Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Wyliedydd Newydd, arcs ar y mur, Ac edrych allan am yr iawn a'rpur, Gwas'naetha grefydd,—seinia ar ein clyw Os gelyn feiddia gyffwrdd Ddinas Duw. TALFARDD.
BWYD Y BOBL.
BWYD Y BOBL. Cwestiwn sydd yn dechreu gwasgu fwy fwy o'r naill 8nos i'r llall ar bob penteulu ystyriol yw- Pa beth a ellir ei gael ar Fwrdd y Teulu o hyn allan ? Mae prinder defnyddiau ymborth dyn yn cyn hyddu; mae'r galw hefyd yn cynhyddu am ein bod wedi ym- rwymo i rannu ein bara beunyddiol rhyngom ni, a Ffrainc, a'r Eidai sydd megys ymron ar eu cythlwng. Yn y trefi mawr peth cyffredin yw gweld rhesi hir o ferched yn aros yn amyneddgar am oriau wrth ddrysau'r siopau i aros eu tro i gael eu neges-bara, ymenyn, margarin, siwgr, cig moch, ac yn ami yn ddiolchgar os, ar ol sefyll felly am awrneuddvvy y llwyddant i gael hanner yr hyn y daethant allari i'w geisio. Amlwg yw na ellir caniatau i beth fel hyn fyned ymlaen yn ddi- ddiwedd. Dair tlynedd yn ol dywedai Mr Lloyd George mair "fwled arian" fuasai yn pender fynu y Rhyfel. Dywed Arglwydd Rl-,ondda heddyw, mai'r sach flawd a'i penderfyna. Cynhilo! Cyn hilo!' yw'r cri cyffredinol, ac edrychir ar y neb a afradlono ddefnyddiau ymboith, neu a'u camddefnyçldia, fel bradwr sv'n cynorthwyo'r Caisar i ennill budd ugoliaeth arnom yn y Rhyfel. Mae Rheolwr y Bwyd wedi am- lygu yn bendant ei fwriad i osod terfyn ar yr angenrheidrwydd i gwsmeriaid aros yn hir, ac yn am) yn ofer, wrrh ddiws y stop am i gyfle i brynu nwyddau rheidiol i'r bwrdd. Birmingham sydd wedi darganfod y feddygmiaeth. Yno mae'r Pwyllgor Bwyd wedi trefnu y rhaid i bob cwsmer ddewis ymha siop y pryn efe ei fara, ei ymenyn, ei garcs, ei gig, fel y dewisodd eisoes pa le y pryn efe ei siwgr Ni raid iddo brynu pob nwydd yn yr un siop-ond wedi dewis ohono ei siop fara, rhaid iddo brynu ei fara yno, wedi dewis ohono ei siop ymenyn rhaid iddo fyned yno i geisio'r ymenyn, ac felly yn y blaen gyda'r nwyddau rheidiol eraill. Cedwir rhestr gan bob siopwr o'i gwsuueriaid am bob nwydd ar wahan. Gofala'r Pwyllgor Bwyd fod cyfienwad o'r nwyddau i bob siop yn ciel ei rannu yn ol cyfar taledd nifer y cwsmeriald cofrestr- edig,—i bob siop yn ol ei hawl a'i haeddiant. Yna rhaid i'r siopwi ymddwyn yn deg tuag at ei gws meriaid, gan rannu o'r hyn fydd ganddo yn y siop yn ol nifer aelodau teulu y cwsmer fo'n ceisio r nwydd. Ceidw'r Pwyllgor Bwyd restr o'r siopwyr-a rhaid fydd i'r siopwr gael trwydded y Pwyllgor Bwyd cyn y catfo efe gyflenwad o'r nwyddau. Yna, gellir gwneud a'r siopwr fo'n torri Cyfraith y Bwyd fel ag a wneir a'r tafarnwr fo'n torri Cyfraith y Ddiod,-sef atal ei drwydded. Pan gyll ei drwydded, goreu po gyntaf iddo gau drws ei siop, canys ni cha efe wei thu yno heb ei drwydded. Dyna ran o'r cynllun y mae ym mryd Arglwydd Rhondda i'w osod mewn gweithrediad drwy'r holl wlad. Delir y Pwyllgor Bwyd ymhob ardal yn gyfrifol am wein- yddiad Cyfraith y Bwyd yn ei ardal ei hun. Gelwir ar bob Pwy'lgor Bwyd igofio mai ym ddiriedolwyr ydynt dros y cyhoedd, ac mai lies y cyhoedd ac nid gwneud ffafr a'r masnachwrsydd i fod yn nod ac amcan eu bodol- aeth.
