Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
rAMLWCH. t
r AMLWCH. t Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol y Gylehdaith yn Ysgoldy Bethel, Amlwch, prydnawn Mercher, Ionawr 9fed, o dan lywyddiaeth ein parchus Arolygwr-y Parch David Roberts. Yn bresennol Mri. W. J. Thomas a Robert Owen (Goruchwylwyr), Mrs Brindle, Mri H. "Williams (Lay Agent), E. Pritchard, James Williamson a Capt- Gibbon. Yr oedd y tywydd blin wedi lluddias eraill o'r wlad i fod yn bresennol. Dechreuwyd trwy weddi gan H. Wil- liams. Darllenwyd a chadarnhawyd cofnod- ion y cyfarfod blaenorol. Derbyniwyd rhif yr aelodau a'r eyfrif- on o'r gwahanol eglwysi, a chaed fod popeth yn bur foddhaol ag ystyried yr amgylchiadau. Drwg gennym fod rhai o'r aelodau wedi colli trwy farwolaeth yn ystod y chwarter. Pasiwyd pleidlais o gydym.- deimlad a'r rhai canlynol yn eu profed- igaethau o golli eu hanuwyliai(I :Mr a Mrs Michael, Caersalem, o golli eu hannwyl fab, Pte. David Michael, yn rhywis yn yr Aifft; hefyd a Mrs Amelia Roberts, Amlwch, o golli oi hannwyl briod, Pte. Roberts, yn rhywie yn :Ffrainc hefyd a Mis Thomas, a Miss Jones, Cerrigman, pa rai sydd yn aelodau ffydaJon o'n heglwys yn Caer- salem o golli mereh i Mrs Thomas ynghydai mab yng nghyfraith, a hynroy o fevm mis i'w gilydd, sef Mr a Mrs John Davies, Penmaenmawr, y ddau yn hynod o ffyudlon yn y naill le a'r Hall ynglyn ag achos yr Arglwydd, a bydd colled fawr ar eu boI; hefyd cyd- ymdeimlad a Mr Evan Jones, Burwen. yn ei brofedigaeth. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad hefyd a Mrs Jones, Tyn- ygate, Cemaes, a Mrs Rowlands, Pen- rorsedd, yn eu gwaeledd, gyda dymuniad cywir am adferiad buan. Diolchwyd i'r rhai canlynol am eu gwasanaeth yn y gorffennol ac ail-ethol- wyd hwy:—Mri. W. J. Thomas ac R- Owen, fel Goruchwylwyr; Genhadaeth, y Parch David Roberts, a Mr E. Pritchard Mr Jones, Eleth Cottage, Ysgrifennydd y Capeli; Mr J.H. Tyrer, Ysgrifennydd Addysg; Mrs Brindle, Ysgrifennydd yr Eglwys; a H. Williams, Ysgrifennydd y Cyfarfod Chwarterol. Y cyfarfod nesaf i'w gynnal yn Amlwch, Ebrill 3ydd. Terfynwyd y cyfarfod trwy weJdi gan yr Arolygwr. X.
