Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
MYNYDD SEION, LERPWL.
MYNYDD SEION, LERPWL. Y Gymdeithas Lenyddol.—Er pan ysgrifenwyd o'r blaen, cafwyd amryw gyfarfodydd rhagorol. Y cyntaf mewn pwynt o amser, oedd anerchiad ar "Emynyddiaefch Cymru," gan y Parch David Adams, B.A., Grove Street. Beth bynnag arall ydyw Hawen—ac y mae'n rhagori mewn ilawer cyfeiriad-y mae ef yn feirniad craff, annibynnol, a diddei- bynwyneb. Profodd felly yn yr anerch iad uchod. Dangosodd ragoroldeb, a diffygion ein hemynyddiaeth, yn enwed- ig cynyrchion Pantycelyn, a gynwys- ant syniadau diwinyddol amrwd a ehyfeiliornus. Arferai Mr Edward Lloyd, Flakner Square, ddod gydag Hawen ar ei ymweliadau blynyddol a'r Gymdeithas, ond y mae'r g" rboneddig hynaws hwnnw ers misoedd bellach wedi myned oddiwrth ei waith at ei wobr. Mae gweithwyr goreu'r nef Ym marw yn eu gwaith Ond eraill ddaw'n ei lie Ar hyd yr oesau maith." Y r" arall hwnnw yn yr engraifft hon oedd mab enwog y boneddwr ymadaw- edig, sef yr Athro J. E. Lloyd, M.A., Prifysgol Bangor. Cafwyd ychydig sylwadau tra diddorol ganddo ef, ac yn eu plith ei atgol am ei ymvveliad- cyritai a'r Gymdeithas pan yn faehgenyn, i wrando ar yr Eglwys Bach yn areithio ar Ddamcaniaeth Datblygiad." Ym- wel yn achlysurodd a'r Mynydd o hyd yng nghwmni ei fam deilwng, ac nid unwaith na dwywaith y cafwyd ei was- anaeth gwerthfawr ym mhwipud yr eglwys hon. Troes y rhyddymddiddan a gafwyd ar Yr Eglwys a'i Httthrawiaeth "—- Mr T. Amos Hugbes yn agor-yn fath ar Seiat Brofiad fuddiol ac adeiladol iawn Yn y cyfarfod hwnnw ffarwel- iai Mr R. Pierce Jones a'r Gymdeithas ar ei ymadawiad i fyw ym Manchester. Colled dfiirfawr yw ei golli ef, nid yn unig yn y Gymdeithas, ond yn yr eglwys yn gyffredinol. Anodd cyfarfod a brawd mwy amryddawn, ewyllysger, a dihoced. Er maint ei brysurdeb fel swyddog uchel dan y Bvwdd Masnach, gwasanae hodd yr achoe yn dra effeith iol mewn gwahanol ffyrdd. Bu ei briod hawddgar hefyd yn hynod o ffydd- I03 a gweithkar-yn deilwng o draddod- iadau goreu ei rhieni yn Roman Road, Llundain. Bendith y not a ddilyno'r teulu rhagorcl hyn i'w cartref newydd. Cafwyd rbyJdymddiddan bywiog ryfeddol ar Yr Eglwys a Dirwest," a agorwyd yn gryf a deheig gan Mr Rowland Elias. Gresynwyd fod yr achos Dirwestol yn cael ei glwyfo'u nhy ei garedigion—fod arweinwyr crefydd yn ymrannu ac yn yrpgecru a'u gilydd, yn lie ymuno i ddifodi gelyn mawr tin gwlad. Mae'r gelyn yn ymgryflN.u..a.'r Philistiaid yn crechwen, tra mae ar- weinwyr dirwest a chrefydd yn sarhau ac yn baeddu eu gilydd. Ow Ow!
- BAGILLT.
