Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

I .' .< TREGARTH. II

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

.< TREGARTH. I Cynhaliwyd Cyfarfod Chwarterol y Gylchdaith yn Siloam, RIng. 22ain, am bump o'r gloch. Yn bresennol Parchn R. J. Pariy (Arolygwr), W. R. Jones, y ddau oruchwyliwr, Mri Robert Jones a Henry Thomas, ynghyda chynrychiolaeth dda o'r gwahanol eglwysi. Dechreuwyd y cyfarfod trwy ganu, ac offrymwyd gweddi gan Mr Thomas Davies- Darllenwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a chadarnhawyd hwy. Darllenwyd cyfrif yr aelodau gan Mr Robt. Jones, 'roedd dau o aelodau wedi marw yn ystod y chwarter, y. chwaer Mrs Jones, o Shiloh, a'r brawd ieuanc Mr Willie Williams, a syrth- iodd yn aberth i'r rhyfel ofnadwy yma, 0 Siloam. Dywedwyd pethau rhagorol am danynt. Darllenwyd y eyfrif ariannol y rhai oedd foddhaol. Diolchwyd i'r swyddogion canlynol ac ail-etholwyd hwy: y ddau oruch- wyliwr, ysgrifennydd y cyfarfod chwarter, ysgrifennydd y Capelau-Mr R G Pritchard, yr hwn sydd oddicartref ar hyn o bryd, a gofynwyd i'r Parch I T. Jones Hughes wneud ei waith hyd nes y daw yn ol. TTelly hefyd gyda Mr Jno-Hughes, Ysgrifennydd y Genhad- aeth Dramor, gofynwyd i Mr Rowland Jones wneud y gwaith tra bydd yntau oddicartref. Jasiwyd fod y Parch W. R. Jones i weithredu yn ysgrifennydd Addysg y Gylchdaith. Darllenwyd llythyr oddiwrth Ysgrif- ennydd Dirwestol y Dalaith yn gofyn am gasgliad y Sul dirwestol. Pasiwyd fod pob eglwys sydd yn gallu yn anion ei ohyfraniad i'r Ysgrifennydd Cylch- deithiol—Mr Tom Williams. { Galwyd eylwat fisolion ein cyfundeb a chymellai yr Arolygwr y gylehdaith i roddi pob eyfnogaeth iddynt. Galwyd:sylw befyd. at, y Sul eyataf o'r flwyddyn newydd, a phasiwyd fod i bob eglwys wneud ei threfniant ei hun. Darllenodd yr Arolygwr lythyr addi- iwrth Gadeirydd y Gynhadledd yn gofya i'r eyfarfod ddewis pwyllgor i drefnu, gyda cbyaorthwy pwyUgor arall, ar gyfer y milwyr sydd, ae a gaiff ei rhyddhau o'r fyddin. Penodwyd y PwyMgor gyda'r Parch W. B. Joaes, Rhiwlas, yn ysgrifennydd iddo. Pasiwyd pleidlais o gydymdeinalad a theuluoedd Mr William Prifcehard, Peniel, a Mr John Williams, Shiloh. Pasiwyd y penderfyniad canlynol gyda brwdfrydedd Fod y cyfarfod hwn yn gwrthdystio'n bendanfc yr adran yn Mesur Diwygiad Etholfraint sy'n awr gerbron y Senedd, a amcana ddifreinio Wrthwynebwyr Cydwybad i wasanaeth filwrol o'u breintiau polifcicaidd fel dineswyr. Diddyma'r adr'an hon y darpariadau wnaed ar gyfer y cyfryw ddynion yn Neddfau Gwasanaeth Filwrol Orfodol 1916. Hefyd mae'n erlid dosbarth o ddynion geisient fanjseisio ar ddarpar- iadau y cyfryw ddeddfau, ac ymhellach ymedy oddiwrth, egwyddorion sylfaenol y cyfansoddiad Prydeinig. Y pender fyniad i'w anfon i'r Prif Weinidog, ac i'r Ysgrifennydd Cartrefol. Terfynwyd y cyfarfod gan yr Arol- vewr. I

CYLCHDAITH RHYL. - I

I"IRHUTHYN. .\ I-I

) CYLCHDAITH BAÊNAU fESTINI08.

CYLCHDAITH OAKFIELD, LERPWL…

! CYLCHDAITH LLANRHAEADB.

I CEFN MAWR.