Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
U Y Gwyliedydd Newdd.' AT EIN DOSBARTHWYR. r Pob archebion a thaliadau am y Gwyl- iedydd Newydd i'w danfon i'r Rheolwr, Gvtyliedydd Newydd," Flint Mountain, Flint, Anfonir un copi am dri mis trwy y Llyth yrdy 2/2; dau gopi am 3/7 tri copi am 4/6 pedwar, pump, a chwech yn ol 1/5 y dwsin. Disgwylir tal ar derfyn pob chwarter Heb hyn y mae yn amhosibl bron i ni gario ymlaen. AT EIN GOHEBWYR. Anfoner pob Gohebiaeth, gydag enw priodol yr anfonydd, i'r Golygydd wedi eu cyfeirio- V aolygydd, If Qwyliedydd Newydd," Flint Mountain, Flint, Diolchwn os rhydd ein Gohebwyr sylw i'r awgrymiadau hyn:- Carem i bob gohebiaeth fod mewn Haw eibyn boreu Iau. Ysgrifener ar un wyneb i'r ddalen bob am- ser. Os na fyddis yn rhoi ond Stamp Dimau ar yr amlen gadawer hi yn agored, ac ysgiifenner Press News ar ei chongl. LLYFR NEWYDD. "Emyn wyrCymru" GAN Y PARCH. BVAN ISAAC. Cynnwys y Ilyfr Ysgrifau Hanes yddol a Beirniadol ar holl Brif Emynwyr Cymru, o Edwwnd Prys hyd Ehedydd Ial, ac ar ei derfyn ceir Llyfryddiaeth yr Emynwyr. Earn LJertorion YR ARCHDDERWYDD DYFED. "Fel un sydd yn teimlo cryn ddiddordeb yn emynwyr ac emynau Cymru, darllenais eich ysgrifau gyda boddhad mawr. Cred- af y bydd y llyfr yn fendith i'r genedl." PARCH T. J. PRITCHARD (GLAN DYFI). Yn ddios, y peth goreu yn yr iaith ar y pwnc; a cbredaf y bydd yn waith safonoLI Costiodd lafur enfawr. Y paae cywirdeb yr awdur fel hanesydd, ei farn deg fel beirniad, a'i arddull fyw a graenus fel lienor, yn gosod ei genedl tan rwymau i'w gefnogi." Y PRIFARDD J. J. WILLIAMS. Gallaf yn ddibetrus gymeradwyo'r llyfr hWD. Chwiliodd yr awdur yn fanwl am y ffeithiau, traethodd ei farn yn groyw, a gwisoodd y cyfan mewn iaith gref a glAn. Bydd bai mawr yn rhywle os na phrynir y llyfr wrth y miloedd." Y PARCH THOMAS HUGHES. Golygydd yr Eurgrawn. Ceir yma ffrwyth ymchwil fanwl i hanes ein hen emynwyr, wedi ei gyfleu mewn modd diddorol iawn. Cloriennir eu cynhyrchion a llaw beirniad annibynnof a chraff, sydd ar yr un pryd yn lienor awen- gar. Y mae graen lenyddol rhagojol ar y gyfrol o glawr i glawr." Y PRIFARDD GWILI. Darllenais eich ysgrifau gyda bias mqpr. Aethoch i drafferth anarferol, a djjgevedasoch y gwir plaen, heb ofni wyneb gVfr. Credaf y bydd y llyfr o werth i'r rhoi. a ddaw ar eich ol, fel engraifft o wfthod byw ac adeiladu ar draddodiad heb sail iddo. Dylai y llyfr werthu yn gyflym a hir." TECWYN. Credaf y bydd y llyfr hwn yn gynysg- aeth wirioneddol i'n llenyddiaeth. Dengys yr ysgrifau b 1 meddwl galluog, medr ll^nyddol, barn aeddfed, a gwybodaeth drylwyr o'r pwnc. Os eaiff y gwaith hwn y gefnogaeth a haedda, prynnir ef wrth y miloedd." Cyhoeddir cyn gynted ag y ceir nifer digonol o Danysgrifwyr. PRIS 3/6. Yr Archebion i'w hanfon i'r Awdur, Treharris, Glam.
