Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

GAIR 0 MESOPOTAMIA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GAIR 0 MESOPOTAMIA. F'annwyl Mr Gwynfryn Jones, Bydd yn Nadolig mae'n sicr erbyn y cyraedda hwn. Gadewch i mi ddymuno Nadolig goreu mae'n bosibl i chwi a darllenwyr y G.N. Anodd iawn sylweddoli fod y Gwyliau mor agos yma. gan fod yr hin mor boeth. Addawyd liawer iawn o bethau imi erioed pan fydcl- ai y Nadolig yn yr Haf; eleni byddaf yn disgwyl cyflawniad o'r holl addewidion hyn. Ni raid i mi ddweyd 'rwy'n siwr mai gwell fyddai gennyf Nadolig yng Nghymru. Rwy'n amgau Garden Nadol- ig Gymreig i chwi a argraffwyd yn Ninas Basra, Mesopotamia. Dyma'r Cymraeg cyntaf o'r wasg yn y lie hwn toes dim dwywaith. Argraffwyd y ihai hyn yn Swyddfa Argraffu y Llywodraeth. Cymro yw y Goruchwyliwr-Lieut. Parry o Glynceiriog. Tra yn son am hyn —Cymry yw mwyafrif y rhai ddeil y swyddi uchaf o gwmpas y rhan yma o'r byd. Mae y Cymro, ar waethaf ei elyn, y Sais, yn cael ei ddyrchafu a rhaid iddo fydd gwir deilyngu y dyrchafiad neu bydd rhyw gorach o Sais trwy wire pulling yn y swydd. Dal i ennill tir y mae'r Eglwys Gymreig yn No. 2. B B.D. Daw y Cymry iddi o bob cyfeiriad, rhai ar draed, eraill a1 ddeurodur, eraill mewn Gharies, a'r lleill drachefn mewn modur. Gwledd yw eu gweled yn mwynhau odfa Gymreig. Bydd hwyl ar y canu, hwyl ryfedd. 01 weithiau, dyblir a threblir y gan., Pan fydd yr odfa ar ben welsoch chi erioed fel y bydd Cymry yr un ardal yn casglu at eu gilydd a, dyna siarad wedyn am helyntion y cyfnod cyn y Rhyfel. Byddwn yn coflhau farw ein Gwaredwr bob yn ail nos lau yma, a chredaf fod y bechgyn heddyw yn deall ystyr Aberth Crist yn well na chyn y Rhyfel. Deil yr Ysgol Sul yn ei rhif a'i bias. Ceir yrddi awryw ddoniau a thafod-leferydd amryw ardaloedd yng Nghymru Y bennod gyntaf yn Philipiaid yw ein maes. Clywais sibrwd fod yna Gymro twymgalon o ochr y Ferswy yn anfon ychydig Feiblau a Thesta mentau yma. Bendith ar ei ben. Bydd Beibl yn gaffaeliad garw i'i bechgyn gan fod cymaint son am y wlad hon yn yr Hen Destament. Synwn i ddim na fydd maes astud iaeth yr Ysgol Sul yn cael ei newid pan gyrhaeddant. Aeth ami i Gymro trwy y Depot yna yn ddiweddar. Rhai wedi dod yn syth o "Blighty" ag eraill o'r India. Ofnaf na fydd ond ychydig iawn o'm cyd genedi yma erbyn y Nadolig, ac nid oes obaith i mi gael eu dilyn i fyny'r "Line." Deallaf fod y Parchn Egwys Jones a John Hughes ym Mombay, ac yn ol pob golwg yno byddant hyd nes yr a un ohonom ni sydd yma i lawr gan afiechyd neu giwyf. Yr un yw hanes dau gaplan Wesleaidd Seis- nig yn ogystal. Gresyn hyn yn wir gan fod yn y fan lie y trigaf ddigon o waith i dri Caplan Ymneilltuol fan leiaf. Dal i ddod i mewn mae ein carcharorion rhyfel. Golwgddigal- on iawn sydd amynt. Fel y dywed y boys, golwg Fed up." A phwy sydd heb deimio felly? Credaf fod ar ein gwlad gymaint o angen Esaiah y Prophwyd. ag oedd ar yr hen genedi gynt. Pa bryd tybed y dychwelwn at yr Arglwydd a byw ? Ni chawn oruchafiaeth na I diwedd ar y rhyfel yn herwydd inni geisio amddiffyn Belgium tra I y sarnwn egwydoorion mawr Cref- ydd Crist o dan ein traed. Nis gwelaf fod gennym fwy o sail i gredu fod Duw o'n plaid mwy nag o blaid yr Ellmyn. Gall y gelyn fed wedi cyflawni pechodau mwy ond atolwg pechod yw pechod ym mhawb a phob amser. Mae Hedd- wch yn cael ei ohirio am nad oes yma droïat Dduw. Gwyn fyd y dydd pan y bydd pob swyddog yn y fyddin mor barod i arwain ei filwyr mewn gweddi ag ydyw ar hyn o bryd 1 ymladd. Nadolig digon tywyll fydd hwn i lawer aelwyd yn y byd yma. Mor agos yw'r bedd i'r crud cyn i swn I y siglo fynd o glustiau y fam mae Duw Rhyfel wedi dwyn ei mhab oddiarni. Ond er tywylled y nos daw ambell un i gyffyrddiad a Christ. Bydd gan ambell i aelwyd, gartref yna, achos diolch fod eu rhai annwyl wedi dod i'r goleuni. Mae y dynion sydd heddyw yn y Fyddin yn meddwl, ag yn meddwl yn ddwfn iawn. Maentwynebyn wyneb a phroblemau bywyd heb len. Gartref yn y cyfnod cyn y I rhyfel 'roedd rhywbeth yn cuddioy problemau o hyd ond heddyw maen't yn noeth. Daw Crist a'r angen am dano yn i,ea li ties." Ac 0 fraint oruchel yw gweled eneidiau yn dod i ryddid gogon. eddus plant Duw. Mae y mis diweddaf wedi bod yn nodedig. Nid oedd yr un odfa bron yn myned heibio heb i rywrai roddi eu hun- ain i Grist. Peidiwch a meddwl ei bod yn Ddiwygiad yma Ysy- waeth cablu yr Enw mwyaf mawr" glywir yn ami. Mae yma rai o'r Saeson yma, ag ambell i Gymro gwaetha'r modd, yn defn= yddio iaith sydd ddigon a gwneud i wallt pen dyn godi. Ond diolch i Dduw, mae yma ambell un yn troi o gyfeiliorni ei ffyrdd i was- anaethu Crist. Wel, hyderwn yn fawr y cawn droi yn ol i'n cartrehfiyn gynnar yn ;y flwyddyn newydd. j;Dyna'r man gwyn yr edrychwngato ar hyn o bryd. Prysured y dydd pan wel y byd ei ffoledd ac y gorseddir Crist. Eich cywir frawd. W. G. HUGHES, No. 2, B B.D., Makina. Mesopotamia Ex. Force. [Diolch lawer am y Cerdyn Nadol- ig, cadwaf ef fel Souvener.—GOL.]

t? 1-? . ? 1I L',LGAIR 0 GANAAN.-

YN Y FRWYDR. I