Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
TANYFSON, Vv SEX HAM
TANYFSON, Vv SEX HAM Bu Mr Caenog Jones vma yn traddodi ei ddarlith ar "Wil Bryan." Daeth cynulleidfa dda, a chafodd y darlithydd hwyl. Y mae'r Gymdeithas wedi ei sefydlu am dymor y gaeaf hefyd, o dan lywyddiaeth y Parch R. G. Huws, ein gweinidog, ac y mae yn dda gennym ddweyd fod Mr Huws yn ddyn ieuanc sydd wedi myned yn ddwfn i serch pawb. Y mae'r Gymdeithas wedi treulio ami i noswaith ddifyr ac adeiladol, Tachwedd 5, cafwsd darlith ddyddorol ac adeiladol ar "Gamrau'r Gwerinwr, gan Mr Huws, a profodd ei fod nid yn unig yn bregathwr da, ond yn ddarlithydd a rhagolygon iddo: y mae ganddo allu i fod yn ddyddorol ac yn adeiladol. Tachwedd 20, Dosbarth Darllen. Matt. v bennod, yn cael ei holi gan y brawd Llew. Halliwell. Noscn dda iawn. Tach. 27, cyfarfod amrywiaethol dan ofal y brodyr J. L. Jackson a J. H. Roberts. Egwyl odifyr ac adloniadol. Rhag. 4, darlith ar/' John Penri" gan Mr D. Thomas, Higher Berse, Glan- rafon, ac fe fwynbawyd ei wasanaeth yn ardderchog, yn traethu ar hanes y gwron a'r Cymro dewr. Rhag. 11, darllenwyd papurau ardd- erchog, ar Morgan Lloyd," a "Mary Jones a'i Beibl, y naill gan y brawd ieuanc T. C. Downing, a'r llall gan y chwaer ieuanc Cissie Dowell. ] Rhag. 18, Dosbarth Darlten. Y* arholwr y noson yma oedd y brawd J. i T. Jackson. Y wers oedd Math. v. ben. eto; noson ddb, mewn holi ac ateb, ac o dan lywyddiaeth Mr Huws. Bu y brawd ieuano Phe. W. W. Rogers, adref am seibiant yr wythnos diweddaf o faes y Rhyfel, a da oedd ei weld, ac yn edrych mor dda. Y mae y brawd bwn ar faes y frwydr ers dech- reu y Rhyfel. Wrth wmndo arno yn dweyd yr hanes mae'n syndod meddwl sutymae wedi dod mor ddiangol. Goh.
NODION 0 DDOLGELLAU. I
NODION 0 DDOLGELLAU. Sabbath y Nadolig, yn Ebenzeer, •cattsom wasanaeth werthfawr y Parch D. 0. Ellis (M 0-), Hermon. Yr oedd Mr Ellisyn adnabyddus i lawer o honom, ond dyma y tro cyntaf i ni ei glywed yn pregethu, a chawsom ddwy bregeth neilltuol o dda, diolch iddo am-ei barod- rwydd i ddod i'n gwasanaethu, a gresyn na fuasai mwy o undeb yn y eyfeiriad hwn yn ein plith fol Ymneilltuwyr. Yn y gyfeillach elfwydgair gan ein parch- es weinidog, y Parch David Thomas, ac yr oeddym yn falch o'i weled yn ein plith. Gweddiwn am iddo gaol llwyr adferiad. Da oedd gennym weled amryw o blitnt Ebenezer adref am dro, befyd o'r fyddin, a'u gweled yn tlyddlon yn y moddion y Sul. Cynhaliwydcyfarfod gweddi undebol yn Salem (M.C.) y boreu, ac yn yr hwyr cynhaliwyd cyfarfodydd y Gobeithlu gan pob en wad. Yr oedd ein cyfarfod ni o dau lywyddiaeth y Parch David Thomas, ac arweiniad Mr Richard Barnett; daeth cynhulledd mawr. Cymerwyd rhan mewn cystadiu, adrodd, canu, a dadleuon, gan amryw o blant y Gobeithlu hefyd Parti dan arweiniad Mr Rufus Roberts, a Paiti dan arwein- iad Miss Maggie Jones (er cof am ei thad, y diweddar Mr Davied Jones, Qaxton Buildings, un fu yn ffyddlon ar hyd ei oes gyda'r cyfarfodydd hyn). Canodd y plant yn swynol iawn o dan arweiniad Mr Rufus Roberts