I CORWEN.I
I CORWEN. Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol y Gylehdaith yn Corwen, Ionawr 3ydd, o dan lywyddiaeth medrus yr Arolygwr, Parch' A. Lloyd Hughes, pryd yr oedd yn bresennol gynrychiolaeth o bob lie yn y Gylehdaith. Darllenwyd rhan o'r Ysgrythyr gan yr Arolygwr, a gweddiwyd yn hynod o effeithiol gan y Parch Owen Hughes. Daeth y cyfraniadau yn cynnwys y War Bonus i'r gweinidogion i law yn Ilawn o bob Ile, ac yr oedd hynny yn achos o sirioldeb mawr i'r ddau Oruch wyliwr. Diolchwyd i'r swyddogion canlynol am eu gwasanaeth y flwyddyn ddiwedd- af, ac ail-etholwyd hwy am flwyddyn arall i. wneud yr un gwait.ti -Goruch, wylwyr y Gylchdaith, Dr. Edwards, a Mr Ernest Hughes; Y sgrifennydd Addysg, Mr Ernest Hughes Ysgrifen nydd y Capelau, Mr E. Bowon Jones Ysgrifennydd Cyfarfod Chwarterol, Mr H. H. Evans. Penodwyd Dr. Edwards a Mr Lemuel Williams yn Oruchwyl- wyr y Genhadaeth Dramor. Darllenwyd llythyr Syr R. Perks ynglyn a chynllun y cyfundeb, ar ol y rhyfel. Penodwyd aelodau y cyfarfod chwarterol yn bwyllgor i gario y cynllun allan gyda Mr J. T. Garner yn ysgrifen- nydd, ac hefyd penodwyd ysgrifennydd Ileol ymhob lie drwy Cynygiwyd gan Mr H. H. Evans, ac eiliwyd gan y Parch 0. Hughes, a phasiwyd yn unfrydol ein bod fel cyfar- fod yn dymuno protestio yn erbyn gwaith y Llywodraeth yn difreinio y Gwrthwynebwyr Cydwybodol o'r pleid lais, ac fod y penderfyniad i'w anfon i'r Prifweinidog a Mr Haydn Jones, A. S. Penderfynwyd nad oes Adroddiad Cylchdeithiol rwargraffu elenni, ond argymhellwyd yn niffyg hynny fod adroddiad ariannol o sefyllfa pob eglwys i'w gael ei ddarllen yn gyhoeddus ymhob eglwys y nos Sul cyntaf ar ol cynhaliad y cyfarfod chwarterol, ac hefyd fod adroddiad blynyddol yn cael ei roddi. Pasiwyd i'r ysgrifennydd anfon cofion y cyfarfod at Mr Davies, Wernddu, fel yr aelod hynaf, ac i ddymuno iddo ,flwyddyn newydd dda ymhob ystyr. Cadarnhawyd y gwahoddiad a roddwyd i'r Parch W. O. Evans i ddod i'r gylchdaith i olynnu yr Arolygwr presennol. Cafwyd cyfarfod gwir dda a diwedd- wyd ef gan ein Harolygwr.
CYLCHDAITH MERTHYR TYDFIL.
CYLCHDAITH MERTHYR TYDFIL. Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol y Gylehdaith yn Treharris, nos Iau, Ionawr 3rd, dan lywyddiaeth y Parch Evan Isaac. Yn bresennol Mri D. R. Jones a D. Owen, Goruchwylwyr, a chynrychiolaeth o bob eglwys. Yroedd Mr T. O. George, ysgrifennydd y cyfar- fod, yn absennol oherwydd afiechyd. Talodd pob eglwys ei cbyfran at y weinidogaeth yn llawn. Cafwyd ar ddeall hefyd fod y Gylch. daith wedi gwneud yn dda at y Genhad- aeth Dramor. Ail-etholwyd y ddau Oruchwyliwr gyda phleidlais unfrydol. Gwnaed yr un peth ag Ysgrifennydd y cwrdd chwarter, ac hefyd swyddogion cylch- deithiol y Genhadaeth Dramor a'r Capeli. Galwodd Mr Isaac sylw y cyfarfod at afiechyd blin y Parch T. J, Pritchard (Cadeirydd y Dalaith). Dywedwyd pethau caredig am dano, a phasiwyd pleidlais unfrydol o gydymdeimlad ag ef, ac fod Mr Isaac i anfon llythyr i'w hysbysu o deimlad y cyfarfod. Galwyd. sylw hefyd at amryw gleifion yng ngwa banol eglwysi y Gylchdaith, a phasiwyd fod y gweinidog i'w hysbysu hwythau befyd o gydymdeimlad y cyfarfod a hwy. Pasiwyd fod Mr T. Lewis, Treharris, i I archwilio cyfrifon y Genhadaeth Dramor. GOH.
CYLCHDAITH ABERGELE.
