Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Y Rhyfel o Ddydd i Ddydd.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y Rhyfel o Ddydd i Ddydd. Dydd Llun, Ionawr 7 Daeth y newydd swyddogol o Balestina yn hysbysu fod ruin teioedd o'r Arabiaid yn Hedyaz wedi gwneud ymosodiad 11 wddian- nus ar ffordd haearn tuag 20 milltir i'r de o Maah, ac ymhellach i'r de fod gwarcholdu Tyrcaidd mewn safle bwysig wedi disgyn i ddwylo'r Arabiaid. Gwnaeth y milwyr Ffrengig ymosodiad llwyddiannus, ac adfeddiasant warchffos a gymer- wyd bore Sadwrn i'r dwyrain o Lullecourt. Dydd Mawrth. Y mae eira, rhew, ac oerni yn ymyryd a'r gweithrediadau yn Ffraingc. Fodd bynnag bu tan belennu bywiog yn rhanbarth Passchendaele, ac amryw ymosod- iadau awyrennol. Hysbysir fod M. Trotsky a'r cyn- rychiolwyr Rwsiaidd eraill wedi cyrraedd Brest Litovsk, i ail agor trafodaethau heddwch gyda chsn- rychiolwyr Germani. Dydd Mercher Parha y Germaniaid i ymosod ar ein safleoedd i'r dwyrain o Bulle- court. Llwyddasant i feddiannu rhan o'n gwarchffosydd. Gwnaed gwrth-ymosodiad, a llwyddodd y Prydeiniaid i adfeddiannu eu llinellau. Gwnaed ymosodiad annisgwyl- iadwy gan y Ffrangcod yn Woevre, a chymerwyd cant a hanner o Ger- maniaid yn garcharorion. Mewn araith ar ei ben blwydd, a dradd- ododd i'w swyddogion, dywedodd Brenin Bavaria, ei fod ef a'r Caiser bob amser dros. heddwch. Ych- wanegodd fod rhaid iddynt ym- ladd, "hyd nes y derbynia'r gelyn eu hamodau," ac hefyd "nad oes modfeddo'r tir Germanaidd i gael ei ildio. Dydd lall Hysbysa'r Morlys fod y llong yspyty, "Rewa," wedi cael ei suddo yn y Sianel Brydeinig tua hann er nos,i Ionawr 4, er ei bod wedi dangos digono oleudau i brofi mai llong ysbyty ydeedd. Achubwydj yr holl fywydau-cwyfedigion ar ein ffordd adrefj o Gibraltar—ag eithrio tri o'r criw. Y mae cyflegrau y gelyn yn brysur iawn i'r de o'r Scrape a'r gogleddddwyrain o Ypres, yn ol adroddiad Syr Douglas Haig. Llwyddodd y gelyn i dreiddio i ian neu ddwy o'n safleoedd blaen i'r gogledd o ffordd haearn Ypres- Staden, ond bwriwyd hwy oddiyno yn fuan. Gwnaeth y Canadiaid ymosodiad llwyddiannus iawn yn ymyl Lens. Y mae'r cynyrchiolwyr Rwsiaidd a Germanaidd wedi cyfarfod mewn cynhadleddau rhag brawfol yn Brest Litovsk. Yn bresennol yr oedd Kuhlmann, Czernin, Trotsky, a'r cynyrchiolwyr Tyrcaidd. Gwelir fod y llongau a suddwyd, yn uwch o ran rhif yr wythnos hon o gryn dipyn. Suddwyd 18 o longau tros 1,600 o dunelli, tairo rai o dan hynny, a thri o gychod pysgota. Dydd Gwener. Parhau yn dawel ar y cyfan y mae pethau ar holl feysydd y rhyf el. Bu llifogydd mawr ym Meso- -potamia. Mae cynrychiolwyr Rws- ia a'r Galluoedd Canolog wedi ail gwrdd ac wedi bod yn dadleu y prlodoldeb o symud y drafodaeth i wlad amhleidiol, a dywedir fod tebygolrwydd y deuir i gyd-ddeall.

BWRDD Y GOL. j

TRYSORFA'R "GWYLIEDYDD .NEWYDD."…

fBYD -GWLEIDYDDOL.1

Advertising