Beirniad- wyd y gwahanol adrannau gan Mr D J. Lewis, a gwnaeth pawb eu gwaithyn rhagorol, a chafwyd cyfarfod neilltuol o dda. Diolch i bawb. Dyma beth ddywel papur newydd y "Oymro am gyfarfod o holi Obeithlu* oedd y dref, a da oedd gennym weled ei farn amorganydd ae arweinydd y plant yn Ebenezer Cynhaliwyd Cyfarfod Undebol y Gobeithluoedd yng nghapel Ebenezer, nos Fercher, Rhagfyr 19, o dan lywydd- iaeth y Parch Henry Sees- Daeth torf o biant ynghyd, a chynulieidfa barolms o I rm mown ood. Cytperwyd rhctn mewn adrodd a chanu gan y plant, yn cynrych- ioli y gwahanol Obeitbluoedd yn y dref. Pe yn cystadlu buasai raid i'r beirpiad eu dyfarnu yn gyfartal oreu. Adlew- yrchai eu gwaith glod Did bychan i' r cyfeillion fu yn eu haddysgu. Holwyd y plant ar Hanes Joseph, gan Mr Edward Williams, Ysgol y Cyngor. Edmygid dull Mr Williams o holi yn fawr. Am- canai ddwyn allan rai o brif wersi bywyd a chymeriad yr arwr ieuanc, a'i osod allan fel esiampl deilwng i'w efelychu. Gwasanaeth wyd wrth yr organ gyda'i fedrusrwydd arferol gan Mr D. R. Meredith, ac arweiniwyd yn nodedig o effeithiol gan Mr. Rufus Roberts. Melus moes mwy ydoedd profiad cyffredinol y rhai oedd yn bresennol. J
I Ii Rhyfel o Ddydd i Ddydd.
I I i Rhyfel o Ddydd i Ddydd. Dydd Llun, Rhagfyr g4 Mae y drafodaeth heddwch cyd- rhwng Germani a Rwsia yn Brest Litovsk wedi agor er dydd Sad wrn. Datganodd y Tywysog Leopold o Bavaria, a'r Barwn Von Kuhlmann, Gweinidog Tramor Germani, eu gobaith cryf am y terfynai y gweithrediadau mewn heddwch fyddai yn fendith i bobl pob gwlad. Rhoddodd Prif Gynrychiolydd Rwsia amlinelliad o gynhygion heddwch y wlad honno, cynhygion sydd, fel y gwyddys, yn seiliedig ar benderfyniadau y "Soviet"—y Cyngrhair sy'n cynrhychioli y gweithwyr a'r milwyr. Wedi gwrando yr adroddiad amlygodd cynrychiolwyr y Galluoedd Canol- og eu parodrwydd i ystyried y cyn. hygion. Dywedir os bydd arwydd. ion cyd-ddeall y bydd Ymherawd- wr Germani yn debyg o fynd ei hun i Brest Litovsk, a'i fod ymhlaid galw cynliadledd o benaduriaid a llywodraethwyr Europ. Sibrydir hefyd y symudir y gweithrediadau o Brest Litovsk i Stockholm. Bu y Germaniaid yn ymosod yn drwrnar ein llinellau gerllaw Ypres, ar reilffordd Staden, a llwyddasant i yrru ein byddin yn 01 ar lineil o tua 700 o latheni. Adroddir heddyw am ddau ymos- odiad awyrol afiwyddiannus o eiddo y gelyn ar draeth Caint: tua 6 o'rgloch nos Sadwrn, a'r llall tua 9 30 yr un dydd. Ni wnaed difrod o un math gan y naill na'r Hall. Ni ddaeth yr un o longau'r gelyn ymhell i'r tir; a dygwyd un ohon ynt i lawr ar y traeth. Dydd Mercher Gwnaed ymosodiadau ar warch ffosydd Germanaidd yn ymyl Epehy, Monchy, La Bassee, ac Ypres, a'r cyflegrau wedi bod yn brysur yn ymyl Epehy, ddeuddeg milltir a banner i'r de o Cambrai), i'r gorllewifl o La Bassee, ac i'r dwyrain o Ypres. Ar ol methu gadael unrhyw argraff ar yr lualiaid rhwng y Brenta a'r Piave, y mae'r gelyn yn awr yn ymosod yng nghyffiniau Asiago, lle'r hawliant eu bod wedi stormio Coldel Rosso (ychydig i'r gorllewin, o Brenta), ac ar y bryn