Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
15 erthygl ar y dudalen hon
OAKFIELD, LERPWL. I
OAKFIELD, LERPWL. I Yr oedd cyfeillion Oakfiold yn falch wrth weled y brawd Owen Jones (Myn- tbo) yn ein plith unwaith eto ar fur lough.' Yr oeddym yn llawenhau wrth ganfod ei fod wedi cael ei ddyrchafu i fod yn Sergeant, ac yn gwisgo y M.1\1. am ei wroldeb ar faes y frwydr. Dyma'r ail o aelodau Oakfield i'w hannill. Yr oedd y plant wedi bod yn edrycb I ymlaen at dydd Llun, Rhagfyr 17, am fwy nag un rheswm-. Yn y prydnawn rhoddwyd te ac amryw ddantsithion iddynt gan Mrs Emily Hopkins. Ar ol te cafwyd cyfarfod cyhoeddus hynod o ddyddorol, o dan lywyddiaetb Heber H. Chambers Yr oedd y plant wedi bod wrthi yn ddiwyd, o dan arweiniad Miss M. J. Roberts, yn parotoi gogyfer a'r achlysur. Cafwyd canu ac adrodd gan y bob! ieuainc oedd yn dangos yn amlwg ol Ilafur Miss Roberts; a chafwyd gwasanaeth Miss Eilonwy Simon ar y berdoneg. Yn ystod y cyfarfod hwyrol cafodd bron bob plentyn rhodd Nadolig gan Mrs Hopkins. Gan fod elw y cyf- arfod hwyrol yn myned at achos mor deilwng, sef anfon rhoddion i'r Milwyr a'r Morwyr ynglyn a'r eglwys (heb son am gefnogi y plant yneu hymdrechion), yr oeddym yn disgwyl gweled mwy o'r swyddogion y l!c yn bresennol. Diolch- wyd i'r cyfeillion gan y Parch Isfryn Hugbes ac Ap Heli. Cafwyd casgliad » sylweddol. Dymuniadau gorou'r tymor i holl dderbynwyr y Gwyliedydd Newydd. 0 11 YR BEN. ESGOB. I
QUEENSFERRY. I
QUEENSFERRY. I Dan nawdd yr Eglwys Wesleaidd Gymraeg cynhaliwyd cyngherdd liwydd- iannus yn neuadd y pentref er budd y bechgyn o'r eglwys sydd yn y fyddin. Anfovnwyd iddynt roddion Nadoiig a lonna eu hysbryd. Methodd Mr Joseph Benn, y cadeirycld penodedig, a bod yn bresennol, ond danfonodd rodd i'r drys- orfa. Cymerwyd ei le gan Mr James, Rose. Cafwyd cynbuliiad rhagorol, a chyngherdd ilwyddiannus talentau lleol yn bennaf. Diolchwyd yn galon- nog i'r oil, ar ran yr eglwys, gan Mr Thomas Jones, Sandycroft. GOH.
BAGILLT.II
BAGILLT. Swn prysurdeb mawr sydd ym Meth- ania, y gweithwyr yn ganhau a harddu y capel, a'r chwiorydd a'r brodyr wrthi a'u holl egni yn darparu ar gyfer y Sale a Xmas Tree dydd Nadolig. Mae'r amser yn fyr, ond mae gan y bobl galon i weithio, a choronir eu bymdrech a llwyddiant yn ddiau Mae Capei Mawr Bethania yn gyflym ddod yn deml hardd.