AMODAU EEDBWGI GB'dM . j IAM.?i?AU…
AMODAU EEDBWGI GB'dM j I AM.?i?AU ti?i.???t?i.?. l..)' Y mae y Galluoedd Canolog, trwy y Count Czernin. Gwemidog Tramor Austria, wedi cyhoeddi yr amodau, ar sail y rhai y maenthwy yn barod, ar unwaith, i ymdrin ynghylch heddwch cyffredinol. Cy hoeddir y telerau yn y ffurf o atebiad i'r amodau a osodwyd gan Rwsia gerbron y Gynhadledd yn Brest Litovsk, ond nodir "y disgwylir i'r holl deyrnaoedd sydd yn awr yn ymladd, o fewn amser rhesymol, heb eithriad, ac heb gadw dim yn ol, rwymo eu hunain yn y mcdd llwyraf i'r holl amodau." Y mae yn amlwg, felly, fod yr atebiad wedi ei fwr- iadu nid i Rwsia yn unig, ond i'r holl Gyngheiriaid. Seilir yr amodau felly ar y datganiad yn nhelerau Rwsia nad oes meddiannu tinog- aethau, na thalu iawn rhyfel i fod. Ar y tir hwnhawlia Germani i'w Threfedigaethau gael eu dychwelyd iddi. Gosodwn yma yn gyfymyl amodau y ddwyblaid—Rwsia a'r Galluoedd Canolog, Rwsia- Nad oes dim tir a oresgynwyd yn ystod y rhyfel i gael ei feddiannu trwy drais," a bod y milwyr sydd yn y tir- oedd bynny i gael eu tynnu oddiyno yn ddiymdroi. Fod annibymaeth politicaidd y bobl a gollasant hynny, trwy y rhyfel, i gael ei adfer iddynt yn yr ystyr llwyraf. Y dylai cenhedloedd neu ddosbarth- iadau o genhedloedd na feddent annib yniaeth boliticaidd, cyn y rbyfel, gael cyfle teg, a sier, i ddatgan a fynnent hwy fod yn annibynnol a'i peidio: neu yn niff yg bynny i ba wlad neu deyrnas y carent berth yn. A rhaid trefnu fod y bleidlas yn y rhandiroedd hynny y fath fel y ca bawb, yn alltud neu ymfudwyr, yn ogystal a thrigolion arferol, gyfle hollol rydd a tbeg i ddatgan eu barn. Mewn rhandiroedd yn y rhai y mae y cenhedloedd o darddiad cymysg, rhaid, trwy ddeddfau arbennig, sicrhau hawl iau y lleiafrif-hawl i ddatblygu mewn addysg, &c., ar linellau cenedlaetbol, a hawl, hyd y gellir, i drefnu eu ham- gylchiadau eu hunain. Nad oes, yr un genedl i dalu i'r llall yr hyn a elwir yn iawn rhyfel." Y tal ia-Iau a wnaed eisys i gaol eu dychwel- y-j. Colled personau unigol trwy y rhyfel i gael eu talu o drysorfa gyffred inol i'r hon y eyfrennir, ar amodau teg, gan yr holl alluoedd. ■" Fod y mater ynglyn a ThrefeJigaeth i au i gael eu penderfynu ar yr un eg- wyddorion a'r rhai a gynhwysir yn y pedwar paragraff cyntaf o'r crynhodeb bwn. Y Galluoedd Canolog- Ni fwriada y Galluoedd Canolog fedd- iannu trwy drais unrhyw randir or- esgynwyd yn ystod y rhyfel. Pe tae annealltwriaeth ar ryw bwynt neu bwyntiau, gellir trefnu ym mlaenllawar gyfer symudiad buan y cadrodau o'r tir oadd goresgynedig, fel na byddai angen aros hyd nes yr arwyddid y cytundeb. Ni cheisia y Galluoedd Canolog ddi- feddiannu unrhyw wlad o'r annibyniaefcb boiiticaidd oedd ganddi cyn y rhyfel. Ynglyn a'r pwnc i ba deyrnas y dylai unrhyw randir nad oedd yn annibynnol berthyn, ni ellir setlo hynny yn rhyng- wladwriaethol, rhaid gadael y mater i farn pobl y rhandir ei hun. Ehaid edrych ar hawliau y lleiafrif fel rhan o hawi pob cenedl i