Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Wyliedydd Newydd, aros ar y mur, Ac edrych allan am yr iawn a'rpur, Gwas'naetha grefydd,-seinia ar ein clyw Os gelyn feiddia gyffwrdd Ddinas Duw. TALFARDD.
PERYGL PRYDAIN
PERYGL PRYDAIN CENADWRI CYMRU. Llythyr agored at Mr Asquith ANNWYL BRIF WEINIDOG,— A ydych yn cofio, pan oeddech fyfyr- iwr yn Rhydycben, ddarfod i un o'ch athrawon ddweyd am danoch :— U Bachgen talentog yw Henry Her- bert ond ei ddrwg yw na wna efe byth heddyw yr hyn a eill efe ei adael heb ,gyflawni tan yfory. Bum yn ceisio dyfalu a'i gwendid eich ieuenctid oedd wrth wraidd eich polisi o 11 Wait and see," er pan aethoch yn Brif Weinidog. Tebyg mai i'r gwendid hwnnw y rhaid priodoli ddarfod i chwi .ohirio Mesur Mawr Cymru cyhyd, a bod Deddf Addysg 1902, yr hon yr ymrwymasoch i'w dilell neu ei diwygio, yn :aros ar Ddeddf-lyfr Prydain yn hollol fel y gosododd eich cyfaill Mr Balfour hi. Yr un peth, o bosibl, sydd yn cyfrif am na fuasech ers tro wedi iroi dros y drws y sawl a fynnent yn y Cabinet eich gwthio chwi allan. Ond gresyn na fuasech wedi dangos yr un gwendid ynglyn a Mesur Gorfod- aeth Filwrol. Buasai yn well i chwi, ac yn well i Brydain, pe baech wedi dwyn y Mesur diraid hun i mewn. Dyna farn Cymru. CYMHU AM QECI-IFYFU GERMANI. I Fel na chamsynier safbwynt Cymru I ar y mater, a gar fi ddweyd nad oes un rhan o'r Ymerodraeth yn fwy pendsr- fynol nag yw Cymru i gario y Rhyfel ymlaen nes gorchfygu o -honom y gelyn yn llwyr. Profodd Cymru hynny yn niferi aruthrol y bechgyn a atebasant Alwad Corn y Gad. Gwyddoch chwi, a gwyddom ninnau, nad oes yn yr boll Ymerodraeth eang, genedl a ddanfonodd, yn ol rhifedi ei phoblogaeth, gynifer o'i aneibion i'r Fyddin. Pan ddeuaf i ysgrf- ennu at eich Gyd-Weinidog, yr Arglwydd Kitchener, bydd gennyf o bosibl air i'w ddweyd wrtho am y twyll a'r cam a lwnaed a'r Cymry ynglyn a'r ymrestru ym Myddin Prydain. Ond ar hyn o bryd, a chwi, a'r Mesur Gorfodi yn unig y mae a wnelwyf. A dywedaf eto nad oes un rhan o'r Ymerodraeth i gyd yn fwy awyddus ac yn fwy penderfynol i ennill buddugol- iaeth Iwyr ar y gelyn, nag ydyw Cymru. Dyna paham y gwrthvvynebc4 y Mesur Gorfod. Er mwyn hyn ymrestrodd ei meibion yn llu. Er mwyn hyn yr anghofiodd ei gweinidogion dysgeidiaeth y Tadau a'r Egwyddorion a bregethas- ant hwythau erioed, ac yr anogasant fecbgyn eu heglwysi i wregysu'r cledd, ac i droi y bladur yn fidog. Er mwyn hyn yr wylodd ac yr wyla gwragedd a merched Cymru am eu hanwyliaid, ac er mwyn hyn y danfonodd ami un ohonynt ei hunig neu ei holaf fachgen i'r Rhyfel, gan ddweyd wrtho mai gwell fyddai ganddi ei weled yn marw yn fachgen dewr nag iddo fyw yn fachgen llwfr. Sarhad ar y genedl a wnaeth, ac a -wna hyn, yw son am orfodi ei bech- gyn i ymuno a'r Fyddin Na! Ni