Y GWRTHVfrYNEBYDD CYDWYBODOL.…
Y GWRTHVfrYNEBYDD CYD- WYBODOL. Mr. Gol. Gwelaf oddiwrth lythyrau Mri- Richard Hughes a Thomas Evans mai parch i'r beehgyn annwyl, pa rai sydd yn ymladd drosom, sydd yn eu gwneud i ymddwyn fel y maent. Yn wyneb hyn, a gaf i otyn ychydig o gwestiynau i chwi, Syr ? Ni raid i chwi eu hateb os na byddwch yn teimlo ar eich calon: 1. Y gwr a gychwynodd y mater hwn oedd y Parch John Felix. Y mae gan Mr Felix fab yn y fyddin, pa un sydd wedi dioddef llawer yno. Nid oes gan Mr Hughes fab yn y fyddin. Paham fod Mr Rich- ard Hughes yn parchu mwy ar fab Mr Felix na Mr Felix ei hun ? A chaniatau fod gan Mr Thomas Evans fwy o feibion yn y fyddin na Mr Felix, heb imi drafferthu i holi trwy y G.N. a yw hyn yn wir, a yw hynny yn lleihau teimladau Mr Felix at ei fab ei hun ? 2. Y mae Arolygwr Cylchdaith I Oakfield yn wr arall pa un sydd a mab yn y fyddin, ac y mae ei fab wedi dioddef llawer. O'r pedwar a bleidleisiodd yn erbyn y pender- fyniad yn y Cyfarfod Chwarterol, y mae tri heb feibion yn y fyddin. Pleidia yr Arolygwr y penderfyn iad. Paham fod y tri hyn yn parchu mab yr Arolygwr yn fwy na'i dad ei hun ? 3. Yng Nghylchdaith Llanrhai adr nid oedd yr un o'r tri, a bleid- leisiodd yn erbyn, gyda meibion yn y fyddin, na'r un a bleidleisiodd mewn camgymeriad, o ran hynny. Ond am y ddau, pa rai a gynhyg iasant ac a gefnogasant y pender- fyniad, ymae ganddynt feibion yn y fyddin. Paham fod y pedwar hyn yn parchu mwy ar y bechgyn na'u tadau hwy eu hunain ? Cwestiwn neu ddau yn awr yn wyneb llythyr Dyffryn Tanet 1. Pa bryd yr aeth gofyn syml am enwau yn "waeddi uchel a ffyrnig,—ffyrnig wrth bwy ? 2. Paham y dylwn ofyn trwy y G.N. am yr hyn a gymerodd le yng Nghylchdaith Oakheld tra yr oedd. wn yn eu gwybod o'r blaen ? 3. Ar ba dir y gofynna a yw fy llythyr yn engraifft o "ddewrder" y Gwrthwynebwyr Cydwybodol? YmhIe yn fy llythyr diweddaf yr awgrymais fy mod yn cymeryd eu plaid ? Yr Eiddoch, G. A D. Mr Golygydd. Gwelaf fod y penderfyniad a basiwyd yng Nghylchdaith Llan rhaeadr yn tynnu cryn lawer o sylw. Nid wyf i, fab tangnefedd, am gymryd rhan yn yr ymgecru o gwbl, dim ond dywedyd gair tros y Cyfarfod Chwarter, rhag i'r wlad feddwl fod y Gylchdaith hon, sydd mor dawel ac amyneddgar a phwyllog, yn sydyn wedi colli ei chymeriad, a'i bod hefyd ar ol gwneuthur cymaint tros y bechgyn syn y fyddin wedi troi'n sydyn i'w condemnio. Ni phasiwyd penderfyniad yn y Cyfarfod Chwarter o gwbl o blaid y safle a gymer y gwrthwynebwyr cydwybodol. Un arwydd o hyn yw fod y boneddwr Cadvan, er wedi dywedyd gair condemniol iawn am safle'r gwrthwynebwyr, wedi pleidleisio tros y penderfyn- iad. Bydd cofio am ei bleidlais ef yn help hefyd i bobl weled nad yr hyn sy'n cynhyrfu nifer o wein- idogion Wesleaidd tros y bleidlais yw ofn myned i'r