CYLCHDAITH ABERGELE. Cynhaliwyd y cyfarfod chwarterol yn Abergele dan lywyddiaeth y Parch E. Arthur Morris. Presennol, Mr R. M. j Hughes, Mr T. Morris Jones, Goruch- wyhvyr, a cifer hosog o'r gwahanol eglwysi. Derbyniwyd y cyfrifon, a llawenychai y cyfarfod yn fawr fod y cyfraniadau yn llawn o bob eglwys, a chynnydd yn nifer yr aelodau am y chwarter yn wyth. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad ag amryw deuluoedd gyfarfyddodd a phrof- edigaethau. Ar gynygiad y Llywydd, ac eiliodd Mr R. Jackson, pasiwyd penderfyniad yn unfrydol o anghymeradwyaeth o waith Senedd ein gwlad yn eu hymddyg-- iad tuag at y Gwrthwynebwyr Cyd- wybodol," y penderfyniad iw anion i'r Prif Weinidog, a Syr Herbert Roberts. Yn ol cais y Gynhadledd dewiswyd pwyllgor cryf i wylied buddiannau y milwyr, &c., a dewiswyd Mr J. R. Ellis yn ysgrifennydd. Diolchwyd i Mr J. E. Williams, Ys- grifennydd y cyfarfod; Mr Thomas Williams, Llysfaen, Y sgrifennydd y Capeli; ac i Mri- R. M. Hughes, a T. Morris Jones, am eu gwasanaeth ffydd- Ion yn ystod y ilwyddyn, ac ail-ethol- wyd hwy am flwyddyn arall. Oafodd trafodaeth ar ddyledsy'n aros ar dy Llanddulas, a chafwyd awgrym- iadau i fod dan ystyriaeth hyd y cyfar fod nesaf. I Rhoddwyd Notice of Motion," gan Mr T. J. Mathews, i ystyried y priodol- deb o gael trydydd gweinidog i'r Gylch daith. Cafwyd adroddiac1 o'r hyn wnaed yn I y Gylehdaith tuag at y War Emergency Fund, a Thrysorfa y Milwyr yn Oswes- try a Kinmel. Bu amryw faterion eraill o ddiddordeb lleol gerbron, a chafwyd. ymddiddan buddiol ar yr achos yu ei wahanol agweddau. Ar y terfyn mwynhawyd caredigrwydd cyfeillion Abergele a diolchwyd yn gynnes iddynt. I GOH.
CYLCHDAITH MYNYDD SEION, LERPWL.
CYLCHDAITH MYNYDD SEION, LERPWL. Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol ym Mynydd Seion, nos Sadwrn, Ionawr 5ed, y Parch Edward Davies yn y gadair. Yr oedd hefyd yn bresennol y Parchn. D. Tecwyn Evans, B.A., ac R. W. Davies, Mri. John Jones (Devonshire Road), a Moses Hughes (Goruchwylwyr), a chynrychiolaeth o bob eglwys yn y gylchdaith. Dechreuwyd trwy weddi gan Mri. Caleb Jones, Mynydd Seion, a Robert Jones, Birkenhead. Croesawyd Mr D. W. Evans, Mynydd Seion, fel aelod newydd o'r cyfarfod. Penderfynwyd cynnal Cylchwyl y Genhadaeth Gartrefol ar yr ail Sul yn Ebrill, os bydd hynny'n gyfleus i Gylch. daith Oakfield. Hysbyswyd fod yn rhaid i gyfrifon y Genhadaeth Dramor fod mewn Haw erbyn Ionawr 20 yn ddiffael. Cwynwyd am ddiweddarwch y Mynag yn dod i law, a datganwyd fod hyn pen colled i gyllid y Genhadaeth ac anfantais dirfawr i'r casglyddion. Er chwithdod mawr i'r Gylehdaith, hysbyswyd fod Mr R. Pierce Jones, y trysorydd, ar fedr syrnud o Lerpwl i Fanceinion, ac o dan yr amgylchiadau trefnwyd- i'r cyfrifon fynd i'r Parch B. W. Davies, yr ysgrif- ennydd. Am y flwyddyn ddyfodol etholwyd Mr D. W. Evans, Ampthili