Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

, Y Rhyfel o Ddydd i Ddydd.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y Rhyfel o Ddydd i Ddydd. Dydd Llun, Medi 4. Y mae pentrefi Forest, i'r dwyrain o Maurepas a Clery, yn meddiant y Cydbleidiau. Y mae holl warchffosydd y Germaniaid ar hyd y ffordd o Forest i Combles, hefyd, yn meddiant y Cyd- bleidiau Gwnaed gwrfch-ymosodiad gan y Germaniaid, ond bu raid i'w byddinoedd gilio yn ol. Gair o Petrograd fod y Rwsiaid yn parhau i symud ymlaen yn y Carpath- ians, lie yr ymosodwyd ar nifer o uchel- feydd. Y mae brwydro ffyrnig ger Halicz (i'r gogledd o Stanislau), a Zava- lof, a cheir fod amryw safleoedd wedi eu meddiannu. Dywed cenadwri o Bucharest, fod y Roumaniaid wedi meddiannu Brasso, gan sefydlu llywodraeth o'u heiddo eu hunain yno. Y mae gorsaf y ffordd haearn yn Orosva dan wyliadwriaeth y gynnau Roumunaidd, ac y mae yr Aws- triaid wedi gorfod cilio yn ol yn agos i'r dref hon. Parha llongau y Cydbleidiau i aros yn Piraeus. Y mae amryw longau Ger- manaidd wedi eu meddiannu, a'u criw .wedi eu cymeryd yn garcharorion. Adroddir heddyw y cyflwynwyd Nodyn i Brifweinidog Groeg, ar ran Prydain a Ffrainc, a hawlio rheolaeth ar y pyst teligraff, ac fod yr holl oruch- wylwyr gelynnol yn cael eu gyrru allan o Athens. Dvdd Mawrth. Brwydro ffyrnig yn. myned ymlaen ar y ffrynt Prydeinig. Enillwyd rhagor o dir gan ein byddinoedd i'r gogledd o Fferm Falfemont, a gorthrechu gwrth- ymosodiad Germanaidd i'r gogledd-or llewin o Fferm Mouquet. Bu brwydro ffyrnig rhwng y Somme a'r Anere, a gorthrechwyd amryw o wrthymosodiadau y gelyn gyda cholledion trymion. Canlyniad y brwydro ydoedd in byddinoedd feddian- nu amddiffynfeydd y gelyn ar ffrynt o dair mil o lathenni, yn xymestyn am bellter o wyth cant o lathenni, gan gyn- nwys pentref Guillemont. Yn Ginchy-yr oil o ba le a feddian- nwyd gan y byddinoedd ar y cychwyn— bu raid ildio peth tir i'r gelyn, ond y mae rhan o'r pentref yn parhau yn ein gafael, ar waethaf 'gwrthymosodiadau y Germaniaid yn ystod y nos. Cymer- wyd wyth gant o garcharorion. Parha y Rwsiaid i achosi colledion ar y gelyn yn y deheu. Rhwng dydd Iau a'r Sul diweddaf adroddir heddyw y cymerwyd 385 o swyddogion, a thros 19,000 o filwyr yn garcharorion gan y Rwsiaid. Yr 'oedd 1,300 o'r carcharor ion yn Germaniaid. I'r gorllewin o Zlota Lipa cymerwyd 2,700 o garchar- orion dydd Sul. Cyhoeddwyd adroddiad gan y Press Bureau, fod y manylion am ymweliad y Zeppelins a Llundain,! nos Sadwrn, yn hollol fel y cyhoeddwyd yn flaenorol, sef mai nesaf peth i ddim o ddifrod a wnaed. Yn ol adroddiad o Copenhagen y mae pob lie i gredu fod ail Zeppelin wedi gorfod disgyn i'r mor ar draethell Schleswig, mewn canlyniad i'r difrod wnaed arni gan y gynnau Prydeinig. Dydd Mercher Ehifa y carcharorion gymerwyd gan y Ffrancod er Medi 3ydd, ar y ffrynt Ffrengig i'r Somme oddeutu 6,650. Meddiannwyd 36 o ynnau. Dywed cenadwrio Berlin fod brwydr boeth yn myned ymlaen yn y Somme. Parha y Rwsiaid i gymeryd carchar- orion ac i ennill tir yn y Caucasus a'r Carpathians. Yr unig newydd neilltuol o Groeg 'heddyw ydyw, fod y Llywodraeth yn galw dosbarth neilltuol o ddynion i'r fyddin, fel pe yn ymbaratoi i ryfela. Y mae'r Brenin Constantine wedi gwella, 5 bu mewn ymgynghoriad ag M. Yenizelos y dydd o'r blaen. Erbyn hyn y mae