OPENSHAW, MANCHESTER. I
OPENSHAW, MANCHESTER. Nos Sadwrn, Tach. 24, cynhaliwyd cyngherdd Ilwyddiannus- Oadeiriv^yd gan W. Williams, Ysw., Leeds. Gofal- wyd am y rhaglen gan Mr R. M. Wil liams, Hard man Street. Rhwng yrelw oddiwrth weithiant y tocynau, a rhodd y Cadeirydd, disgwylir y bydd y swydd- ogion yn alluoq i dalu'r gyfran olaf o'r Loan, a diweddu'r flwyddyn a'n haddol- dy yn glir oddiwrth faich dyied. I Y Sul dilynol gwasanaethwyd gan y gwr caredig o Leeds yn ein puipud, ac yr oedd cystal yno 'ag yn y gadair. N OMIS. I
MANCHESTER. -I
MANCHESTER. I Yn Milton Hall, Deansgate, Tacb. 9, cynhaliwyd cyfarfod o'r Gymdeithas Genedlaethol, dan lywyddiaeth Mr E. H. Rogers, Stockport. Yr oeddym wedi cael addewid y Parch Gwylfa Roberts, Llaneili, i roddi darlith ar Williams, Panty celyn," ,ond siomwyd ni oherwydd gwaeledd iophyd. Yn yr argyfwng daeth tri wyr galluog i'r adwy Parch M. Llewelyn yn traethu ar Fywyd y Per- ganiedydd; y Parch J. H. Lloyd NVil- liams, B.A, ar Ddiwinyddiaeth ei Emynati"; a'r Paich John Felix ar Farddoniaeth Pantycelyn." Canwyd yn ystod y cyfarfod rai o emynau y Per-ganiedydd, a chyfeiliwyd gan Miss Gwladys Roberts, Hanwood Street. Diolchwyd gan y Parchn. Robert Wil- liams, Pendleton, a J. Ellis Williams. Cawsom noson dda. Rhagfyr 7, yn yr un Neuadd, dan ly- wyddiaeth Mr J. H. Evans, cawsom ddarlith ragorol gan Hew Tegid, Ban- gor. Ei destun oedd "Pennod yn Hanes Cymru." Aeth ar linellau addysg yng Nghymru o'r amserau boreaf, ac yn ol- rhain hynny hyd ein dyddiau ni. Yr oedi yn hynod ddyddorol ac addysgiad ol. Mae y darlithiau hyn yn alluog, ac yn foddion diwylliant i'n pobl. Yr ydym yn cael cynhuliiadau da. Diolchwyd gan Mri vV. Jones a J. E. Lister. J. E. L. I
CLATTER. I
CLATTER. I Y mae Mr Joseph Jones, mab y Wes- leaid ffyddlon ac adnabyddus, Mr Wm. Jones, mewn ysbyty yn Lerpwi. Coll odd ein cyfaill ieuanc ei goes yn y rhyf- el yn Ffrainc. Da gennym ei fod yn gwella. Llawenydd fydd yn nheulu Mr Wm. Jones pan ddaw Joseph adre, oblegid fel y dywedant, or ei anaf, y mae bywyd yn werthfawr. Llawenydd mawr i ni yw gweld teuluoechl yn dal mor gryf o dan y profedigaethiu. Drwg -ennym am waeledd Mr 'Evan Jones, Neuadd Newydd. Mae ar ei wely cystudd er's wythnosau, ond yn dioddef yn dawel, a gwen, hapus bron bob amser ar ei wyneb. Carem ei weld wedi cael adferiad GOH. I
GAIR 0 DREFFYNNON. I
GAIR 0 DREFFYNNON. I Nos Fercher diweddaf traddodwyd darlith ardderchog o dan nawdd Cyngor yr Eglwysi Rhyddion, yng nghapel y Piesbyteriaid Seisnig, gan y Parch. Idwal Jones, Rhos, ar Williams, Pant- ycelyn. Mr R. Gwespyr Jones ydoedd y cadeirydd, a cbafwyd rhagair rhagorol ganddo. Yn ddiau bydd galwad mawr ar y ddarlith hon. "Noson gyda Ficer Pritchard ydoedd testun darlith hynod ddyddorol ac add;sgiadol, a'r hon fwynhawyd yn fawr gan gynulleidfa liosog.. Y darlithydd ydoedd Mr D. D. Jones, Tudno Villas. Cadeirydd, y Parch. Octarius Rees, Ficer, Bagillt. Cynhygiwyd pleidlais o ddiolchgarwch gan Boawr Dr Oliver, cefnogwyd gan Bonwr D. Meurig Jones, a chyfnerthwyd gan Bonwr J. M. Edwards, M.A., a'r Ficer. QUILSYN.