Road, yn drysorydd cylchdeithiol y Genhadaeth Dramor yn lie Mr Pierce Jones. Penderfynwyd cynnal cyfarfod blyn- yddol ymddiriedolwyr y gylehdaith yn y Cyfarfod Chwarterol nesaf, a'r cyfarfod- ydd blynyddol lleol fel y canlyn:— Mynydd Seion, Ionawr 29 Birkenhead, Ionawr 26; Garston, Chwefror 5 Egremont, Ionawr 28. Diolchwyd i'r swyddogion a ganlyn, ac etholwyd hwy am flwyddyn arall: — Mri. Jabez Jones, YsgrifeDnydd y Capeli Hugh Griffiths ac R. O. Jones, Ysgrifennydd a Thrysorydd y Genhad aeth Gartrefol; R. E. Edwards, B.A., ac R. J. Langford Williams, Ysgrifen- nydd a Thrysorydd Trysorfa Addysg Ymgeiswyr am y Weinidogaeth Peter Hughes, Ysgrifennydd y Cyfarfod Chwarterol; j ohn Jones, Devonshire Road, a Mosea Hughes, Goruchwylwyr y Gylchdaith, Hysbyswyd i'r trysorydd, Mr Evan Davies, dderbyn £12 9s at Drysorfa'r Gweinidogion Methedig, a 95 9s 6c i'r War Emergency Fund." Mqwd cydsyniad a cbais awdurdod au'r Cyfundeb ynglyn a'r After the War Committee," penodwyd y personau a ganlyn i ffurfio pwyllgor y gylchdaith, ac i gydweithredu ag eiddo Cylchdaith Oakfield, os gwelir fod hynny'n ddym- unol:—Y tri Gweinidog Mri Moses Hughes, Mynydd Seion; Wm. Evans, Birkenhead (ac i weithredu fel ysgrifen nydd); John Morris, Garston Robert Roberts, Widnes; Iorwerth Williams, Egremont. Yn unol a chais Cadeirydd y Dalaith, penderfynwyd rhyddhau'r tri gweinidog i roddi eu gwasanaeth am Sul bob un i'r achos yn Leeds. Rhoddwyd gwahoddiad unfrydol a gwresog i'r Parch R. W. Daviea i aros yn y Gylchdaith am y bedwaredd flwyddyn. Crybwyllwyd fod ei glod yn yr holl eglwysi, yn enwedig yn y rhai hynny sydd yn arbennig o dan ei ofal. Cydsyniodd Mr Davies. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a Mr Jones, Devonshire Road, ar waeledd ei tinnwyl briod. Bu Mrs Jones yn aelod o'r Cyfarfod Chwarterol, ac yn dra gwasanaethgar i'r achos ymhob rhan ohono. Dymunwyd iddi adferiad buan. Terfynwyd cyfarfod bywiog a da trwy weddi gan Mri Robert Jones, Mynydd Seion, a Wm, Evans, Birkenhead.
j CYLCHDAITH BEAUMARIS.
CYLCHDAITH BEAUMARIS. Cynhaliwyd y cyfarfod chwarterol ym Menai Bridge, dydd Mercher, Ion. 2il. Llywyddwyd gan yr Arolygwr, y Parch J. E. Thomas. Yr oedd yn bres- ennol y Parchn. Lewis Edwards a B. Einion Jones, a'r ddau Oruchwylwyr, sef Mri Evan Thomas a James Oweu, a chynrychiolaeth weddol dda o wahanol eglwysi y Gylchdaith. Darllenwyd rhan o Air Duw gan yr Arolygwr, a gweddiwyd gan Mr Thos. Hughes, Llangoed. Derbyniwyd cyfrifon y gwahanol eglwysi. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a Miss Williams, Siglan, Llanfair, yn ei phrofedigaeth o golli ei mam. Dygwyd tystiolaeth uchel i gymeriad y diweddar chwaer. 'Roedd yn hynod am ei tfyddlondeb i achos Iesu Grist. