Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

NODIADAU WYTHNOSOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODIADAU WYTHNOSOL. Gweithiwyr Awstralia aV Rhy fel. Heblaw datgan eu barn yn groyw yn erbyn gorfodaeth filwrol, y mae Plaid Llafur yn Awstralia wedi cyhoeddi datganiad fra chryf ar bwnc y rhyfel. Credwn fod y dat- ganiad hwn yn gryfach a mwy gwerinol pe tae modd nag eiddo gweithwyr Prydain: cyhoedda yn ddifioesgni fod rhyfeloedd yn gyn nyrch cystadleuaeth masnachol, a rhaib cyfalaf am y llog goreu ac nid yw y fhyfel hwn yn eithriad. Cydnabydda nad ellir Jlwyr ddeol rhyfel tra y bo cyfalaf yn aros fel y mae heddyw—"Gwreidd- yn pob drwg yw ariangarwch," eto noda lu o bethau, ond eu syl- weddoli, a ant ymhell iawn i atal y fath gyflafan a hon byth ond hynny dywed y dylid cael cyfla fareddiad rhyngwladwriaethol, gwleidyddiaeth dramor agored, gwarafun gwneud arfau a chyfar- par rhyfel gan bawb oddigerth y Pywodraethau eu hunain, difodiad gorfodaeth filwrol ymhob gwlad, a chael y mor yn gwbl agored i fas- nach pob gwlad. Ymhellach, dy- wed nad ydyw gweithwyr Aws- tralia yn credu y bydd i orthrech- iad milwrol Germani arwain i  heddwch parhaol, fod Hwyr orthrechiad milwrol unrhyw wlad yn creu "ysbryd talu'r pwyth" i sydd yn y pen draw yn esgor ar ymdrechfilwrol arall. Ymhellach cyhoedda y datganiad fod gweith- wyr Awstralia dros roi pen ar y rhyfel hwn yn ddiymdroi, a thos alw cynhadledd o holl wledydd y byd i setlo y telerau heddwch a chan nad beth arall a gynhwysent, dadleua y dylai y telerau gynnwys fod pob talaith, neu wlad, a ores- gynwyd i gael ei dychwelyd yn ol, a bod pob llwyth neu genedl ym meddu awdurdod i benderfynu trostynt eu hunain sut y mynnant gael eu llywodraethu. Yn sicr y mae hawl gwerinoedd yn dechreu codi yn uwch i'r lan. Os yw y bitterendians, am baro toi i gario y rhyfel ymlaen, fel y dywedant "am ddwy flynedd arall," y mae'n berffaith sicr y bydd yn rhaid iddynt orchfygu nid y Germaniaid yn unig, ond corff mawr gweithwyr y wlad a'r Ym- herodraeth. Prin, ofnwn, v mae yr eglwysi wedi deffro, ond y mae goleu gwych y Bregeth ar y Myn ydd yn tywynu yn gryf ar lygaid llafur. —————

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

Family Notices