Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

"-';BYD CREFYDDOL. ,I

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

BYD CREFYDDOL. I JJY;, -————- lewn, cyfarfod lliosog o gyn- rychiolwyr Eglwvsi Rhyddion Bethesda (Arfon), a'r Cylch (yr oedd yno 13 o eglwysi yn cael eu cynrychioli), cafwyd yno drafod- aeth ar hawliau cydwybod, a chyda'iMinfrydedd mwyaf pasiwyd y penderfyniad canlynol:— Fod Cvngor Eglwysi Rhydd ion Bethesda a'r Cylch, wrth ys- tyried hawliau cydwybod ar ddyn ac yn wyneb yr adran yn y Ddeddf Seneddol sydd yn eu an rhydeddu, yn protestio yn gryf yn erbyn yr anghyfiawnder o ddi- freinio y g wrth wyneb vvyr cyd- wybodol hyd yn oed am dymor." ( il Gwelsom fod cyfeillion yn bwr- iadu rhoi carreg ar fedd y diwedd ar Barch. D. Rhagfyr Jones. Brodor o Ddolgellau oedd Mr Jones, a gweinidog gyda'r Anni bynyr yn y De. Rhyfeddem na buasai ychwaneg o son am dano, canys yr oedd yn ysgrifennwr rhag- orol. Y mae'n debyg mai ei lyfr- au adnabyddus oedd I'r Aifft ac yn ol," a'r "Llofft Fach, ond nid ellir dyweyd eu bod hwythhu'n adnabyddus iawn Yr ydym yn rhy fynych yn anwybyddu ein llenorion goreu ac yn moli rhai digon symol. Dywed adroddiadau Cenhadol Cyfundeb y Bedyddwyr y cafwyd blwyddyn eithriadol Iwyddiannus. Ni bu o'r blaen mo'i chyffelyb. Er amlhau o'r rhwystrau a phrin- hau o'r gweithwyr, mewn llawer gorsaf, eto bedyddiwyd 3,050 o droedigion yn ystod y deuddeng mis,—'y nifer lluosocaf mewn unrhyw flwyddyn yn hanes y G/mdeithas.' Trwy hyn, dyblir y cyfartaledd am y deng mlynedd diweddaf. Achos arall o lawen- ydd yw cyfraniadau haelionus a ffyddlonyr egl wysi mewn cyfnod cyntaf ers blynvddoedd, caewyd y cyfrifon heb ddyled Eleni, ymron ar derfyn y flwyddyn, yr oedd saith mil o bunnau yn brin i gyfarfod y gofynion. Hysbyswyd y ffaith hon, a chliriwyd y swm yn gyfangwbl cyn pen tair wythnos Pasiodd Cymanfa hanner blyn- yddol Bedyddwyr Flint, Dinbych, I a Meirion y penderfyniadau hyn:— (1) :_H Fod y Gynhadleddhon yn edrych gyda galar dwys ar y difrod presennol ar egwyddorion, bywydau ac eiddo, yn dymuno erfyn ar y Llywodraeth i fanteisio ar y cyfle cyntaf posibl i ddyfod i heddwch terfynol a pharhaol, a'r heddwch hwnnw i fod yn amddifad o'r hyn all brofi yn seiliau rhyfel- cedd yn y dyfodol. (2). Gweinidogion Ordeiniedig Ein bod yn apelio at y Llywod raeth ar iddi gydnabod bob un a ordeinir gan yr eglwysi: yn weinidogion fel rhai i'w rhyddhau o ofynion Deddf Gorfodaeth Filwr- ol. (3). Gwrthwynebwyr- Cydwyb- odol Ein bod yn apelio at y Llywod- raeth ar iddi dalu sylw buan a theil- wag i achos y Gwrthwynebwyr Cydwybodol, ac ar iddi roi terfyn buan ar y dull o ymddwyn tuag ato, ac yn arbennig at y cynllnn o gosp- edigaethau ami a pharhaol am yr hyn nad yw ond un trosedd. (4). Purdeb. (a) Ein bod yn datgan ein Haw. enydd fod y Cynghorau Sirol yng Ngogledd Cymru yn talu sylw mor helaeth i ffyniant ac effeithiau an- dwyol amhurdeb cymdeithasol yn ein plith, ac yn dymuno iddynt bob llwyddiant yn yr ymdr.ech i wrth- wynebu y drwg peryglus hwn. (b) Ein bod yn dymuno ar i'r eglwysi roddi eu hystyriaeth mwy. af difrifol a gweddigar i'r mater hwn, ac i wylio ac annog y bobl ieuainc i fod yn wyliadwrus ac i rodio llwybrau purdeb a sancteidd. rwydd." I

COLOFN Y LLENOR.

Advertising