Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Cynhaliwyd oyubadladd o gynyreh- iolwyr cymdeithaaau dirwestol Cymru yn yr Amwythig, dydd Gwoner, dan lywyddiaeth yJCynghorwr W. J. Thomas, Barri. Paaiwydamiyw benderfyniadau -ya ell mysg un o blaid gwahardd yn ystod y rhyfel a thymor di-arfogiad: ya leriyu prytiant y fasnaoh faddwol; a blaid doddfwriaeth ddirwestol arbonnig i Cynaru, ac o blaid agor safydliadau dirwestol a ohymdeithasol yn mhob fcref a phentref, aa y dylai yr awdur- dodau cyhoeddus feddu gallu i ymgym- aryd a/r as gear h aid hwn-
BWRDD YR ADOLYGYDD. I
BWRDD YR ADOLYGYDD. I (Gan y Parch R. W. Jones, 18, St. I Edmond's Road, Bootle). YR EURGRAWN. lonawr, 1918. Addurnir y rhifyn hwn a dau ddarlun hardd, sef eiddo'r Parch. Evctn Isaac, Llywydd y Gymanfa, a'r diweddar Mr Edmund Evans. LIundain. Yn "ei gyfarchiad i'r eglw) si dyry Mr Isaac bwyslais ar inni sylweddoli ein cyfrifoldeb, ac anoga ni i hunan-yrnholiad. Priod- ol iawn hefyd y cymheHir yr eglwys i ddal gobaith yn amiwg I gerbron y byd. Cyfeiria at y ffaitn sy'n bar hysbys i'r sawl sy'n sylwi ?r arwyddion yr amserau—y duedd ymhlith y milwyr a dosbarthiadau eraill i lithro i dyngedfennaeth (fatalism )-y rhaid i bethau ddig- wydd Nid oes dim a waredo dynion rhag y fath gyfeiliornad ond cred diysgog yn Nuw a'i Rag- luniaeth fawr dros y byd. Mae'r cyfnod yn llawn difrifwch, ac ni fu erioed fwy o angen i bobl yr Ar- glwydd ymgysegru'n llwyr i'w wasanaeth Ef. Cenhadwri i'r eglwys sydd gan y Parch. H. Barrow Williams hefyd, yn ei bregeth werthfawr ar t. Y Gwyliedydd, beth am y nos ?" Da ydyw gwaith y Golygydd yn cael gan bregethwyr a llenorion y gwa- hanol enwadau i anfon eu cyfrodd- iadau i'r Eurgrawn. Dyma bregeth sy'n sicr o symbylu y sawl a'i dar- lleno i feddylgarwch a gweithgar- wch.. Dylai ysgrif Theomemphus" fod yn fendithiol a chynorthwyol i ddyfohau y bywyd ysbrydol. Cred- af hefyd y gall ein blaenoriaid fan. teisio liawer ar lithoedd o'r nod- wedd hon. Ond eu darllen yn fedd- ylgar a gweddigar gallent eu cymhwyso ar gyfer eu gwaith o arwain rhestrau neu seiadau. Cwynir weithiau mai ychydig a wneir gennym i gynorthwyo ein blaenoriaid prysur i addasu eu hunain ar gyfer eu dyledswyddau cyhoeddus. Coeliaf fqd yr ysgrif tan sylw yn gyforiog o awgrymiad- ju y- dichon dyn gweddol ddeall gar a meddylgar eu troi at ei bwr. pas, ac o wneud hynny ei alluogi i ddwyn mesur o newydd deb i'w sylwadau yn y seiat. Mae'r Golygydd yn wastad yn effro i angenion ein hieuenctid, a hapus ryfeddol yw y syniad o gael "Congl y Llenorion leuainc yn ein misolyn. Mawr hyderaf y ilwydda'n ei amcan-symbylu ein pobl ienainc i ymdroi mwy mewn lenora. Trefnir cystadleuaethau o bryd i bryd fel yn Eisteddfod yr Eurgrawn." Hefyd croesawir cwestiynau ar orgrafl, cystrawen, a'r cyffelyb. Wei, dyma gyfle eur- aidd. Manteisier arni. Ysgrifenna Mr Harri Edwards yn ddyddorol ar "Llyfr yr Ancr." Mae'n debyg