Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
CYNHEBRWNG Y PASCF. T. J.…
CYNHEBRWNG Y PASCF. T. J. PRITCH- ARD, CADEIRYDJ TALoAITH Y DE. Dydd Gwener, Ionawr 25ain, cyrchai i Gaerdydd rai o'r nifer fawr alarant golli y gwr da uchod er bod yn bresennol yn ei gyn- hebrwng, 'Roedd y rhai hyn yn Ilawer yn cynwys y rhan fwyaf o weinidogion y dalaith, amryw Jeygwyr, brodyr o'r cylch Seisnig cyfagos, ac o enwadau eraill, ynghyda cyfeillion y Gylchdaith. Ond rhan fechan oen't o'r rhai adaabu y Parch T. J. Pritchard, a chredwn fod pawb a'i hadnabu yn gaiaru ei ymadawiad. Oblegid gwr a berchid ac a anwylid yn fawr oedd efe. Hawdd dyfod i'r casgliad yna pe bae genym ddim ond ei gladdedigaeth i farnu wrtho. Y Parch T. Rowlands a fu'n cyd-lafurio ag ef mewn pethau taleithol oedd yn arwain y gweith- rediadau. Gwasanaethwyd yn y cartref trwy ddarllen rhan o'r Ysgrythyr gan y Parch T. Oliver, Brynmawr, ac mewn gweddi gan y Parch H. Jones-Davies, Pontar- dawe Yna cyrchwyd i Gapel y Wesleaid Seisnig#Crwys Road ar y ffordd i Gladdfa'r dref. Dechreu- wyd y gwasanaeth yno trwy ganu Emyn 737. Yna arweiniwyd trwy ddarllen rhan o'r Ysgrythyr gan y Parch E. Tegwyd Davies, Ysgrifennydd y Gymanfa, ac arweiniwyd mewn gweddi gan y Parch John Davies, Aberdar. Yna canwyd yr emyn adnabyddus- lesu cyfaill f'enaid cu." Yna siaradodd y Parch T. Row- lands. Hysbysodd fod llythyrau o gydymdeimlad wedi eu derbyn oddiwrth y Parchn T. Hughes a John Felix, Cadeirwyr yTaleithau Gogleddol, ac oddiwith weinidog- ion drwy'r Taleithiau, y rhai ynt rhy luosog i'w henwi. Dywedodd Mr Rowlands ei fod yng nghwmni Mr Pritchard y dydd Gwener cyn iddo huno, a bu'r amser a fu yn ei gwmni yr adeg honno yn fendithiol iddo; tangnefedd yn ffynnu ac yn teyrnasu. Ni welodd neb erioed yn wynebu marw yn fwy tawel ei feddwl a'i ysbryd. Oblegid yr oedd yn sicr fod Mr Pritchard yn ymwybodol fod y diwedd yn agos hau. Amlygai ei ddiddordeb mewn trefniadau ynglyn a'r gwaith 'Roedd yn nodedig am ei dyner wch a'i garedigrwydd; a'i ffydd- londeb i'w frodyr yn ddifwlch. Er iddo ddnngo i swydd a safle uchel yn ei enwad, ni ddifethodd swydd na safle 'mo'i ddynoliaeth. Yna siaradwyd gan y Parch Evan Isaac, Llywydd y Gymanfa. Ebai Mr Isaac: Nid yw yn hawdd siarad. 'Roedd Mr Pritchard yn ddyn da, o feddwl pur. Nid dyn cyffredin mohonno. 'Roedd yn perchen doniau anghyffredin. Pro ffWydai ei gyhoedd pan yn ieuanc bethau da am dano. 'Roedd yti ddyn diwylliedig. Ni wyddai am neb mwy diwylliedig yu esgyn i bwlpud Cymru. 'Roedd yn ddi- winydd cryf, yn gyfarwydd a'r maes; ac yn fardd a'i awen yn hoew. Mae rhai o'i emynau a fyddant byw tra bo Cymro i'w canu. Er wedi marw mae yn llefaru eto yn ei emynau, 'Roedd yn ddy* gwerthfawr ar lawer cyfrif: yn naturiol dyner. Ac yr I oedd ei wendidau-os yn wendid- au-yn rhai naturiol ac nid yn rhai moesol. Dyn tyner, llednais oedd. Ac nid oes neb ar ei ol hyd y gwyddai yn gwbl yr un fath ag ef. Cafodd ei gydnabod a'i anrhyd- eddu gan ei enwad; elholwyd ef yn Llywydd y Gymanfaj a rhodd odd yntau urddas i'w swydd. .Gwnaed efyn Gadeiryddr-Talaith y De, ac fe arweiniodd ei gyd weinidogion yn dyner. Un o'r cymhwysterau oedd ynddo ydoedd ei fod yn hollol ddifalais. Nid amlygodd surni erioed yn y rhed- egfa, ac nid oedd dialedd yn >. 