bu, ac ni bydd Cymru, ar ol ,pan fo angen gwlad yn galw EFELYCHU A HELPU GERMANI. Ond ceir Jingoes ym Mhrydain fel y ceir Junkers yn Germani- ac o'r un rhywogaeth y maent oil. Disgyn yddion ydynt i'r bobl y gweddiodd y Salmydd ar Dduw i'w gwasgar am mai pobl da ganddynt ryfel oeddent. Ac nid oes i Gymru ran na chyfran ynddynt hwy. A Jingos Prydain, gan genfigennu o honynt wrth Junkers Germani, a fyn- aant yn awr osod iau militariaeth ar warr pobl rydd Prydain, megis ag y gosododd y Junkers gyffelyb iau ar warr trigolion Prwsia, y rhai ydynt gaethion i'r iau hyd y dydd hwn I Dywedasoch chwi eich hun, Syr, mai er mwyn lladd a difodi militariaeth yr aeth Prydain i ryfel. Cefnogwyd chwi yn yr amcan daionus hwnnw gan bob cydwybod dda drwy'r deyrnas. Eithr atolwg, ai trwy Beelzebub militariaetb ym Mhrydain y bwrir allan Beelzebub militariaeth yn Prwsia ? Ai drwy efel- ycbu gorthrwm y Caisar y sicrheir Ehyddid Prydain ? Ond mwy na hyn. Mae eich Mesur Gorfod nid yn unig yn efelychu, ond yn helpu Germani. Pe y ceisiaswn i roi banner cymaint o help Haw i Germani ag a rydd eich Mesur Gorfod chwi iddi, buan iawn y'm teflid i garchar,—a haeddaswn hynny pe gwnawn. Pell wyf o ddweyd mai amcan neb o bleid- wyr y Mesur Gorfod yw helpu Germani -eithr, carchar neu beidio, dywedaf yn ddibetrus mai helpu Germani fydd effaitn gwasgu'r Mesur ymlaen. Yr hyn a ofna'r Caisar fwyaf o bopeth yw unoliaeth ei wrthwynebwyr. Yn undeb preswylwyr Prydain y gorwedd cudd der eu nerth. Hhoddasai'r Caisar yn rhwydd hyd yn banner ei deyrnas pe y medrai drwy hynny greu rhwyg ymhiith Prydain a'i Cbynghreiriaid, neu pe y medrai rannu Prydain yn ddwy. Ni welwyd erioed yn holl hanes Prydain arddangosiad godidocach o undeb ac un oliaeth yn y wlad bon ag a gafwyd o ddechreu y Rhyfel hwn-hyd y dydd y daeth eich Mesur Gorfod chwi gerbron y Senedd. Ond y dydd hwnnw terfyn- wyd yr undeb, dilewyd yr unoliaeth-,a theyrnasodd yn eu lie anghydfod na fedrai holl gynllwynion y gelyn byth ei greu yn ein plith. 0 unfryd, ac o galon, y gwelodd y byd Prydain hyd yma. Ar darawiad amrant llychwinodd eich Mesur Gorfod chwi ysblander gogonedd- us y darlun prydferth a blotyn du ang- hydfod, a gwelwyd ynddo rwyg hyll ymraniad oddi fyny hyd i waered, o'r Cabinet fry hyd yr esholaeth leiaf yn y deyrnas. |CADW, YNTE TORRI, EICH ADDEWID, A. I WNBWCH.? Dywed eich cefnogwvr mai rheid- rwydd a osodwyd arnoch am addaw o honoch yn eich byrbwylldra y gorfodid mwyafrif mawr bechgyn ieuainc y deyr- nas i ymuno a'r Fyddin cyn galw o hon- och am y gwyr priod. Yn awr, Mr Asquith, gwyddoch mai ar eich cyfrifoldeb eich bi n, ac heb ymgynghoriad Cabinet, y gwnaethoch yr ymrwymiad hwn. Er hyn i gyd ni fynnai, hyd yn oed Cymru, i chwi dorri eich gair-er, ps baech yn ei dorri, nid y tro cyntaf a