Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
TAlAITH Y DE.I .SYSTUDD Y…
TAlAITH Y DE. SYSTUDD Y PARCH. T. J. PRITCHARD. Bydd yn ddrwg gan gyfeillion lliosog y Parch. T. J. Pritchard, Cadeirydd y Dalaith Ddeheuol, ddeall ei fod yn gorwedd yn glaf ers yn agos 1 chwech wythnos, ac wedi myned i wendid mawr. Yn wyneb y ffaith nad oes argoel, ar hyn o bryd, y daw am. rai misoedd yn alluog, i ymaflyd yn ei ddyled swyddau swyddogol, dymuna gyf- o lwyno unryw faterion Taleithiol. fydj yn gofyn am sylw arbennig, i ofal y Parch. Thomas Rowlands, Ysgrifennydd y Dalaith a phop eth ynglyn a Gwahoddiadau y Gweinidogion i ofal y Parch Evan Isaac, Llywydd y Gymanfa, yr hwn hefyd sy'n etholedig ar Bwyllgor y Sefydliadau. Dymuna adatgan ei fod yn teimlo yn dra diolchgar i'r brodyr caredig hyn am eu cydym- deimlad, a'u parodrwydd i'w gyn- orthwvo vn ei wendid mawr. 01 01 J. PRICE POWELL.
TREFFYNNON.
TREFFYNNON. Yr wythnos ddiweddaf, mewn cyfarfod o Gynghor PI wvf Bryn- ffordd, gerllaw Treffynnon, cyf lwynwyd, gan y Cynghor, Fouo tain Pen hardd, a ffon werthfawr, yn anrhegion i Mr John Marsden (y Llyfrbryf Wesleaidd). Bu Mr Marsden yn Ysgrifennydd y Cyng- hor am lawer o flynyddau, ac ni allai y Cynghor fedclwl gadael iddo ymddiswyddo, ar ol gwasanaeth .mor hir ac mor nodedig o ffyddlon ac effeithioi, hebarwyddo eu parch ato, a'r pris uchei a osodent ar ei wasanaeth, Dywedodd y cadeir- ydd, ac eraill, fod gwybodaeth gywir ac eang Mr Marsden, o drefn- ladau a gwaith Bwrdd Llywodr aeth Leol wedi bod o werth ang hyffredin i'r Cynghor, ac wedi eu galluogi i gario allan yn dra llwyddiannus nifer helaeth o ym., ,gymeriadau. Dywedodd Mr F. E. Morris, Re porter y Flintshire Observer," fod Mr Marsden nid yn unig yn swydd- og gofalus, ond yn wir foneddwr; elai alian o'i ffordd i gyfarwyddo ac i wneud cymwynas i'r neb a fyddai mewn anhawster. Diolchodd Mr Marsden yn gynnes am y rhoddion, a dywedai er cym aint pris a osodai ar yr anrhegion, y gosodai fwy o bris ar y teimlad- i u caredig a chyfeillgar oedd o'r tu 01 iddynt. Fel y dymunwyd, hoffai gael nawnddydd hir i ddefnyddio yr anrhegion. GOH.
GAIR 0 DREFFYNNON.