nad rhyw lawer ddarllenwyr yr "Eurgrawn" a wyddant nemor i ddim am y llyfr hwn. Gwerthfawlogir ysgrifau fel hyn ya ddios, oblegid eu bod yn dw) n in cyrraedd wybodaeth newydd a gwerthfao r. Digon d) èdorel ydyw hanesion digri a rhyfedd yn hynt personau, one y mae arnom eisieu ilaywbeth heb- jaw ein dyddori. Dechreua"r Parch E- Tegla Dav- ies ar gyfres o ysgrifau dan y pen awd Tir y Dyneddon." Terfyn y rhifyn gydag item newydd-H Ad leisiau'r Dydd," brawddegau allan o weithiau gwahaaol awduron ar gwestiynau'r dydd. Gobeithio y parheir hwy. Y WINLLAN. Ionawr, 1918. Bu Lywydd y Gymanfa'n dra prysur tua divkedd y flwyddyn. Ceir yma hefyd Aaeichiadganddo. Sieryd yn blaen a dyddorol gyda'r plaat a'r ieuenctid, gan osod pwys- tais ar iddynt ofalu am eu hiaith- dysgu Cymraeg yn ddigoa da i ddarllen ac i ysgrifennu'n gywir. Ysgrifenna'r Parch J. Hugh Wil- liams ar "Jacob Behrnen," a dech- reua Tryfan gyfres o lithoedd dan y penawd "Gyda'r Plant yn Nyffryn Clwyd." Gwahodda Tryfan blant y Winllan i fynd am dro gydag ef bob yn ail mis i wahanol leoedd yn y dyffryn clod- fawr. Mae'n mryd y Parch. Daniel Williams i ysgrifennu'n fisol ar Ddyddorion Ysgrythyrol, sef es bonio rhai o ddywediadau dieithr y Beibl-rhein y sy'n cynnwys ffig- wr, dameg, neu rhyw arfer dwyr- einiol, ac ambell i ddiareb. Dech- reua gyda gair o Lyfr y Diarheb- ion. Dyry'r hyn a geir yma add- J ewid am lithoedd cain a chyfoetti- og.
='"""-""=:'"'-LLYTHYRAU Y…
='=: LLYTHYRAU Y MILWYR. TRYDYDD NADOLIG YN" FFRAINC. Annwyl Olygydd,— Goddefwch i mi ysgrifennu gair bach eto i golofn y Gwyliedydd Newydd, a hynny cyn i'r hen flwyddyn fyned heibio ynghyd a'i hanes gwaedlyd. Hawdd fyddai i lawer ohonom ysgrifennu am y flwyddyn hon a'i gwaith, ond rhaid cofio fod dillad y Llywodraeth am danom, a bod yn rhaid i ni fod yn ofalus beth a ysgrifenwn. Pe dy- wedid wrthyf dair blynedd yn ol y buasai y ihyfel yn parhau hyd yi amser hyn, anodd iawn fuasai der- byn y syniad; ond erbyn hyn yr wyf bron a chredu. nad oes diwedd o gwbl. Modd bynnag, dyma fi wedi bod am dri Nadolig yn y fan hyn. Mae fy meddwl yn mynd yn 01 i Rhagfyr 3, 1915, pryd yr oedd- wn yn gadael Caergwent (Win- chester) am Southampton, rhyw ddeuddeg railltir o ffordd i gerdd- edd, Cychwyn am hann. er awr wedi tri yn y boreu. Yr oeddem yn wlyb at y croen erbyn cyrraedd y lie hwn. Gadawsom y porthladd am bedwar y prydnawn. Bid siwr yr oedd pobl y lie wedi codi allan i gyd a chawwsom send off ardderch- og, ond cofiem fod ein mamau an- nwyl yng Nghymru yn tywallt eu dagraa, a'r pryder am eu plant YR eu llethu, a'r dyfodol ynfllenwi eu meddyliau a chyniylau duon di obaith. Ar y Hong teimlwn na fuasai lawer o bwys gennyf pe y glaniwn neu beidio gan mor sal yr seddvvn. Ond cyrraedd Ffrainc yn ddiogel a ddarfuaa, a threuliais y Nadolig cyntaf yn Ffrainc i deithio yn nes at y 'firing line.' Nid wyf am roddi fy hanes i chwi yn yr araser rhwng