Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

-.- - YSTUMTUEN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YSTUMTUEN. A ganlyn wele ran o lythyr un o bregethwyr ieuanc y gylchdaith honMr John Morgan Davies, Ty Mawr—sydd yn awr yn Ffrainc, ac yng nghanol y frwydr :—" Yn y frwydr fawr, Awst 27ain (ar ddydd Llun), pryd y cwympodd llu mawr, yr oedd y shells yn disgyn bob llathen, ac yr oeddym ni yn dri o fechgyn yr un man. Rhedodd fy meddwl at y tri llanc yn y ffwin dan," ond teimlais fod y Pedwer- ydd gyda ni, yr wyf yn sicr i mi deimlo ei adenydd yn cyffwrdd ac yn lledu droswyf, yna teimlais yn ddiofn, neidiais i fynny o'r trench a dechreuais gario y clwyfedigion yn ol i'r Dressing Station. Bu'm yno am ddeg diwrnod heb gysgu, na fawr i'w fwyta, ond nid oedd arnaf eisieu bwyd na chysgu, a rhyfedd iawn ni chefais anwyd. Yna cawsom ein symud i le tawel- ack, taitk purn diwrnod, a 78 pwys ar ein c-efn, cerdded tua wyth, milltir y dydd, cymryd rest mewn ffermdai ac ysguboriau. Yr oedd. ym yn enjoyio y daith yma yn cael digon o afalau ya y ffermydd. Daethom yma trwy chwech o dref- ydd y wlad, ond nid oeddynt mor hardd a threfydd Prydain Fawr. ddim yn debyg i Lerpwl ac Aber- ystwyth. Prif adeiladau y trefydd yma yw eu Cathedrals, gwlad bab- yddol iawn. Mae twr yr eglwysi lays gymaint bedair gwaith a chlochdy mawr Aberystwyth. Bum ar ben yr un yn Rtmen" ac yr ioedd ya anforthonchel. Arhoswn yia |iwr mewn mynwent, y fynwent harddaf welodd fy llygaid erioed and fod lluaws o'r meini gwerth- fawr wedi eu malurio, enw y lie yw Hopeland." Gallesid difynnu yn helaethach, ond dyna ddigon i pdangos amgylchiadau difrifol ac yspryd gwrol y mae ein llanciau ynddynt wrth ymladd brwydr fawr rhyddid y byd Nawdd y nef fyddo trosto ef ac eraill yw eia gweddi daeraf.

[No title]

GWELEDIGAETHAU AB IOR#ERTH.…

I LLYTHYRAU Y MILWYR.