fyddin. Hwyrach y dylwn ddywedyd nad yw Cad- van, er mor fyw a heini, mewn oed milwrol. Dyma'r penderfyniad fel y mae yng nghofnodion y Cyfarfod Chwarter: "Tra nad ydym o angenrheid- rwydd yn cydweled a safle y gwrth- wynebwyr cydwybodol yn eu perth ynas a'r rhyfel, dymunwn ddatgan ein hanghymeradwyaeth pendant owaith y Llywodraeth yn gwadu hawliau cydwybod trwy eu difrein- io." Y modd y daethpwyd ar pender fyniad gerbron y cyfarfod oedd trwy i frawd/o weinidog ddarllen cais Mr Felix o'r Gwyliedydd Newydd. Esboniwyd wedi hynny yn glir nad oedd y penderfyniad yn cynnwys cymeradwyaeth o safle'r gwrthwynebwyr, nad oedd a wnelo ddim a hwy ond fel achlysur i bwysleisio ohonom hawliau cyd wybod lie y dengys ei chywirdeb.' Cynhygiwyd a chefnogwyd y pen- derfyniad gan ddau leygwr sydd a meibion yn y fyddin, a ph £ S;wyd ef trwy i dri ar ddeg bleidleisio o'i blaid, a phedwar yn ei erbyn, un trwy gamgymeriad. I ddangos na arferwyd dim dylanwad anffafriol. ar y Cyfarfod Chwarter, awgrym odd yr Arolygwr, yn wyneb gwrth-1 wynebiad dau o'r brodyr dan sylw, y priodoldeb i dynnu'r penderfyn iad yn ol. Ni chynhygiwyd dim gan yr un gweinidog, a dewisodd y cyfarfod yn hytrach bleidleisio na thynnu'r penderfyniad yn ol. Os yw eich gohebwyr, Syr, am dynnu'r Gylchdaith hon i'w dadl, y i iae'n bwysig iddynt fod yn y gol euni yn ei chylch. Yna croeso iddynt gymryd eu hochr, a dadleu a phasio penderfyniadau hyd eithaf eu dymuniad. Yr Eiddoch, E. TEGLA .DAVIES. Gair at y Gweinitiogion o bob Cylchdaith a ddifenwir. A,t Olygydd y G.N." Anwylyd- Byddwch dda eich amynedd, hyn sydd rasoi gerbron*Duw. Canys i hyn y'ch galwyd hefyd. Oblegid Crist yntau a ddioddefodd drosom ni, gan adael i ni j esiampl, fat y canlynech ei ol Ef,-yr i Hwn ni wnaeth beebod, ac ni chaed twyll yn ei enau; yr Hwn pan ddifen- wyd, ni ddifenwodd drachefn; pan ddi- oddefodd. ni fygythiodd. Efthr, rhodd odd ar y neb sydd yn barnu yn gyf iawn. Tangnefedd i chwi oil, Yrhai yd yeh yng Nghrist Iesu, SIMON PETR. Annwyl Mr Got. Ai teg difreinio'r Gwrthwynebwyr Cydwybodol ? A chaniatau fod ychydig wrthwynebwyr cydwybodol gonest-y maent cyn lleied mewn rhif fel, onibae mai dynion ydynt, yr aent o'r golwg am byth yng nghysgod y mwyafrif mawr) ie, aruthrol, o ryfelwyr cydwybodol— ond a chaniatau dywedwn fod ychydig o rai gwir, trylwyr, diduedd a diragrith, onid y syndod yw y dymunant bleidlais o gwbl ? Beth bynnag arall brawf gwrth- wynebiad cydwybodol i gymeryd rhan yn y rhyfel, prawf anwybyddiad o bolisi'r wlad fel ag y'i cynrycbiolir yn y WeiLyddiaeth. Argyhoeddiad diam- heuol y Wladwriaeth yw eu bod yn ddyledswydd foesol arni fynd i ryfel yn erbyn y wlad fethry hawliau cenhedl- oedd eraill analluog i'w hamddiffyn eu hunain. Dynpa argyhoeddiad y wlad a'r Weinyddiaeth. Felly gan yr anwyb- ydda'r G.C. prif