Itali a Rwsia wedi anfon llongau i borthladd Pirseus. Yr awyrenwr Iwyddodd i roddi'r ergyd achosodd i'r Zeppelin fyned ar dan yn agos i Lundain, foreu Sul cyn y diweddaf, oedd yr Isgadben William Leefe Robinson, o Gatrawd Worcester a'r Corfflu Awyrenol. Nid yw ond ugain mlwydd oed. Hon oedd yr ail Zeppelin iddo danio arni y noson dan sylw. Bu i fyny gyda'i awyren am oddeutu tair awr, a'r syndod i bawb ydoedd sut y gallodd gadw i fyny cyhyd, gan y tybid nad oedd ganddo ond digon o olew i gadw ei beiriant ar waith am ddwy awr. Pan welodd fod y Zeppelin wedi cymeryd tan, rhoes arwydd i'r gynnau is law beidio tanio, a disgynnodd y gwron ieuanc ynghanol cymeradwyaeth brwdfrydig llu o edrych wyr. Y mae y Brenin wedi dyfarnu y Victoria Cross iddo, a ryw foneddwr yn rhoi iddo rodd o dros dair mil o bunnau. Dydd Iau Y mae'y byddinoedd Prydeinig i'r gogledd o Somme yn dechreu amgylch- ynu pentref amddiffynolcadarn Combles. Yr ydym wedi meddiannu Coedwig Leuze, ac y mae ymladd ffyrnig wedi bod rhwng y Goedwig a Combles, ac o amgylch Ginchy. Y mae'r Ffrancod wedi dechreu ar yr ymosodol i'r do o'r Somme, ac wedi ennill amryw leoedd pwysig, a chymer yd llu o garcharorion. Y maent wedi ennill gwarchffosydd yn ymyl Belloy- en Santerre, y rhan fwyaf o bentref Berney en- Santerre, y rhan ogleddol o Vermandoviller, gwarchffosydd ar drumau Chaulnes, ac ar hyd y ffordd haearn o Chaulnes i Roye. Y mae y Rwsiaid wedi llwyddo yn Halicz, yn Galicia, lle'r eiddyf y gelyn eu bod wedi cilio'n ol yn y ffrynt ar ol amryw ymosodiadau ofer." Collodd y gelyn 4,500 o garcharorion, o'r rhai yr oedd 2,000 yn Germaniaid. Yn y Caucasus, y mae'r Rwsiaid yn cael y Haw uchaf yn Ognot, lie y mae'r brwydrau ffyrnicaf wedi bod am gryn amser. Y mae'r Tyrciaid wedi cael colledion mawr iawn. Ar ffrynt Rwmania y mae'r gelyn wedi gwneud ymosodiadau ffyrnig iawn ar Turtukai ar lan ddeheuol y Danube, lle'r aeth deg ymosodiad yn fethiant. Curwyd yn ol hefyd ymosodiadau o eiddo'r gelyn yn nyffryn Maros. Dydd Gwener. Bu awyrenwyr Prydeinig yn ymosod ar Aerodrome Germanaidd. Bernir iddynt wneud cryn niwed. Methodd un o'r aeroplanes ddod yn ol. Nid oes nemor newid heddyw ar ffin- dir y Somme. Y mae yr Awstriaid wedi ennill yr amddiffynfa Rumanaidd Turtakah, ac wedi cymeryd 20,000 yn garcharorion. Y mae y Rwsiaid yn parhau i fynd ymlaen yn y Carpathia, ac o flaen Hal- itz. Dywedir heddyw fod Halitz ar dan. Eddyf y Germaniaid a'r Awstri- aid eu bod yh cilio yn ol o flaen y Rwsiaid ar ffordd Lemberg. Dydd Sadwrn Edrydd General Botha am gynllwyn o ail withryfel yn Ne Affrica. Y mae dau ddyn wedi en cymeryd i'r ddalfa. Y mae y General De Wet yn rhoi tystiol- aeth yn eu herbyn. Yn ol adroddiad Syr Douglas Haig nid oes dim o bwys wedi digwydd ar y flrynt Brydeinig. Y mae General Hindenburg wedi cyr raedd i faes gorllewinol y rhyfel. Gair o Rufain a ddywed fod Rwsia wedi dechreu ar yr ymosodol ar holl ffindir Dobrudja, dwyrain Rumania, sef yr adran yn yr hon y meddiannodd y Germaniaid a'r Bwlgeriaid amddiffynfa Turtukah Y mae yr Awstriaid yn symud ymlaen o gyfeiriad Turtakah at borthladd pwysicach Silistria ar y Dan- ube. Bernir mai yn Dolric y tery Rwsia ei hergyd drom ar y maes hwn.

[No title]

IAPELIADAU WESLEAIDD.

At y Pregethwyr Ieuainc dderbyniwyd…

Ysgoloriaethau i'r Ysgolion…

[No title]

Advertising