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a Mr Richard Hughes, Llanfair, wedi ei glwyfo yn Firainc, ac mewn yspyty yng Nghaer; hefyd a Mr Thos. Lewis, Llan- fair, yn ei waeledd. Diolchwyd i'r ddau Oruchwyliwr am eu gwasanaeth am y flwyddyn, ac ail- etholwyd hwy. Gwnaed sylw o roddi War Bonus" i'r gweinidogion. Teimlid anhawster gyda'r mater oherwydd sefyllfa ariannol y Gylehdaith yn yr argyfwng presennol. Danghoswyd pob cydymdeimlad a'r mater, addawodd amryw o frodyr rodd- ion 119,el tuag at ffurfio trysorfa. Fenodwyd "After War Committee'' yn y Gylchdaith; Mr Arthur Edwards, B.Sc yn ysgrifennydd, a dau frawd o bob eglwys yn aelodau o'r Pwyllgor. Rhoddwyd sylw i'r Genha,daeth Dramor, a phenderfynwyd anfon gair i Y sgrifennydd Taleithiol y Genhadaeth Dramor yn argymeli y Cyfarfod Taleith- iol i ddwyn y Mynag Cenhadol aUan yn gynarach ar y flwyddyn, gan y byddai hynny yn fantaisi gyllid y Gen- hadaeth. Penodwyd Mri Thomas Roberts a Morgan Jones yn arehwilwyr cyfrifon y Genhadaeth Dramor yn y Gylehdaith. Diolchwyd i Mr John Roberts, Beau- maris, am ei wasanaeth fel ysgrifennydd y Capeli, ac ail-etholwyd ef. Pasiwyd penderfyniad yn datgan anghymeradwyaeth hendant y cyfarfod o waith y Llywodraeth yn difieinio y Gwrthwynebwyr Cydwybodol. Y pen- derfyniad i gael ei anfon i'r Prif Wein- idog a'r Aelod Seneddol dros y Sir.
I CYLCHDAITH PORTHMADOG.
I CYLCHDAITH PORTHMADOG. Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol y Gylchdaith hon ym Mhorthmadog, Ion. 5, dan lywyddiaeth y Parch W. 0. Evans. Yr oedd yn bresennol y Parch J. R. Roberts, a chynrychiolaeth ragorol o'r holl eglwysi. Dechreuwyd trwy i Mr E. O. Lloyd weddio yn afaelgar. Yr oedd y ddau Oruchwylwyr yn ab- sennol oherwydd gwaeledd. Cydym- deimlwyd a hwy, a diolchwyd yn gynnes iawn iddynt am eu gwasanaeth, ac etholwyd Mri D. R. Thomas ac Ellis Jones Edmunds, Talsarnau, i fod yn Oruchwylwyr y flwyddyn hon. Ail etholwyd Mr W. Morris yn ysg- rifennydd. Gwasanaethodd Mr Hugheston Rob- erts gyda Mr Edmunds i dderbyn y cyfraniadau. Cyflawn aelodau 529, cynnydd o 9 ar y cbwarter. Cydymdeimlwyd a Mr D. R. Thomas a'r teulu yn eu profedigaeth o golli Mr Percy Thomas yn y rhyfel yn Ffrainc hefyd a Mrs Lloyd, Talsarnau, ym mar- wolaeth ei phriod, Capt. L. Lloyd, goll- odd ei fywyd ar y mor. Diolchwyd i Miss Sallie Roberts, Brontecwyn, am ei gwasanaeth fel ysg- rifennydd addysg y gylchdaith. Lion- gyfarchwyd hi ar ei phriodas. Penod- wyd Miss Lizzie Owen, Tynewydd, Brontecwyn, i weithredu yn y dyfodol. Diolchwyd ac ail etholwyd Mr W. Roberts yn ysgrifennydd Capeli'r Gyleh- daith. Penodwyd ysgrifenwyr ac archwilwyr y Genbadaeth Dramor. Ar Mr J. Pritchard Roberts, yr ysgrifennydd, y disgyn y gwaith mwyaf a chyflawna ef yn llwyr a medrus. Dewisiwyd rhai i weithredu ar Bwyll- gor-wedi'r-rhyfel y Cyfundeb. Pasiwyd yn unfrydol benderfyniad cryf yn gwrthdystio yn erbyn gwaith y Llywodraeth yn difreinio'r Gwrthwyn- I ebwyr Cydwybodol. Diweddwyd trwy weddi gan yr Arol- ygwr.