ddewis ei llwybr a'i thynged ei hun. Y mae y Galluoedd Canolog, dro ar ol tro, wedi datgan na ddylid disgwyl i'r naill wlad dalu costau rhyfel i r llab," ond yn unig fod pob gveiad i vneu i tal- iad ar gyfar carcharorion hyfel, a chydnjiJbod bawl carcbarorion anfi!vvyol neu ddinesig, i ad adaliad am eu colled ion. Ynglyn a thrysorfa gyffredinol i'r pwrpas hWD, ni ellir penderfynu dim ynglyn a hi oddigerch i'r Galluoedd eraill, a hynny o fewn ysbaid rhesymol, gyduno yn yr ymdrech am heddwch. Aw stria yn unig o'r pedwar Gallu Canolog sy'n meddu Trefedigaethau: mewn pertfaith pysondeb a chynhygion Rwsia y mae cynrychiolwyr Germani yn hawlio Cod y trefedigaethau yn cael eu dychwelyd. Ni fedr Germani ildio o gwbl ar y mater hwn. Yn yr un modd yn hollol y mae Rwsia yn hawlio fod tiriogaeth a. oresgynwyd gan y Galluoedd Canolog yn cael eu hadfer yn ol. Y mae'n amlwg fod yn y cynhygion hyn lawer o bethau sy'n dra an- neffiniol, yn arbennig felly yngiyn a Belgium ac efailai Pwyll, pethau fydd yn ei gwneud yn dra anodd i'r Cyngrheiriaid ymuno yn ddiym- droi yn yr ymdriniaeth. Gwelwn hefyd nad oes yn y cynhygion air o son am y League of Nations, ac yn sicr fe ddylai h, nny fod yn amod bendant mewn unrhyw ymdriniaeth am heddwch. Ond ar y llaw arall y mae yn y cynhygion lawer o bethau y buom ni, o leiaf ynolein proffes, yn dadleu ac yn ymladd trostynt, ac yn arbennig felly y dat- ganiadau ynghylch no annexations," &c. Credwn nad all y Cyngrheiriaid, ar ol hyn ymgadw yn hwy heb wneud datganiad newydd chr, a manwl ar ba amodau y maent hwyth- au yn barod i ymdrin a'r cwestiwn oil bwysig o heddwch. Os na wnant hynny bydd Germani wedi ennill mantais fawr arnynt mewn ystyr ddipl,ot-nalaidd,-gesyd e;t'hlin ar. clir diogelach a rawy derbyniol gyda'r Sosialiaid yn eu gwlad ei hun, a chyda corff mawr y werin yn Rwsia. Yr ym eisys wedi colli, trwy bolisi y" hnoch out blowgym orth milwrol Rwsia. Y mae hynny yn beth digon irad, ond peth gwaeth na hynny fyddai i ni yrru Rwsia benbwygilydd o du Germani. Y mae y cynhygion, a dyweyd y lleiaf am danynt, yn galw am i'r wlad sefyll o'r tu ol i Asquith, Wilson, ac Arglwydd Lansdowne. Y mae cyfran o'r wasg eisoes, yn ol ei harfer, yn41awn o ddifriaeth- y Billingsgate, yn yr hon y maent yn wir feistriaid. Ond, chwedl y "Manchester Guardian," y mae i'w obeithio, ac i'w ddisgwyl yr, ym- drinia y Llywodraeth ei hun a'r mater gyda difrifwch anrhaethol fwy cwbl ofer cwrdd a sefyllfa mor ddifrifol ac alaethus a'r spn a glywsom yn llawer rhy ami am peace traps, a'r cyffelyb. Y mae'r pethau sydd yn y glorian yn llawer rhy boenus i beth felly.
[No title]
Darllenais "Adgofion" Arglwydd Morley. Y maent yn hynod ddyddorol, aCyll rhoddi braslun o fywyd gwleidyddol ym Mhrydain yn ystod cyfnod pwysig iawn. Ond er fod Morley yn aelod o'r Cabinet' yn amser helynt fawr y Gyllideb a therfysg Ulster, y mae'n beth rhyfedd na cheir enw Mr. jLloyd. George na Syr Edward Carson yn y llyfr o'r dechreu i'r diwedd. Pa- ham tybed?
