Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

COLWYN BAY.

I COLWYN.

TREGARON. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TREGARON. I Pan ddaeth y newydd fod Pte. J. D. Jones wedi ei ladd yn Ffrainc, tarawyd y dref y syndod a galar. Ni fu ond tair wythnos yn Efrainc cyn i'r diwedd ddod. Yr oedd yn fachgen a hoffid gan bawb a'i hadwaenai. Gwasanaethai ei Dduw yn ffyddlon yn ei eglwys, a theimlir y golled yn fawr yn y cylch hwnnw. Aelod oedd Mr Jones gyda'r MC, ond gyda ni yr oedd Mrs Jones. Yr oedd Mr Jones hefyd yn ami gyda'i briod yn ein capel ni. Mae Mrs Jones yn ffydd Ion a gwasanaethgar gyda ni. Hi sydd yn gyfrifol am yr awgrym a'r llafur cyntaf ynglyn a chasglu ar gyfer dych- weliad ein bechgyn o'r rhyfel. Yr oedd y dorf enfawr gyfarfyddodd yng Nghapel y M.C. prydnawn Sul, Ionawr Gad, yn arddanghosiad o'r parch delir i Mr Jones. Siaradwyd yn y cyfarfed gan y Parchn. Morgan Evans, D. Jones, Tregaron; a J. Wesley Mor- gan, Llanbedr. Diweddwyd gam Ficer y Plwyf. Canwyd dwy anthem priodol i'r amgylchiad dan arweiniad Mr T. A. Jones, a chwareuwyid y Dead March gan yr organyddes. Nawdd y nef fyddo dros briod, rhieni, a holl berthynasau ein cyfaill hawddgar. GOH. I

[No title]

Advertising