TALSARNAU.I
TALSARNAU. Bore Mercher, Rhagfyr oed, bu yrna briodas hapus. Y deuddyn dedwydd ydyw Miss Jennie Evans, merch Mr a Mrs John Evans, Rbiw," Talsarnau, un o'r teuluoedd ffyddlonaf yn Soar-Mr Evans yu swyddog gweithgar yno—a Mr John Griffith, mab Mr a Mrs Griffiths, Tan Arlee, Llanbedr. Gwas- anaethwyd ar y briodasierch gan ei chwaer, Miss Laura Evans; a chyfaill y priodfab oedd Mr Roberts, Abermaw. Rhoddwyd y cwlwm diddakd gan y Parch J. R. Roberts, ym mhresenoldeb Mr J. Bennett Jones, y Cofrestrydd, a rhoddwyd y briodasferch gan ei thad. Cafwyd gwledd ardderchog, a phwy a'i baeddai n fwy i ddathlu en priodas na phrriodfab dreuliodd naw mis yng nghai- edi'r frwydr yn Ffrainc. Dymunwyd yn dda i'r par ieuaine gan y Gweinidog, Mr Bennett Jones, ac eraill; atebwyd yn ddoeth a phwrpasol gan Mrs Griffiths. I Yn hwyrach ar y dydd ymadawsant am Lleyn i dreulio eu mis] mel,' ond deallaf fod y gwr ieuanc wedi dychwe-, erbyn hyn i'r fyddin. Nawdd Duw fyddo drosto, a pbrysured yr adog y caiff ddod yn ol at ei briod ieuanc hawddgar. r AMICUS. I
TRINITY ROAD, BOOTLE. I
TRINITY ROAD, BOOTLE. I Eleni ydoedd y pedwaredd flwyddyn yn olynol i Mr W. 0. Jones ddod i eglwys Trinity Road. Pregethodd y Sabbotb olaf yn Hydref ddwy waith gydag arddeliad a nos Lun traddododd ei ddarlith newydd ar y testun Dis- tawrwydd." Credwn mai dyma'r waith gyntaf iddo ei thraddodi, ond cafodd hwyl anghyffredin. Darlith benigamp, ae elfennau mynd ynddi. Cawsom gyn- ulleidfaoedd cryfion r feddol llan mwy o bobl y Sabboth na'r blynyddoedd cynt, a chaed cystal os nad gwell cyn- hulliad nag erioed i'r ddarlith. Derbyn- iwyd elw sylweddol iawn. 'Does aim ewestiwn nad yw W.O. yu tynnu'n Bootle. GOH.
LLANDDULAS. j
LLANDDULAS. Mae Cymdeithas Lanyddol y Bobl Ieuanc wedi dechreu eleni eto. Cyfer- fydd bob nos Wener, dan lywyddiaeth fedrus ein gweinidog, y Parch E. Arthur Morris. Yr ydym erbyn hyn wedi cael nifer o gyfarfodydd llwyddiannus. Agor- wyd y cyfarfod cyntaf Tach 2, gydag anerchiad cyfoathog a chyfaddas ar y testun Y Dyn Ieuanc Delfrydol." Tach 9, cyfarfod amrywiaethol. Tach 16, darllenwyd papurau dyddorol a chynws- fawr gan Miss Hilda Jackson ar "Tafolog," a Miss Elizabeth Williams ar "Y Diwygiad yng Ngbymru, see Cyfeith. iad y Beibl i'r Gymraeg, a'i ddylanwad ar y bob1." Tach. 23, dosbarth darllen, yr adnodau cyntaf o'r 2 bennod o Philipiaid. Tach 30, darllenwyd nodion ar Weledigaethau y Bardd Cwsg, Elis Wyn, un o'r clasuron Cymreig, gan Sister Hunt, o Lundain, ar rhan Cartrefi Plant Amddifad ein Cyfundeb. Ar y terfyn ffurfiwyd cangen o'r Young People's Union. Trefnwyd i Miss E. Williams, a Mr Elias Williams wasan aethu fel trysoryddes ac ysgrifeanydd y gangen. Rhag. 7, cawsom anerchiad benigamp gan y gweinidog ieuanc, y Parch G. R. Owen, Abergele, ar "Lyfr Jonah'' yn y goleuni diweddar. Dydd Sul, Rhag. 2, bu y gweinidog I dawnus o'r Flint yn ein gwasanaethu, I sef y Parch Gwynfryn Jones. Mae ei i enwi yn ddigon i ddweyd ein bod wedi! cael gwledd mewn gwirionedd, ac yo I sicr nid aiff ei iafur yn ofer. Gwnaed; casgliad arbennig yn ystod y dydd a j chyfranwyd y swm anrhydeddus o L18 j i drysorfa y capel. Nos Lun dilYDOl bu yn darlithio yng nhapel Wesleaid y Betws i lond capel o wrandawyr astud! ar y testun amserol ''Trannoeth y Rhyfel." Yr oedd yn un o'r pethau ardderchoeaf a wrandawsom erioed. Yr oedd yn amlwg ei fod yn cyffwrdd calon ei wrandawyr, ac nid oes arttoheuaeth na chynyrcha les lie bynnag Si traddodir. R. R. Mae yr acbos yn Salem yn ei holl agweddau yn fwy Ilwyddiannus nag y bu erioed, ac yr ydym wedi cael y fraint o groesawu y brawd rhagorol Mr Owen Williams i'r seiat, ac hefyd mae Mr Joseph Jones, fu mor ff yddlon y blyn- yddau a fu, wedi dod yn ol atom i Salem, a da oedd gan bawb ei weled- Nos Lan, pregethwyd Pregeth Gea- hadol yng ngwir ystyr y gair gan y Parch E. Arthur Morris, a daeth cyn hulliad rhagorol ynghyd. GOH.