iau i'r dwyrain a'r gorliewin o'r lie, gan gymeryd 9,000 o garcharorion. Addefir yn yr adroddiadau Ital aidd fod y Cyngreiriaid wedi cilio, ac ychwanega fod yr Awstriaid wedi arps o'r tu ol i safleoedd yr Italiaid, lie y gwnaed ymosodiad- au ffyrnig iawn. Nid oes gyfne idiad wedi bod ar y ffrynt Brydeinig yn Itali, er pan gymerwyd hi gan ein milwyr. Y mae'r cyfiegrau a'r llongau awyr wedi bod yn brysiir iawn. Y mae'r eira wedi disgyn i lavyr, a'r tywydd yn oer, yn arbennig yn y mynydd oedd, ond y mae ein milwyr mewn iechyd ac ysbryd da. Dydd Iau > Cyhoedda Ysgrifennydd y Mor Irs fod y VtceAdmiral Syr Ross- lyn Wemyss wedi cael ci benodi I L "lUy;:);, H\ù \u, 1.1'" v yn Brif Arglwydd y Morlys, fel t ,.1 :r,t '\i j .\1. '¡' 1. i olynydd i Syr John Jellicoe, yr I hwn all dderbyn apwyntiad pwysig arall. Y mae y Brenin wedi rhoddi arglwyddiaeth i Syr John Jellicoe. I'r dwyrain o'r Meuse, llwyddoddy Ffrancod i drechu dau ymosodiad ar safleoedd yn Caurieres Wood. Rhwystrwyd y gelyn i gyrraedd ei amcan. Ar yr Asiago Plateau, y mae'r Awstriaid wedi ail-ddechreu ar eu hymdrech i ymwthio ymlaen ar hyd ffordd- Frenzel Valley i'r gwas- tadedd, ond methasant fyned tu- hwnt i Col del Rosso. Addefa'r Italiaid eu bod wedi colli y trum olaf, ac hefyd Monte de Val Bella. Ddydd Mawrth, adfeddasant y safleoedd hyn, ond methasant eu cadw. I'r dwyrain o Brenta, curwyd yn ol yn fuan ymgais o eiddbgr gelyn i'r dwyrain o Brenta. Edrydd yr Awstriaid am fethiant yr ymosodiadau Italaidd, gyda cholledion trymion. Yn ol gohebydd Zurich i'r new yddiadur a gyhoeddir yn Copen- hagen, o'r enw "Politiken," y mae'r cynrychiolwyr Tyrcaidd sydd mewn trafodaeth a'r cynrychiolwyr Prydeinig yn Berne ynglyn a'r cwestiwn o drosglwyddo carchar- orion, wedi dwyn cynhygion hedd- wch i'w canlyn oddiwrth Enver Pasha. Dywedir fod y Tyrciaid yn cynyg ymuno a'i Cynghreiriaid yn lle'r diriogaeth sydd ar hyn o bryd ym meddiant y milwyr Prydeinig a Rwsiaidd. Gwelir fod nifer y liongau a sudd wyd yn rhifo un ar ddeg yr hyn yn Hai na nifer y ddwy wythnos ddiweddaf. Cydd Gwener. Y mae yr oil o'r ffrynt Brydeinig yn Ffrainc o dan eira. Y mae cyfi egnvyr Germani yn tanio cryn dipyn ar walianol raiiiiaulo'r lil'iiell. Mae'r bycdinoedd Italaidd wedi ennill nifer o fan ysgarm'esoedd rhwng CesicnaaCanovo. Mae cryn danbelennu yn mynd ymlaen rhwng Brenta a'r mor. Dywed M. Pichon, Gweinidog Tramor Ffrainc, nad all Frainc ystyried amodau heddwch nes ennill Alscace-Lorraine. Geilw gynhygion heddwch Germani yn rhagrith twyllodrus. Dydd Sadwrn Ym Mhalestina mae y Tyrciaid wedi bod yn ymosod i'r gogledd o Jerusalem, ond wedi dioddef yn drwm, buont yn aflwyddianus. ac ar linell o naw milltir, y mae y fyddin Brydeinig wedi ymwthio ymlaen tua dwy filltir. Ni oes nemor dim newydd o Ffrainc nac Itali. Dywed M. Pichon, Gweinidog Tramor Ffrainc, pe troai Rwsia allan o'r rhyfel y byddai yn rhaid ei chario ymlaen hebddynt. Y mae y Sosialwyr Ffrengig yn galw am Gynhadledd Rhyngwlad wriaethol. Yn y rnodd hwnnw yn unig, meddant, y gellir diogelu Rwsia.
