Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Wyliedydd Newydd, aros ai y mur, Ac edrych allan am yr iawn a'rpur, Gwas'naetha grefydd,-seinia ar ein clyw Os gelyn feiddia gyffwrdd Ddinas Duw. TALFARDD.
Advertising
COLLWYD YNG Nghyfarfod Taleithiol Eg. Iwysbach collwyd Umbarel newydd. Gadawyd hen un yn ei le. Bydd yn dda gan y perchennog glywed yn ei gylch, ac ar ei dder- byniad anfonir yr hen un yn ol. Anfoner at Olygydd y Gwylied- ydd."
[No title]
Dywedir fod terfysgoeddd blin yn amryw o ddinasoedd Awstria oherwydd prinder ymborth.
¡Dyfodol Addysg ! Cymru.
¡ Dyfodol Addysg Cymru. j Gwersi Ymweliad Mr Fisher. I. (Gan BERIAH). Mae Mr Fisher, y Gweinidog Addysg, newydd dalu ymweliad a gwahanol rannau o Gymru er eg- luro darpariadau ei Fesur Addysg newydd. Anffortunus i Gymru yw mai a threfi Colegau y Brifysgol, ynghyd ag Abertawe a Chaernar fon, yn unig yr ymwelodd efe. Oni bae am yr hyn a welodd ac a gly w- pdd yn AberysfWyth, gallasai fod wedi dychwelyd i Lundain heb weled fod nemawr wahaniaeth rhwng Cymru acunthyw. sir yn Lloegr. Hyd yn oed yng Nghaer- narfon, tref sydd yn arfer ymffrostio yn ei Chymreigeiddiwch, nichlyw- odd yr un gair o Gymrae^— er mai un o elfenriau pwysicfeif y gwahan- iaetfe rhwng Cymru a Lloegr yw fed Cymru yn ddwyieithog a Lloegr yn unieithog. Yn Aberyst- wyth cafodd weled Ysgol Sul Gymreig—a bu hynny yn agoriad ilygaid- iddo. Paham nas arwein- iasid ef i rai o ysgolion dyddiol Cymru lie y dygir yr addysg ym laen yn Gymraeg ? 1, Hefyd prin y gellir dweyd fod trefi y Colegau yn nodweddiadol o Qymruac yn sicr nid yw y Col- egau euhunain yn srddanghosiad 0 Genedlaetholdeb Gwerin Cymru ar gyfer y rhai y disgwylir iddo ef ddeddfwriaethu. Am Gaerdydd, er honni o honi fod yn Brifddinas Cymru, danghosodd ei Chyngor Dinesig yn ddiweddar nad yw mewn cydymdeimlad a syniadaua dyheadau Cymru yn gymaint ag i'r Cyngor, drwy bleidlais derfynnol yr Arglwydd Faer, wrthwynebu cais ymron yr oil o Gymru am gael Ymreolaeth i Gymru mewn Addysg. Am, Fangor, sy',n honni bod yn Athen Gogledd Cymru, ni ddysgir iaith y Cymr6yn Ysgol GanQlraddol y Bechgyn. A hysbys yw nad yw awdurdodauy Colegau Cenedlaethol mewn cydymdeim- lad byw a dyheadau Gwerin Cym- ruym myd addysg. Naturiol felly oedd fod awyrgylch ac amgylch fyd y Colegau wedi dylanwadu i raddau ar feddwl Mr Fisher, a hynny wedi lliwio i raddau eil an- erchiadau cybpeddus. Yn wir dywed rhai mdi dyfod yma i fell- dithio dyhead Cymru am Y mreoh aethmewn addysg a wnaeth efe. Eithr os felly trodd fel Balaam gynt i fendithio yr hyn a. ddaeth efe i'w felldithio. Os dadansoddir ei areithiau gwelir fod ynddynt y dadleuon cryfaf posibl dros i Gymru hawlio, a mynnu yn ddioed, sefydlu Cyng or Addysg Cenedla ethol i'r holl Dywysogaeth. Gwir ddarfod i Mr Fisher gymhell Cymru i aros a dysgu oddi wrth brofiad Lloegr,— ond dyna'r ddadl gryfaf posibl dros i Gymru fynnu cael gweithio allan ei hiachawdwriaeth addysgol ei hun, canys hysbys yw fod Cymru eisoes ar y biaen i Loegr yn add- ysg ei gwerin. Ynfydrwydd felly a fyddai arafu olwynion cerbyd Cymru am mai araf yw cerbyd Lloegr. Gwir hefyd i Mr Fisher geisio daflu dwfr oer ar y syniad o gael Cyngor Cenedlaethol i Gymru am, meddai efe, na fwriedir dwyn y Colegau alr Brifys-ol o dan reol- aeth y Cyngor Cenedlaethol. Eithr awdurdodau y Colegau a'r Brif- ysgol eu hunain a wrthwynebasant II ganiatau dwyn y sefydliadau hynny o dan reolaeth y Cyngor Cenedl- aethol, er fod Gynrychioiwyr gwer | inol Cymru dros eu gosod oil o dan reolaeth y CyngQr. Felly dadl yn erbyn awdurdodau y Colegau, ac o blaid cais Gwerinwyr Cymru, oedd dadl Mr Fisher. ¡ Gwers fawr ymweliad Mr Fisher felly yw y rhaid i Gymru wasgu ar ei Haelodau Seneddol i fynnu can- iatau cais Gwerin Cymru am gael Ymreolaeth i Gymru ym myd addysg, am gael sefydlu Cyngor Cenedlaethol etholedig gan v werin, a hwnnw i reoii holl fater- ion addysg Cymru yn yr ysgolion a'r colegau.