IGORE STREET, MANCHESTER.
GORE STREET, MANCHESTER. Y Gymdeithas-—Nos Iau, Rhagfyr 6ed, cafwyd Ymgomwest o dan ofal y bobl ieuaioc. Yr oedd y trefniadau yng ngofal Miss Marie Roberts a Mr Idwal Roberts. Cafwyd te da a chyngerdd I rhagorol. Llywyddwyd gan y Parch, 1. Felix. Canwyd penhiliion gan y cor yn dal perthynas ag aelodau a pwyllgor, I a cafwyd adroddiadau campus gan Misses Gladys Whittaker, ac L. Roberts. Oanwyd penhiliion o gyfansoddiad Mr' B. Davies ganddo ef a Mr Robt. Tenkins, a mwynhawyd hwynt yn fawr. Canodd Miss Blodwen Jones yn swynol, yncael ei chynorthwyo gan gor o'r plant. Yr item olaf ar y Rhaglen, ond nid y Ileicif, oadd y Rag Dolls' Dance," gan chwech o fercbed ieuaine, wedi eu gwisgo yn niwyg Rag Dolis ac yn cael ou caria ar y stage gan y" Showman." Yr oedd pawb yn teimlo ein bod wedi cael noson dda, a chychwyniad da i'r Socials." Nos Lun, Rhagfyr 10, cafwyd noson ddefosiynol. Y mater oedd Ymgyseg- riad," ac agorwyd yn fedrus gan yr Is Lywydd, Mr Robt. Jenkins, a hawdd oedd gweled ei-fod wedi gwneud parato- adau helaeth. Mwynhawyd ei araeth yn fawr. Siaradwyd gan y Llywydd, Parch J. Felix, ac amryw eraill.
HANLEY.
HANLEY. Dydd Sul, Bhagfyr y 16eg, bu Mr W. Richards, Birmingham, yn pregethu yn y boreu a'r hwyr i Wesleaid Cymrei y lie uchod. Pregethodd yn y boreu ar "undeb Cristionogol cyflfrediiiol, a seiliau ei sylwadau ar awdurdoa gvveddi i. l ?,;eddi fyth-gofittdwy yr Arglwydd Ist>u Grist, Y rhan a gymerodd yn dsstun yw y 21aip, yn yr xvii o Efaagyl loan, Fel y byddont oil yn un, &c.—"fel y credo y byd mai tydi am hanfonant i." Dywed- ai yn groyw iawn mai dyna yr undeb a ddylai ga-el ein sylw blaenaf, a tnwyaf arbennig. Er hynny ni ddywedodd y dylid gwneud i ffwrdd a'r gwahanol, enwadau. Ond yr oedd yn sicr y dylai fod undeb cyffredinol yn agosach at galon pob enwad nag un blaid grefyddol. Nid undeb cydrhwng Odstionogion un wlad wnai'r tro, meddai, ond undeb tyn I cydrhwng Cristionogion pob gwlad a'u gilydd. Canys dyna yr hyn y gweddiai lesu Grist am dano, ac nis gall ei hawl- iau Ef ar y rbai a'i proffesant fod ddim yn llai- Credai yn sicr hefyd, pe buasai undeb teiiwng cydrhwng Cristionogion y byd a'u gilydd, na fuasai modd i'r rhyfel presennol ddigwydd. Oblegid buasai gwleidyddwyr pob gwlad yn gwybod nad gwyw disgwyl i weisiou yr Ar- glwydd lesu gymeryd ochr un wlad a fuasai yn eu dwyn i ddinistrio bywydau eu gilydd. Beth am orchymyn newydd yr lesu heddyw? Dyma fy ngorchymyn i, Ar i chwi garu eich gilydd fel y cerais i chwi'' Yn yr hwyr, pregetbodd Mr Richards ar y geiriau hynny a lefarodd Pilat wrtb yr Iuddewon, Pa beth gan hynny a wnaf i'r lesu, yr' hwn a elwir Crist ?'' Sylwodd ar yr adran yna yn y modd a ganlyn Fod y cwostwn yna yn gwestiwn i bawb. Fod yn rhaid i bawb ei ateb. Ac fod cadweijligaeth enaid pob un yn dibynu ar yr afcebiad a roddir i'r gofyniad tra phwysig yna. Ond nid oes ofod i fanylu ymhellach.