BAGILLT. Yn y Forester's Hall, prydhawn y Nadolig, cynhaliwyd Sale of Work a; Xmas Tree, Bethania, a throed allan yn llwyddiant gwrioneddol ymhob ystyr. Y bore a'r noson cynt buwyd yn brysur yn trefnu a hardda'r nduadd, yn gosdd i fyny'r Stalls, a threfnu'r nwyddau, er na fuwyd ond am ryw ddau fis a hanner yn cynllunio a darpar. Gweithiodd y chwiotydd yn y cyfarfodydd pwytho yn egnio), mewn amser ac allan o amser, a phawb ran hynny mewn casglu neu wneud rbywbeth ati, fel erbyn 3 o'rgloch nawn y Nadolig gwelid ar y Stalls gasgliad helaeth o nwyddau gwerthfawr ac atdyniadol. Rhyfeddai rhai pa fodd, ac o ba le caed cymaint mewn amser mor f yr. Anobeithiai y mwyaf calon j nog droi'r oil yn arian cyn diwedd y i dydd; ond hynny a wnaed, bron yn I llwyr, a derbyniwyd dros £100 cyn deg nos Nadolig. s Yr Hearaduv Joseph Jones, Treffyn- non, oedd y cadeirydd penodedig, ond methodd ddoi o herwydd anwyd trwm ond anfonoda rodd werthfawr a darllen- nodd y Parch D. Meang Jones, a gym- erodd ei Ie, anerchiad bwrpasol yr Hen- adur i'r gynulleidfa. Agorwyd y.Sale gan Mrs Dr. Wil- liams. Fflint; chaedfanerchiadau cyf- addas gan MrajWilliams a'r Dr. a rhodd i'r drysorfa. Diojchwyd yn gyrines i Mrs Williams^fa'r Henadur gat. y Gweinidog a Mr Mitchell a'r ran yr eglwys. Yr oedd, yr Hall yn 11awn ar hyd yr amser, ac yn llawn prysurdeb mewn prynu a gwerthu. Yr oedd y Stall Ddillad dan ofal Mrs Meurig Jones a Miss M. C. Williams, a gynorthwyid gan Misses Charlotte a Ellen Williams, Maggie Davies, Lala Hughes, ac eraill. Y Miscellaneous Stall dan ofal Misses O. J. Hughes, a Dilys C. Jones, a gyn- orthwyid- gan Miss L Lloyd, E Jones, A. Allsopp, ac eraill. Y China & Toy Stall dan ofal Misses E Bellis a Mona Jones, a Herbert Hughes, a Miss Ethel Bellis, ac eraill, yn cynorthwyo. Y Refreshment Stall dan ofal Mrs Simon Davies a Miss Jennie Williams, Comp- ton Housa, a Misses Evans, Humphrey Jones ac eraill yn cynorthwyo. Mri Esaiah Hughes a Wm. Evans ofalai am y Pren Nadolig, a Mr Jack Hughes am y Side Show; Mr John Jones am y Weighing Machine; Mr R. Seville am y Raffle; Mri T. Owens, S. Davies, A. Jones, W. Davies, A. Humphreys, J. T. Williams, H. Hughes, R. Lloyd, ac eraill, am y drysau. Daw yn ddiau swm sylweddol eto oddi wrth y Raffle wnaeth Mr Mitchell at y glanhau, gweithiodd ef fel arfer yn ddiarbed. Mae'r capel wedi mlwy na banner gorlfen ei lanhau, bydd yn y man yn un o'r addoldai harddaf yn Sir Fflint, a'r holl draul wedi ei dalu cyn dydd yr ail agoriad—ail Sul Chwefror.
