Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Y GWRTHWYNEBYDD CYD| WYBODOL.…
Y GWRTHWYNEBYDD CYD- | WYBODOL. Mr Golygydd,— ¡ Carwn ychydig o'eh gofod gwerthfawr i ateb llythyr Mr R. Hugh es, Felinheli, ar fater y ) gwrthwynebwyr cydwybodol.  Credaf, pe buasai wedi darllen llythyr yn fanylach, nad ysgrif- jenasai fel y gwnaeth ond gan iddo dybied y gallai setlo fy nhynged unwaith am byth, tybiaf mai gwell i mi gaelgairag ef trwy gyfrwng y Gwyliedydd l Fy mhechod cyntaf yw apelio at Lywydd y Gymanfa am iddo roddi awdhrdod ei swyddo blaid protest Cymru Wesleaidd yn erbyn anghyfiawnder y Senedd. Ym- ddanghosodd fy apel yn y Gwyl- iedydd am Rhag. lleg. Yr wythnos flaenorol yr oedd erthygl arweiniol ddihafal yn y Gwyliedydd yn galw arnom i brotestio, ac yn yr un rhifyn yr oedd ysgrif gref ac argy- hoeddiadol gan y Parch. John Felix, Cyn-Lywydd y Gymanfa, R- Chadeirydd Talaith Gyntaf y Gogledd, yn gal w arnom i wneud ein protest yn hyglyw. A yw y brawd o Felinheli yn honni nad oes gan neb hawl i apelio at Lywydd y Gymanfa ar fater sy'n cyffwrdd mor agos a chyd- wybod a chyfiawnder ? Pa un ai cellwair neu beth y mae eich gohebydd yn ei baragraff nesaf? Dyma gwrs yr ymresymiad. Nid oes neb i apelio at Lywydd y Gymanfa ar ddim heb wybod ymlaen Haw fod y Llywydd ac yntau yn unfarn ar y mater dan sylw. Nid yw'r Llywydd i anfon gair at yr Arolygwr, heb iddo trwy ryw ffordd gyfriniol ddod i wybod fod pob Arolygwr yn unfarn ag ef. A thrachefn rhaid i'r Arolygwr alw heibio ei gydlafwrwyr a chael allan rywfodd eu bod hwythau yn cyd-olygu. Ac ar ben hyn oil, rhaid dod i ddeall fod pob cynrych- iolydd lleygol o'r Cyfarfod Chwar- terol yn cydweled ar y mater. Ac yn goron ar y cwbl rhaid treulio haner awr i aros uwchben mater y mae pa wb yn unfarn arno < A glybu rhywun tu yma i lidiart y mynydd am ffoledd o'r fath o'r blaen ? A yw Mr Hughes yn aeled o Gyfarfod Chwarterol ei gylchdaith ? Os ydyw, ai dyna'r ffordd y dygir y gweithrediadau ^mlaen? Ond hwyrach fod Mr Hughes wedi darganfod rheolau newyddion tua Felinheli, ac nad oes yr un arolygwr o hyn allan i ddcd ag unrhyw fater o flaen Cyfarfod Chwarterol heb sicrwydd ymlaen llaw y bydd pawb o'r brodyr yno'n un, heb vneb yn tynn'n groes. Aiff ymlaen i ddweyd fod dwyn y mater gerbron yn Anghyfundebol, am iddo gael ei benderfynu yn y Senedd ar linellau plaid. Pa fodd y gall hyn fod pan y gadawodd y Llywodraeth y mater yn hollol agored i farn bersonol pob aelod, a phan gofir mai'r araith hyotlaf yn erbyn difreinio ydoedd eiddo Arglwydd Hugh Cecil. Y mae'n wir fod mwy o Geidwadwyr o blaid difreinio nag o Ryddfrydwyr, ond yr oedd saith o Ryddfrydwyr sy'n cynrychioli Cymru o 'blaid difreinio tra y ceid 13 yn erbyn. Felly, ni ellir dadleu yn erbyn dwyn y mater gerbron am i'r Senedd ddelio ag ef ar linellau plaid. [ Ond a chaniatau ei fod on party lines," ai onid yw cwestiwn dirwest telly hefyd? A beth am Ddat- gysylltiad "? Ymladdwyd y cwest- iwn hwnnw yn hollol ar linellau plaid, ac er hynny bu o flaen ami i Gyfarfod Chwarterol, Taleithiol a Chymanfaol. I Os nad oedd yn Anghyfundebol i ymdrin a'r materion yna, ai tybed fod ymdrin a mater mor hanfodol bwysig a ffyddlondeb i argyhoedd- iadau cyd wybod yn anghyfundeb- ol ? A yw yn anghyfundebol con- demnio yr hyn a ystyriwn yn anghyfiawnder ? Os ydyw, aed Cyfundeb i'r wadd a'r ystlumod. Metha eich gohebydd a chanfod unrhyw gysylltiad