GAIR 0 DREFFYNNON. Mae'n bleser gennym gofnodi fod CyrrKe thas y Cymrodorion, yn y dref lion, yn sefydliad. parchus, cynyddol, ac o ddylanwad mawr. N.os Iau diweddaf traddododd y Parch D. Gwynfryn Jones, Fflint, ei ddarlith penigamp ar "George Burrows a Gwyllt Gwalia." i gyn- ulleidfa liosog a'c astudgar angh yffredin. Cadeiriwyd gan y Bonwr H. Vaughan Lloyd, U.H a hynny mewn tfordd ddoeth a deheuig. 'Roedd y ddarlith hon yn un o gyflawniadau areithyddol inwyaf athrylithgar o eiddo Gwynfryn, nes gwefreiddio y gynulleidfa. Gwnaed sylwadau diolchgar a gwerthfawrogol am y ddarlith gan y Parch. Octarius Rees, B.A., Ficer Bagillt, a chan Mr Hugh Owen, IVLA" o'r Ysgol Sirol, ac hefyd gan y Parch. D. Meurig Jones, ac eraill. Yr wythnos ddiweddaf cvnhal- iwyd Cyfarfod Misol M C. Sir Fflint _yn Rehoboth, Treffynnon. Nos Lun yr oedd cyfarfod ynglyn a dathliad deu can'mlwyddiant VVil- Jiams, Pantycelyn. Llywyddwyd gan y Parch J. G. Davies, gwein idog y lie. Cafwyd anerchiadau campus. Y gyntaf gan y Parch G. Hughes, M.A., Caerlleon, ar Ei Jianes a'Lberthynas a'r Diwygiad"; y Parch D. 0 Tudwal Davies, fel Bardd a Chyfrinydd," a chan y Parch Wynn Davies, Rhos, fel Llenor a Diwinydd." Gresyn na fuasai y gynulleidfa yn lluosocach ynglyn a chyfarfod mor bwysig ac hanesyddol. Nos Fawrth, pregeth- odd y Parch Wynn Davies, Rhos, gydag arddeliad neilltuol. I OUILSYN.
I_LLANSANTFFRAID, MALDWYN.-
I LLANSANTFFRAID, MALDWYN. Chwith iawn 1 ni yma fydd colli cwmni yr hen gyfaill pur, a ffydd Ion, John Pughe, tad y Parch David Pughe, Cenhadaeth Wesleaidd, Leeds. Y mae wedi mynd i drig- iannu am weddill y daith gyda'i fab yn Leeds. Yn Ebrill-diweddaf bu farw ei briod oedrannus, ac yr oedd yr hen gyfaill yn bur unig, Bellach, eiddunwn iddo nawn- ddydd oes dawel, glir a dedwydd. Bu John Pughe yn aelod ac yn swyddog ffyddlon yng nghapel bach Llantsantffraidd ers mwy na hanner can' mlynedd. Bu yn dos barthu y Gwyliedydd'' ers deu- gain mlynedd wedi cyfnod mor hir, ac mor ffyddlon, chwith iawn fydd ei golli. Yr oedd yr hen wraig hefyd—ei ddiweddar briod- yn ffyddlon iawn yn Llansant- ffraidd ers trigain mlynedd, a bu am dros ddeugain mlynedd yn glanhau y capel bycban yn y lie, ac yr oedd hyn yn rhan o hyfryd wch ei hoes-cad w yn lan allor a theml yr Arglwydd ei Duw. Melus fydd y cyfarfyddiad rhwng y ddau ryw ddydd yn y cysegr mawr"— capel mawr Iesu Grist," chwedl Daniel Owen, y tuhwnt i'r lien. I GOH.
I LLYSFAEN
LLYSFAEN Yr ydym fel eglwys yn gwerth- fawrogi gwasanaeth ffyddlon Miss Davies, Isalit, a Miss Hughes, Bryn- iau Cochion, yn casglu trysorfa i anfon rhoddionN adólig i'n bech- gyn sydd yn y fyddin. Mae y nifer o'r eglwys yn 25 o leiaf, a chas glwyd tua chwe' phunt. Deallwn fod Mrs Barclay yn unol a'i char- edigrwydd arferol wedi cyfranu yn hael i'r drysorfa; ac fe anfonir llythyr gan ein gweinidog i bob un o'r milwyr. I GOH.
I BETTWS, ABERGELE.
