Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

. " IGAIR O FFRAINC. I

Cynghrair Efengylaidd y Byd.I…

[No title]

COLOFN Y LLENOR. ,,1:,

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COLOFN Y LLENOR. 1: Mae amryw wyr cyfrifol wedi bod yn annog Bodfan /Vmwyi i orffen Geiriadur Cymreig Sllvan Evans, neu ddwyn allan un cyfiawn cyffelyb, ac fel y canlyn yr ysgrif- enna Bodfan ar y pwfic "Gallwn a gwawn pe cawn hamdden a chymorth a chefnog- aeth. Am agwedd fasnachol yr anturiaeth ni raid son yn awr, gan na byddai'r gwaith yn barod am fiynyddoedd, hyd yn oed pe dech- reuid ef rhag blaen, Yr angen mawr presennol yw angen darllen- wyr, a'r rhai hynny yn ddarllen- wyr ufudd ac ewyllysgar. Ni raid iddynt fod yn rhai dysgedig, o angenrheidrwyad, ond rhaid iddynt fod yn rhai deallus a manwl. Dyma'r cymorth a garwn i ei gael. Dewised y darllenydd ryw lyfr Cymraeg at ei ffansi, agoreuoll os bydd yn llyfr da, safonol. Yna jceisied bentwr o bapur scrap yn gyfleus wrth law, a chofied na wiw ysgrifennu ar ddwy ochr y ddalen, nac ysgrifennu ar draws ysgrifen arall am brisyn y byd. Pan darawer ef g-an air neu ym adrodd, ysgrifen- ned ef i lawr, heb ofalu dim a yw gennyf yn y geiriadur presennol ai nid yw, a gadawed ddigon o le rhwng pob cofnodiad i mi eu gwa- hanu Ysgrifenned y gair yn y lie cyntaf fel y barna ef y dylid ei ysgrifennu, ond ysgrifenned ef yny dyfyniad fel y rnae ar ly ddalen argraffedig. Rhodded yr ystyr pan fyddo hynny o gymorth, ond gofal- ed roddi digon o damaid o ddyfyniad i ddyn deimlo ei rym ar yrolwggyntaf. Yna noded y llyfr a'r ddalen yn ofalus ac eglur. Os oes mwy nag un argraffiad ohono, noded yr Argraffiad hefyd. Tebyg i hyn yr ymddengys y cofnodiad fynychaf: YMDDA TGU DDIAD sef gorfodi ymddadguddiad pechod. Y Drych a'r Ffynon,' 57. Dichon fod digon a allent gyflawni'r gwasanaeth hwn, ond eu cyfarwyddo. Yn anffodus, barn llawer o bobl yw mai'r cymorth sydd arnaf ei angen yw cymorth i fathu geiriau newyddion a'u rhoi ar y farchnad neu i hel a thrysori geiriau (lafar gwlad. Gwasanaeth gwerthfawr yw'r olaf, ond ei gyf- lawnigafi wr cyfarwydd a gofalus. Diau y bydd lie yn y Geiriadur Mawr' i lawero eiriau felly, ond os anfonirhwynti mi, dymunwn gael yr awdurdod drostynt hwy a'u hystyron, a'r ardaloedd lie y defn- yddir hwynt. Carwn hefytl gael eu hystyron yn Gymraeg a Saesneg, rhag i mi yn amryfus wneuthur un cam a hwy. Coher nad wyf yn ymrwymo i ddwyn y geiriadur allan, ond ni bydd y darllenydd na minnau ddim gwaeth o gyflawni'r gwasanaeth hwn. Pe byddai gennyf das o eiriau felly wedi eu casglu, byddai gennyf flynyddoedd o waith i'w trin a dichon y byddai yn rhaid i mi ysgrif^nnu'r gwaith amryw weith- iau cyn ei anfon i'w argratfu. Cam a llyfr ac a'r argraffydd yw ei anfon i'r wasg yn amrwd."

[No title]

YN Y FRWYDR. I