2 perthyn iddo. 'Roedd yn Gristion annwyl. Meddyliai y byd o'i deulu. Duw fyddo gyda hwy yn eu hiraeth, a chyda'r wlad. Yna siaradwyd gan y Parch Rd. Morgan, Abertawe: Adwaenai Mr Pritchard er yn foreu iawn. Clybu am dano gyntaf fel adnoddwr gwych ynghyda'r Band of Hope. A phan aeth i'w wrando argraffwyd arno yn fawr gan ei gallineb. Magwyd ef ar aelwyd ysbrydol iawn ni freintiwyd neb ac awyr- gylch mwy manteisiol i ddatblygu yr ysbrydol. A derbyniodd yntau (Mr Morgan) rai o fendithion mwy- af ei fywyd trwy gyfarfod ar yr aelwyd yma ynghyd a'i frawd y Parch D. Morgan, gyda Mr Pritch- ard a'i frawd yntau, y diweddar Barch Jacob Pritchard a Mr Price Powell. Cafodd yno weledigaeth ddwyfol ac ysorydol. Cyfranodd T J. (fel y'i gelwid) megis Paul, o'i enaid yn ei weinid- ogaeth. Ei nodweddion oedd- cyfdillgarwch, caredigrwydd, ac addfwynder. 'Rocdd addfwynder Crist ar ei fywyd. 0 ran ei allu— 'roedd ei alluoedd yn rhai parchus. 'Roedd yn fardd a lienor. Bydd rhai o'i emynau fyw yn hir, yn eu- wedig emyn 857, Erfyniad ar ddechrmi blwyddyn." 'Roedd yn nodedig fel cyfiethydd, ac os bydd- ai eisieu cyfieithu ato ef y byddid yn myned. 'Roedd hefyd yn breg- ethwr, ni ddigwyddodd ei glywed, ar ei uchelfannau pan oedd yn ysgubol, ond pan y'i clywodd, mwyn, melus, prydferth, tlws, oedd ei brif nodwedd fel pregethwr. Y prif beth ynglyn ag ef oedd ei ysbrydolrwydd. Diolch am dano fel yr oedd. Dygwyd tystiolaeth bellach iddo gan y Parch Thomas Jones, Fern- dale. Ebai: Hawddach wylo na, siarad. Teimlai ei fod wedi colli cyfaill. Teimlai pan y'i gweloddj gyntaf, oddeutu 42 o flwyddai yni ol, ei fod yn engraifft o'r hyn ddylai! pregethwr Wesleaidd fod. Amlyg-1 odd ei syched amddiwylliant wrthj wneud cais am gael myned i'r! Athrofa yn hytrach na chael ei or- deinio, a llwyddodd. Ac yr oedd yn ddyn diwylliedig. Yn yr Athrpfa daeth i gyffyrddiad Dr. W. B. Pope, Uwch-holwyddorydd," yr hwn a gyfieithiodd i'r Gymraeg wedi hynny: Aeth i Dalaith y Gogledd, ond dychwelodd i'r De, j lie yr oedd ei ymlyniad. Ordein" I iwyd hwy yr un pryd, a theimlai yn chwith wrth weld ei gyfeillion yr Ed 2g honno yn cael eu cymeryd ymaith o un i un. Anrhydeddwyd ef heblaw gan ei enwad. Bu yn Llywydd Eglwysi Rhyddion Cylch Aberdar, &c. Nod ei fywyd oedd esiampl Crist. Ei brofiad ar ei wely marw oedd-popeth yn dda. Wedi canu'r penill cyntaf o'r emyn Craig yr Oesoedd," arwein- iwyd i derfynu trwy weddi gan y Parch. E. D. Thomas, Treorci, a chyrchwyd i'r gladdfa. Gwasan- aethwyd ar lan y bedd trwy ddar- llen rhan o'r Ysgrythyr gan y Parch H. 0. Hughes, Caerdydd, ac arwein- iwyd mewn gweddi gan y Parch R Emrys Jones, Porth, a chanwyd Bydd myrdd o ryfeddodau" i derfynu. Mae xnan fecfian ei fedd mewn llanerch ddymunol i deim- lad y byw. A sicr yw ei fod yng nghynteddau ty ei Dad. Ygobaith sydd yng Nghrist fyddo'n gysur i'r teulu a'r perthynasau yn eu galar, a nawdd y nef fyddo dros holl i gylchoedd ei lafur. GeR. G@H. CYDNABOD GYDYMDEIMLAD. I Dymuna Mrs Pritchard a'r teulu gydnabod yn ddiolchgar y llythyr- au a anfonwyd atynt i gydym deimlo a hwy yn eu profedigaeth chwerw a'u colled ym marwolaeth y Parch T. J. Pritchard. Da fuasai eu hateb yn bersonol, ond mae y nifer yn lliosog. Yr Eiddoch. T. W. DAVIBS. j
CORRIS nCHAF. !
