Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

CYLCHDAITH DOLGELLAU AC ABERMAW.I,

PWLLHELI.-

I TOWYN. J

CYLCHDAITH DINBYCH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYLCHDAITH DINBYCH. Cynhaliwyd y oyfarfod chwarterol ym Mhendref, o dan lywyddiaeth yr Arol- ygwr, y Parch T. O. Jones (Tryfan), ac yr oedd yn bresennol" y Parch D. R. Thomas, Llanelwy, y Goruahwylwyr- Mri Robert Davies a Robert Jones, a chynrychiolaeth bron o bob eglwys. Yn y cyfarfod blaenorol derbyniwyd gyda diolchgarwch gwresog gynhygiad yr Aroiygwr i fyned drwy y Gylchdaith i ddarlithio ar Williams, Pantycelyn," a hynny yn ddidraul, er budd Drysorfa y Bwrdd Chwarter, a dygodd adroddiad o'i ymweliad a Pendref a Salem, ynghyd a Henllan, Llandyrnog, a Bodfari, a throsglwyddodd cynhyrch y darlithiau, sef Cheque am £26, i'r Goruchwylwyr, < a thrwy bynny yn ymrhyddhau y J Gylchdaith o ddylad. Pasiwyd plejd- lais gwresog o ddiolchgarwch i'r Parch Tryfan Junes am ei wasanaeth werth- fawr ac amserol. Diolchwyd i Mr Robert Davies am ei wasanaeth ffyddlon am dair blynedd fel Circuit Steward, ac am fod y tymcr penodedig ar ben, enwodd y Cadeirydd Mr E. R. Jones, Postfeistr, fel un cym- wys i lenwi y swydd o Junior Circuit Steward. Derbyniodd y cyfarfod y cyfryw yn unfrydol. Diolchwyd hefyd i Mr Robert Jones, Holland Villas, ei gyd swyddog, ac ail-etholwyd ef am flwyddyn arall. Ail-etholwyd Mri Robert Davies a W. Marsden Davies fel archwilwyr cyfrifon y Genhadaeth Dramor, a'r un modd Mr R. Davies yn Ysgrifennydd y Capelau. I Dymunwyd ar i Ysgrifennydd y Cyf- arfod aros yn ei swydd am y flwyddyn bon, yn absenoldeb Mr Griffith Roberts gyda'r fyddin yn Ffrainc. Pasiwyd fod aelodau y Cyfarfod Chwarter i gyfansoddi y War Emer- gency Committee." Wedi rhyddymdddan ar achosion y Gylchdaith, terfynwyd cyfarfod dymun- ol gyda gweddi. I M.D.

I ASHTON-IN-MAKERFIELD.