Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

. " IGAIR O FFRAINC. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GAIR O FFRAINC. I Annwyl Mr Gwynfryn Jones, Gair byr eto fel y gall darllen- wyr y G.N. weled sut yr ydym yn myned ymlaen yn y fangre hon. Fe ddichon y rhyfedda rai o ddar llenwyr y Gwyliedydd wrth ddeall -ein bod wedi cael y fraint o nesau at fwrdd yr Arglwydd. Nos Sul diweddaf cawsom y fraint uchel > hon DiolchiDduw. Gwemydd wyd y wasanaeth gan y Parch J. Parry Brooks. Cyfarfod i'w gofio tra y cawn fyw oedd liwn, yr oedd yno rhvw ddwysder i'w deimlo trwy y cyfarfod, Dyma y eyrie cyntaf i Mr Brooks gael gweinyddu y Sacrament yn Ffrairic. Yr oedd- em yn teimlo yn y cyfarfod fod yr Arglwydd yn ymweled a ni. Caw- som seiat heno. Ni raid gofyn am air yn y cyfarfodydd hyn, gan fod pob parodrwydd yn cae! ei ddangos. Cawn brofiadau melus, un ai trwy air, pennill, neu adnod, a theirniem ei bod yn haws byw y diwrnod can- lynol, gan fod rhy w argraff yn aros, ac yn achosi i ni feddwl am dano Ni wn yn iawn wrth ysgrifennu y llythyr yma a fydd yn rhy ddiwedd- ar iddo ymddangos yn y Gwylied- ydd cyn y Nadolig, gan na charwn i'r hen flwyddyn fyned heibio heb gael dymuno Nadotig lawen i chwi yng Nghymru annwyl. Os byddaf yn rhy hwyr i hyn gallaf o galon ddymuno i chwi "Flwyddyn Newydd IDda" pan y daw, a hynny gan ddisgwyl y cawn fod adref gyda chwi cyn yr aiff hi allan. Yr Arglwydd fyddo gyda chwi rhodded i chwi yn helaethach o'i afugareddau. Gyda cofion goreu, Pte. S. E. ROBERTS, 48569, R.A.M.C., Att 124 Field Coy., R.E., BE F., France.

Cynghrair Efengylaidd y Byd.I…

[No title]

COLOFN Y LLENOR. ,,1:,

[No title]

YN Y FRWYDR. I