Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

NODIMU WYTHNOSOL. t

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODIMU WYTHNOSOL. t Pleidlais y Merched. Yr wythnos ddiweddaf bu cryri siarad yn Nhy yr Arglwyddi yng- lyn a Pleidlais y Merched. Cymer odd trafodaeth le ar welliant Ar- glwydd Balfour o Burleigh i gym- eryd llais y wlad ar y cwestiwn. Wedi peth siarad tynnodd Ar- glwydd Balfour ei welliant yn ol. 7. Is-iarll Halifax a gynhygiodd welliant yn ffafr cymeryd llais merched y wlad yn unig ar gwest iwn y bleidlais. Ar ymraniad cafodd y gwelliant ei wrthod trwy 90 obleidleisiau yn erbyn 62, Arglwydd Clifford o Chudleigha gynhygiodd adran newydd i'r per wyl na byddai caniatau y bleidlais i ferched yn golygu hawl iddynt ymgeisio am sedd, neu gael eu hethol yn aelodau seneddol. larll Loreburn a ddywedodd nad oedd y mesur yn golygu hynny, a chafodd y gwelliant ei reoli allan o drefn. larll Curzon a ddywedai nad oedd yn deg, priodol, .na doeth, i chwanegu chwe' miliwn o fercned ar etholrestr y deyrnas. Byddai y cyfnewidiad yn rhwym o fod yn un trychinebus yn hanes y wlad. Nid oedd y wlad wedi rhoddi hawl i'r Senedd gario allan y fath gyfnew- idi'ad. Cytunai fod merched wedi gwneud gwasanaeth gwerthfawr yn ystod y rhyfel, Cawsai ef ei synnu pe na w,naethent hynny. Ond fe wnaed yr un peth gan fechgyn a merched rhwng ugain a deg ar hugain oed, ond nid oedd y bleid- Ilais i gael ei hestyn i'r rhai hynny. Mewn gwirionedd, nid y merched roes eu gwasanaeth yn y rhyfel [ oedd i dderbyn y bleidlais, eithreu chwiorydd hynaf, eu mamau, eu neiniau, a'u hen fodryboedd. Wedi rhagor o. sylwadau dywedai larll Curzon nad oedd yn bwriadu pleidleisio o blaid nac yn erbyn y i gwelliant. Ymranodd y Ty, a chaed mwy- afrif o 63 dros ganiatau y bleidlais i ferched, feIly. ychwanegir tua chwe' miliwn o ferched at yr ethol- restr nesaf.

[No title]

[No title]

[No title]