fuasai i chwi ac i'ch Cabinet dorri addewid pendant, fel y gwyr Cymru yn dda er ei dirfawr ofid a'i cholled. Ond os oedd raid i chwi gadw eich gair, dylech gadw eich gair oil, ac nid rhan o hono yn unig. A gafi fi yn garedig eich atgofio o'r hyn a addawsoch chwi, a'ch Cabinet, yn bendant ynglyn a Gorfodaeth Filwrol? Dyma rai o'r addewidion pendant:— 1. Addawsoch yn bendant na ddefn- yddid mo'r Cofrestriad Cenedlaethol, a wnaed ym mis Awst diweddaf, at am- canion Gorfodaeth. Ar sail yr addewid hwnnw y cydsyniodd llu o awdurdodau lleol drwy Brydain i gydweithredu yn y cofrestru. Tonir yr addewid hwn yn y Mesur Gorfod. 2. Addawsoch, ar ol ymgynghoriad a'ch Cabinet, a thrwy ei gydsyniad, na cheisiech osod Gorfodaeth Filwrol ar y wlad heb "gydsyniad cyffredinol." Gwahaniaethaf, fel chwithau, rhwng cydsyniad cyffredinol a chydsyniad unfrydol." Ni allasai neb ddisgwyl yr olaf-ond ymddiriedai pawb i'ch gair na cheisiech osod gorfodaeth oni chaech gydsyniad cyffredinol." Torasoch yr addewid pwyllog, pen- dant, difrifol hwn drwy y Mesur Gorfod. Ni fedrwch chwi, na neb arall, ddal fod cydsyniad cyffredinol" nac yn y Weinyddiaeth ei hun, nac yn Nhy'r Cyffredin, nac yn y wlad. Gwelir pedwar Aelod o'r Weinyddiaeth wedi ymddiswyddo oherwydd dwyn o honocb y Mesur i mewn. Yn Nhy'r Cyffredin gwelir fod dros gant o'r Aelodau wedi pleidleisio yn erbyn darlleniad cyntaf y Mesur. A gwyddoch chwi yn dda mai anaml iawn y pleidleisir yn erbyn darlleniad cyntaf unrhyw fesur oni bydd hwnnw yn fwy atgas ac yn ennyn mwy o chwerwder na'r cyffredin. Ni ellir ychwaith ddadleu fod cyd- syniad cyffredinol yn y wlad pan welir Cynhadledd Fawr Gweithwyr Prydain, y dydd y dygwyd y Mesur gerbron y Senedd, yn ei gondemnio yn ddiarbed drwy fwyaf rif o yn agos i ddwy filiwn (1,998,000) yn erbyn ychydig gyda thrichwarter miliwn (783,00C) o bleid- leisial1 Llafur y Deyrnas. Dywedir yn awr mai y gwir ffigyrrau oedd 2,121,000, yn erbyn 541,000. 3. Ar y goreu, neu'r gwaethaf, nid oedd eich addewid i'r gwyr priod yn dod i rym hyd nes y profid nad oedd mwyaf- rif mawr bechgyn ieuanc y deyrnas cymwys i'r Fyddin, wedi cynnyg eu gwasanaeth. Ni pbrofwyd hynny eto. Nid yw ffigyrrau Arglwydd Derby yn profi dim o'r fath beth. Danghosodd Syr John Simon yn glir yn Nhy'r Cyff redin mai damcaniaeth yri unig yw ffigyrrau Arglwydd Derby am y dynion ieuainc sydd ar ol. I DIM BRYS. Hyd yn oed pebae'r ffigyrrau yn profi yr hyn a hawlia cefnogwyr y Mesur Gorfod, gwyddoch chwi, Mr Asquith, yn dda nad oes brys am gael y bechgyn ieuainc hyn i mewn i'r Fyddin. Dyma ychydig gwestiynau y dylech eu hateb yn y Senedd neu drwy y Wasg, cyn gorfodi o honoch neb i ymuno a'r Fyddin. 1. Beth yw rhifedi y Fyddin i fod ? 2. Pa nifer o wyr sydd gennych eisoes ? 