Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Wyliedydd Newydd, arcs ar y mur, Ac edrych allan am yr iawn a'rpur, Gwas'naetha grefydd,-seinia ar ein cly w Os gelyn feiddia gylfwidti Ddinas Daw. TALFAEDP.
Telerau Heddwcii. .t elerliu…
Telerau Heddwcii. .t elerliu Heddweh. (Gan Mr E. T. JOHN, AS.). Gwahoddwyd Mr. Edw. T. John, A S., i ddatgan ei farn ar y telerau heJdvvch a gynygir gan y Count Czernin yn Brest Litovsk ar ran yr.! Almaen a'i Chyngrheiriaid. Dywed Mr John eu bod yn dat- guddio yn noliol ddiymwad feth- iant llwyr amcanion arweinwyr milwrol Prwsia. Er gwaethaf ei haberth a'i dioddefaint difesur, gwel yr Almaen y bydd rhaid iddi ymfodloni ar sicrhau heddwch heb estyn cortynau ei phabell un tipyn. Y mae hyn yn hynod darawiadol pan y sylweddolir sefyllfa neilltuol o ffafriol ei byddinoedd yn bresen nol, ac y mae i'w briodoli yn ddi- amheuol i weithrediad nerthoedd trefnidol a moesol. Tra y mae'n eitha sicr fod gwlad- weinwyr yrAlmaen yn sylweddoli yn Hawn arwyddocad cyfranogiad yr Unol Daleithiau yn y rhyfel, y maent heddyw yn fwy anesmwyth ynghylch ymdaeniad ysbryd chwyl- droad ymhlith eu bobl, yn cyd- redeg a chynnydd cynni ac angen octyd a dwfn ymdeimlad o'u hirfaith ddioddefaint. Ni feidd iant am hynny droi dust fyddar at gynhygion beiddgar gwerinwyr Rwsia. Er fod cynhygion Count Czernin yn annigonol fel trefniant terfynol, y maent yn sail sylwedd i ymdrin iaeth pellach, a gosodant ieid- rwydd ar i Brydain a'i chyngrheir- iaid hithau hefyd gynnyg telerau fyddont yn cyfarfod a thelerau yr Almaen hyd y gellir heb beryglu dyfodol y cenedloedd. Yn ddoeth, rhoddodd yr Ardalydd Lansdowne y flaenoriaeth i'r ystyriaeth o ddio- gelwch—yr hyn a sicrheir yn unig drwy ddiarfogiad cyffredinol-i ddechreu yn ddiatreg ac i barhau hyd nes y byddo yn gyflawn, a hynny yn gyfunedig ag ataliad llwyr ar wneuthuriad cad ddarpar o bob math, milwrol, morawl, ac awyrol, ac yn cynnwys cread trefn iant awdurdodol ac effeithiol o gyflafareddiad cydwladol drwy offerynoliaeth Cyngrhair y Cenhed- loedd, o angenrheidrwydd yn seil iedig ar ryddid masnach cyflawn, a hawl cenhedloedd mawr a man i hunan-ddatblygiad dilestair I Dyma elfennau pwysicaf a mwyaf sylfaenol heddwch parhaol, ac os derbynir hwynt gan bawb symlheir yn ddirfawr rai o gwes- tynau mwyaf anhydrin tiriogaeth- au. Ynglyn a chwestiwn anodd Al sace Lorraine, ni cheir diangfa foddhaol drwy bleidlais amheus ond drwy wneuthur y ddwy dal, aith yn annibynnol ar Ffrainc a'r Almaen, gan o leiaf eu gwneud hwy, Luxemburg, Belgium, Holland, a Switzerland, yn wled ydd amhleidiol, heb fyddinoedd ac heb dollau masnachol o unrhyw fath. Y mae yn eilhaf tebyg fod Awstria bron mor avyddus i fabwysiadu diarfogiad cyffred- inol ag ydyw Rwsia ei hun, a chyda diflaniad bygythiad gallu- oedd unedig Rwsia a Ffrainc, ni adewir i'r Almaen un esgusawd golygus dros gadw 1 fyny ei bydd- inoedd enfawr. Llawenydd digymysg i'w phobl fydd gwared igaeth o iau annioddefol zel milwiol a rhaib Diffyndollaeth, cyfrin ormes ei harweinwyr milwrol, ei thirarglwyddi trahaus, a'i mawrion manachol. (Dan amgylchiadau felly byddai ail drefnu safle Finland, Poland, Taliethiau'r