CORRIS nCHAF. i Dymuna teulu H. J. Pugh, Vic- toria Buildings, gydnabod yn ddi- olehgar y lliaws cyfeillion fu yn cydymdeimlo a hwynt yn eu prof- edigaeth o golli eu hannwyl fab, Hugh, yn yr Eidal.
IPONTERWYD.I
PONTERWYD. I Un o'r Gwroniaid-—T&enwyd prudd- der mawr tros yr ardal hon pan dder- byniwyd y newydd fod y brawd ieuanc I hawddgar, addawol, Gunner Emlyn M. Jones, R.G.A mab Mr a Mrs Edward Jones, Gwynfa, wedi syrthio yn Ffraine, dydd Sadwrn, yr 22ain o Ehagfyr. Ys grifennodd y Caplan dí Giaddasom ef ar brydnawn Sabboth, a daeth tyrfa o'i • gyd- filwyr ynghyd o barch i wron ieuanc ■ o filwr fu farw dros ei wlad wrth gyf- Iawui ei ddyledswydd yn ffyddlon hyd angau, a gosodwyd croes i ddynodi man jfechen ei fedd. Derbyniwyd llythyrau •o gydymdeimlad heblaw oddiwrth y Caplan Martin, oddiwrth Major Colman, yr hwn a ddywed: His loss to me is great, for he was one of those remaining who came out with the Battery, and who has shared all the discomforts of | the twelve months we have spent over- sea together." Lieut. Neville a ddywed: Your son was in my section for the last six months, and during the whole of that time I found him a most conseien- tious worker, a cheerful comrade, and a fine example to the other men in the Battery." Nos Fercher, Ionawr 9, cynhaliwyd cyfarfod coffa yn eglwys y Methodist- iaid, Ponterwyd, lie yr oadd yn aelod. Daeth tyrfa fawr yDghyd, a ehymerwyd rhan yn y cyfarfod ganMri William Evans, a Thomas Morgan, blaenoriaid Mr Jones, yr Ysgolfeistr; Mr Arthur Jones, pregethwr, Ystumtaen, a'r Parchn Charles Evans, Vicar, G. Bedford Rob- erts, a Thomas Morris. Yr oedd y capel wedi ei wisgo yn brudd-brydferth erbyn yr achlysnr gan Miss Hall. Dywedwyd pathau rhagorol am y brawd ieuanc gan bawb. Dygwyd tystiolaeth i'w sirioldeb a'i dynerwch ac unplygrwydd di-gwest- iwn ei fywyd. Hdffid ef gan bawb yn ddiwahaniaeth fel un o'r bechgyn an- wylaf fagwyd erioed yn yr ardal. Dis gwylid ef adref i Gwynfa oddeutu y Nadolig, ond tri diwrnod cyn hynny ehedodd ei ysbryd oaredig a gwrol i'r Wynfa fry. Ac nis gwelwydef, canys Duw a'i cymerodd ef. Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu yn eu galar, a bydded iddynt dderbyn o'i gys- uron Ef yn eu trallod. Ysgrifennodd yn ei Ddydd-lyfr gyfrif manwl o'i symudiadau hyd Rhagfyr 3, lie yr ysgrifenna, All day off, duty in Rest Camp Ha t gorffwysa'n dawel heddyw o swn duty y rhyfel erch Ar ddiwedd y Dydd-lyfr ceir ef wedi ysgrif- ennu y ddau bennill a ganlyn :— Craig yr Oeaoedd. Rhof fy nhroed y fan a fynnwyf Ar sigledig bethau'r byd, Ysgwyd mae y tir 0 danaf, Darnau'n cwympo i lawr o hyd. Ond os caf fy nhraed i sengu Yn y storom fawr a'i ohwyth, Ar dragwyddol Graig yr Oesoedd, Dyma fan na syfla byth. Pwyso'r bore ar fy nheulu, Colli rheiny y prydnawn, Pwyso eilwaith ar gyfeillion, Hwythau'n colli'n fuan iawn. Pwyso ar hawddfyd, hwnnw'n siglo, Profi'n fuan newid byd, Pwyso ar Iesu-dyma gryfder Sydd yn dal y pwysau i gyd. Ac erbyn hyn y mae Emlyn wedi profi fod yr Iesa'n dal. Teimlir chwithdod mawr ar ei ol gan bawb. j GeR. I -1
[No title]
Dyma bennill allan o gan ar "Dyddiau y Control" allan o'r Genedl": "Bu bwriad i gontrolio Y phesant rhag yr yd, Ond ffeindiwyd mai mwy gwerth fawr Yw bywyd hwn na byd Control roi'r ar y bara, Ar siwgr, ac ar de, Ond am y cwrw, bobol, Free Mason yw efe." -.a.