rhwng pender fynu amddiffyn y Deyrnas fach a difreinio bechgyn y gydwybod. Y mae hen air yn dweyd nad oes neb mor ddall a'r hwn na fynn weled, a diau mai dyna'r cyfrif am anallu Mr Hughes i weled y cys- ylltiad. Rhoddasom ein gair i amddiffyn Belgium pe'r ymosodid arni, a'r un modd y gwnaeth Ger- mani. Torrodd Germani ei gair, a dianrhydeddodd ei chytundeb; cadwasom ninnau ein gair a l pharchasom gysegredigrwydd cyt undeb Dadl Germani dros y camwri a wnaeth ydoedd, "diogel- wch y wladwriaeth," "necessity knows no law." Os yw yr athraw- iaeth yna'n wir, pa fodd y gellir condemnio Germani am ddelio a'i chytundeb a Belgium fel "scrap of paper''? Yn awr y mae yn rhan o ddeddf filwrol y wlad hon fod hawl gan Dribunlysoedd y wlad i Iwyr ryddhau oddiwrth wasanaeth filwrol unrhyw un a brofai i fodd- lonrwydd, ei wrthwynebiad cyd- wybodol i wasanaeth o'r fath. Ni soniwyd gair am eu difreinio a'u gosod yn is yng ngolwg y gyfraith na lladron a Sinn Feiners. Eto, er i'r Llywodraeth gydnabod sane y gwrthwynebwyr cydwybodol a threfnu ar eu cyfer, dyma hwy yn awr yn mynnu eu cosbi trwy eu difreinlo. Mewn egwyddor gwnaeth y Senedd yr un peth a'r gwrth wynebwyr cydwybodol ag a wnaeth Germani a Belgium. Os felly y mae cysylltiad agos rhwng amddiffyn Belgium a difreinio'r bechgyn hyn. Os oedd yn anghyf- iawn i Germani dorri ei gair a Belgium, y mae yr un mor anghyf- iawn i'n Senedd ninnau dorri ei air a'r gwrthwynebwyr cydwybod- ol. Gr.esynnabae Mr Hughes wedi cadw at y testun, sef gwaith y Senedd yn difreinio bechgyn y gydwybod. Yn lIe hynny crwydra yma a thraw i ymdrin a gwaith y Tribunlysoe [d. Gofyna p-tham y mae cynnifer o'm brodyr yn y weinidogaeth yn gwahaniaethu a mi mewn barn? Gofynnaf innau, gwahaniaethu mewn barn ar beth ? Ai ar waith y wlad hon yn sefyll dros ei gair yn Awst 1914 ? Os ie, yna ni pherthyn y mater hwnnw i'r ddadl. Cydnabyddaf fod lliaws o frodyr teilwng yn methu cyfiawn- hau ein gwlad yn mynd i ryfel p dan unrhyw amgylchiad, ac yn credu y dylasem fod wedi cadw'n glir a'r helynt yn gyfangwbl. Ond os golyga anghytuno a mi ar gwestiwn condemnio'r Senedd am ddifieinio'r gwrthwynebwyr cyd- wybodol, carwii innau wybod ganddo yntau pa nifer ohonynt sydd yn credu fod hyn yn iawn ? Athrod ar ein Caplaniaid yw dweyd eu bod yn cefnogi erledig- aeth grefyddol Barn Pwyllgor Gweithiol Eg- lwysi Rhyddion Gogledd Cymru yw y dylid condemnio gwaith y Senedd, ac anfonodd benderfyniad cryf i'r gwahanol gynghorau i'w osod gerbron yr Eglwysi yn datgan hynny. A feiddia Mr Hughes ddod a phenderfyniad ymlaen i gymer- adwyo gwaith y Senedd ? Os gwna, meiddiaf innau a dweyd na chaiff un allan o bob dwsin o'n Cyfarfodydd Chwarterol i'w'basio. Nid oes a wnelo rhan olaf ei lythyr ddim a mi nac a'r mater dan sylw. Nid oes neb yn parchu mwy ar y bechgyn dewr sydd allan na mi, ac nid wyf yn credu fod Bechgyn y GydwybodL sydd yn y carchar ac allan ohono yn rhagori arnynt mewn unrhyw fodd. Ar alwad cydwybod yr aeth miliynau o'n bechgyn annwyl i faes y gwaed, ac ar alwad cydwybod yr aeth cannoedd eraill i garchar, Parchaf Iv rhai sydd allan ar y maes, ond parchaf hefyd y rhai sydd o gyd- wybod yn methu mynd allan, a rhyfedd gennyf fod neb sy'n enwi enw Crist yn gallu eu galw yn "llwfriaid fel y gwna eich goheb- ydd. Dylai blygu pen mewn cyw. ilydd am ysgrifennu'r fath air am rai o fechgyn mireiniaf ein gwlad. Eich cywir. I RHYS JONES.