bolisi'r Wladwriaeth, oni ddylent, i fod yn gyson a hwy eu hunain, dorri cysflltiad a hi yn Hwyr ? Pa gysondeb sy mewn iddynt bleidleisio tros yr un a fesurau'r Llywodraetb, no, chwaith mewn yr un Corff na Chyngor (megis Cyngor Plwyf neu Drefol) is- wasanaethgar i ddibenion y Llywod- raeth, oblegid rhan yw o bolisi run Wein- yddiaeth, gefnogir gan yr un wlad ? Paham y llychwinant eu gwisgoedd gwynion (?) yng nghrochfannau duon Gweinyddiaeth ac argyhoeddiad pobi yr oes hon ? Genir ni i wynebu ffeithiau. Y mae n ffaith fod mynydd elwir yr "Wyddfa'' yn Sir Gaernarfon. Pe bae gan ryw un wrthwyoebiad cydwybodol i'r ffaith o'i bodolaeth, dywedem, o-gyd- ymdeimlad, ei fod, yn anffodus, wedi ei leni ar gam gyfnod, dylasai fod wedi ei eni rbyw oesoedd maith yn ol cyn i ddaeargrynfaau ac atweithiad deddfau anian ddwyn yr Wyddfa i fod, neu ynte fod heb ei eni hyd nes y par y cyfryw ddeddfau i'r Wyddfa beibio'a bob. Ymddengya ylgwrthWyLebiad cydwybDd- ol i ryfel yn hollol gyffelyb. Y mae'n ffaith fod CWlS gwareiddiad wedi peri eu bod yn rhaid i Brydain fynd i ryfel yn yr oes hon neu ynte gael ei dianrhyd- eddu am byth yn wyneb Cyfiawnder. Onid yw'r neb wrthwyneba'r ffaith megis wedi ai. eoi allan o amser-oni ddylasai fod wedi ei eni rywbryd yn y gorffennol er iddo gfisio effeithio OWlet gwareiddiad i amgen cyfeiriad, neu ynte -os oedd rhaid ei eni o gwbl-fod heb ei eni hyd nes y bydd rhyfeloedd wedi peidio a bod ? Ond gan ei fod wedi bod mor ariffodus, a chan, o ganlyniad, y metha-neu y gwrthyd—gydnabod safon ac argyhoedd- iad yr oes, onid gwell a chysonach fyddai iddo dorri cysylltiad yn llwyr a hi-a,'i holl gynghorau cynrychioladol ? Pa ystyr sydd mewn difreinio'r G C. ? Nid 063 eisieu na difreinio na dim arall, y maent yn ciKfreinioi Os breintiau'r oes, yna'i dyletswyddau hefyd os rhai o'i breintiau yna'i holl freintiau. Y mae'r G.C. yn wrthrychau cydymdeim- lad; blodau c'r trofannau ydynt wedi eu trawsblanu ar ddamwain yn y Gogledd oer plant haf y Milflwyddianfe. ydynt yn ceisio byw yng ngaeaf gwar eiddiad. Yn ddilys, y peth goreu iddynfc yw cadw i mawn yn annedd desog eu teml ddelfrydol tra y bydd plant y gaeaf yn brwydro a hyrwyddo polisi eu. hoes. Hwyracb y medrwn ysgwyd Haw a hwy wedi yr hwyliwn lestr gwareidd- iad i Ganaao, Gwlad eu haf Yo unig" gobeithiwn na thyr yr un lleidr i mewn i'w preswylfa rhag y bydd rhaid iddynt gamu allan i oerni'r gaeaf; o'r hyn lleiaf fyddai o fawr pwrpas dywedyd wrth y lleidr, Y mae'n reit ddrwg gennyf, mae gennyf wrthwyoebiad cydwybodol i ymosod ar leidr, a fyddwch chwi mor garedig a mynd i ffwrdd." Dyma'r unig betherys i gynhyrfu, oblegid dyma r Llywodraeth yn garedig yn symud temtasiwn y bleidlais oddiar eu. ffordd-rhag iddynt gamu allan i'r gaeaf' ar ddy4d etholiad. Yn ddiabsen, Bryn Goleu. C. ROBERTS.