Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Y Rhyfel o Ddydd i Ddydd.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y Rhyfel o Ddydd i Ddydd. I Dydd Lion, Rhagfyr 31 Aeth' tair o'r 'destroyers' yn erbyn mine neu fe'ij tarawyd gan torpedo mewn tywydd niwlog ger glannau Holland yn ystod y nos, Rhagfyr 22-23. Collwyd tri ar ddeg o swyddogion a 180 o ddyn- ion. Y mae cyflegrau y gelyn yn brysur i'r gogledd-ddwyrain o Ypres, ac mewn canlyniad gwn- aethant ymosodiad yn erbyn ein safleoedd yng nghyffiniau ffordd haearn Ypres Staden. Curwyd yr ymosodiad yn ol yn llwyr. Yn ol yr adroddiad Frengig cur- wyd ymosodiad o eiddo'r gelyn yn erbyn man safleoedd i'r de o St. Quentin, ac yng nghyffiniau Bezo- nvaux, a Vangrois. Cymerodd y Ffrancod amryw garcharorion. Dydd Mawrth. Y mae'r ymladd, yn parhau i I. fyned ymlaen ar ffrynt Cambria ar y Welsh Ridge. Adenillodd ein milwyr y rhan bwysicaf o'r safle- I' oedd a gymerwyd gan y Germ- aniaid ddydd Sul ar ffrynt o ddwy filltir mewn gwrthymosodiad. Ddoe adnewyddodd y gelyn yi vmosodiad ar ffrynt o tua 1,260 o latheni gan ddefnyddio nylif tanllyd. Llwyddasat i ymwthio i warchffos mewn un Ile, ond bwriwyd hwy oddiyno mewn gwrthymosodiad. Ar y gweddill o'r ffrynt curwyd yr ymosodiad yn ol yn llwyr. Hawlir yn yr adroddiadau a gyhoeddwyd yn Berlin eu bod wedi cymeryd 375 o garcharorion. Edrydd y Cadfridog Allenby fod ei filwyr ddydd Sul wedi symud ymlaen ymhellach i'r gogledd a'r gogledd-orllewin o Jerusalem. Ymddengys fod yr ymosodiad a wnaed gan y Tyrciad ddydd lau, ac a barhawyd ym chwe ,awr ar hugain wedi ei gynllunio i adfedd- iannu Jerusalem. Gwnaed yr ymosodiad pender- fynol hwn gyda chymorth y Ger maniaid, gyda'r canlyniad iddynt gael eu trechu'n llwyr; enillodd ein milwyr saith milltir o dir, gan gymeryd 600 o garcharorion, ac achoi colledigion mawr. Yr oedd tua mil o gyrff y Tyrciaid ar y maes. Dydd Mercher Y mae'r Italiaid wedi bwrw ymaith y gelyn o'u safleoedd ar yr ochr dde i'r aton Piave, yr hon a enillwyd ganddynt yn ystod y y dyddiau cyntaf wrth ymladd ar hyd y ffrynt dan sylw. Y mae'r drofa yn Zenson yn cael ei dal yn awr gan yr Italiaid. Y mae'r gelyn wedi boinbio pedair o drefi agored ereill ar y gwastadedd. Fel arfer yr oedd pethau ar hyd y ffrynt Brydeinig, ac ar ol i'r Ger- maniaid gael eu trechu yn yr ail ymosodiad y mae'r brwydro ar hyd y Welsh Ridge wedi tawelu. Yn ystod Rhagfyr, cymerodd ein milwyi 1,018 o garcharorion a 103 o wn beiriannau. Y mae'r Cadfridog Allenby wedi v ■■ I symud ymlaen ymhellach ar hyd ei linell i'r gogledd o Jerusalem, ac y mae nifer y carcharorion a gymerwyd wedi cynhyddu i 750. Erbyn hyn y mae'r tywydd oer, gwlyb, a gwyntog a gaed dros y Nadolig, wedi gwella. Y mae teiigram diwifrau yr America wedi codi i fyny genhadwri'r Bolsheviks at y Cynghreiriaid. Cynhwysa delerau heddwch Brest Litovsk, ac yn y rhai hyn gofyna i'r Cynghreiriaid gyd synio. Penderfynwyd ar hyn yn y gyn hadledd a gynhaliwyd Rhagfyr 22. Y ffifle'r genhadwri yn dangos I awydd am ddod i ddealltwriaeth 1 "gynted agy mae'n bosibl ar hedd- wch cyffredinol, cyfiawn, a derbyn- iol i bawb." Dydd Iau. Dywedir fod un o'r cynrychiolwyr Rwsiaidd yng Nghynhadledd Brest- Litovsk wedi gwneud rhai datgudd iadau parthed agwedd Germani ynglyn a'r- heddwch. Ystyria fod telerau Germani yn gwbl anerbyn- iol gan Rwsia. Dywed fod Ger mani yn barod i adael Belgium a'r tir sydd wedi ei feddianu ganddynt yn Ffrainc, ar yr amod fod Mesopotamia ac Arabia i gael eu rhoddi i fyny. Gwrthodasant roddi unrhyw diriogaeth sydd yn eu meddiant i fyny hyd nes y cwbl- heid heddyvch cyffredinol. Nid oes gadarnhad i'r mynegiad fod y Bolsheviks wedi torri ymaith y drafodaeth gyda Geruiani. Yn ol yr adroddiad Ffrengig y mae'r cyflegrau wedi bod yn brysur iawn i'r dwyrain o'r Meuse. Y mae ymgais y gelyn i geisio croesi'r Piave yn Intestadun wedi cael ei ddyrysu, a gwasgarwyd deg llong yn Ilawn olfilwyr gan ynnau'r Italiaid. Ymosododd patrol Prydeinig ar safleoedd blaen y gelyn, gan achosi colledigion mawr arnynt a chymer- wyd carcharorion. Dygwyd pump o longau-awyr y gelyn gan ynnau a llongau awyr y Cyngrheiriad. Eglurhad y gelyn ar golli Zenson, ar Ian orllewinol y Piave, yw fod y lie wedi cael ei adael yn wirfoddol Rhagfyr 26, ac na chanfu'r Italiaid hyn hyd Rhagfyr 31. Yr wythuos hon cyhoeddir fod 18 o longau uwchlaw 1,600 wedi eu suddo, a 3 o rai islaw hynny.

TRYSORFA'R "GWYLIEDYDD NEWYDD."

I -G- O-L. I BWRDD Y GOL.…

At Ein DarSlenwyr a'nI I .DosbArthwyr.I

[No title]

Advertising

[No title]