Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
BU FARW -: II
BU FARW II WILLIAMS -Sarah'WilliaM'S', Siglan Terrace, Llanfair P.G., Anglesey. Bu farw Hydref 24ain, 1917, yn 92 mlwydd oed.
WKECSAM.1 , 1, - ........................
WKECSAM. 1 1, vaetii y newydd trauoaus ddydd Mawrth diweddaf fod y Milwr Melaa- cihthoi Hopwood wedi, syrthio ar faes y gwaed* Ail fab ydoedd i'r Parch a Mrs Richard Hepwood, 10, Alexandria Road, Wreesam, ac efe ond newydd gael ei 21 oed. Bu yn Ffraine am ddeti-a aw mis drwy y brwydrau chwerwaf heb dder- byn niwed, a diwedd Medi diweddaf cafodd ddod adref, ond ymhen yr wyth- nos, Hydref 9fed, wedi iddo ddychwel- ydsyrthiodd yn aberth i gynddaredd y gwallgofrwydd hwn. Yr oedd yn ddyn ieuanc glan ei foes, diwylliedig ei feddwl a chreiyddol ei ysbryd. Daliodd brawf y ddisgyblaeth filwrol a'i holl demtas iynau ynglyn a hynny, heb ddifwyno ei wisg, ac arweiniodd y profiadau tanllyd y bu drwyddynt ef yn nes i gyfrinach ei Dduw nag erioed. Yr oedd ei brofiad crefyddol yn loewach heddyw nac hyd yn oed cyn iddo adael cartref. Y mae ei lythycau yn foddion gras, ac amlyg- odd ynddynt benderfyniad os cai ddod drwy yr helynt yn ddiogel, y byddai iddo ddechreu pregethu Efengyl yt Arglwydd lesu Grist. Ni fu neb tyner- ach o'i dad a'i fam nag ef. Yr oedd yn byw er eu mwyn, ac yn barod i aberthu popeth drostynt petae raid. Ni chlywyd ef yn cwyno gair ar hyd yr amser chwerw y bu ar y maes, ond pryderai lawer am ei rieni, yn enwedig eifam yn ei gwaeledd. Ie, bachgen anhunangar, anrhydeddus, ac ardderchog oedd 'Lang,' a chwith yw meddwl ei golli yntau fel miloedd eraill mewn modd mor boenus Cydymdeimlir yn ddwys iawn a'i rieni galarus, ac a'i frodyr a'i chwiorydd, Duw yn unig a wyr y loes yw ei golli iddynt hwy. Diddaned yr Arglwydd hwy, a bydded Ei amddiffyniad dros Ivor, y mab ieuengaf, yntau hefyd ar wynebu ar faescreulony rhyfel mawr. I GOH.
I'DOLGELLAU.
I DOLGELLAU. Gyda gofid yr ydym yn gorfod cofnodi y newydd prudd fod 2nd Lieut. Heber Thomas, mab y Parch a Mrs David Thomas, Haulfryo, Dolgellau, wedi syrfchio ar faes y frwydr yn Ffrainc ar Hydref l2fed, yn 26ain mlwydd oed. I Lieut. Heber Thomas. Y munoddHeber a Bataliwn y. "Bankers," sydd yn gysylltiedig a'r Buffs Regiment (Essex), ac nid hir y bu cyn iddo gael ei ddyrchafu yn swyddog yn y Fyddin- Bachgen rhagorol oedd Heber, a mawr yw ein biraeth fel eglwys a thref pan y meddyliwn ei fod pan adref y tro di weddaf wedi ffarwelio a ni mwyach yr ochr yma, ond melus cofio, er mai me I wn- estron wlad mae gweddillion ein hoffus gyfitill yn gorwedd, y cwn. eto gwrdd mewn gwlad na bydd Rhyfel mwy. J Y sgrifennodd Cyrnol ei, gatriwa ei fod wedi, syrthio yn filwr dewr trayn: I arwain ei ddynion i'r Gad. Yn y National and Provincial Bank yn May Fair;, Llundain, yr oedd cyn ymuno a'r Fyddin, ac yr oedd yn fawr ei barch gan ei gydweithwyr, a siarad- ent yn uehel am ei gymeriad ai ym- roddiad i'w waith. Derbyniodd Mrs Thomas lythyr caredig gan y Manager o Lundain, yr hwn dalaideyrngeduchel o barch iddo fel swyddog gwerthfawr, ac yn datgan fod iddo ddyfodoldisglair a saffie bwysig yn ei aros pewedieaal dod yn ol, ond syrtbio wnaoth ar faes y gyfiafan fawr yn Ffrainc. Er pan yr ymunodd a'r