Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

INODION 0 DDOLGELLAU.

CYLCHDAITH TREORCI.j

ILLANDUDNO.I

BRUNSWICK, LLUNDAIN. I

ILLANDILO.

ICORWEN.

COLWYN BAY.I

MOUNTAIN ASH II

I iiLLAN FFESTINIOG.

ITANYGRISIAU, BL. FFESTINIOG.-…

I GLASINFRYN. BANGOR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I GLASINFRYN. BANGOR. Yr oedd yn ddrwg iawn gennyf glywed yma, yn yr Ysbyty yng Ngwrec- sam, He y gorweddaf, am farwolaeth y brawd Richard Wyn Pritchard o'r He uchod. Mae fy nghyfeillion goreu yn cofnu arnaf heb i mi gael y fraint o ymweled a hwy, na'u hcbrwng i dy eu hir gartref. Daw ton o hiraeth drosof wrth feddwl am farw a chladdu y cyfaill uchod. Bu farw foreu, Sul, Rhagfyr 2, braidd yn annisgwyliadwy. Yr oedd wedi gadael ei waith er's wythnosau, a bu yn gorwedd dan Bronchitis am ychydig, ond ycbydig ddyddiau cyn y diwedd cymerwyd ef yn wael iawn. Dioddefodd y cwbl yn dawel a dirwg- nach. Coliasom fel gweithwyr ynddo ef gefnogwr cryf a chyfaill ffyddlon. Ym- laddodd yn ddewr dros gyfiawnder i'r weithiwr, a hynny i'w niwed ei hun. Wrth geisio gwella amgylchiadau eraill drygodd ei eiddo ei bun. Dyddorol oedd ei glywed yn annerch cyfarfodydd o'i gydweithwyr oddiar y llwyfan. Siaradai yn ddoeth a hwyliog. Gwelsom lawer cyfarfod yn dechreu yn ddigon fflat, ond pan gyfodai ef i siarad newidiau don y cyfarfod. Bob amser anogai ni i sefyll dros gyfiawnder a rhyddid. Yr oedd yn ddarjlenwr mawr ac yn gofiwr da. Nid gorchvvyl hawdd oedd ei goncro mown dadl. Yr oedd yn Weslead selog, a glynodd wrthym yn Soar, Glasinfryn, hyd y diwedd. Claddwyd ei weddillion ddydd lau, Rhagfyr 6ed, ym Mynwent Pentir. Gwasanaethwyd yn y capel ac ar lan y bedd gan y Parch W. J. Jones, Bangor. Gweddiodd Mr Jones yn dyner a theim- ladwy iawn, a cbanwyd ar lan y bedd "Bydd myrdd o ryfeddodau." Cydymdeimlir yn fawr a'i briod. Mae iddi chwech o blant, yr oil ond un yn. America. Buont i gyd yn garedig iawn wrth eu rhieni mewn gweithred a gair, ac eiddunwnliddynt nawdd y Nef, ac i'w hannwyl fam hefyd yn ei hunigedd. x Private JOHN JONES.

LLANDEBIE

[No title]