SAFLE GWEMDOGION WESLEAIDD…
SAFLE GWEMDOGION WESLE- AIDD CYMREIG INGLYH A PHRYNIAST Y FASNACH FEDDWOL. ':J'; AT WEINIDOGION Y TAIR TALAITH GYMREIG, Fy Annwyl Frodyr,— Boreu heddyw derbyniais air oddiwrth y Parch D. Gwynfryn Jones yn tynnu fy sylw at nodiad a anfonodd un Mr J. A. Jones, Pont- ycymer, i-r "Manchester Guardian," yn ameu gosodiad o'm heiddo yng Nghynadledd Ddirwestol Gwyn- edd, yr amheuwn fod dros chwech o'm brodyr yn y gwaith Cymreig yn bleidlol i bryniant y Fasnach Feddwol gan y Wladwriaeth, a dywed fod 50 o Weinidog- ion Wesleaidd Cymru wedi ar- wyddo y deiseb o blaid y Pryniant. Yn awr, carwn gael syniad clir beth yw ein safle. Gwnes fy ngosodiad yn y Wydd- grug ar bwys yr hyn a wnaed gan y Synodau o dro i dro, yr ymdraf- odaeth a'r pendHyniad yng Nghymanfa Aberdyfi ym mis Me- hefin, a r str, sydd yn fy medd- iant o'r rhai a arwyddodd y Deiseb ynglyn a'r "Temperance Legisla- tion League." Wele y rhai ar- wyddodd hon o'r Tair Talaith Y Parch Thomas Hjighes, Cadeirydd y Dalaith Gyntaf (yr unig weinid- og) Mr E. L. Rowlands, J.P., Aber- dyfi; Lieut. Col. W. N. Jones, Am- manford; Mr Edward Morgan, J. P., Drefnewydd, un gweinidog ac un lleygwr o bob Talaith Ymddengys fod Ysgrifennydd y League yn gosod crvn bwys ar enw fy nghyfaill Mr Morgan, canys mae i lawr ddwywaith, ac nid efe yw yr unig un, onid yr un person yw John Griffiths, J.P., Trawsfynydd, a John Griffiths, I.P.,Trawsfynydd? Dyma'r modd i chwyddo rhestr deisebwyr ? Ar ddechreu'r Rhytel yr oedd nifer o Ddirwestwyr selog yn sig- ledig ar y cwestiwn o brynu y Fasnach, tua tri chan miliwn oedd y pris a nodid ar y cyntaf, ac ar- weinid ni i feddwl fod pryniantyn golygu diddymiad y Fasnach, a thueddem i gredu y byddai y fan- tals yn werth y swm a enwid, er mor aruthrol ydoedd. Er hynny, y pris isdf a nodir ydyw chwe' can miliwn, a gwyr pawb nad yw y Llywodraeth yn addo diddymu y Fcisnach o gwbl os y prynir hi, dywedodd Syr A. Mond yn blaen ynLlandrindod mai un fantais o'i phrynu fyddai yr elw ariannol a geid o hynny Gwyr pawb mai y prif rwysiiN ar ffordd diddymiad y tasnach ydyw y ffaith fod cynnifer o 'sharehold- ers yn Nhy yr Argl wyddi a Thy y Cyffredifi, tybed a fydd yn haws ei diddymu pan wneir tya hanner can miliwn o 'shareholders'? Nid fy a'mcan yn awr ydyw dadleu yn erbyn y Pryniant, bydd- ai hynny yn sarhad ar eich synwyr cyffredin, ond yn hytrach apeliaf atoch i arwyddo y Deiseb a ganlyn: Ein bod fel Cweinidogion Wes- leaidd y Tair Talaith Cymreig (a) Or farn na fydd un- rhyw Fesur o Ddiwygiad Dir- westol yn foddhaol i Gymru os na fydd yn amcanu at Iwyr ddi- ddymiad y Fasnach Feddwol. (b) Ein bod yn ystyried fod y farn gvhoeddus yng Nghymru yn galw am Ddeddfwriaeth fo ar
Cymru a'r Fasnach Feddwol.…
