Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
MERTHYR TYDFIL.
MERTHYR TYDFIL. Cynhaliwyd y cyfarfod chwarterol yn Nhreharris, dydd Iau, Hydref 4ydd. Llywyddwyd gan y Parch Evan Isaac. Yr oedd yddtluOruchwylíwr yn bresen- ol, a chaed cynrychiolaeth o bob egllfJ yn y gylchdaith a thalodd yr oil en eyf- rani ad yn llawn yn ol yr Asessment newydd. Apwyntiwyd Mr John Owen, Merthyr Vale, yn Ysgrifennydd y Gen badaeth Dramor, a Mr Thomas Lewis yn Ysgrifennydd Dirwest. Pasiwyd i wneud casgliad at Drysorfa y Milwyr yn Kinmel Park. Caed cyfarfod da. GOH.
LLANBEDR.
LLANBEDR. Cynhaliwyd eyfarfod chwarteroll y gylchdaith uchod dydd Sadwrn, Medi 29ain. Yr oedd yn bresennol y Parcbn Wesley Morgan, Joseph Jenkins, D. L, Jones, y ddau Oruchwyliwr, a chyn-, rychiolaeth dda o bob lie. Croesawyd y Parch Joseph" Jenkins i'r gylchdaith. • Pasiwyd ein bod yn derbyn cynllun yr Arolygwr gyda golwg ar yr Assess- ment newydd. Penderfynwyd ynglyn a War Bonus y flwydclyn ddiweddaf fod pob gweinidog i gael yr hyn gasglwyd yn eglwysi ei ofal. Rhoddwyd sylw i Sul y Plant a Sul Dirwest. Trefnwyd fod y gweinidogion i ym- weled a'r Ysgol Sul ddwywaith yn y chwarter. J. J. I
CAERGYBI. j
CAERGYBI. j Cynhaliwyd y cyfarfod chwarterol yn Gwynfa, Hydref 9fQd. Darllenwyd gan yr Arolygwr, a gweddiwyd gydag arddel- iad neilltwol gan Mr Lake Jones. Darllenwyd a chadarnhawyd y cof nodion. Croesawyd y Parch David Jones i'r gylchdaitb, a dymunwyd iddo ef a'i briod bob llwyddiant a bendith. Ateb- wyd yn ddoeth ganddo ynist. Diolchwyd yn gynnes ae ail-etholwyd Mr J. R. Williams, Aberffraw, yn Drys- orydd Trysorfa y Gweinidogion Meth- edig, a Mr Richard Beard yn Drysorydd y Genhadaeth Dramor, a Mr Lake Jones yn Ysgrifennydd. Apeliodd y Parch Daniel Williams yn daer, oddiar argyhoeddiad dwfn, am gael ei rhyddhan o'r gylchdaith i fyned yn Gaplan i'r Fyddin. Wedi ystyriaeth ddwys a difrifol, methodd y cyfarfod a gweled y ffordd yn glir i'w rbyddhau, am nad oedd modd cael yr un Supply ar hyn o bryd i weinidogaetha yn ei Ie, ac nas gallai y gylchdaith ffqrddio gwneud ar lai o weinidogaeth o dan yr amgylchiadau presennol. Pasiwyd yn unfrydol i gynnal Cym- anfa Ysgolion yn Nosbarth Ysgolion y wlad yn ystod y flwyddyn 1918. Ymddiriedwyd i'r Arolygwr ddwyn gerbron nifer o eglwysi o'r wlad y pwys- igrwydd iddynt anion cynrychiolwyr i'r cyfarfod chwarter Pasiwyd eydymdeimlad dwfn a nifer o deuluoedd oedd wedi cyfarfod n pbrof- edigaethau chwerwon yn ystod y chwar- ter, ac a'r milwyr sydd va orweddog yo yr ysbytau. Hefyd a Mrs David Jones, dymunwyd iddi adferiad llwyr a buan. Pasiwyd ein bod fel cyfarfod chwar torol i anfon .llyfehyr at bob un o'r mil- wyr sydd wedi ein gadael o'r eglwysi i wasanaethu yn y Fyddin, i ddatgan ein gwerthfawrogiad o'i gwasanaeth odidog, ac ein bod yn parhau i weddio ar eu rhan, gyda'n dymuniadau goreu iddynt. Darparoddeglwys Gwynfa yn rhag- orol ar gyfer y dyn oddiiewn, a diolch- wyd iddynt.