Advertising
BWRDD Y GOL.. Allan o Ddiffyg Gofod.-Ffynnoh- groew, Wyddgrug, Tanygnsiau, Penegoes.
[No title]
Hysbysir am farwplaeth y Parch. Robert Roberts, Rhgs, un o weinid- ogion blaenllaw yr Annibynwyr. Brodor o Gaergybi ydoedd, a bu'n weinidog yn Sir Gaernarfon a Sir Ddinbych, ac am dros chwarter canrif bu'n weinidog eglwys Beth- lehem, y Rhos. Bu'n llywydd Undeb Annibynwyr Cymru, ac hef- yd Undeb Annibynwyr Seisnig Gogledd Cymru.
Advertising
TJhff'?? All Law. ?..??.jf?, i a u -FA?iL A??<?)) BARGEINION. | ] Rhodder A ar yr amlen oddi- allan, a chyfeirier yr Archebion i- Rheolwr, "Y Gwyliedydd Newydd," Flint Mountain, Flint. —— LsJ v. 1! Llijiaij Nodiadau Herber Sef Detholion o'r Nodiadau Misol byw, craff, ar wahanol bynciau i'r Dysgedydd gan y diweddar Barch Herber Evans, D.D. Addefir fod y Nodiadau hyn ymhlith y pethau goreu a ddaeth o law "Herber" erioed Y gyfrol cystal a newydd. Pris cyhoeddedig 3/6 trwy'r Post 2/- Pethau Newydd a Hen Gan Mr Delta Evans (Dewi Hir- addug), Llundain: cyfrol werth- fawr iawn o draethodau, Moes- egol, Llenyddol, a Beirniadol. Cystal a newydd. Pris cyhoedd- edig 2/6; trwy'r Post 1/8. Holwyddorydd Diwinyddol Dr. Pope Cyfeithediggan y Parch T. J. Pritchard. Cyfroi ddestlus o 494 o dudalennau, ac yn newydd thollol. Pris cyhoeddedig, 10/6; 18 trwy'r Post, 4/6. Yr oedd Dr. Popeyn un o ddiwinyddioii gall- uocaf y wlad, ac mai cyfeithiad Mr Pritchard. yn feistrolgax a chlir. Cyfamod Heddwch Cyfroi wych iawn o bregethau gan hyodl a chryf Dr. Marvin R. Vincent. Pris cyhoeddedig 5/ cystal a newydd; trwy'r Post 2/4. Mge r gyfrol hon yn awr yn brin. Gnostlciaeth a Agnosticiaeth Cyfrol wir alluog o Bregethau gan Dr George Salmon. Mae vn y gyfrol 18 o bregethau gwir uchraddol. Cystal a newydd. Pris cyhoeddedig 5/6; trwy'r Post 3/3. I Hwfa Mon Dan olygiaeth Mr W. J. Parry, Bethesda Cyfrol Goffa am yr hen wron" Eisteddfodol. Ceir ysgrifau. ynddi fel y canlyo Hwfa fel Cymeriad Cymreig— Parch Rhys J. Huws Fel Bardd ym Mesurau y Cyng- hanedd-Elfed Barddoniaeth Rydd H wfa- J. T. Job; Fel Eisteddfodwr—Gwylfa. Ceir yn y gyfrol bigion o gyn- hyrchion y Prif Fardd enwog. Pris cyhoeddedig -3/6; trwy'r Post 2/3. By the River Chebar Myfyrdodau ar Lyfr Ezeciel gan y Parch Elfed Lewis. Y mae gweiediad cyfriniol a barddonol Elfed ar ei oreu yn y gyfrol hon. Aliewn cyflwr da. Pris cyhoedd- ig 3/6 trwy'r Post 2/3. The Ideal Life Bywyd, ynghyda detholiad o Bregethau neu Areithiau y di- weddar Proff. Drumond, wedi eu hysgrifennu a'u golygu gan Mr Robertson Nicoll. Mewn cyflwr da. Pris cyhoeddedig 6/ trwy'r Post 3/3. Christ in the Wilderness Tair ar ddeg o benodau yn ym- drin yn feistrolgar a diddorol gyda Themtiad yr Arglwydd lesu yn yr Anialwdh," gan y Parch. L. H. Wiseman. Mewn cyflwr da. Trwy'r post, 1/10. Christ and the Times Cyfrol o Bregethau gan yr Arch- ddiacon Sinclair. Pris cyhoedd- edig 3/6; trwy'r Post 2/ Cys- tal a newydd.