I ,PWUHEU AR CYLCH. I
PWUHEU AR CYLCH. Sabboth y Nadolig bu y Parch Gwynfryn Jones yn pregethu ym I Mhwllheli a Nefyn. Cafwyd odfacn grymus a. meSus. Bu yn annerch ar gau y tafarnau, yn Neuadd y Dre y noson fiaenorol yng nghwmni gwr llithrig a hyawdl ei ddawn-gwr c Amerig. « Bu y Parch W. P. Roberts, Aberdyfi, yn pregethu yn Tyddyn a Rhiw yr un i Sabboth, a phregethodd bore dydd Nadolig, o dan nawdd Cynghor yr Eglwyei Rhyddion, yn nghapel Seisnig Ala Road—pregeth Gymraeg. Bu y darlithydd a'r pregetbwr enwog, Mr W. O. Jones, Aber, yii traddodi I cyfres o ddarlithiau yn niwedd y flwydd- yn. Yn Abersoch gyda'r Methodistiaid pregethodd ar y Sul, a'r nos flaenorol dygodd "Comon Sens" i'r ardal drwy ei ddarlith boblogaidd. Yn Carmel, Myriytho (W):dysgodd "Ddistawrwydd'' iddynt, a chafodd y ddarlith y fath effaith ar y cadeirydd, W. W. Griffith, Ysw., Castellmarch, nes peri iddo yn ddistaw roddi rhodd anrhydeddus o ddwy bunt at yr achos. Gwr trugarog at y tlawd a hael at achosion crefyddol yw y bonwr a'r teulu. Y. n Seion, Pwllheli, nos ola'r fiwydd-1 yn, bu yn traethn mewn hwyl i dyrfa fawr a'r LwJrdra a Gwirionedd," Hugh Pritchard, Ysw., Cyfeithiwr, Cynghorydd Trefol a Sirol, yn llywyddu. Rhoddodd y bdneddwr hael, Mr. Richard Roberts, Hope House, a'r llywydd roddion teilwng at y drysorfa. I hebrwng yr ben flwyddyn a chroes- awu y newydd i mewn, pregethodd W.O." i gynulleidfa barchus. Aufonodd eglwysi y Gylchdaith Qerdyn Nadolig, ynghyda rhoddion sylweddol, i'w bechgyn sydd yn gwas- anaethu eu gwlad yng ngwahanol rannau o'r byd. Bu Plant Seion, o dan arweiniad Mr T. J. Roberts, a Miss Griffith, Hirwaen, yn cyfeilio, yn cynorthwyo cyfeillion Carmel i gynnal Gwylnos. Cafwyd canu swynol ae elw sylweddol. Yr oedd ymddygiad y gynulleidfa fawr yn deilwng iawn o efelychiad. Capt. Jones, Brynbugail, yn arwain, a Mr Thomas Williams yn llywyddu. Bu y Dr Gwenogfryn Evans-gwr o ddysg, yn trigo yn y fro-yn llanw pwlpud Rehoboth, Llanbedrog, rai dyddiau yn ol. >!< ¡ Daeth gair o Swyddfa Rhyfel fod Willie Green, un o blant Seion, ynghyda I Robert Hughes, mab Mrs Catherine Hughes, North Street, wedi syrthio yn aberth i gynddaredd y Rhyfel yn yr ym- gyrch yn ymyl Jerusalem. Hefyd Wm. Pratt, un on plant, wedi ei glwyfo yn dost. Yehydig ddyddiau yn ol derbyn- iwyd y. newydd fd yr olaf wedi ennill y Fathodyn Eilwrol. Mae galar a gofidiau yn dygyfor yn yr ardaloedd hyn o herwydd fod gobeithion y dyfodol yn cael eu tony, i lawr. Brysied Hedd- wch i deyrnasu dros y byd. GWALIA.
i I LLYSFAEN.