CYLCHDAITH DOLGELLAU AC ABER-I…
CYLCHDAITH DOLGELLAU AC ABER- MAW. Cynhaliwyd y cyfarfod chwarterol yn Abermaw, dydd Mercber, Hydref lOfed. Yn bresennol, Parchn E. J. Parry (Ar- olygwr), a T. G. Ellis (Harlcch),-y Parch David Thomas yn absennol oherwydd afiechyd Mr W A. Meredith yr? cudw lie ei dad fel GoruchwyliWr, a cbynrychiolwyr o rai o'r egiwysi. Gres- yn na fuasai mwy o ffddlonaeb i'r cyfarfod hwn yn cael ei ddangos gan y I gwahanol eglwysi. Dechreuwyd y cyfarfod gan Mr David Roberts. Darllenwyd cofnodion cyfarfod Gor- ffennaf a chadarnhawyd hwy. Ehoddwyd croesaw cynnes i'r Parch. T. G. Ellis i'r Gylchdaith gan yr Arel- ygwr, Mr W. A. Meredith, ac amryw eraill. Gobeithio y ca Mr Ellis nerth ac iechyd i fQd o fendith i holl eglwysi y gylchdaith. Galwyd sylw at y Sul Dirwestol, a diolchwyd yn gynnes i Mr Wm. Jones, Cumberland Place, fel Ysgrifennydd, ac ail-etholwyd ef am flwyddyn arall. Pasiwyd fod casgliad y Sul hwn i.fynd at yr achos Dirwestol. Pasiwyd diolchgarwch eynnel i Mr Williams, Tegfac, fel Ysgrifennydd y Genhadaeth Dramor, ac ail-etholwyd ef am flwyddyn arall. Pasiwyd hefyd i weinidogion y gylchdaith drefnu cyfar fodydd blyn-yddol ymhob eglwys. Diolchwyd yn gynnes i Mr J. R. Williams, Abermaw, am ei wasanaeth fel Trysorydd Casgliad yr Hen Weinid ogion, ac ail-etholwyd ef. Gwasgwyd ar yr eglwysi i wneud y easgliad h wn mor fuan ac sydd bosibl. Pasiwyd yn unfrydol ein bod fel cyf- arfod yn datgan ein diolcbgarwch i Mrs, Maslin a'i chwaer am gyflwyno Llyfr Hymnau bardd i gapel Penebo er oof am ei bannwyl diweddar dad, fu yn flaenor ffyddlon yno am lawer iawn o flynydd- oedd. Hefyd i Miss Parry am rodd o Feibl Seisnig hatdd i Bezer at wasan aeth y milwyr' sydd yn Ysbyty Aber- artro. Diolch calon i'r chwiorydd car- edig. Penodwyd y pwyllgor eanlynol i edrych i fewn i safle ariannol y gylch- daith a'r War Bonuis:-Dolgellau, Mr R. Barnett; Abermaw, Mr Owen Parry Dyffrym, Mr J. T. Owen Harlech, Mr J. Williams; Bontddu, Mr Griffith Owen; Arfchog, -Mr Wm. Edwards; Bezer, Mr Gorenwy T. Lewis, gyda Gweinidogioa a Goruehwylwyr y gyleh- daith. Yr Arolygwr i alw y pwyllgor at eu gilydd. Gyda dwysder y datganwyd cydym- deimlad a'n hannwyl weinidog, y Pareh David Thomas, ya ei waeleddJl1 yr i ysbyty%n Llundain, a'n gweddi ar i'r Arglwydd ei adfer yn ol i'w gynafin iechyd, fel y eawn ei waaanaeth werth' fawt am lawer o fiynyddoedd i'r Gylch- daith a'r Dalaith. Siaradwyd gan yr Arolygwr ac amryw o frodyr. Hefyd a Mr David Roberts, Llys y Delyn, ym marwolaefch ei dad. Sillradwyd gan y Parch T. G. Ellis, yr hwn adwaenai tad Mr Roberts yn dda, a dywedodd bethau rhagorol am dado. Pasiwyd hefyd i anfon llythyrau o gydymdeimlad ac am- ryw deuluoedd sydd wedi cyfarfod a phrofedigaethau dwfn yn ddiweddar. Wedi terfyou y cyfarfod rhoddwyd te i'r frawdoliaeth gan y brodyr Mri John Jones a Owen Parry, a diolchwyd yn I gynnes iddynt, ac i'r chwiorydd caredig am ddod yno i weini. Ysà. I
PWLLHELI. I
PWLLHELI. I Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol Medi yn Seion, Pwllheli, Sadwrn ola'r mis, o dan lywyddiaeth y Parch R. Conwy Pritchard. Yn bresennol, y Parch John Price, Cricieth, Mr J H. Jones, Pre- gethwr, a Mr W. J. Lewis, Cemlyn, Goruchwyliwr, ynghyda cynrychiolaeth weddol o ral o'r eglwysi. Darllenwyd amryw gylch-lythyrau oddiwrth amryw Gymdeifehasau dyngar- pl yn gofyn am gymorth, a rhoddwyd svlw iddynt Bu ymdrafodaeth faith ar y pwysig rwydd o godi cyflogau y gweinidogion yn herwydd y costau byw uchel, a safle ariannol. y gylchdaith a'i chysooi a chylchdithiau eraill sydd yn talu cyflog au teiiwng i'w gweinidogion. Pasiwyd i godi y eyflogau-1110 i'r Arolygwr, a £ 65 i'r Ail Weinidog. Diolchwyd ac ail ddewiswyd swydd ogioaygwahanolgronfeydd. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a Mr Henry • Parry, Cochmoel, Mrs Jones, Glwyd, Tyddyn, a theu-lu y ddiweddar Dora Jones, Llanbedrog. Diolchwyd yn gynnes i Mrs Thomas; I Gas Works, Mrs Oonway Pritchard, a Mrs Dan Thomas, yn cael ei chynrych ioli gan Mrs Carrington Jones, arn^bar- qtoi gwledd ddanteithiol i'r cynrychiol- wyr.