3. Ar gyfer pa nifer dros ben y rhai sydd eisios wedi ymnno, y mae gennych bob darpariaeth angenrheidiol yn barod mewn llety^dillad, ac arfau ? 4. Pa nifer o'r newydd bob wythnos a ellweh ymgymeryd a'u disgyblu yn briodol at wasanaeth milwrol ? 5. Dros ba gyhyd o amser eto y mae gennych (naill a'i wedi ymnrjo, neu y gwyddoch y dont pan fynoch) digon o ddynion i gyflenwi ygalw wythnosol hyn ? Pan gaffo'r wlad wybod y pethau hyv, geill hithau weled, fel chwithau, nad oes brys dros ddwyn Mesur Gorfod ymlaen. ME SUE BYCHAN ? Dadl hoff pleidwyr y Mesur Gorfod yw mai Mesur Bychan iawn yw. Dug y ddadl hon i'm cof am ferch, yn un o nofelau Marryatt, yr bon, pan gyhudd- odd ei meistr hi ddarfod iddi roi gened- iigaeth i blentyn anghyfreithlawn, a ddywedodd ;— Do, syr ond plentyn bach iawn ydoedd." Gan nad pa mor fychan yw y plentyn hwn, plentyn ang- hyfreithlawn yw ffrwyth priodas an- achaidd Toriaid rhone a Rhyddfrydwyr, y rhai, er fod ganddytit rith Rhyddfryd. iaeth, ydynt er's amser bellach wedi gwadu ei grym hi. Ac o'r plentyn ang- hyfreithlawn hwn, er mai bach yw, y daw drygau mawr difesur i Brydain i Ryddid, ac i bob egwyddor annwyl gan Ymneillduwyr a gweithwyr Prydain. Na thybied neb, unwaith yr agorir y drws i anghenfil gorfodaeth filwrol, y boddlona hwnnw ar ddiwallu ei chwant a dynion sengl yn unig, na thros adeg y Rhyfel yn unig. Ychwanegu a wna gwanc anghenfil gorfodaeth ymhobman po fwyaf a gaffo i'w Lvyta. Gwrthod rhoi dim yn ei safn yw yr unig ddi- ogelwch. CE NAD win CYMRU AT MR ASQUITH. Cenadwri Cymru atoch, Mr Asquith, I yn fyrr, yw hyn:- 1. Peidiwch llychwino yn ddiraid, drwy orfodaeth, gwisg wen ddisglaer teyrngarwch gwirfoddol Prydain Fawr. 2. Cyflawnwch yr addewidion ynglyn a gorfodaeth, a wnaethoch i'r Senedci ar ran, a thrwy gydsyniad eich Cabinet, cyn gwthio ohonoch ar y wlad Fesur Gorfod, a addawyd gennych yn amodol ac ar eich cyfrifoldeb eich hun. 3. Mynnwch sicrwydd i chwi eich hun, ac argyhoeddwch y wlad o'r un peth, fqd yr amodau a osodasoch chwi eich hun i lawr fel yn anhebgorol angenrheidiol cyn galw am orfodaeth, wedi cael eu cyflenwi cyn myned ohon- och gam ymhellach gyda'r Mesur Gorfod. 4. Peidiwch gorfodi y rhai fu'n ffydd- Ion ar hyd eu hoes i'r Bl%i -d Rhyddfryd- ol i droi eu cefn ar honno, ac ymuno o honynt a Phlaid Llafar fel yr unig fodd i ddiano rhag Gormes Jingoyddiaeth Cyfalafwyr Prydain. 5. Uwchlaw pobpeth arall, yn enw pobpeth a fu ac ar y sydd yn annwyl ac yn barchedig gennych, peidiwch helpu Germani drwy rannu Prydain yn ddiraid, a rboi nag achlysur nac esgus i weithwyr y deyrnas i laesu dwylaw ar yr adeg pan y mae eu sel a'u brwdfryd- edd gryfaf a phoethaf o blaid Byddin Prydain. Y d WiNf, Anwyl Brif Weinidog, Yr Eiddoch yn gywir, BERIAH GWYNFE EVANS. (Yn y nesaf: Llythyr Agored at Mr. Lloyd George).