i I LLYSFAEN. Dydd Calan, yn addoldy hardd Myn- ydd Sion, Llysfaen, unwyd mewn glan biiolas Mr W. Henry Roberts, Peny bryn, Porthyfelin, Caergybi, a Miss Ann Jane Roberts, Craig Side, Llysfaen. Gwasanaethwyd gan y Parch E. Arthur Morris. Y gwas priodas ydoedd Mr Johii F. Roberts, a'r forwyn, Miss Jesse Roberts. Daeth nifer liosog ynghyd, i. fod yn llygad-dyst o'r seremoni ddydd- orol. Ar ol y briodasmwynhawyd gwledd yng nghartref y briodasferch. Anerch- wyd y ddeuddyn hapus gan y Parch E. Arthur Morris, Mr Jones, Craig Side; Mr John Roberts, a Mr John F. Roberts, ac atebwyd mewn geir- iau detholedig gan y priodfab, ar ei j ran^f a'i briod. Dymunwn fendlthion goreu-y ddeufyd i'n cyfeillion ieuanc ar I hyd eu gyrfa briodasol. Mae y gwr ieuanc yn hannu o deulu Wesleaidd sydd yn dwyn mawr sel ynglyn a'r achos, a'r un peth ellir ddweyd am Mrs Roberts. Edmygwn ei doethineb yn ei dewisiad o Mynydd Sion fel lie ei phriodas. Yno y magwyd hi yn gref- yddol, a beth yn fwy naturiol a phciodol nag i'r'amgyl'chiad pwysfg o briodas gymeryd lie mewn mangre mor gysegr edig. Ond syn yw meddwl mae dyma yc ail briod'as gymerodd le ym Mynydd Sion. Tybed na ddylem fel YmneiUtuwyr werthfawrogi mwy ar ein breintiau yn y cyfeiriad hwn, ae yn arbennig ynglyn a chladdu gweddillion ein hanwyliaid. Diau y ca Mrs Roberts dderbyniad siriol gan ein heglwys yn Caergybi. Y mae ynddi hi, fel ei phriod, gynahwys- terau i fod yn ddefnyddiol iawn. I Goh.
CORRIS UCHAF.
CORRIS UCHAF. Bydd yn dda gan gyfeillion H. Bald- wyn Pugh, Abercwmeiddaw, ddeall ei fod yn gwella yn yr ysbyty ym Man- ceinion. Clwyfwyd ef yn Ffrainc II GOR.
[No title]
Hysbysir fod y Major Richard Lloyd George wedi prynu fferm o'r enw Tydd- ynheli, ger Llanystumdvjy. Y mae y tir yn taraw ar Plas hen, Criccieth, lie y trigianna Major R Lloyd George a'i briod.
ABERMAW.
ABERMAW. Nos olaf yr hen flwyddyn, cafwyd gyfarfod te ao adloniant, i groesawu Pte. Joseph Davies. Cafwyd adrodd a chanu gan yr un rhai a'r gyfagfod o'r blaen a riportiwyd. Cyflwynwyd-ffon eboni a gwddw ariau gan Mrs Owen i arwr y noson. Arweiniwyd y cyfarfod gan Mrs Morgan Watkins. Cyn hanner nos cafwyd awr o ddefosiwn, dan arweiniad y gwe' nidog, y Parch J. Lloyd.
I :NODION 0 1DDOLGELLAU.1
I NODION 0 DDOLGELLAU. Da oedd gennym fel eglwys weled Pte- Fred Morris adref atn ychydig ddyddiau. Hefyd Pte; Richard Roberts, Riverside, adref o Ffrainc, a thra yma y tro hwn ymunodd mewn priodas a Miss Rowlands, Upper Mill, a'n dymuniad ydyw y byddant yn ddedwydd, ac y caiff yntau ddod yn ol-cyn hir. Y Sul o'r blaen cawsom ein breintio a gwasanaeth werthfawr Mr M. E. Jones, Llanelwy. Pregethai yn rhagor ol. Yr oedd yn dda iawn gennym ei glywed a'i weled yn edrych mor dda. Brysied yma eto yw ein dymuniad. [ i Cymbo.