Fyddin yr oedd wedi trosglwyddo ei aelodaeth i Ebenezer, a gofalodd yn hael am yr achos mewn gwahanol gyfeiriadau yn bonourable," fel dyn ieuanc oedd yn caru lesu Grist a'i achos. Y mae y ffaith fod. ein hannwyl wein- idog-yParch David Thomas, ei hunan ar hyn o brydmewn. ysbyty yn Llun- dain yn dyblu angerdd yr ergyd o golli unig faby teulu, ac y mae cydymdeim- lad dyfnaf yr eglwys a'r drefa Mr a Mrs Thomas, ac Olive a Myra yn eu trallod mawr o golli mab a brawd mor hoff a serchog, a'n dymaniad yw am i Mr Thomas gael llwyr adferiad buan er ail ymafael yn ei hoff waitha gyflawnai gyda'r fath lwyddiant." Heddwch i'w lwch mewn estron wlad hyd ganiad yr utgorn diweddaf. I CYFAILL. I
I MANLEY PARK, MANCHESTER.…
I MANLEY PARK, MANCHESTER. I Pan dorrwyd y npwydd yng Nghyf- arfod Chwarterol Manchester, dair wythnos yn ol, fod Private Aneurin Evans, mab Mr a Mrs J. Evans lCynog- fab), wedi ei ladd yn Ffrainc, aeth pawb adref a'u calon yn friw. Ar y pryd nid oedd gair swyddogol wedi ei dderbyn. Llythyr ddaeth oddiwrth gyfaill yn dweyd iddo ei weled yn syrthio yn un o'r brwydrau poethaf ymladdwyd yn Ffrainc. Ymhen„ ychydig ddyddiaul daeth gair o Swyddfa'r Rhyfel yn cad- arnhau'r newydd pradd. Trom iawn yw'r golled i'r ddiadell fechan yn Manley Park. Yno y, mag-I wyd Aneurlin-yno y clywodd son am ¡ i lesu Grist fel ei Waredwr, ac y dysgodd ei garu a'i wasanaethu. Cymerai ran yn gyhoeddus yn y moddion, cyffesai ei Arglwydd a'i ennau, ac yn sicr nid dieltbr iddo ef oedd cyffes calon a bywyd. Pryderai am lwyddiant yr acoos. Beunydd yn ei lythyrau at ei rieni byddai'n holi sut lewyrch oedd ar achos, oblegid cu yn ei olwg oedd eglwys Manley Park, ac yn ei rodiad dichlynaidd a glazi bu'n anrhydedd iddi. Do, cafodd yr eglwys a'i magodd golled fawr. Ond os mawr. yw colled, a llym yw archoll yr Eglwys, mwy yw colled, a llwmach yw archoll y tad a'r fam a'r brawd yn y cartref. Pwy ond y Gwr sydd yn deall ein fynd i mewn i'w teimladau hwy? Yn eu galar a'u tristwch nid oes gennym ond eu cyfeirio at Ei addewid Ef,— "Wele yr ydwyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd yr oesau. "Mewn argyf- wng fel hwn, mae cydymdeimlad cyfeill- ion yn gynorthwy mawr, a derbyniasant hwythau yn helaeth o'r cyfryw. Cnd er i hwnnw fod ar ei oreu, oddifry y daw'r cynorthwy sydd yn barhaol. Prydnawn Sul diweddaf (21ain) cyn- haliwyd Gwasanaeth Goffa (yn Saes- neg) i'n diweddar frawd yng nghapel Manley Park. Pregethwyd gan y Parch John Felix, Arolygvtfr y Gylchdaith. Yr oedd yr addoldy yn orlawn, a chafwyd gwasanaeth ddwys ac effeithiol dros ben. Yn dyner iawn cyfeiriodd Mr Felix at lu o rinweddau ein cyfaill ieu- anc. Rieni galarus, os gwag yw'r gadair ar yr aelwyd, cofiwch fod grym annhier- fynol ym mhob bywyd glan. I ni yn ein hiraeth, mae cofio am ami rinwedd- au Aneurin yn hafaidd belydru trwy brudd-dcr ein calon. Yn fore dysgodd am Dduw ei rieni. Bu'n ffyddlon iddo hyd y diwedd, ac ni phetruswn na chaf odd Aneurin o ddaear Ffrainc helaeth dderbyniad i mewn i'r tragwyddol beb- yll. Bellach yn iaith y bardd: Gorffwysa, fy nghyfaiil, yng ngwychder dy fedd, Ar filoedd disgynned dy ysbryd Ond bwried rhyfeloedd i foroedd o hedd A dyn i heddychol ddedwyddyd. I J. E. W. I
I 'LEIGH. I