Cymru a'r Fasnach Feddwol. Ffordd mwy rhagorol na Chen- edlaetholi. Penderfyned Cymru drostiei hun. (Gin Mr E. T. JOHN, A.S.). WrthannetchCyfarfod Blynydd- ol Cymdeithas Ddirwestol Dwyr ain'Dinbych, yn Rhiwabon, dydd Mercher, dywedodd Mr E. T. John, A.S., tra yr oedd- yrt edmygu y gwaith a wnaed gan y Liquor Control Board, ei fod yn gresynu na fuasai'r Wladwriaeth wedi gwneud llawer mwy o fewn corff y tair blynedd diweddaf i gwtogi masnach oedd roor andwy. ol a'r Fasnach Feddwol. Priiodol- ai hyn i ddifaterwch yr eglwysi ac i ddylanwad politicaidd y Fasnach ei hun. Gresynnai yn fwy fyth am Gym- ru, llje yr oedd y teimlad dirwestol mor amlwg, na buasai hi wedi cymeryd mesurau effeithiol yn y mater ei hun ar wahan I Loegr. Yr oedd popeth wedi cael ei ddaros- twng i'r syniad o unoliaeth pleid iau politicaidd, a hyny er niwed i'r achos cenedlaethol. Ac, raewn an- ilbaith am ddim gweU, yr oedd rhai diwygwyr dirwestol, hyd yn oed yng Nghymru, wedi cael eu perswadio i gefnogi cwrs mor niw- eidiol a chenedlaethoh y Fasnach Gwelwyd mewn rhai cyfeiriadau gynnydd amlwg, ac weithiau dym- unol yn y syniad Sosialaidd o gen edlaetholi eiddo; gwelwyd fod gadael y rheilffyrdd, a r glofeydd, a'r tir, yn eiddo preifat, yn niweid. iol i fuddiannau'r weiin. Ond yr oedd y rhai hyn oil yn ddiwydian- nau daionus, yn gyfryw ag y dym- unai pawb eu gweled yn cyrihyrchu mwy fwy o hyd. Yr oedd y Fas nach Feddwol ar y liaw atall- yn niweidiol, a dymunol a fyddai ei c-hwtogi. neu ei difodi. Fel mater o fusnes anturiaeth golledus fuasai prynu masnach oedd eisoes wedi cael anair, a'r rhagolygon yn ar- wyddo lleihad buan a chyflym yn "-ei henillion. Yn sier nid oedd Syr Alfred Mond na Mr David Davies wedi arfer ymgymeryd ag antur iaethau masnachoi felly. Yr oedd, yn sicr, ffordd llawer mwy rhagor- ol i gyfarfod a'r anhawster n9g; ydoedd cenedlaetholi y fasnach.1 YMREOLAETH—FFORDD DRA ,JRHAGOROL Da yw fod Cymru o'r diwedd yn dechreu gwasgu am ddeddfwriaeth i Gymru ar wahan i Loegr. Pe bae .arweiniad mwy effro a mwy dewr wedi cael ei roddi, gallasai Cymru, yn gynnar yn y flwyddyn 1915, fod wedi sicrhau y fraint o hunan- lywodraeih., Collwyd amser ac eiddo drwy wrtfyod cymeryd y cwrs beiddgar hwnnw y pryd hynny ac yr ydoedd yn dra thebygol y profai y mesurau claear a fwriedid eu cymeryd yn awr yn llai effeithiol na phe y mabwysiedid cwrs mwy beiddgar. Ond yr oedd diwygwyr dirwestol Cymru wedi penderfynu o'r diwedd hawlio fod Deddfwr iaeth Ddirwestol i Gymru yn cael ei llunio yn unol a barn Cymru ei hun. Cymeradwyai ef iddynt hawlio fod Cymru i gael Ymreol- aeth gyflawn ar ei holl faterion cartrefol yr un adeg ag y caniateid Ymreolaeth i'r Iwerddon; dylai Cymru gael yr hawl i reoli cwest- iynau fel eiddo'r trwyddedau, y tir, addysg, iechyd, a phob dim ag oedd a wnelai a chysur ac