Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

TIPYN 0 BOPETH. I

TRYSORFAIR " GWYLIEDYDD iNEWYDD."

.IBWRDD Y GOL. I

Advertising

CYLCHDAITH CAERNARFON. -I

Y Rhyfel o Ddydd i Ddydd.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y Rhyfel o Ddydd i Ddydd. I Dydd Llun, lonawr 14 Ar3 wahan i danbelennu achlysarol ac ymosodiadau awyrennol o du y Prydeiniaid a'r Ffrangcod, nid oes dim neillfcuol i'w adrodd o Ffrainge a Flan- ders. Ar ochr dde y Meuse cafodd y Ger- maniaid eu gorthrechu gyda chryn golledion gan y Ffrangcod. Yn Nhy y Cyffredin cynhygiodd Syr, Auckland Geddes Fesur Newydd o Wasanaeth Milwrol, i'r pwrpas o ddileu rhai adiannaul o Ddeddf Milwrol, 1916, ac i ddiddymu tystysgrifau o ryddhad roed mewn galwedigaethau neilituol. Dywedai fod angen am 450,000 o ddynion ieuaingc i'r fyddin 439,000 arjgyfer gweithfeydd cad ddar- pariaetbol a 119,000 o ferched. Dy- wedai na byddai i'r oedran milwrol gael ei godi na'i ostwng arghyn o bryd, ac ni cheid gorfodaeth filwrol i'r Iwerddon. Yr oedd y Llywodraeth yn awr yn ceisio cymeryd camrau ar gyfer amser pryderus yn y dyfodol-amser a gredai oedd heb fod yn bell iawn. Yr oedd rhwygiad Rwsia oddi wrth y Cyd- bleidiau wedi galluogi y Germaniaid f chwyddo eu byddinoedd ar y ffrynt Gorllewin i gynnifer a 1,600,000 o ddynion. Darfu i'r ''destroyer'' "Racoon" daraw yn erbyn creigiau ar draefchell yr Iwerddon yn ystod storm o eira, a suddwyd hi gyda'r boll ddwylaw. Bydd Mawrth. Yroedd cryn frwydro rhwng y gyn- Inau Prydeinig a Germanaidd i'r gog- ledd-ddwyrain o Ypres a'r deheu o Cambrai, ac hefyd ar y ffrynt Ffrengig yn Champagne ac i'r dwyrain o'r Afon Meuse. Gwnaed rhuthr llwyddiannus gan y Canadiaid ar warchffosydd y gelyn yn agos i Lens. Gwnaed ymosodiad awyrennol Ilwyddiannus gan y Prydeiniaid ar Karlsruhe, a thaflwyd ffrwydrbelenni ar orsaf y ffordd haearn a ffactrioedd cad-ddarpar. 4 Dydd Mercher Nos Lun oddeutu unarddeg o'r gloch, banbelenwyd Yarmouth o'r mor. Taflwyd oddeutu ugain o ffrwydrbelenni yn y dref, a lladdwyd tri o bersonau, ac anafwyd deg. I'r dwyrain o'r Meuse darfu i'r Ger- maniaid ymosod ar safleodd y Ffrangcod a meddiannu un o'u gwarcdffosydd, ond cawsant eu gyru allan. Gwnaed ymosodiad gan awyrenwyr Prydeinig ar weithfeydd dur pertbynol i'r Germaniaid yn Thionville, Luxem- burg a Mete. Y mae'r Itaiiaid wedi dod yn Ilwydd- iannus mewn dau ymosodiad yn y rhanbarth mynyddig, gan gymeryd tri chant o garcharorion, a meddiannu rhai gwaihffosydd oddiar y gelyn. Dydd lau Y mae ymgais wedi ei gwneud i lofruddio Lenin, pennaeth Llywodraeth y Bolsheviks. Taniwyd pedair ergyd ato pan oedd ym myned mewn car motor drwy strydoedd Petrograd. Di- hangodd heb niweidiau. Niweidiwyd ffrynd iddo yn ysgafn. Y mae'r cweryl gyda Rumania yn ymddangos wedi terfynu ar ol 11awer o gyffro. Cymerodd y Rumaniaid oruch- wylwyr perthynol i'r Bolsheviks i'r ddalfa oherwydd eu bod yn ceisio dylan- wadu. Y mae Lenin wedi anfon rhybudd bygythiol i'r Llywodraeth Rumanaidd, ac wedi cymeayd i'r ddalfa swyddogion y Llywodraeth Rumanaldd ym Mhetrograd fel iawn. Y mae'r holl gorff diplomatyddol ym Mhetrograd wedi protestio, ac y mae ei ffryndiau wedi cael eu rhyddau. Dywedir fod yr arweinwyr gwleid- yddol a milwrol yn Germani wedi dod i ddealltwriaeth drwy gyfaddawd. Yroedd y prif bwyntiau yn delio ag ychwanegiadau tirol, a dywedit fod Hin- enburg wedi cael ei adael at ei ryddid i wneud yr ychwanegiadau tirol a all ar y ffrynt Orllewinol. Ymddengys fod yr un polisi yn gymhwysadwy at y cwr Dwyreiniol, ond nid yw hyn wedi cael ei fynegi yn swyddogol oberwydd y gall effeithio ar Gynhadledd Brest. Parheir i ymladd yn ffyrnig yn Itali, He y mae pob ymgais o eiddo'r gelyn i ad- feddiannu'r safleoedd a gymerwyd gan yr Italiaid wedi profi'n aneffeithiol. Y mae'r ehedwyr Prydeinig wedi taro i lawr dair o longauawyr y gelyn. Dywedir yn yr adroddiad Awstralaldd fod yr Italiaid wedi ymosod yn aflwydd- iannus dair gwaith ar lechweddau gor- ilewinol Monta Pertica. Y mae rhif 'y llongau a suddwyd yn llai yr wythnos ddiweddaf. Ni saddwyd ond chwech o longau mawr, ac y mae hyn y rhif lleiaf ag eithrio un wythnos.

I-MANCHESTER.-,.