Baltic, gwiedydd y Balkans ac Ymherodaeth Awstria Hungary, gyda gwahanol raddau o hunanlywodraeth ac annibyn iaeth yn dibynou i raddau helaeti-i ar ddewisiad y gwahanol genedl- loedd yn Ilawer llai nag o dan amgylchiadau fyddai yn galw yn barhaus am ystyriaeth o fanteision ac anfauteision milwrol a mas- nachol. Yn eitha tebyg, bydda.i yn bosibl drwy drefniadau ariannol ddwyn Twrci i ddygymod a rhydd- had y tiriogaethau a oresgynwyd gan y Cynrheiriaid Gydagolwg ar Drefedigaethau yr- Almaen, dylid eu hunG hwy a'r Belgian-Congo yn un Wladwr- iaeti- Cyd-wladoi, a dylid sefydlu masnach rydd gyfiawn ymhob Trefedigaeth. Dylai Belgium yn ddiamheuol dderbyn iawn tra sylweddol am eu rnerthyrdod yn ol pob tebyg bydd i yr Almaen yn fodlon i gyfrannu yn haelionnus—dylai Ffrainc a Phryd ain hefyd (lofio- en methiant trych. 1 neb us hwythau i gadw eu hadd ewid i amddiffyn yn effeithiol an-- nioyniaeth Belgium—mor wahanol i ffyddlondeb a medr Mr Gladstone yn 1870. Y mae y sefyllfa erbyn hyn y fath agi wneud parhad y rhyfel yn drosedd anesgusodol yn erbyn y ddynoliaeth. Y mae y cri am "Heddwch drwy fuddugoliaeth milwrol gan bwy bynnag y'i cod- ir yn baganiaeth noethlymun, yn llwyr unol ag ysbryd Prwsia, yn seiliedig ar athroniaeth fas arwyn- ebol a chamddealltwriaeth sylfaen- 01 o'r natur ddynol.
I —,—■—■tp w —■—-—■—•I MAWRHYDI…
—,—■—■ tp w —■—-—■—• MAWRHYDI CYDWYBOD. Yr wythnos o'r blaen rhoed Pte. George M. L. Davies, cyn-oruch- wylhNf Banc yng Ngwrecsam, a gwrthwynebydd cydwybodol, ar ei brawf o flaenLlys Mil wrol yng Ngwrecsam am wrthod ufuddhau i orchymynion yr awdurdodau mil- wrol. Honid i Davies wrthod gwisgo y ddiwyg filwrol. Bu un adeg yn swyddog gyda'r Tiriog aethwyr, ond ymddiswyddodd oherwydd ei ddaliadau crefyddol. Dedfryd y Llys ydoedd ei fod i'w garcharu am 112 o ddyddiau gyda llafur caled. Y mae Mr Davies yn wyr i John Jones, Talsarn, y seraff tanllyd a fu yn llosgi mor loyw ystalwm ym mhulpud Cymru. Y mae hefyd yn ddyn ieuanc goleuedig iawn, a gwir grefyddol ac yr oedd ei amddiffyniad gerbron Tribunlys Gwrecsam yn un uchel a nodweddiadol; a chan y credwn y teifl oleu gwych ar safie corfi mawr y dewrion sy'n sefyll tros hawliau cydwybod gosodwn y rhannau pwysicaf ohonno yma. Dywedai Mr Davies fod ei am- ddiffyniad yn seiliedig nid ar unrhyw fanion cyfreithiol, na rheolau milwrol, ond ar ystyriaeth- au moesol sydd yn 01 ei farn yn lletach a phwysicach na'r cwbl. Ar bwys hyn yr oedd yn anturio atgofio y Llys nad oedd anufudd dod i orchymyn milwrol, bob amser wedi ei ystyried yn drosedd. Yn 1914, am resymau arbennig, trefn odd y Llywodraeth i synrad corfflu- oedd o filwyr i leoedd arbennig yng ngogledd yr Iwerddon; wedi derbyn y gorchyinyn mynegodd y Cadfridog Gough, ac eraill o s'.vyddogion milwrol y Curragh, nad allent gan lais cydwybod ufudd- hau i'r wys a chymeryd rhan mewn ymgyrch filwrol yn erbyn eu 1 d cydwladwyr. Yn awr, serch eu bygwth yn dost, y mae anufudd dod y dynion hyn yn aros hyd heddyw heb ei gospi. Bu y diweddar Faeslywydd,— Arglwydd Roberts, yn pledio tros- tvnt yn Nhy yr Arglwyddi, a thraethodd yno eiriau arwyddocaol hynod, dywedodd Ewch i lawr yn ddigon dwfn a chewch ym