Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

NODIADAU WYTHNOSOL.

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Rwsia a Germani. Mae y drafodaeth heddwch cyd rhwng Rwsia a Germani mewn cyflwr amheus a pheryglus iawn. Y mae M. Trotsky wedi condemnio mewn modd agored a chwerw gynhygion Germani Yn ol y "Daily News" geilw hwynt yn rhagnthiol. Dywedir fod Von Kuhlmann a r Count Czernin wedi dychwelyd i Brest Litovsk, ac edrychir arhyn fel argoel fod gan y Galluoedd Canolog gynhygion newydd i'w gosod gerbron ynglyn a thynnuy milwyr o Poland, Cour- land, &c., ynglyn a'r hyn y dig- wyddodd y rhwyg. Awgryma Mr Ransome, gohebydd arbennig y Daily News," fod gan y cynrych- ioiwyr Germanaidd gyfarwyddiad- au newyddion o Berlin, ac y bydd iddynt yn y diwedd ildio i hawliau Rwsia ac y bydd i'r Gvnhadledd ail gyfarfod yn Stockholm. Dengys y digwyddiadau hyn fod plaid y Bolshevicks yn un wahanol iawn i'r peth y disgrifir hi gan wasg anghyfrifol y Northcliffididf Dywedwyd am danynt nad oedd- ynt yn ddim ond bradwyr-pobl wedi gwerthu eu hunain i Ger- mani. Beth a ddywed y wasg I. honno am danynt yn awr tybed? Ond cwestiwn pwysicachna hynny ydyw yr ymholiad beth a wna ein Llywodraeth ni yn yr argyfwng newydd yma ? A fydd iddi gyd- ymffurfio a chais Rwsia. a datgan, -yn wir cael yr oil o'r Cyngrheir- iaid i ddatgan-beth ydyw eu nod yn y rhyfel ? Yr Yfill wedi gadael Rwsia hyd yma yn unig, heb gym- orth na chyfarwyddyd, a yw y pol- isi ffol hwn i barhau ? Collasom gyfle euraidd yn y gorffennol, wele gyfle arall, a gollir hwn eto ? Peth ofer a diles, yn wir peth gwarad- wyddus ydyw siarad, a siarad am wneud cytundeb gyda gwerin Ger- mani ac ar yr un adeg anwybyddu a dirmygu gwerin Rwsia. Nid yw peth -felly ond y peth a eilw y Sais yn lip service." Dyuia gyfle eur- aidd i'r Cyngrheiriaid agor eu, breichiau a chofleidio Rwsia dderpocrataidd i'w Amynwes, a'i gwneud yn instrument mawr i ddwyn y rhyfel blin i derfyn trwy drafodaeth. Credwn fod popeth yn dibynnu yn awr ar gynnal a chyfarwyddo Rwsia.

Family Notices