RUTHIN.I..
RUTHIN. Cynhaliwyd y cyfarfo d chwarterol yn Llanelidan, dydd Iau, Hydref 4, o dan lywyddiaeth y Parch D. M. Griffith. Daeth cynrychiolaeth dda ynghyd o eglwysi y gylchdaith. Darllenwyd llythyr oddiwrth Arolyg- wr Cylcbdaith Wyddgrug yn hysbysu y cyfarfod eu bod yn bwriadu gwertbu capel Llandegla. Wedi peth siarad ar y mater, pasiwyd i'r Arolygwr ohebu ar y mater parthed trosglwyddiad y capel i'r gjdehdaith yma. Diolchwyd ac ail-etholwyd Mr Rogers Jones a Mr P. Jones yn swyddogion y Genhadaeth Dramor. Gwasgwyd ar i'r holl gyfrifon fod mewn 11aw erbyn dechreu Ionawr. Trefnwyd ar gyfer rhoddi sylw i'r Genhadaeth yn yr eglwysi. Diolchwyd ac ail etholwyd Mr T. Roberts yn Ysgrifennydd Dirwest, a Mr W. Jones yn Drysforydd y Gweinidog- ion Methedig. Cwblhawyd trefniaiam y Gymanfa Ysgolion. Pasiwyd pieidlais o gydymdeimlad a Mr Jones, Cilgroeslwyd, yn ei brofedig- aeth. Diolchwyd i'r eyfeillion am eu cared- igrwydd. Caed seiat dda yn yr hwyr.
IITOWYNI
TOWYN Cynhaliwyd y cyfarfod chwarterol yn Nhowyn ar y 5ed cyfisol, dan lywydd- iaeth y Parck T. Gwilym Rob- erts, Arolygwr. Yn bresennol hefyd y Parchn W. Phillip Roberts, ac R,. Jones, (D,), Mri John Lloyd a E. L. Rowlands, ynghyd a eynrychiolwyro bob eglwys. Dechreuwyd trwy ddarllen o'r Ys- grythyr a gweddi. Derbyaiwyd eyfrif yr aelodau a'r eyfraniadau yn foddissel. Darllenwyd llythyr oddiwrth. Mrs Lloyd, Pant, yin eydasbod eydyoadeini- lad, ae hefyd ddiolck oddiwrth Mrs Roberts, Bodlondeb, Brynerug. Diolchwyd ac ail-etholwyd Mr Gwil- ym Evans, Towyn, a'r Pareh W. P. Roberts, yn Dryeorydd ac Ysgrifeonydd y Genhadaeth Dramor. Etholwyd Mri E. H. Edwards, a Thos. Jones, Aber- dyfi, yn ArchWilwyr. Pasiwyd fod y gweinidogion i drefnu cyrldau cenhadol. Diolchwyd ac ail etholwyd Mr W. E. Jones yn ysgrifennydd Dirwest, ac erfyniad arno i fod yn bresennol yng Nghyfarfod Mawrth i gyflwyno Report. Yn Ysgrifennydd Addysg, Mr Owen Pugh etholwyd, ynghyd a Mr Hugh Humphreys yn Ysgrifennydd Blaenor iaid. Pasiwyd pleidleisiau o gydymdeim- lad. a theuluoedd rhai wedi marw yn ystod y chwarter, sef teuluoedd Mr B. C. Richards a Joseph A. Davies, Towyn Parch J. Thomas, a Mrs Evans, Bristol House, Machynlleth; Capt. Morris, Maglon, Abcruyfi, a fu farw yn Alexandria Mrs Lewis Rob-arts, Llan- egrva, ar ol colli ei phriod a'i phlentyn Mr Robert Roberts, Bryccrug, wedi colli ei briod, a Mr Williaiaa Davies ar farwolaeth ei fam. Hefyd a Mr D. Thomas, Dolgellau, ar waeledd ei phriod, a Mr John Lloyd, Abergynolwyn, yn ei lesgedd. Pasiwyd fod Tachwédd 15, yn Sal y War Emergency Fund, a'r Parch W. P. Roberts yn drysorydd. Pasiwyd fod casgliad y Mutual Aid i' w roddi ar y plan nesaf. Pasiwyd fod y cyfarfod nesaf i' fod yn Aberdyfi, ar brydnawn Mercher, am 1.30. Ar y terfyn, mwynhawyd arlwyaeth ragorol ar gyfer y corff wedi ei ddarparu gan Mrs Jones, Gwynfa, yn caei ei j chynorthwyo gan Mrs Roberts, Merton I Yilla, Mrs Piatt, Golden Grove, a Miss ¡ VViUiams, ;Bryna'weI. Cyuwynwyd y diolctfgarweh gwresocai iddi am ei I charedigrwydd a'i haelioni. \] COFNODYDD. f