mhawb ohonom haen nas gall disgybliaeth na'r | un dylanwad allanol arall dorri trwyddi. Mae'r peth yma i'w ganfod amlaf a chryfaf yn yr hyn a eilw dynion yn gydwybod— ryw syniad greddfol am y gwa- haniaeth Cjdrhwng yr hyn sy'n iawn a'r hyn sydd heb fod felly- ar yr hwn nad all yrnresymiadau na deddfau dynol wneud unrhyw argrafl. W yneb yn wyneb a'r peth hwn hollol ofer ydyw son am fanion cyfrei thiol ac am gosbau a phenydiau milwrol. Ni thai y cvfryw ddiin pan y 13o cydwybodau dynion wedi eu deffroi." Ar yr un tir a'r Gwyddelod hyn y mynnai yntau yn awr seilio ei ddadl, ac amddiffyn ei hun yn wyueb y cyhuddiad a osodid i'w erbyn. Yr oedd ei gywirdeb, fei gwrthwynebydd cydwybodol, eisys wedi ei addef gan dri thribimlys —Tribunlys Fmchley, yr hwn a roddodd iddo gwbl ryddhad-Tri- bunlys Westminster, a'r Tribunlys Canolog, y naill a'r llall o'r rhai a roisant iddo ryddhad oddiwrth bob gwaith milwrol ar yr amod ei fod yn cyilawni ryw waith o bwys- igrwydd cenedlaethol a gymerad- wyid gan gorffi meddygol y Crynwyr. Cyfeiriodd Mr Davies at y ffaith iddo fod unwaith yn swyddogyey Fyddin Diriogaethol, ond iddo yn gynnar yn y flwyddyn 1914 fod yn ddeilydd argyhoedd- iadau ysbrydol cryfion y rhai a'i dygodd i sylweddoli tylodi ei enaid a'i angen am weled, d chael gafael, a'r Dduw yn y byd. Dech- reuodd fyfyrio yn nysgeidiaeth lesu Grist, a hynny gyda dymuniad mawr am gael gafael ar y gwir- ionedd." Canfyddodd ynfuan mat yr amod cyntat i fod yn ddisgybl. i Grist oedd cadw- ei orchymynion Ef, ac ymhlith y rhai hynny yr oedd y gorchymynion— "Cerwch eich gelynion, a gweddiwch tros y rhai a'ch erlid. iant chwi" Dod dy gleddyf yn dy wain, canys y sawl a gymer gleddyf a ddifethir a chleddyf." Gorchymyn newydd yr wyf fi yn ei roddi i chwi ar garu ohon" och eich gilydd: fel y cerais i chwi, ar garu ohonoch chwithau bawb eu gilydd." Teimlai ei fod yn awr yn torri trwy y lien,—yn mynd heibio i bob ffurf ystradebol o Gristionogaeth, ac yn wynebu y givir ei hun. Yn dra buan, dan bwvs argyhoeddiad, bu orfod iddo ymddiswyddo o'r fyddin. Rffeithiodd y goleu newydd a gafodd ar ddysgeicjiaeth lesu, a'r ymdeimlad o'i anhawster i'w byw hi, yn drwm iawn ar ei iechyd cafodd adferiad; a phenderfynai fyw y ddysg yn ol y goleuni a gafodd ami, ond erbyn hyn yr oedd ein Teyrnas yng nghanol heldrin flin y rhyfel. Gan gredu mai felly y rnynnai Crist iddo, rhoddodd y swydd bwysig a ddaliai ar y pryd i fyny, gan ymroddi goreu y medrai i weithio ymhlaid tangnefedd ac ewyllys da." Dioddefodd lawer, collodd lawer o gyfeillion, yr oedd yn alltud, I fesur, mewn. cymdelth. as, ond credaf ei fod yn gwneud gwaith ei Arglwydd ac er fod rhai o'i hen gydnabod yn troi cefn arno cafodd help a chyinorth ) lawer. priod un 0'[ prif fnawer. priod un o'r prif gadfridogion ato yn datgan y blinid meddwl ei gwr am fod y rnilwyr truain yn cael eu gwneud yn ebyrth cynllwynion gwladweinwyr a new- iaduron. Yr oedd y llythyr hwn, ac eraill cyffelyb, wedi cynnal ei galon, a'i ysbrydoli i fyned rhag- ddo yng ngwasanaeth ei Arglwydd. Cynhygipdd ei wasanaeth i "Frawdoliaeth y Cymod "-Cyni- deithas grefyddol sy'n credu, ac yn I gwneud a all i argyhoeddi