a buddiannau y we-rin, drgsti ei hun. Yr oedd yr Alban yn effro. Dy- wedai un Albanwr enwog yn ddi- weddai :Mae y Llywodraeth bresennol ar fin trancedigaeth, ac yr ydym ni yn yr Alban wedi gwneud ein meddwl i fyny y rhaid i bob deddfwriaeth bellach fo'n ymwneud a'r Alban gael ei basio yn Edinburgh a chan Albanwyr. Rhaid i ni gael Ymreolaeth i'r Alban." Dywedai Mr Herbert ,Samuel- un o'r gwladweinwyr mwyaf pwyllog-yn ddiweddar:" Daeth yr amser y rhaid i ni ymron ddeis- yf ar y Gwyddelod, yr Albanwyr, a'r Cymry i ysgafnhaii baich Sen edd Prydain drwy ymgymeryd o honynt a rheoli eu materion car- trefol eu hunain, yn gymaint a'i bod yn hollol amhosibl i'r Senedd ymgymeryd a'r gwaith o dan yr amgylchiadau presennol." Ond hyd yn oed pe na wasgai Cymry ar hyn o bryd am Ymreol- aeth gyffredinol, dylai ar-bob cyfrif wasguyn anhyblyg a di-ildio am ddeddfwriaeth ddirwestol arbennig i Gymru. Ac yn y peth hwn rhaid fydd i Gymru ddibynnu arni hi ei hunyn unig. Rhaid fydd i bob etholaeth amlygu ei hewyllus yn y mater i'w chynrychiolydd yn y Senedd-canys rheol ymarweddiad Sant Stephan yw gwneud dim. Mewn Senedd Gymreig ychydig ac aneffeithiol a fyddai'r gwith- wynebiad i gwtogi ac aughefnogi defnyddio diodydd meddwol drwy drethi trymion a chynhyddol megis ag a gynygid gan Mr Lloyd George yn 1915; ac yn enwedig drwy wneud cost trwydded yn fwy cym- hesur a'r elw a ddug y drwydded i'w pherchennog. Mewn cyffelyb. fodd parod a fyddai Senedd Gymreig i gwtogi yn barhaol oriau g rthiant diod- ydd meddwol; ac. yn ddiddad! rhoddai i Siroedd neu Rhanbarth- au a Bwrdeisdrefi ddewisiad lleol fel eiddo yr Alban i barhau, llei. hau, neu ddifodi trwyddedau. Mae yn bosibl yr ai ymhellach fyth gan wahardd g^werthu diod feddwol tra parhao y Rhyfel ac am flwyddyn ar' ol hynny-yr hyn yr ymddengys ni ellid ei gario yn Lloegr. Twyllodrus.hollol yw y syniady buasai Cenedlaetho i y FamacAvn hyrwyddo.ei diddymiad. Buasai'r fasnach yn eiddo'r Wiadwriaeth, ac heb gystadleuydd, ac yn hurio gwasanaethnifer mawr o bersonau hollol alluog i gario dylanwad politicaidd mawr. Pe y cauid y tafarnau dros gyfnod y rhyfel syrthiau'r hawl am iawn i'r llawr pe y'i chwilid yn fanwl—ac wedi hynny ni ddylai swm yr iawn fod ond am gyfnod terfynedig o bump neu saith mlynedd. Gwreiddyn yr holl fater yw y rhaid i Gymru gael setlo'r cwest- iwn yn ei ffordd ei hun, drwy ddeddfwriaeth-os na cha Ymreol- aeth ddioed. GelJid dwyni mewn Fesur Trwyddedu i Gymru gan gynnwys y darpariadau angen- rheidiol,—ac ar y dealltwriaeth fod y Mesur i gael ei gyflwyno i Grand Committee o holl Aelodau Cymru gydag ychwanegu atynt yn ol arfer Grand Committees yr Alban. Ond hyd yn oed felly rhaid fuasai cadw gwyliadwriaeth fanwl ar y Pwyll- gor er sicrhau fod y Mesur yn unol a gwir ddymuniad Cymru.