Advertising
Llyfrau Ail Law. BARGEINION. Rhodder "A" ar yr amies addi- allan, a chyfeirier yr Archebion i- Rheoiwr, "Y Gwyliedydd Newydd," Flint Mountain, Flint. Nodiadau Horner I Sef Detholion o r Nocliadau Misol byvv. craff, ar wahanol bynciau i'r Dysgedydd gan y diweddar Barch Herber Evans, D.D. Addefir fod y Nodiadau hyn ymhlith y pethau goreu a ddaeth o law Herber erioed Y gyfrol cystal a newydd. Pris cyhoeddedig 3/6trwy'r Post 2/- Pethau Newydd a Hen Gan Mr Delta Evans (Dewi Hir- addug), Llundain cyfrol werth- fawr iawn o draethodau, Moes- egol, Llenyddol, a Beirniadol. Cystal a newydd. Pris cyhoedd- edig 2/6; trwy'r Post 1/8. Holwyddorydd Diwinyddot Dr. Pope Cyfeithedig gan y Parch T. J. Pritchard. Cyfrol ddestlus o 494 o dudalennau, ac yn newydd I llliollol. Pris cyhoeddedig, 10/S trwy'r Post, 4/6. Yr oedd Dr. Pope yn un o ddiwinyddion gall- uocaf y wlad, ac mai cyfeithiad Mr Pritchard yn feistrolgar a chlir. Cyfamod Heddwch Cyfrol wych iawn o bregethau gan hyodl a chryf Dr. MarviR R. Vincent. Pris cyhoeddedig 5/ cystal a newydd; trwy'r Post 2/4. Mae'r gyfrol hon yn awr yn brin. Gnostfciaeth a Agnosticiaeth Cyfrol wir alluog o Bregethau gan Dr George Salmon. Mae yn y gyfrol 18 o bregethau gwir uchraddol. Cystal a newydd. Pris cyhoeddedig 5/6; trwy'r Post 3/3. > Hwfa Mon Dan olygiaeth Mr W. J. Parry, Bethesda Cyfrol Goffa am yr hen wron" Eisteddfodol. Ceir ysgrifau ynddi fel y canlyn:- Hwfa fel Cymeriad a Parch Rhys J. Huws; FelBardd ym Mesurau y Cyng- hanedd-Elfed Barddoniaeth Rydd Hwfa— J. T. Job; Fel Eisteddfodwr-Gwylfa. Ceir yn y gyfrol bigion o gyn- hyrchion y Prif Fardd enwog. Pris cyhoeddedig 3/6; trwy'r Post 2/3. By the River Chebar Myfyrdodau ar Lyfr Ezeciel gan y Parch Elfed Lewis. Y mae gwelediad cyfriniol a barddonol Elfed ar ei oreu yn y gyfrol hon. Mewn cyflwr da. Pris cyhoedd- ig 3/6 trwy'r Post 2/3. The Ideal Life Bywyd, ynghyda detholiad Bregethau, neu Areithiau y di- weddar Proff. Drumond, wedi eu hysgrifennu a'u golygu gan Mr Robertson Nicoll. Mewn cyflwr da. Pris cyhoeddedig 6/- trwy'r Post 3/3. Christ in the Wilderness Tair ar ddeg ov benodau ylt ym- drin yn feistrolgar a diddorol gyda Themtiad yr Arglwydd lesu yn yr Anialwdh," gan y Parch. L. H. Wiseman. Mewn cyfl wr da. Trwy'r post, 1/10.