I LEIGH. I Marwolaeth Mrs John Tattum.— Gyda gofid y cofnodwn am farw y ddi- weddar Mrs Ellen Tatttm, priod Mr John Tattum 20, Lilford Street, Howe Bridge, yr by tt a gymerodd le prydnawn tSul, Hydref 1 leg, ar ol cystudd maith a chaled. Bu y chwaer Mrs Tattum yn un on aelodau ffyddlonaf yn Leigh ar hyd y blynyddau, a gweithiodd yn galed er cynorthwyo tuag at sicrhan Uwyddiant y gwaith yma. Aberthodd lawer er casglu tuag at wahanol achosion ynglyn ar Genhadaeth, a gofalodd hyd i'r diwedd am anfon ei chyfraniadau per- sonol tuag at wahanol rannau'r achos yn Leigh., Bydd ei symudiad yn golled drom inni yma. Bu ei haelwyd yn gartref pregethwyr ar hyd y blynyddau, a byddai croesaw i-unrhyw un o weis- ion yr Arglwydd o dan gronglwyd Mr Tattum a hithau bob amser. Cofia llawer o hen efrydwyr Didsbury am y croesaw dderbynient ganddi yn y blyn- yddau a fu pan yn teithio Sul yn y Genhadaeth. Yr oedd ei haelwyd yn gartref iddynt a'r caredigrwydd ddang- osid yn ddi-ben-draw. Cafodd gystudd hynod galed, a bu yn orweddiog am ddwy wythnos ar bym- theg. Er bod ei dioddefiadau ar bryd iau yn arteithipl, dioddefodd yn dawel fel un yn gweled yr Anweledig; Ei chysur yn yr awr dywell oedd y Beibl a gweddi. Bu farw y dydd a nodwyd mewn gwir ddiogel obaith, a'i ffydd yn Nuw yn sefydlog a chadarn. Claddwyd ei gweddillion ym mynwent Bradford Road, Manchester, y dydd Iau canlynol, pryd y gwasanaethwyd gan gaplan y fynwent. Cynhaliwyd gwasanaeth yn y cartref befyd nos Fercher, yn absenoldeb y gweinidog, gan Mr Edward Evans, Howe Bridge, a'r Parch Mr Wilkinson, gweinidog y Primitive Methodists Mae ein cydymdeimlad llwyraf a'i gweddw, Mr John Tattum, sydd wedi ei adael yn unig. Gofalodd am dani yn dyner a gofaius hyd i'r diwedd, a bydd yr aelwyd lanwaith yn Lilford Street yn wag iddo hebddi. Nawdd Duw fydddo drosto. Anfonwyd aifer o Wreaths hardd i'w rhoi ar ei harch, ac yn eu plith gwelwyd an brydierth wedi ei hanfon gan aelodau ein heglwys yn Leigh. J. MEIRION JONES.
,NODION CYFUNDEBOL. - . i«i…
NODION CYFUNDEBOL. i«i irwof'' "mtami, 14feJStri isutm ■ Ysgrifanna y Parch Owen Hagheg atom fol y eanlyn "Annwyl Olygydd,— Byddaf yn ddiolehgar os caniateir i ai trwy gyfrwng y G.N. gyflwyno fy nioleh- garweh mwyaf diffuant a gwresog i'r Uuaws cyfeillion ac f»wyllyswyr da, » anfbnasan i a ta' f i. roddi -d 4j&, a, anfonasant ataf i roddi mynegiad o'u cydymdeimlad a, mi yn yr aqagylehiad profedigaethus am cyfarfyddedd Da gennyf a>lla dyweyd fy mod eisioes o ran ystad gyffrediuol, fy iechyd' wedi cael adferiad trwyadl. Y mae fy Uygaid hefyd yn cryfhaa yn raddol, ao mao gennyf seiliau i gredu y byd€af eto yn fuan yn fkllaog i gyfiawni f y ngwaitl^ arferol." Derbyniasom y gair a ganlyn oddi- wrth y Parch Richard Jones, Lluniain: Annwyl Gwynfryn,— Yn ol fy addewid dyma air byr yr wythnos yma. Daiawngennyf ddweyd fod y Parch David Thomas yn dal i wella. Yr oedd yn siriol iawn pan wel- [aisaf heddyw ac y mae'r meddyg yn foddhaol iawn ar ei gynnydd. 