Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

' '—— ..l. PQGLAU. 1

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

 '—— ..l. PQGLAU. 1 Private Richard Brown, Bryn-J teg.—Dydd Gw.ener, Iöúåwr 11, brawychwyd y dref hon pan ddaeth gair o Swyddfa Rhyfel fod y brawd uchod wedi boddi ar ei ffordd i wlad Canaan. Fel hyn yr oedd y pellebr "Missing, belived drowned." Cyn ymuno a'r fyddin, ychydig fisoedd yn ol, yr oedd yn ilythyrgludydd, ac yn adnabyddus i'r dref a'r wlad, yn briod a dau o blant, a chyda chalon drom o hiraeth yr wyf yn ysgrifennu gair am farwolaeth fy annwyl gyfaill. Cefais lawer o'i gymdeithas, a llawer o ymddiddan melus, ac mai yn syn gennyf feddwl na chaf byth eto ei weled na chael ymddiddan am y pethau goreu gydag ef yr ochr yma i'r lien. Y mae ef wedi myned tu draw i'r lien, a gwyn ei fyd y rhai sydd yn marw yn yr Ar- glwydd mae gobaith y cawn gyd- gyfarfod yn y Wynfa ldn lie na raid ymadael mwy. Yn ei lythur diweddaf at ei briod yr oedd wedi dod i olwg gwlad Canaan, a gresyn yw meddwl ei fod wf-dllcolli ei fywyd yng ngolwg y glannau. Pe buasai wedi cael glanio a threulio ychydig amser yn y wlad sanctaidd, a chael dod yn ol i'w hen gartref, buasai ganddo lawer iawn i ddweyd; ond nid felly y bu. Yr oedd ynddo dalent i wahanol gyfeiriadau, yn enwedig mewn barddoniaeth, ynddarllenwrmawr, yn hoff iawn o bregeth, a chof agorol: gallai adrod dddarnau o bregethau a barddoniaeth o weithiau y pregethwyr a'r beirdd goreu. Yr oedd yr achos yn Ebenezer yn agos iawn at ei galon yr oedd ei wasanaeth yn werthfawr iawn, yn enwedig mewn cyfar fodydd amrywiaethol er cynorth- wyo yr achos; ond:yr Ysgol Sul a'i ddosbarth*oedd fwyaf at ei galon yr oedd ganddo barch mawr i'w athraw, ac yr oedd yn hynod barod a chryf yn ei ddosbarth. Nidynfuan yr anghofia eglwys tlSenezer ei brofiad melus yn y seiat olaf nos Sul cyn iddo fynd i tfwrdd y tro diweddaf. Mae llawer ddywediadau yn fyw yng nghot. eglwys. Derbyniais amryw o lythyrau oddiwrtho er pan ymun- odd a'r fyddin, ac nis gallaf yn well na' difynnu rhai brawddegau o honynt, er 4angos ei gariad at yr Achos a'i Waredwr: "Y Sabboth yw hi, ond Sabboth ymhell o Walia anwyiaf; diolch am wybod beth yw Sabboth Cymru. 0 na fuaswn heddyw yn gallu addoli yn Eben- ezer annwyl, ond diolch am allu meddwl am ychydig am Dduw mewn lie fel hwn, sef Salisbury PJaln mae hi yn awr bron yn ddau o'r gloch, amser yr Ysgol Sul, I 0 fel mai hiraeth yn fy meddiannu wrth feddwl am danoch. Pwy sydd yn y class heddyw tybed? A ydyw y rhai sydd yn cael bod adref yn sylweddoli y fraint o fynychu'r Ysgol Sul; gobeithio eu bod, heddyw 'rwyf yn gwybod beth yw colli yr Ysgol. Gallaf ddweyd fel Dewi Hafesp: 1 Fe rown y byd, pe bai yn fy rhan, Am funud yn fan honno.' Eisieu cael terfyn ar y rhyfel yw cri pawb o'r bechgyn yma, ac 0! mor felus yw meddwl am y dydd hwnnw, mae llygaid gobaith yn tremio at fore gwawr, a tanau tel- ynau yn sisial ganu- 'Ni pheru ddim yn hir, Y ddu dymhestlog nos." Mae y werin wedi gorfod cario'r groes yn hir, ond mae. bore braf gerllaw; bydd gan bawb ohonom rhywbeth i'w ddweyd pan ddelo'r dydd hwnnw. Mor dda yw Duw onide, daliwch i weddio fel eglwys, cofiwch am danaf yn eichgweddi au, lie ces fy magu, yr Ysgol Sul a'r capel yw y lie goraf wyf wedi ei weled eto." Yn ei lythyr olaf dywedai eiriau fel hyn "'Rwyf ■wedi cael digon ar y mor bellach am byth, bydd gennyf hanes i ddweyd pan ddof adref, gan ein bod wedi cymeryd cymaint o amser i fynd, wedi bod mewn cymaint o leoedd Q'r fiordd, cewch yr hanes i I gyd rhyw ddiwrnod os gwel Duw yn dda fy arbed. Gweddiwch lawer drosof, aiff gweddi byth yn ofer. O! mae bywyd yn felus, a gobeithio y caf fywyd ac iechyd eto i ganmol Duw am ei ryfedd ddaioni a'i drugaredd fawr ataf." Ond rhaid dweyd heddyw fod y gobeithion hyn wedi eu torri, a fy nghyfaill annwyl yn ei ddyfrllyd fedd. Er nad oes man fechan i'w fedd y gallwn daflu blodyn gwyn arno, da yw cofio fod Duw, yn gwybod y man a'r lie, ac y daw yntau i fyny o'r eigion mawr yn ei wisg newydd. Mae ein cydymdeiralad yn fawr iawn fel eglwvs a'r wraig a'i dau fach, hefyd a'i dad a'i fam ,Mr a Mrs R. Brown, un o flaenoriaid ffyddlon Ebenezer, hefyd a Mr a Mrs Meredith, Tudno Villa, swydd- og pwysig yn yr egl wys,-dau deulu mawr a ffyddlon eglwys Eb- enezer, Dolgellau. Yr Arglwydd a roddo nerth iddynt oil i ddal y brofedigaeth fawr hon o golli un annwyl iawn iddynt oil, ac a'r eglwys a'r dref. Canodd fy nghyf- aill lawer, yn enwedig gyda'r delyn, a phob amser yn ardderch og-Ilawer iawn o'i waith ei hun. Yno ni gawn ganu byth, Mewn gogoniant pur dilyth, I Grist a'r Arglwydd lor. Carwp daflu blodyn ar fedd fy nghyf- aill, Mr J. Jones, Library, Abermaw, a hunodd mor sydyn, wedi llafur caled ymhob cyfeiriad. Nid anghofiwn byth ei wasanaeth a'i weithgarwch o blaid yr Ysgol Sul a'r Cyfarfodydd Ysgolion. a bydd yn ehwith iawn i ni yn Ebenezer gynnal Cyfarfod Ysgolion heb i Mr Jones ddod yma i arholi y Dosbarth Hynaf: yr oedd yr eglwys yn awyddus am ai weled a'i glywed bob amser. Mae ein colled yn fawr fel Cylchdaith, ao yn enwedig i'r Abermaw, lie y bu fel Tad i'r boll feahgyn sydd ar faes y Ehyfel. Hoddwdh i'wlwoh. CYMRO.

I..CARSTON. ,II

CORRIS UICBAF. I

YSTRAD RHONDDA, I

IIPENYGRAIG.I

I'GAILTMELYD. I

I 1:LLANIDLOES..I

PENNAL. -

LLUNDAIN.

[No title]