PENIEL, FLINT.
PENIEL, FLINT. Pregethwyd yng Nghyfarfod y Nadol- ig eleni gan y Parchn. R. W. Davies, Seacombe, a W. 0. Evans, Porthmadog. Cafwyd odfeuon a hir gofir. Er dued y dyddiau, yn ddios bu'r efengyl a draeth wyd yn all-u-Duw i dawelu meddwl, a lliniaru poen llawer calon ysig. Yng- ^anol yr hadledd hwn, diolch am efengyl a rydd dangaefedd i ddyn heddyw, ac a ddyg yn y man dangn- I efedd i fyd cyfan. Bendith Duw ar y cenhadon au cenadwri. i •
j ABERDAR./
j ABERDAR. Nos Fawrth cynhaliwyd cwrdd croeso i'r milwyr Eddie Lewis, Ivor Davies, ac I Edward Morgan-tri llanc o Seion sydd yn y fyddin. Wedi cael pryd ysgafn o ymborth, cafwyd adrodd gan Olwen Jones, Nansi Megan Lloyd, Idris Morgan, Thos. Morgan, John Griffith, a Morgan Watkins canu gan Glymi Williams, Katie Lewis, Meiriona Lloyd, Iris Williams, John Parry Williams, H. Lloyd (Ap Hefin), JobnGriffith anerch- iadau gan Mri Morgan Wat-kins, Wm. Jones, Samuel Williams, Thos. Morgan, a Daniel Humphreys pedwarawd, Mr a Mrs W. J. Nicholas, Mrs (Parch) John Lloyd, a Mr Hy. Lloyd (Ap Hefin). Ar ran yr eglwys, cydwynwyd i'r bechgyn anrhegion o'u dewisiad eu hunain yn y ffurf o oriawr a modrwyau, gan Mrs Mary Owen, yr aelod hynaf. Llywydd, Parch John Lloyd cyfeilydd, Mr Thos. Lewis trysurydles,NLIrs J. Lloyd ysgri- fennydd, Mr W. J. Nicholas cyfarfod cyntaf o'r fafclv ac yr oedd y lie wedi ei addurno i'r achlysur, a thystir na fu yma gystal cyfarfod erioed i-newn ansawdd a rhif. Mab yw Eddie i Mr Thos- Lewis, ein horganydd, ac wedi clod adret i aros, oblegid ei glwyfo Edward Morgan sydd frawd i Mr Tom Morgan, pregeth wr, ac a fu yn rhai o'r ysgarmesoedd diweddaf yn Ftrainc, ac yn dychwelyd yn fuan Ivor bavies yn nai i Mr William Jones, pregethwr, ac yn cael ei barotoi i'r brwydro. Mae ereill o Ysgol Sul Seion yn gwasanaethu eu gwlad, a'r un croeso yn eu haros hwythau pan ddychwelant am dro i'w hen aelwyd. AP HEFIN. k— -rT— 1 —
[No title]
Dywedir fod Ymherawdwr Japan wedi galw ynghyd rai o'r arweinwyr gwleidyddol i drafod, fe honnir, beth ddylai agwedd Japan fod pe y deuai jRwsia i gytundeb heddwch ar wahan gyda Germani.