y Nadolig cyntaf a'r ail, Treuliais yr ail Nadolig yn Iawer fwy hapus; cawsorn giniaw campus, a chyngherdd ar ei 81, a phopeth yn edrych fel pe bairhyfel ddim yn bob. Ond eto dyma y Nadolig yma wedi mynd heibio a meibion Gwalia Lan ar faes y rhyfel. Dyma y modd y treuliodd ein cwmni Nadolig, 1917, yn Ffrainc cawsom gkiio ardderchog —turkey, beef, &c., i gychwyn, wedi hynny cawsoui y puddiu Nadolig, a llu o bethau melus eraill; ond er y cwbl liawer gwell fuasai gennyf fod adref ym Mlaen- au Ftestiniog a gweld copa y Moelwyn a'r Manod Mawr wedi ei orchuddio ag eira. Ond heblaw y petlaau materol, cofiais hefyd fod gennyf enaid, ac fe fum yng ngwas ctnaeth y Parch J. Parry Brooks y nos. Cawsom bregeth odidog ganddo, a bendith i'm hysbryd. Ei destun oedd "Croesawu Crist." I Ddarllenwyr, byddwch yn fwy dyfal yn eicb gweddiau am i Dduw roi terfyn buan ar y rhyfel erchyll yma. Gobeithio y cawn dreulio y Nadolig nesaf yng Nghymru. Ter- fyaaf gan ddymuno i chwi Flwydd- yn Newydd Dda. Cofion goreu. Pte. T. E. ROBERTS, 48569, R.A.M.C., Att. 124 Field Coy., R.E., B.E.F., France.
GAIR O FFRAMC. I
GAIR O FFRAMC. I Annwyl Mr Golygydd,— Ni chefais hamdden pan gartref, ychydig ddyddiau yn ol, i anfon atoch i ddatgan fy ngwerthfawrog- iad o gael copi o'r Gwyliedydd Newydd bob wythnos, gyda hanes digwyddiadau yn yr hen wlad a'r byd Wesleaidd. Y mae cael papur fel y Gwyliedydd Newydd yn gal- ondid calon i ddyn mewn gwlad ddieithr fel hon, ac yn enwedig o dan yr amgyichiadau presennol. Gresyn o beth fuasai ei golli. Dy- munaf i chwi bob llwyddiant yn eich ymdrech i'w baihau o dan y fath anhawsterau., Yr wyf yn awr yn eistedd mewn ffermdy yn Ffrainc, ac y mae yma hen wraig a gwr yn ymgomio gymaint fyth, a minnau heb ddeall dim o'i tafodiaith. Mor felus fuas- ai bod mewn ffermdy yng Nghymru i fwynhau eu hymddiddan Serch nad wyf yn deall yr ymgom, y mae gennyf un cysur, ac un da iawn,yn enwedig pan y mae rhew ac eira o gwmpas—eisteddaf o flaen tan da o goed, ar yr hwn y mae crochan yn hanner llawn o "nionod'' yn berwi. Y mae bias da ar y tan. Peth hyfryd oedd cael dod am dro gartref o ganol yr lielbul flin, a bod yng nghwmni y rhai ydych yn eu caru, ac i weled yr hen lanerch au sy'n swyno teimladau dyn. Rywsut nid ym yn gweled gwerth mawr mewn pethau nes cael ein hamddifadu o honynt megis cwmni y teulu, y fraint o gael cyd. addoli a hen ffrindiau, gwrando pregeth Gymraeg, a chanu hen emynau. Y mae y rhyfel wedi bod yn gyfrwng i lawer o honom weled mwy o werth yn y pethau hyn ond piti garw na fuasai rhywbeth heblaw rhyfel wedi dod a ni i weled eu gwerth. Credaf y bydd liawer o'r bechgyn sydd allan yn y rhyfel yn cydweld a mi ein bod J n perthyn i wlad y breintiau mawr"; a dymuniad pennaf ein calon ydyw cael dychwelyd yn ol i fwyaiiau y breintiau eto mewn heddwch. Ychydig mewn gwir- ionedd o'r rhai sydd yn rhyfela sydd yn caru y gwaith. Pe baent uBrhyw dro eto yn