Advertising
Yn Awr yn Barod. Y TRI IESU." LLYFR I BAWB. Dynoethir ynddo Gyfeiiioraadau Diwinyddol Pwysig: "Important Theological Errors Exposed. ".ij ■ Proftad yr Awdur gyda'r Argraffiad Cyntaf: Pan yr anturiais gyntaf I ma's, i faes y byd, Nid yrriddangosai'n ffafriol Oddialian ar y pryd: Oad llais o'm mewn a ddwedai Nac edrych ar y gwynt, Gwna frys i hau yr hadau Ceir medi felly'n gynt." A'r llais a ychwanegai Abertha, bydd yn hael, Gofala brisio r Llyfryn Fel gallo pawb ei gael;" Gwrandewais ar ei archiad I'r bobl hysbysiad roes Am Lyfr yn dangos ffeithiau Rhagorach am y Groes. Trwy hyn daeth im'archebion Or Gogledd, ac o'r De, A siroedd Lloegr hefyd, O'r pentref, ac o'r dre Gwahoddwyd ef i'r 'Spyty Yn gwmni'r milwr claf, A thros y mor i'r cad faes,— Syn yw'r archebion gaf I'w cael gan yr Awdur— W. RICHARDS (PREGETHWR), DIGBETH INSTITUTE, BIRMINGHAM. Pris 3c. Gyda'r Post, 4c. Gellir ei gael hefyd trwv y LIyfr. werthwyr. Y r Emynydd Achlysurol, SEF Pump o Emynau Newyddion, cyf- addas iawn i'w defnyddio yn y sefysifa dejifrifoi y mae ein gwlad a'r byd ynddi yn y cyfnod hwn. Cynwysant driarddeg o benillion a 76 o linellau. Wele un emyn yn engraiff t- Ni wisgodd lesu gnawd Er mwyn addysgu ei hffln Gwnaeth hyn, a dafeth yn d'lawd, Er cynorthwyo dyn. Ffarddnewydd wnaeth i gariad Duw I ymwybyddiaeth dynol ryw. Mae'r lesu byth yr un, Er holl gyndynrwydd byd, Gweithia'n ddi-der ei hun, I'w gael i'r noddfa glyd. Ei aberth mawr, a'i dyner lef Sydd yn-ein galw ato Ef. Gellir eu cael oddiwrth yr A wdur W. RICHARDS, 1 Digbeth Institute, Birmingham. Pris Ceiniog. Gyda'r Post, 1!c. LLYFRAU GWERTHFAWR AR WERTH Am Brisiau Gostyngol. s. c. 1. Hanesyr Athrawiaeth Grist- ionogol gan DrJ. Hughes 1 3 2. Diwinyddiaeth Naturiol, gan Dr. Paley, yn Gynl- raeg, Rhagdraeth gan Dr. Hugh Jones (M.C.) 1 3 3. Cofiant y Parch R. Hum- phreys, Dyffryn 1 3 4. Cofiant y Parch Griffith f. Williams, Talsarnau 1 3 5. A Grammar to the Welsh Language, by Thomas Rowlands (4th Edition). 2 0 6. Yr Hynod Joan Jones, gan Rhuddenfab, Rhagdraeth gan Daniel Owen, Wydd- grug 0 9 7. Dafydd Evans, Ffynon. henry, gan B. Thomas, Try dydd Argraffiad 0 9 8. Cofiant y Tri Brawd, gan y Parch O. Madoc Rob- erts o 6 10. Y Cywir Ddychwelwr gan Thomas Shepherd 0 6 iJ Anfoner at— Rev. OWEN HUGHES, 101, Bruce Street, New Wortley, Leeds, Yorks.