Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

CYLCHDAITH DOLGELLAU AC ABERMAW.I,

PWLLHELI.-

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PWLLHELI. Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol y Gylchdaith ym Mhwllheli, dydd Sad- wrn, Ionawr 5ed, o dan lywyddiaeth y Parch R. Conwy Prifcchard, Arolygwr. Yr oedd yn bresennol y Parch John Price, Criecieth, Mr J. H. Jones, Cen- hadwr y Rhiw, Mri Henry Parry, Coch- moel, a W. J. Lewis, Cemlyn, Pwllheli, Goruchwylwyr, a nifer o gynrychiolwyr o rai o'r eglwysi. Darllenwyd rhan o'r Ysgrythyr gan yr Arolygwr, ac arweiniwyd mewn gweddi gan Mr J. H. Jones, Rhiw. Hysbysodd Mr Lewis fod cyfraniadau yr eglwysi wedi eu ta lu "i r Bane. Cadarnhawyd cofnodioji y cyfarfod blaenorol. Eglurodd y Llywydd amcan a phwr- pas Pwyllgor Gwedi'r Rhyfel" (After War Committee), a dewiswyd Mrs Sea- borne Davies, Pwllheli; Mrs Owen, Bay View, Nevin; Mrs Pickering Hughes, Uoreb, Aberdaron; Miss Owen, Meill. ionydd, Rhiw; Mri Cambrensis Wil Hams, Criccieth; Charles Jones, Llan bedrog; John Griffith (ieu.), Carmei; David Williams, Hendre, Aberdaron; John Thomas, Bronllwyd, Tyddyn; ynghyda y Parch John Price yn gynull- ydd. Apeliodd Mr Lewis ar i'r eglwysi oedd heb weithredu anfon casgliad y War Emergency Fund yn ddioed i'r Ysgrifen- nydd er mwyn cwblhau y gwaith. Rhoddodd yr Arolygwr adroddiad olf Cyfarfod Cyllidol, a cbafodd mater Ty i'r Ail Weinidog sylw neilltuol; hysbys- odd fod Cadeirydd y Dalaith yn bwriadu ymweled a Chyfarfod Mawrth i'r diben o geisio hwyluso pethau ac i symbylu y Gylchdaith i gyflawni ei dyledswydd tuag at y Cyfarfod Taleithiol. Dewis- wyd dau o bob eglwys i ymfiurfio yn BvPyllgor i ystyried y camrau goreu er dwyn barn i fuddugoliaeth. Cydnabyddodd yr Arolygwr mewn byr eiriau cynhwysfawr wasanaeth y Gor- uchwylwyr i'r Gylchdaith, ac enwodd hwynt am flwyddyn ar.all.wnaed pob ymdrech i geisio darbwyllo Mr W. J. Lewis i barhau gan fod ei wasanaeth mor werthfawr. Diolchodd i'r Gylch- daith am yr hynawsedd a'r cydweith- rediad a dderbyniodd am y tymhorau maith y bu yn Orushwyliwr; gyda rhes- ymau cryfion dywedai nad allai barhau oherwydd dyledswyddau eraill. Feliy hefyd Mr Parry, ei gydswyddog. Dew- iswyd Mri R. T. Foulkes, Postfeistr, Pwllheli, a David Williams, Hendre, Aberdaron, yn olynwyr i'r swydd gydag unfrydedd. Cymeradwywyd y brodyricllainc Mr Hugh Hughes, Ynysgain, Criccieth, a Mr J. Morgan Williams, Nevin (y ddau yn y fyddin), yn ymgeiswyr teilwng i'r weinidogaeth. Diolchwyd ac ail-ddewiswyd Mr W. Jones Owen, Dinas, yn drysorydd y Capelau; hefyd yr un modd Mr Robert Jones, Nevin, yn ysgrifennydd yr Ysgol- ion Sul. Dewiswyd y brodyr E. G. Meredith ac Owen Thomas, Gas Manager, yn archwilwyr cyfrifon y Genhadaeth Dramor. Datganodd y cyfarfod eu cydymdeim lad dyfnaf a'r rhai canlynbl yn eu prof- edigaeth Mr Joseph Roberts ( Ap Heli), Lerpwl, ym marwolaeth sydyn ei an- nwyl briod; Mri Richard a Thomas J. Roberts, ei frodyr, yn eu galar; Mrs Jones, Tanyfron, Mynytho, ym marw olaeth ei hannwyl briod Mrs Owen a'i meibion, New Street, Pwllheli, ar 01 Hughie Carrey, yr hwn a gwympodd yn y rhyfol yn Ffrainc; Mrs Tilsley. Pwll hali, ar ol ei hannwyl briod, yntau wedi syrthio ar faes y gad; hefyd gyda Mr G. H. Williams, Bethesda, a'r feeulu, yn eu galar ar ol Lieut. Willie Williams. Hefyd yr hen veteran Mr Hugh Wil- liams, Awelfryn, Criccieth, yn ei wael wedd Capt. a Mrs Cadwaladr Jones, Criccieth, oherwydd gwaeledd Miss Jones, eu hannwyl ferch, yr hon sydd yn yr ysbyty yn Lerpwl, gan ddymuno iddi adferiad buan a llwyr. Datganwyd cydymdeimlad dwfn a nifer o deuluoedd yn y Gylcbdaith sydd mewn pryder a gofidoherwydd eu bechgyn mewn yspytai wedi eu clwyfo yn y brwydrau diweddar, gan ddymuno gwellhad buan iddynt. Pasiwyd i'r cyfarfod nesaf gael ei gynnal yn Pisgah, Rhiw, Ebrill laf. Ymwahanodd y cynrychiolwyr i an- nedd Mrs Williams, Bank Place, Gwal ia, a Llys Myfyr i gaeleu gwala. Gresyn na chymerai y Gylchdaith ,fwy o ddyddordeb ym mhrif gyfarfod y Gylchdaith, ac anfon cynrychioiwyr; posibl y ceid mwy o lewyrch ar yr Achos pe ceid gwell cynrychiolaeth. I GWALIA.

I TOWYN. J

CYLCHDAITH DINBYCH.

I ASHTON-IN-MAKERFIELD.