Safle Gweiaidogion Wesleaidd…
hynny mewn canlyniad i waith y Gymdeithas honno yn trefnu y Ddirprwyaeth Gymreig o blaid Pryniant a gyferfu ym Mai di- weddaf yn nhy Mr Lloyd George, yr un adeg a Dirprwyaeth Eglwysi Rhyddion Cymru ymhlaid Gwa harddiad dros dymor y Rhyfel. Ym gymerodd Principal Rees a gwneud y trefniadau rhagbarotoawl er cynnal Cynhadledd, ac, yn y modd eang ac agored y cyfeiriais ato, y llwyddwyd i gael tyrfa o bleidwyr Pryniant ynghyd i Landrindod. Ond mae gan Mr Roberts gwest- iwn arall, sef, 3. Pwy oedd yn talu y costau? Fy ateb yw—Mr John Hinds, A.S, a Mr Dan Thomas, Abertawe-y ddau foneddwr a etholwyd gan y Gynhadledd i ofaiu am ammunition ariannol yr ymgyrch. Atgofia hyn fi fod Mr Roberts ymhob un o'i lythyrau yn ysgrifennu fel un wedi ei arswydo oherwydd i'r Gynhad ledd benderfynu ffurfio cronfa gref i amcanion propoganda, a gosod £ 5,000 yn nod i gyrchu ato. Amser a ddengys a lwyddir i sicrhau hynny, ond yr oedd yn amlwg i'r Gynhadledd fod angen trysorfa gref oblegid y defnyddid adnoddau diderfyn bron ers misoedd cyn y Gynhadledd, yng Nghymru fel yn Lloegr, i geisio torfynyglu Pryn- iant. Gwyr rhai o'ch darllenwyr am y lenyddiaeth helaeth a wasg- erir yn barhaus ac yn rhad yng Nghymru ers oddeutu dwy flynedd i wrthwynebu Pryniant gan Gym- deithasau ariannog fel yr United Kingdom Alliance," sydd (yn ol Dr Dawson Burns) ers ymhell dres hanner can mlynedd yn gwario miioedd o bunnau bob bl wyddyn- rhywie rhwng £ 6,000 ac £ 20,000—i gynnal Swyddfeydd ac Agents yn Lloegr a Chymru i hyrwyddo po isi Gwaharddiad, ac wedi i ddwy genhedlaetb fynd heibio yn aflwyddiannus. Yng Nghymanfa Gwynedd clywodd Mr Roberts, fel finnau, y Parch Lewis Edwards, Bangor, yn sicrhau na fyddai prin- der adnoddau ariannol i ymladd yn erbyn Pryniant, ac yn y Gol- euad y dydd o'r blaen dywedai Mr Williams fod yr arian yn dod i mewn fesur y can punt a'r deu can punt Nid wyf yn cwyno oherwydd hynny, oblegid priodol ydyw i bawb ddefnyddio yr arfau goreu sy'n bosibl i ymladd dros eu har- gyhoeddiadau. Ond os caniateir i'r Gwrth brynwyr wneud hynny, yn sicr ddigon ni ddylai Mr Rob erts warafun i'r Prynwyr hwythau wneud yr un peth. but bynnag. dyna fi wedi ateb tri gofyniad fy Inquisitor General, a thybed, Mr Gol., nad wyf yn haeddu tipyn o gredyd am feddu digon o amynedd i ysgrifennu atebion i gwestiynau gwirion ffol o'r fath. Ond mae diweddglo llythyr Mr Roberts cyn ryfedded a'i gwestiyn. au. Caraswn fanylu arno, ond boddlonaf ar un sylw yn un- ig gan fy mod (ö'm hanfodd) eisoes wedi gorfod tresmasu ar eich gofod. Ni wn ddim mwy am helynt Datgys. ylltiad na'r hyn agyhoeddiryn y papyrau. Ond gyda golwg ar y Cynadleddau llechwraidd" a briodolir ganddo i Mr Lloyd George, mae gennyf resymau da dros wrthod ei stori, a hawdd ydyw i mi ac yntau ddwyn y mater hwn o leiaf i bwynt a'i setlo, oblegid tystia Mr Roberts fod y Cynhad leddau llechwraidd" hyn yn cael eu holrain"' i Mr Lloyd George. Cymeraf ef ar ei air, a gofynnaf iddo am ateb unionsyth i un cwest- iwn—dim ond un-cwestiwn teg a phwysig, sef Ym mha le a thua pha .bryd y cynhaliwyd y Cynhadleddau llechwraidd" ymhlaid Pryniant sydd wedi eu "holrain" i Mr Lloyd George? Ac os na all ateb, gofynnaf iddo arba awdur. dod y taena ef stori o'r fath ? "One good turn deserves another." Atebais dri cwestiwn o'i eiddo ef. Dlsgwyliaf y ceir I ganddo yntau ateb dealladwy i un o'm heiddo innau. j Port Dinorwic. THOS. HUGHES. I