I BETTWS, ABERGELE. Nos Lun, traddodwyd darlith yma gan y Parch Gwynfryn Jones ar Trannoeth y Rhyfel." Yr oedd y capel yn orlawn, a chafwyd dai- lith penigamp, yr oreu meddir a draddodwyd yn y Bettws erioed. Byddai yn werth i'r holl deyrnas glywed y ddarlith hon. Cadeir- ivvyd yn fedrus a deheuig gan Mr J. R. Ellis, Abergele, a rhoddodd araith rhagorol, a chofiodd ynhael am y drysorfa. Diolchwyd yn gynnes i'r darlithydd a'r cadeirydd.
BLAENAU FFESTINIOG
BLAENAU FFESTINIOG Dydd Mercher, Rhagtyr 11, unwyd y Proff. J. Lewis Owen, yr atbro cerddor- ol adnabyddus, mown glan briodas a Miss Sally Roberts, Bryn Tecwyn, chwaer y Parch W. R. Roberts, ac athrawes yn Ysgol y Cynghor, Penrhyndeudraeth. Cymerodd y briodas !e yng ngbapal Jerusalem, Wrecsam, drwy wasanaeth v Parchn W. R. Roberts, a Charles Jones. Y gwas piiodas ydoedd Mr. Wjllana Lewis, Blaenau Ffestiniog, a'r forwyn ydoedd Miss Nellie Roberts, chwaer y briodasferch. Wedi'r briodas ymneillfcuwyd i'r Westminster Temper- ance Hotel, ac wedi'r wledd Ilongy-LE,,rch- wyd y par ieuanc gan y Parchn W. R. Roberts a Charles Jones, a Mr Williams, Wrecsam. Derbyniwyd llu o 'telegrams, ac yn eu plith yr oedd un oddiwrth Nursing Association y Penrhyn, un oddiwrth y Staff Ysgol y Cyngor, Penrhyn,ac un o Ffrainc- Dymunwn o galon fywyd priodasol maith a ded wydd iddynt.
TIRYDAIL. I
TIRYDAIL. Mae'n bleser gennym hysbysa fod y Ddrama a gynhaliwyd yn y Palace, Tachwedd 29ain, wedi troi allan yn llwyddiant hollol. Gwnaethpwyd elw sylweddol 0 £40. Yr ydym yn hynod ddiolchgar i'r brodyr a'r chwiorydd am eu gwasanaeth ardderchog er llwyddiant yr aehos yn y He.
I LLYTHYRAU Y MILWYR.]
I LLYTHYRAU Y MILWYR. ] I GAIR 0 GANAAN. I i (Gan y Caplan A. W. DAVIES). I Annwyl Gwynfryn,— Ar grwydr yr ym i fan arbennig. Yn y gwersyll diweddaf, er y caled waith, yn ymberffeithio i'r gwaith garw, 'roedd rhywbeth yn fythgof iadwy i mi yn y fan, ac erys fy atgofion yn annwyl a drylliedig. Yr oedd y gwersyll yn hynod o Gymreigaidd, gan fod nifer o gat- rodau Cymreig yn gwersyllu gyda'u gilydd. Clywid drwy'r fro yr hen iaith gain. Y peirianwyr, a'r magnelwyr, gwyr y luest feddygol, a'r gwyr traed, yn scwrsio yn yr hen iaith, a llanciau y camelod, yr asynod a'r ceffylau, yn eu cyfarch yn eu hiaith ac yn min yr hwyr melus odiaeth oedd clywed canu yr hen emynau, achaneuon swynol Cymru. Ac hefyd 'nawr ac eil waith clywid y seindorf yn chwarae rhai o ddarnau annwyl Cymru fad. Ag at hyn, odfeuon Cymraeg, ambell i seiat, a chwrdd gwedai Cymraeg, a hyn yng Nghanaan— yn nhir Palestina, o dan gysgod tref henafol Gaza. Ond dyma ni eto ar wasgar fel llwythi Israel, ond mewn cysylltiad a'n gilydd, ag yn yr un ymdrech. Rhyw enyd cyn y frwydr fawr