f'i ,JJl ('i ,'. '...1 ..r…
f'i ,JJl ('i '1 ..r T,¡¡- 1 dd !M? E'?h??!?  | Safe i;a WeskaMd Cmi'ei& y?!? a PhijMut J 'I,J 0 ,] y Fasiiacli Feddwol. Mr Gol.,— Er tawelwch i feddwl y Parch. Thos. Hughes hwyrach mai gweddus i mi esponio y rbeswm paham na chyfiwyn- wyd ddeiseb arwyddwyd yn erbyn prynu y Fasnach Feddwol gan y Gwein- idogion Cymreig, i Mr Lloyd George gan y "Ddirprwyaeth Wesleaidd" ymwelodd ag ef y dydd o'r blaen. Yr un rheswm yn union sydd gennyf ag a roddais am fy oediad yn ateb llythyr Mr Hughes yn y "Gwyliedydd Newydd." Yn anffortunus nid yw pob un o'r brodyr annwyl mor enwog a Mr Hughes a minnau am brydlondeb. Gwyddwn fod y Ddirprwyaeth ar fedr ymweled a'r Prif Weiaidog pan wnes fy apsl gyntaf yn y G.N., a dyna y rhcs- wm dros i mi ofyn am enwau y rhai oedd ya wrthwynebol i brynu cyn ddydd Iau, Tach 2 Ni ddaeth yr enwau i law ac felly ni chyflwynwyd y Ddeis- eb. Ond ni raid i Mr Hugbes boeni yn eichylch, canys ca ei chyflwyno i Mr George gyda rhagor o enwau nag a ymddanghosoJd eisioes yn y G.N. Drwg gennyf fod Mr Hughes wedi cael ei gamarwain gan fy llythyr a dod i'r caggliad fy mod yn "sadder and wiser man. Gobeithiaf fy mod ychydig ddoethach, er nad oes gennyf i ddiolch iddo ef am hynny, ond nid wyf yn drist o gwbl, wedi gweled enwau y rhai sydd yn ffafriol i Bryniant. Nid yw y niter wedi fy nychryn ac yn sicr nid yw eu "graqd" fel gweithwyr Dirwestol yn y gorff ennol na'r safle a gymeroid rhai ohonynt beth amser yn ol, yn ein brwydyr am ryddid crefyddol, yn destun syndod i neb eu canfod eto yn milvyrio yn erbyn ein dyheadau Cen- edlaethol am ryddid oddiwrth y Fasnach Feddwol. Nid wyf am symud oddiwrth fy haeriad fod Duw o'n plaid, er i Mr Hughes fod mor foneddigaldd a'm cyff- elybu i'r Kaiser, Da gennyf fod y Parch W. 0. Evans yn credu yr un peth yn union yn Hydref, 1916. Os amheua Mr Hughes fy ngosodiad gallaf ddifynu ei arsiith yn yr Abermaw. Whatever is right, it is right to do right," ebai Robertson, o Brighton. Un ai y mae yn iawn i wertbu y ddiod feddwol neu ynte nid yw yn iawn, os nad yw yn iawn nid yw Duw o'i blaid. Mae'n debyg yr eddyf Mr Hughes nad yw Duw yn neutral ar fater fel hwn. Ar hyd y blynyddoedd y mae diwygwyr dirwestol, a goreuon Eglwysi Cred, wedi bod yn gweddio a gweithio o blaid ddiddymiad y Fasnach Feddwol. Yn Handrindod y cyfarfyddodd gweinidogion yr Efengyl ¡HD y tro cyntaf, o leiaf yng-Nghymru, i ystyried y priodoldeb o brynu y Fasnach ol chario )< inLen uan lywodraeth y Wiadwriaatb. I Mr IlIoyd George y tadogir y syniar), ond er cymaint o eilun a fu i Gymru, nid yw. yn debyg o lwyddo gyda'i drick y tro yma, a da gennyf allu meddwl na lwydda i berswadio y Cymry i werthu eu begwyddorion fel y gwnaeth pobl Birmingham gyda y diweddar Mr. Chamberlain. Da gennyf fod Mr Hughes yn credu y daw lies o wyntyllio mater y prynu, ond hwyrach y barna rhai na ddaw lies o'r ohebiaeth bersonol sydd rhyngom ni ill dau ond cyn terfynu yr ohebiaeth, a fydd ef mor garedig ag ateb tri cwest- iwn- 1. Pa reswm ellir ei roddi ^gan y fryuwyr dros gynnal eu cynhadleddau mo,, gyfrinachol ? 2. Pwy oedd yn penderfynu pa Ddi- wygwyr Dirwestol (?) oedd yn gymwys i'w gwahodd i Gynhadledd Llandrin- dod ? 3. Pwy oedd yn talu y costau ? Diau fod rhyw nifer o'r Prynwyr yn hollolonest a chydwybodol. Yn ber- sonol credaf hyn am Mr Hugbes. Ond rhag nad yw ef yn gwybod, y mae y sibrydion am gynhadleddau Ilechwraidd i drin materion Cenedlaethol,-megis Datgysylltiad a Phrynu y Fasnach Feadwol-yu symudiadau pur amheus, ac anffawd i Mr Lloyd George ydyw fod y naill symadiad a'r Hall yn cael ea holrain iddo ef. Yr Eiddoch vn bur. W. RICHARD ROBERTS.