'Rwy'n sicr y bydd ei gyfeillionyn falch o glywed y newydd da yma am dano drwy'r Gwyliedydd Newydd." Bu y Parch Conway Pritchard, Ar- olygwr Gylehclaith Pwllheli, gerbron y ttibuntys yn y dref honno, yn gofyn am ryddhad i Mr J. E. Jones sy'n llafurio ar y gylchdaith fel pregethwr cyflogedig. Dywedai Mr Pritchard mai Mr Jones ydyw'r unig bregethwr Wesleaidd aydd wedi ei adael ar Benrhyn Lleyn. Yr oedd gan Mr Jones bedair o eglwysi o dan ei ofal, ac hebddo nid oedd modd cario y gwaith ymlaen. Yr oedd y pre- I gethwraanediei gymeryd i'r fyddin, ac er pob ymdrech ni ellid cael nebi lenwi ei le. Rhyddhawyd Mr Jones hyd Mawrth,31. Wrth siarad mewn cyfarfod a gyn- haliwyd i sefydia Cymdeithas yn Ler- pwl o bob! Sir Gaernarfon, dywedai y Parch John Roger Jones fed Sir Gaer- narfon wedi helpu cryc dipyn ar Jen yddiaeth gyfnodol Gymreig, ond prih y gallai ddyweyd fod y sir, ar wahan i'w beirdd, wedi cynhyrchu llenorion yng ngwir ystyr y gair. Yr oedd emyn Glan Geirionydd, Ar lan Iorddonea ddofn," yr emyn oreu ysgrifenwyd mown unrhyw iaith, ond ni chynhwysai ei ysgrifeniadau rhyddiaetbol nemor dim ond ychydig bamffledau yn beirniadu Wesleaeth Gymreig. Yr oedd Cymrm dan ddyled drom t'r Esgob Morgan. Nid oedd yr un wlad wedi teimlo cymaint oddiwrth y Beibl a Chymru, a rhaid eyfrif yr Esgob Morgan yn un o brif lenorion Arfon.
Advertising
PRIODWYD. Hyd. 24, yn Seion, Gore Street, Manchester, gan y Parch John Felix, David Madoc Jones a Sarah Jane Warren. Hyd. 27, yn Dewi Sant, Manchester gan y Parch J. Felix, James Sut- ton, Patricroft, a Lizzie Roberts (gynt o CMm, Penmachno).J
[No title]
Gwelsom hysbysiad yr wythnos ddiweddaf fod tafarndai Carlisle yn awr yn agored am oriau arben- nig ar y. Saboth. Rhoddodd y Lly- woiraeth ychydig amser yn ol orchymyn i gau yr oil o honynt ar y dydd neilltuol hwn ond yn awr dyma'r Llywodraeth ar ol iddi brynu'r Fasnach yno yn rhoddi gorchymyn iddynt oil i agor ar y Saboth. A yw hyn yn awgrymu beth fyddai'r canlyniad drwy'r Deyrnas petai'r Llywodraeth yn prynu'r Fasnach ?
SAFLE GWEMDOGION WESLEAIDD…
wahan i unrhyw Fesur Trwydd- edol a ddygir ymlaen gan y Llywodraeth. (e) Ein bod yn wrthwynebol i'r Wladwriaeth brynnu a rheoli y Fasnach Feddwol, am y cred wa fod y cyfryw fodd o drin drwg mor fawr yn rhwym oeff- eithio yn ddinystriol ar fywyd moesol a chymdeithasol y wlad, ab yn rhWym o brofi yn rhwystr difrifol i Ddiwygiadau Dirwest- õl. Pe bai gennyf fodd, neu pe buas- ni cronfa Dirwestol wrth gefn, an- fonwn at boh gweinidog ar wahan Yn anffortunus, gan Blaid y Pryn- wyr y mae y cyfoeth—cychwynant e'u Hyindrèch gyda [5,()()(}! Y nef- oedd a wyr a ba le y daeth yr ar- ian. Ond y goreu oil yw y mae Duw gyda ni,.al i,,ochr -Ef a lwydda. Cyraeraf yn ganiataol fod pob gweinidog Cymreig yn derbyn y Gwyliedydd Newydd, ac y mae gennj f ddigon o ffydd yn eich sel dros iawnder, na adewir i'r apel hon fynd heibio yn ddisylw. Di- olchaf os anfonwch eich enw ar host card mor fuan agy dar IIlen- wch hwn, ac y daw pob eJiwL law erbyn bpreu lau y fan bellaf, fel y gall yr enwau ymddangos yn y Gwyliedydd Newydd. ac y gellir cyflwyno y Ddeiseb trwy la w y Ddirprwyaeth Wesleaidd sydd i ymweled yn fuan ar Pru Weinid. og. Yr Eiddoch yn gywir, W. RICHARD ROBERTS. Y Drefnewydd, Hydref 26,1917.  d' O.Y.— y lcwbl n a ngehr 'h e i i o fydd ysgrifennu: I subscribe to the Memorial that appeared in the Gwyliedydd New- ydd" Tuesday, October 30th, 1917. Signed. Signed: ?Ld??.?. ac aiifon y cerdyn i mi.