ydoedd, ac enyd I rhyfedd i un byw ei feddwl a'i ddychymyg, oblegid nis gwyddom beth sydd o'n blaenau. Gwyddom I, oherwydd natur y gwaith y syrth rhai, ond ceidw pob un yn lion a hyderus ei yspryd am y tybid mai I efe fydd un o'r ffodion ddaw yn I fyw o'r ymdrech waedlyd. Ysgrifennir llawer o lythyrau y pryd hwn, rhag mai dyma all fod I yr olaf am byth, ond nid awgrymir gair o gwbl am hynny. Er yr hoffai pawb, o gal on, wel'd y diwedd, eto y mae gan y bechgyn awydd mawr am wel'd mwy o fannau "yr hen wlad," ac yn en- wedig Jerusalem. Rhyw greadur rhyfedd yw dyn, yn rhamant ei natur a'i hyder. Cyn symud cafodd y gatrawd yr wyf ynglyn a hi, parade rhyfedd. Yr oedd un o'r swyddogion, oher wydd ei waith arwrol yn chwilio i mewn i ddirgel fan y gelyn, a'i waith yn dwyn ar ei gefn un o'i wyr cl wyfedig, Ïw anrhegu a 1 uban I y Groes Filwrol. Ymffurfiwyd yn ysgwar, ag un pen yn agored er jmwyn i'r Cadfridog ddod yno i gyflwyno y ruban. Awr ddwys ydoedd, awr cyn symud tua maesy j frwydr. Caed anerchiad byr gan y j Cadfridog; gwr rhagorol yw ef, lllawn o yspryd defosiynol. LIef jarai yn ddwys ac eto'n galonogol, hawdd deall ei fod yn teimlo i'r byw y byddai i rai syrthio yn yr j ymdrech; a chyflwynai ni mewn jmoddsyml i ofal Duw. Yr oedd iy parade hwn bron yn odfa. Yn wir 'roedd fy enaid yn ddolur wrth ledrych ar y bechgyn glan, byw, hoyw, a meddwl yr elai llawer i'w bedd yn fud i'r hedd ymhen ychydig. Os na- ddaw y byd i'w synwyr ar ol hyn, druan ohono, ond credaf y da w-y gwel ei ffoledd enbyd. Pan ddaeth y gwyll i gau am I danom, dyma symud yn golofnau ffurnol trefnus, pob un, a phopeth yn ei le ei hun, yr ymborth a'r dwr, a'r defnyddiau tan, a defnyddiau yr ymladd, a Ilu o bethau eraill, wedi eu rhannu, ag yn eu lie. Symudem yn araf a Ildthraidd, fel sarff hir gan ymweu drwy y wlad profiad rhyfedd yw teithio drwy wlad ddieithr yn y nos dros fryniau ty- wodlyd, i lawr ac i fyny cilfachau, a hen welyau sychion- tVaddys fel y gelwir hwy, a phob hyn a hyn tipyn o seibiant. Dim ysmygu na siarad,—y miloedd yn symud yn dawel er mwyn cadw ein symud iadau yn gudd oddiwrth y gelyn. Yna wedi dod ar gefn y wlad, ymagoracymwasgaru yn finteoedd gan gadw mewn cyffyrddiad a'n gilydd, rhag digwydd i'r gelyn ein canfod, ac o'i awyr fodur fwrw ei dân i lawr arnom. Yn llinellau du, i'r cyfeiriad draw, y mae y camelod wrth y cannoedd, a'u pynnau mawr ar eu cdnau, a'u gyrwyr du, a'u gwisgoedd ileision gleision, a'r meani trymion gan yr asynod. Bydd ambell asyn, a hanner bref mul, neu gwehyriad ceffyl, yn torri ar y distawrwydd 'nawr ac eilwalth. O'r diwedd dyma gyrraedd pen y daith a'n cuddio yn adrannau yn y Waddys, neu welyau sychion y ilifogydd tymorol, ac yna i freich- iau