anghydweld ac estron buan iawn y buaseot yn dod i gydwejediad ag ef trwy gytundeb cyn eodi arfau yn ei erbyn. Onid yw yn rhyfedd fod cenedloedd mor afresymol yn eu tuedd at y naill a'r llall. Yr ydym ym meiddio credu, ar adegau, nad ydyw arweinwyr y gwledydd yn cynrychioli y bobl; mae'r bobl yn llai llidus na'u har- weinwyr. Tra allan yma yr wyf wedi gweled yr hyn na ddychmyg- ais erioed ei weled yn wir, buas wn yn meddwl mae amhosibl i'r fath beth ddigwydd a'r byd mor hen, a chymaint o addysg yr ym wedi ei dderbyn mewn moes a chrefydd. Ond dyna fel y mae hi. Gweddied crefyddwyr Cymru yn ami a thaer ar ran y milwyr. Y mae eu gwaith yn galed a blin, a'u peryglon yn enbyd. Bydd y flwyddyn newydd gyda ni yn fuan iawn, ond nid oes llawer o olwg o gyfeiriaddyn am derfyn i r lladdfa ofnadwy. Ond credwn y cawn, trwy weddiau taer ein pobl, weled y cymylau duon yn symud, ac y bydd rhyw ymyl glaer yn ym- ddangcs yn y man i ddatgan fod dydd heddwch yn neshau. Eich cywir, DAVID JONES Nadolig, 1917. (Lerpwl). I
Advertising
Yn Awr yn Barod. Y TRI IESU." LLYFR I BAWB. Dynoethir ynddo Gyfeiliornadau Diwinyddol Pwysig: "Important Theological Errors Exposed. GAN WILLIAM RICHARDS (PREGETHWR), BIRMINGHAM. Y CYNHWYSIAD I. Iesu'r Dynolwyr. II. Iesu'r Cyfyngwyr Meidrol. III. Yr Iesu, Duw mewn Cnawd. IV. Undeb y Dwyfol a Chorff Dynol. V. Perthynas yr Iesu a'r Ddynol- iaeth, a'r Modd yCymerodd Efe ein Natur ni. VI. Y Modd Naturiol a Chynyddol a gymerodd y Dwyfol i Eg- luro ei Hun trwy y Dynol. Pris 3c. Gyda'r Post, 4c. Telerau i Lyfrwerthwyr, 2/6 y dwsin wedi talu y cludiad; blaen-dal gyda'r archeb. I'w gael gan y Cyhoeddwr- W. Richards, Digbeth Institute, Bir- mingham. E. O. Evans, A.T.S.C., Associate Member of the T.S.C.C., London, Teacher of Music, Conductor. Composer, and Adjudicator, 19, Church Street, Caerau. Terms on Application. LATEST PUBLICATIONS Tenor or Soprano Solo, "Plentyn Amddifad." Quartette, S.A.T.B., U Cynghor Olaf Mam." Anthem, S.A.T.B., Huna Pleotyn Iesu." Hymn Tunes: "Pennal," s GoB- ath," "Liberty," met with great success. LLYFRAU GWERTHFAWS AR WERTH Am Brisiau Gostyngol. 9. C. 1. Hanes yr Athrawiaeth Grist- ionogol gan Dr J. Hughes 1 3 2. Diwinyddiaeth Naturiol, gan Dr. Paley, yn Gym raeg, Rhagdraeth gan Dr. Hugh Jones (M.C.) 1 3 3. Cofiant y Parch R. Hum- phreys, Dyffryn 1 3 4. Cofiant y Parch Griffith Williams, Talsarnau 1 3 5. A Grammar to the Welsh Language, by Thomas Rowlands (4th Edition). 2 0 6. Yr Hynod Joan Jones, gan Rhuddenfab, Rhagdraeth gan Daniel Owen, Wydd- grug 0 9 7. Dafydd Evans, Ffynon- henry, gan B. Thomas, Trydydd Argraffiad Ofi 8. Cofiant y Tri Brawd, gan y Parch .0. Madoc Rob- erts 0 6 9. Damcaniaeth Dadblygiad, gan y Parch. T. Jones Humphreys 0 6 10. Y Cywir Ddychwelwr gan Thomas Shepherd (j 6. Tratil cludiad i'w ychwane^u at y prisiaa uchod. Anloner at- Rev. OWEN HUGHES, v 101, Bruce Street. Mew Wortley, Leeds, Yorks.