Advertising
I University College of Wales, ABERYSTWYTH (One of the Constituent Colleges of the University of Wales). OPENED 1872. President:—Sir JOHN WILLIAMS, Bart., M.D., D.Sc, G.C.V.O. Principal: T. F. ROBERTS, M.A. (Oxon), LLD. (Vict). THE Session begins in September. -L Lectures commence early in October. Entrance- Scholarships and Exhibitions, open to both male and female candidates above the age of 16, are offered for Com- petition at the commencement of the Sesr- sion. Students are prepared for Degrees in Arts Science (including the Applied Science of Agriculture), Law and Music. Sessional Composition Fee-in Arts [12, in Science [16. Sessional Registration Fee, £1. Men Students reside in Registered Lodgings in the town, or at the Men's Hostel—Warden: Mr H. H. Paine, M.A., B.Sc. Women Students reside in the Alexandra Hall of Residence for Women Warden Miss C. P. Tremain, B.A. For full particulars respecting the General Arts and Science Departments, the Law De- partment, the Agricultural Department, the Departments for the Training of Ele mentary and Secondary School Teachers, and the Hostels, apply to- J. H. DAVIES, M.A., Registrar. RHIWMATIC ANHWYLDEB Y KIDNEY. Y mae rhiwmatic yn ganlyniad uric acid crystals yn y llywethau a'r cymmalau, effaith gormod o uric acid yn y cyfansodd- iad y merhodd yr elwlod (kidneys) ei symud fel y bwriadodd natur gyda hyn y cytuna pob meddyg graddedig, A'r acid hwn yw'r achos o boen yn y cefn, lumbago, sciatica, gout, anhwyldeb y dwr, carreg grafel, a dropsy. Mae llwyddiant Tabledi Estora at drin I Rhiwmatic a ffurfiau eraill o anhwyldeb yr elwlod i'w briodoli4'r ffaith eu bod yn adferu'r elwlod i weithredu'n naturiol, a a thrwy hynny o angenrheidrwydd a symuda'r etfeithiau, drwg a .ddeillia o hono ac mae wedi iachau achosion dirif- edi gwedi methiant meddyginiaethau eraill, yr hyn sy'n cyfrif am daIWnt yn prysur gymeryd lle'r meddyginiaethau hen ffasiwn a werthir am brisiau sydd allan a gyrraedd pawb ond y cyfoethog. -Mae Tabledi Estora yn llawn deil- yngu y desgrifiad ohonynt-ineddygin- iaeth onest am bris gonest-rl/3 y blwch o 40 dabledi, neu chwe blychiad am 6/9. Ar werth gan Fferyllwyr ymhobman, neu'n rhad trwy'r post, am y prisiau hyn oddi- wrth Estora Co., 132, Charing Cross Road, London, W.C. M ERCHED, Dioddefa Merched yn fynych oddiwrth saldra, cur a phoen, o dan yr argraff eu bod yn ebyrth iafiechydo syn gyffredin i'r ystlen deg, ond, yn amlach nag i'r gwrth- wynelb y, mae i'w briodoli i'r elwod (kid- neys), ac mewn achosion o'r fath fe fydd i flychaid neu ddau o ESTORA-TABLETS e» llwyr adferu 0 leiaf, mae'r prawf yn werth ei wneud, gan fod dedwyddwch a llwyddiant merch ar hyd ei hoes yn dibyn- nu yn hollol ar ei hiechyd. Ffiint Agent, Walter Topping, Pharma. cist. Blaenau Festiniog Agent-Hugh Jones Medical Hall. Yr Epistol at y Philipiaid. ESBONIAD t>IGURO. —— ESaONIAD diguro ar yr Epistol at y Philipiaid gan y Parch. B. Humphreys Felinfoel. Pris gostyngol, 1/ drwy'r post, 1/3. Y mae wedi ei rvyymo mewn llian, ac y mae ynddo 146 o du- dalennau. Rhoddir saith am bris chwech. Anfoner yr achebion i' Parch. EDWIN JONES, Barmouth. INDIVIDUAL COMMUNION CUPS v (. 'FOR LISTS OF Patent "ideal" Outfits, AND Samples on Approvsil, Carriage Paid, write to the Makers- Townshends, Ltd., Birmingham