parch W. Lloyd Davies. Poster Cyfarfod Talaethol Go^gledd Cymru, 1850. Tocyn Darlith Thomas Aubrey ar Y Milflwyddiant," yn Nghapel y Dawn, Gorff. 2il, 1856, gan y Parch T. Gwilym Roberts Derbynir llyfrau Wesleaidd Cym- reig i'r Llyfrfa gyda diolchgarwch, a chydnabyddir hynny drwy y Gwyliedydd Newydd." Rhodder yr enw a'r cartref, gan nodi mai rhodd i Lyfrgell y Llyfrfa ydyw y llyfr anfonir. I Yr eiddoch yn ffyddlon, GORUCHWYLIWR. I

CQF-GOLOFN MORGAN RHYS, YR…

[No title]

Advertising