Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

INODION 0 DDOLGELLAU.

CYLCHDAITH TREORCI.j

ILLANDUDNO.I

BRUNSWICK, LLUNDAIN. I

ILLANDILO.

ICORWEN.

COLWYN BAY.I

MOUNTAIN ASH II

I iiLLAN FFESTINIOG.

ITANYGRISIAU, BL. FFESTINIOG.-…

I GLASINFRYN. BANGOR.

LLANDEBIE

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLANDEBIE Blin gennym gofnodi marwolaeth Sig- naller R. Newton Thomas (mab y diweddar Mr John Thomas yr hwn fu yn bregethwr cynorthwyol ar y Gylch- daith hon am flynyddau lawer) a Mrs Thomas, London House, yr hyn a gym- erodd le ar faes y frwydr Tach. 29ain. Y Saboth diweddaf cynhaliwyd cyfarfod coffadwriaethol iddo. Dechreuwyd y gwasanaeth am 2 o'r gloch. pregeth- wyd gan y Parch D. Corris Davies, ar y geiriau hynny, Ei haul a fachludodd, tra yr oedd hi yn ddydd." Cafwyd gwasanaeth effeithiol. Dangoswjid cydymdeimlad mawr a'r teulu, a'r weddw ieuanc yn eu galar a'u golled. Yr oedd "y capel yn orlawn, a rhyw ddwyster neulltuol yn meddianlu y gynulleidfa. Cafwyd unawd. fendigedig gan Mr Tom Williams, Ammanford, a chwareuwyd y Dead March," a'r gynulleidfa yn sefyll, gan Mrs Shearn. Chwith gennym feddwl na chawn gwrdd a'n cyfaill ieuanc ar y ddaear mwy, ond mae gobaith cwrdd eto, tudraw i'r afon. Dyddaned yr Arglwydd y weddw, a'i fam, a'r teulu oil yn eu tristwch.

[No title]