dynion nas gellir lladd geiyniaeth a thrais ond trwy addfwynder a chariad. Os na byddai yn anghyson a gorch- ymyn ei Arglwydd, yr oedd yn barod i wneud y gwaith iselaf a distadlaf. Bu am dymor yn llafur- wr amaethyddol, ac am dymor arall yn gweithio ynglyn a Chym deithas oedd yn ymroi i hyfforddi a gwella carcharorion a throsedd- wyr. Yr oedd y gwaith yn ami yn I anodd, ac yn peri ilawer o ddiodd- efaint; ond yr oedd yn ddechvydd yn ei ganol yn wir, ar brydiau, teimlai fod y cynni a'r dioddefaint I yn ysbrydiaeth, ac yn adgyfnerth- iad i'w galon, oedd mor effro i'r a la nas a'r boen a'i cwmpasent ar bob Haw. Trwy lid, peiriannau, a fieryll- iaeth, yr oedd y rhyfel wedi dat- blygu i fod yn gynafan ercli y mae y cytundebau cudd sydd wedi eu cyhoeddi yn dangos fod y del- frydau moesol uchel a ddelid i fyny yn nechreu y rhyfel yn cael eu I bwrrw heibio. Yn Rwsia yr oedd y cwbl wedi troi yn Rhyfel Car- trefol; ac yn ol y Times," a Dirprwyaeth ar Achosion Anorff- wystra Llafurol," yr oedd perygl am beth felly hefyd yn ein gwlad ninnau. Tystiai y Ddirprwyaeth nad oedd dim ond ysbryd new- ydd a allai ochelyd galanas cyd- rhwng dosbarthiadau cymdeithas a'i apel at y Tribunlys oedd am iddynt ganiatau rhyddid iddo i fynd rhagddo a gwneud a allai i greu yr ysbryd newydd," yr hwn, yn ol y Ddirprwyaeth, a allai achub y wlad. Wedi mis o bryder, a llawer ym- drech meddwl, yr oedd wedi dod i deimlo y dylai osod- "ewyllys Duw'' yn uwch na phopeth. Ys- grifennodd at y Tribunlys Canolog i'w hysbysu am ei benderfyniad, ac aeth 0 fan i fan i bledioam heddwch, ac am ewyllys da ymhlith dynion. Gwahoddodd Arglwydd Salisbury ef i fyned i'w weled, yr hyn a wnaeth, ac anogodd ef i apelio am i'r Tribunlys Canolog ail agor ei holl achos: yr hyn a ganiatawyd ond yr oedd y dyf- arniad wedi ei oedi, ac hyd yr oedd efe yn deali wedi ei gyflwyno i ystyriaeth y War Cabinet, aelodau yr hwn, meddir, ac eithrio Mr Lloyd George, sydd ymhlaid rhyddhau Gwrthwynebwyr Cydwybodol." Beth bynnag, o'r diwedd hysbys- wyd ef fod ei apel wedi ei gwrthod. Serch hynny, parhaodd i fynd o fan i fan i anog a chreu ysbryd new- ydd," a'r canlyniad oedd ei fod yn awr ger eu bron. Hawliai gael ei ryddhau o'r fyddin yn yr hon y gosodwyd ef, nid gan ddim ond gan fanion cyfreithiol a dyfeisiadau gwladweinwyr. Nid oes angea manylu ar yr amddiffyniad hwn. Sieryd drosto ei hun.
Y LLYWODKAETH A RHYDDID CYDWYBOD.
Y LLYWODKAETH A RHYDD- ID CYDWYBOD. Yng Nghyfarfod Chwarterol Cylchdaith Manchester, a gynhal- iwyd ddydd Sadwrn, ar gynhygiad yr Arolygwr, y Parch. John Felix, pasiwyd y penderfyniad a ganlyn yn unfrydol:— "Fod y cyfarfod hwn, yn cyn- rychioli holl Wesleaid Cymreig Manchester a Salford, yn gwrth- dystio'n gryf yn erbyn yr adran yn Mesur Etholiadol y Llywodraeth sydd yn difreinio y Gwrthwyneb- wyr Cydwybodol. Ystyria'r cyf- arfod fod shyddid cydwybod yn garreg sylfaen Ymneilltuaeth, a geilw ar y Llywodraeth, os am gefnogaeth ei hoil ddeiliaid mewn adeg o argyfwng yn hanes y deyrnas,. i ddileu yr adran gryb- wylledig yn ddioedi." Fod copi o'r penderfyniad law. i'w anfon i'r Prif Weinidog, Y Gwir Anrhyd. Arglwydd HIWit Ceeil, a Syr John S. Randlcs.