Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

NODION CYFUNDEBOL. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODION CYFUNDEBOL. Yr wythnos ddiweddaf mewn nursing home yn Birmingham, bu farw Cyrnol C. S. Denniss, yr hwn a olynodd y diweddar Arglwydd Merthyr fel rheolwr Cwroni Rheilfffordd Caerdydd. Ymneili- duodd yn Ebrill diweddaf. Bu Mr Dennis am bedair blynedd ar ddeg yn rheolwr Rheilffordd y Cambrian. Yr oedd yn Wesleaidd selog a chyfrifol iawn, ac yn fab-yng nghyfraith i'r div^eddar Dr Henry J. Pope. Mae yn llawen iawn gennym fod Mr John Marsden, Treffynnon, wedi tymor i maith o lesgedd yn lu-eimlo yn gryfach. Mae Mr Marsden wedi ymneilltuo oddiwrth ei waith fel Overseer, ac mewn colofn arall gwelir hanes cyflwyn- iad anrbeg iddo. Mr Marsden fu am flynyddoedd maith yn gofalu am y golofn hon; a mawr brisid ei nodiadau. Wrth anerch cynulleidfa oUbregethwyr cynorthwyol yn y Central Hall, West- minster, dywedodd y Gwir Anrhydeddus W. Runciman, A.S., ei fod yn bendant yn erbyn y syniad o Brynu y Fasnach ) Faddwol." Dywedodd nad oeddynt hwy erioed wedi cludo, na chaniatau gwerthu ar ei llongau win na diod o un math. Gwell oedd ganddynt i'w llongau idael y porthladdoedd yn hanner gwag 3ag iddynt gludo dafn o ddiod gref. Wel yn sicr dyna record golew.

TRYSORFA'R " GWYLIEDYDD NEWYDD."…

IiYr Eglwys a'r "Entertainments'…

[No title]

[No title]

TRYSORFA Y GWEINIDOGION METHEDIG.

[No title]