cwsg, heb do uwch ein pennau ond y wybren loyw, serenog, las. Awr fawr yw hon, awr rhyfedd, awr fawr ffodion ofnadwy; pan dyr y bore, nis gwyr y gelyn am danom, canys trigwn yn gudd ym mynwes cilfachau yr hen Waddy, hyd nes daw y nos a'l mantell i guddio eto ein symudiadau Mewn gwlad fel hon lie mae prinder dwfr, a moddion trafnid- laetb yn brin, fe glud dyn gydag ef lawer o bethau, ac amrywiol ydyw cynnwys ei bwn. Ei benwisg ddur, i amddiffyn y pen rhag saethau y gelyn, ei benwisg i'w amddiffyn rhag nwy marwol o'r gynnau mawr, poteli o ddwfr ac ymborth gogyfer a thridiau, a'i wrthban i gysgu, celfii eillio, pdr o sanau newid, celfi i gloddio y ffosydd i guddio ei hun, ychychig o sachau tywod a'i ddryl!, a'i bidog, a'i bylor, a mân bethau eraill, fei y mae'r olwg arno fel pedlar, cerddai y wlad a'i nwy- ddau yn hongian dros ei holl gorff, a chwarae teg iddynt, cludant yr oil heb nemor grwgnach, dros daith faith a blin. Wei, dyma ni eto ar fin ymdrech erch, a Duw yn unig wyr y diwedd, er mae pawb yn Itawn hyder byw mai buddugoliaeth sydd o'n blaen. Drannoeth buom yn yjyiguddio mewn hen Waddys. Y mae mil- oedd o rhain ar hyd a lied y wlad, ac o edrych ar 61 rhuthr y dyfroedd drwyddynt, synna dyn fod y wlad mor sych. Yn gyfagos 'roedd gennym orch- wyl go bwysig i'w gyflawni gyda'r wawr, sef cymeryd oddiar y gelyn fryncyn o dir, er gallu amddiffyn ochr dde y rhai oeddynt yn ymladd ar y dde i ni; ond arbedwyd i ni y gwaith hwn gan i'r gelyn ei fedd- iannu o'n blaenau, ac aeth gatrawd Gymreig oedd gerllaw i ymdrech a'r Twrc gan ei gymeryd oddiarno heb fawr o golled. Buom ninnau hefyd yn dal y Uain hwn am ddiwrnod a noson. Y mae'n rhyf- edd ar brydiau fel mae llain bach o dir neu ucheldir mor bwysig i'r safle, er nad yw ond cyfran fach o wyneb y llinell yr ymleddir arni. I'r chwith, i gyfeiriad Gaza, yr oedd y cynllun i symud nesaf. Erbyn hyn yr oedd y frwydr fawr y bu cymaint o ymbarotoi a dis. gwyl pryderus am dani wedi dech- reu. Yr oedd y frwydr ar linell tua deg milltir ar hugain o hyd, o Gaza wen, ar fin mor glas y Canol- dir, i'r hen dref fach henafol yn eigion y wlad Beersheba. Y mae'r gelyn o'n blaenau wedi meddiannu bob safle o bwys, ac at hyn ar yr ochr amddiffynol 'roedd ef. Gellid ymladd, ac fe ymladd- .wyd, am oriau heb weld prin wyn- eb y ge yn, cymaint yw mantais yr ochr amddiffynol; a dyma ni er byn- Sul, Tachwedd y 3ydd, ynghanol brwydr boeth ddechreuodd yr ail ddydd o'r un mis, ond el popeth yn ffafriol i ni, a chalonnoga hynny bawb. Cofion serchog, A. W. DAVIES, C.F., Att. 1/5 Welsh Regt. 159 Infantry Brigade, 53 Division, E.E:F.
[No title]
Mae Bwrdd Canol Cymru wedi ail benodi Mr William Edwards, M.A., yn brif arolygydd am ddwy flynedd.