Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

PEN M AEN M 4W8. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PEN M AEN M 4W8. I Gyda gofid y croniclwn farw Mr John Davies, yr hyn a bair golled nid bychan i'n heglwys ym Mhenmaenmawr yn ogystal ac i grefyddynyrardal. Nidoeddball! ar ei gefnogaath i bob achqs da. Gweithiodd yn egnioi ymhlaid dirwest a sobrwydd, pan svrthiodd Mr John Davies syrthiodd un or colofnau cadarnaf a reddai y Gymdeithas Ddii westol ym Mhen maenmawr, Ond er ei fed wedi gweithio yn egniol ymhlaid y pethau da oddiallan i derfynnau ei enwad a'i eglwys, anodd ydyw msddu syniad am dano fel gweith- iwr ond i'r sawl gafodd'y fraint o'i adnabod fel swyddog a blaenor yn ein heglwys yn Ebenezer. Yr oedd ar ei oreu yn Ebenezer, ac yr oedd ei oreu ef yn fwy na'r cyffredin oblegid, iddo gael ei ddonio a gallu i siarad j Yr oedd ganddo y ddawn honno i wasgar tan a brwdfydedcl i bob calon am y byddai ef bob amser yn goelgerth o sel. Pan y byddai angen gofyn am fwy o sel ymhlaid y seiat a'r cyfarfod gweddi efe oedd i siarad ac i annog am y byddai ei hunan ymhob seiat a; chyfarfod gweddi. Yr oedd yn siaradwr dylanwadol am ei fod yn weithiwr egniol ei hunan, ac er cystal siaradwr ydoedd yr oedd yn llawer gwell gweithiwr. Yr oedd ambell frawd weithiau yn rhagoror o fewn rhyw gylch arbennig, nid yw yn fodlon gweithio y tu allan i'r cylch hwnnw. Nid felly John Davies, lie bynnag y byddai:angen gweithiwr, gan nad beth fyddai natur y gwaith, yr oedd ef bob amser yn fodlon i fynd iddo, Efe i fyddai yn gofalu fod y deml i fewn I ac allan yn lan a chyfain. Gofalai j am gyntedd y cenhedloedd yr un, fath a'r cysegr santeiddiolaf. Bydd- ai mor hawdd cael o hyd iddo yn y capel, ac yn wir yn haws na un- man arall, oblegid yno y treuliai y rhan fwyaf o'i oriau hamddenol. I At y cwbl yr oedd yn wr Duw heb os nac onibae. Yr oedd yn bbpeth arall am ei fod yn gyntaf ac yn bennaf yn dduwioK Cafodd gyst udd trwm ond cafodd ofal neilltuol Gwnaeth ei feddyg y goreu iddo, yn ogystal a'i briod a'i berthynasau -yr oedd pawb fel pe yn ymryson i'w wella. Ond bore Sul yr ail o Rhagfyr daeth y newydd fod ei ysbryd wedi .ehedeg at Dduw yr hwnalirhoesef Do, bu farw mewn tangnefedd y nos Sadwrn blaenor ol, ond ni bydd marw'r cof am dano ym meddwl aelodau'r eglwys a garai mor fawr. Cafodd angladd patchus iawn. Cynhaliwyd gwas anaeth yn y ty, ac yna aed i'r capel lie cafwyd gwasanaeth dwysiawn. Wedi dechreu'r gwasanaeth gan- y Parch Garrett Roberts ar rai o nodweddion cymeriad ein hannwyl frawd, chwareuwyd y "Dead March" gan Miss Hilda Williams. Yn y fynwent gwasanaethwyd gan y Parchn R. Garrett Roberts ac Owen Madoc Roberts, yr hwn. ddywedodd ychydig eiriau tyner ar lan y bedd. Wrth ddod o'r fyn- went teimlem ein bod wedi talu y gymwynas olaf i un o bendefigion ei booh Cynhaliwyd gwasnaeth coffa nos Sui dilynol pryd y pregethwyd gan ei weinidog. Y mae ein cydym deimlad yn fawr a Mrs Davies, yr hon sydd ei hunan yn wael ers amser bellach. Ac hefyd a'r mab, Pte. J. W. Davies, yr hwn sydd ym Mesopotamia, yn ogystal a'r gwe. ddill o'r teulu. G. J. OWEN.

IIMACHYNLLETH.

TISYDAIL..I

I LLANDUDNO II

Advertising