NODIADAU CYFUNDEBOL.
NODIADAU CYFUNDEBOL. I Gan LLYFRBRYF. Penderfynwyd mewn cyfarfod lliosog a phwysig gynhaliwyd yn Birmingham yr wythnos ddiweddaf, ar ol ymdrafod aeth maith, fod Colega-Li Headingley a Wandsworth i gael eu cau am gyfnod. Hysbysa Dr. Waddy Moss, Llywydd y Gynhadledd, fod y Parch. J. Herbert Ryder wedi derbyn mwyafrif y pleidleis- iau, a'i fod, yn ol defod ac arfer, yn cy- hoeddi ac yn apwyntio Mr Ryder yn Gadeirydd Talaith Cernyw. Un o gynghorion doethaf yr Apostol- aidd Wesley ydoedd, Be punctual, do everything exactly at the time, and do not amend our rules, but keep them." Gwyn eu byd y rhai hynny sydd yn gweithredu yn ol y geiriau uchod. Dymunem atgofio y rhai hynny sydd yn cymeryd dyddordeb yn y Genhadaeth Dramor, fod cyfrifon y Gymdeithas am 1915 ymhob cylchdaith i gael eu cau i fyny ar y 24ain o'r mis hwn. Diau y cofir am hyn, Gwelwn fod Mr A. W. Black, A.S., wedi cael yr anrhydedd o fod yn Farch- og. Mae Syr Arthur yn Weslead adnab- yddus. Mae er's blynyddoeda wedi cymeryd dyddordeb mawr yn y Notting- ham Mission. ♦ Mae'r rhifyn lonawr o'r London Quarterly" yn un eyfoethog. Ysgrif- enna Dr. Davison erthygl alluog ar God and the World." Ceir ysgrif gan Mr Stephen Graham ar Ie Russia's Re ligion of Suffering." Diolchgar oedd gennym ddeall fod y cyfres o bregethau a draddodwyd yng nghapel Soar, Rhyl, gan y Parch. Hugh Evans (Cynfor) wedi bod yn rhai llwydd- iannus-y cynulliadau yn cynnyddu y naill noson ar ol y llall, ac arddeliad neilltuol ar y cyfarfodydd. v- 'Roed Id yn bleser gennym weledlfod y Parch Hugh Evans (Cynfor) wedi ei ethol yn unfrydol yn Gadeirydd Cyngor Eglwysi Rhyddion y Rhyl, a Mr W. H. Roberts, yn Ysgrifennydd, yr hwn sydd yn bregethwr cynorthwyol cymeradwy a pharchus- Bydd yn dda gan ein darllenwyr gael eu hysbysu fod tua wyth ar hugain o Aelodau Seneddol Wesleaild, o ba rai a,id oes dim llai na thriarddeg yn Farch- ogion, tra y mae pump yn aelodau y Cyfringynghor, y rhai sydd i'w hannerch fel y Gwir Anrhydeddus, ac y mae yna un Barwnig. Hyfrydwch gennym weled y newydd da am yr achos yn Claughton Road, Birkenhead. Ynglyn a'r Sale of Work