Advertising
ATHROFA ABERYSTWYTH (Un o'r Goiefgsiu ym Mhrifysgol Cymru). Prifathraw: T. F. ROBERTS, M.A., Ll.D. DECHREUA'R TYMOR NESAF HYDREF 3ydd, 1917. Paratoir yr efrydwyr ar gyfer Arholiadau Prifysgol Cymru. Cynygir amryw o Ysgoloriaethau (am- ryw o honynt yn gyfyngedig i Gymry) y flwyddyn hon. Cymer yr arholiad le yn Aberystwyth ar y 18fed o fis Medi, 1917. Am fanylion pellach, ymofyner d— J. H. DAVIES, M.A., Cofrestrydd. RHiWSVSATIC — ANHWYLDEB Y KIDWIRY. Y mae rhiwmatic yn ganlyniad uric acid crystals yn y liywethau a'r cymmalau, effaith gormod o uric acid yn y cyfansodd- iad y methodd yr elwlod (kidneys) ei symud fel y bwriadodd natur gyda hyn y cytuna pob meddyg graddedig. A'r acid hwn yw'r achos o boen yn y cefn, lumbago, sciatica, gout, anhwyldeb y dwr, carreg grafel, a dropsy. Mae llwyddiant Tabledi Estora at drin Rhiwmatic a ffurfiau eraill o anhwyldib yr eiwlod i'w briodoli i'r ffaith eu bod yn adferu'r elwlod i weithredu'n naturiol, a a thrwy hynny o angenrheidrwydd' a, symuda'r effeithiau drwg a ddeillia o hono ac mae wedi iachau achosicn dirif- edi gwedi methiant meddyginiaethau eraill, yr hyn sy'n cyfrif am danynt yn prysur gymeryd lle'r meddyginiaethau hen ffasiwn a werthir am brisiau sydd allan o gyrraedd pawb ond y cyfoethog. Mae Tabledi Estora yn llawn deil- yngu y desgrifiad ohonynt—meddygin- iaeth onest am bris gonest-lj3 y blwch o 40 dabledi, neu chwe blychiad am 6/9. Ar werth gan Fferyllwyr ymhobman, neu'n rhad try'r post, am y prisiau hyn oddi- wrth Estora Co., 132, Charing Cross Road, London, W.C. MiRCHED. Dioddefa Merched yn fynych oddiwrth saldra, cur a phoen, o dan y r argraff eu bod yn ebyrth i afiechydon sy'n gyffredin i'r ystlen deg, ond yn amlach nag i'r gwrth- wyneb y mae i'w briodoli i'r elwod (kid- neys), ac mewn achosion o'r fath fe fydd i flycliaid neu ddau o ESTORA TABLETS eu llwyr adferu 0 leiaf, mae'r prawf yn werth ei wneud, gan fod dedwyddwch a llwyddiant merch ar hyd ei hoes yn dibyn- nu yn hollol ar ei hiechyd. Fflint Agent, Walter Topping, Pharma- cist. Blaenau Festiniog Agent-Hugh Jones, Medical Hall. ? _?" ?.. ■ ■ ■ i Yr Epistel at y Phiiipiaii. ESBOMIAB' DIGUR'd, E SBONIAI-) diguro ar yr Epistol at y Philipaid gan y Parch. B. Humphreys, Felinfoel. Pris gostyngol, drwy'r post, 1/3. Y mae wedi ei rwyrrio mewn llian, ac y mae ynddo 146 o du- dalennau. Rhoddir saith am bris chwech. Anfoner yr achebion i'r Parch. EDWIN JONES, Barmouth. .INDIVIDUAL COMMUNION CUPS FOR LISTS OF Patent Ideal" Outfits, Bf t???C'Stif. aM<?<S ?'MX.iii?,?, AND Samples Approval, Carriage Falsi, write to the farkcrs- Townshends, Ltd., Birmiik^am