Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Llith o'r Llyfrfa.

CQF-GOLOFN MORGAN RHYS, YR…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CQF-GOLOFN MORGAN RHYS, YR EMYNYDD Y mae Cyngor Eglwysi Rhyddion Llan- fynydd a'r cy!ch wedi penderfynu codi cof- golofn o barch i goffadwriaeth yr emyn- ydd melus uchodym mhentref Llanfynydd, lie y treuhodd y rhan olaf o'i oes. Diau y bydd hyn o fwriad yn dra derbyn- iol gan Iu mawr o edmygwyr ei waith ar hyd a lied Cymru, canys pwy sydd yn fwy I reilwng o gael cof-golofn gan ei wlad na Morgan Rhys, awdwr anfarwol yr hen em- ynau byth-gysegredig— Dyma Geîdwad i'r colledig,' &c. Beth sydd imi yn y byd,' &c. 'O! agor fy llygaid i weled,' &c. Ymadaw wnaf a'r babell,' &c. '0 gariad 0 gariad anfeidrol ei faint, &c. Yn wyneb hyn, yr ydys yn apelio yn hyderus, ac yn taer erfyn ar bawb drwy holl eglwysi Cristionogol Cymru a threfi Lloegr fod mor garedig a'n cynorthwyo gyda'r mudiad teilwng hwn, sef anrhydeddu coff- adwriaeth y gwas da hwn i'w Arglwydd drwy godi cof golofn iddo a fydd yn deil- wng o'i athrylith bur ac eneiniedig. yr hon a gysegrodd efe mor llwyr yn ngwasanaeth ei wlad, ei genedl a'i Dduw. Derbynnir gyda diolchgarwda bob rhodd at yr uchod gan y Trysorydd neu gan yr Ysgrifenydd- ion, achyhoeddirrhestr o'r tanysgrifwyr yn y newyddiadaron Enwadol. Henadur H. Jones Thomas, Y.H., Pen- rhos, Lianfynydd, Golden Grove, Carm. (Trysorydd) Parchn W. Oliver, M.A. (Ysgrifennydd y Cyngor), a J. Edwards, Lianfynydd, Golden Grove, Carm., (Ys- grifenyddion).

[No title]

Advertising