Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

GYLCBDAILH -LLANRWST.I

I- CAERGYBI.I

|CYLCHDAITH WYDDGRUG. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYLCHDAITH WYDDGRUG. I Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol y Gylchdaith yn Pendref, dydd Mercher, Ionawr 2fed, o dan lywyddiaeth y Parch Wm. Morris Jones, B A. Yroedd hefyd yn bresennol y Parch R. T. Rob- erts, Mri Henry R. Williams, a William Thomas, Goruchwylwyr, ynghyda chyn. rychiolaeth o'r eglwysi. Derbyniwyd cyfrifon a chyfraniadau yr eglwysi. Diolchwyd ac ail-etholwyd y swydd- ogion canlynol :-Mr Thos. Hopwood, Ysgrifennydd Addysg; Mr Charles Pownall, Ysgiifennydd y Capeli; Mr Thos. Hughes, Ysgrifennydd y Cyfarfod Chwarterol; a Mr Frederick G. Evans, Trysorydd Trysorfa Ymgeiswyr am y Weinidogaeth. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r rhai canlynol yn eu profedigaeth i—-Mr John Davies, Cemetery Lodge, Wydd- grug, yn colli ei annwyl briod teulu Mr J. R. Roberts, Victoria Terrace, Wydd- grug; Mr Joseph Bartley a'r teulu, Gwernymynydd Mrs Barlow, Wydd- grug, a Mr Robert Williams, Pantdu. Hefyd a'r Parch R. Vaughan Owen yn ei afiechyd, ac yn hyderu am adferiad buan iddo. Ar cais yr Arolygwr, etholwyd un aelod o bob eglwys ar yr "After the War Committee, ac ysgrifennydd y cyfarfod yn ysgriiennydd i'r pwyllgor. Daeth y Parch R T. Roberts a mater Dirwest o flaen y cyfarfod, yn erfyn am gael mwy o sylw i'r mater, a chael cyfrif manwl o'r holl ddirwestwyr yn y Gylchdaith. Yna cafwyd trafodaeth ynglyn a'r Genhadaeth Dramor. Pasiwyd i wobr- wyo y plant yn gynt eleni, a bod Mr W. Garston i ofalu am y bathodau. Yna cafwyd ymddiddan ar agwedd ysbrydol yr achos. Siaradwyd gan yr Arolygwr, a Mr Alun Jones, Nercwys, ac ar ol canu emyn gweddiwyd gan am- ryw o'r brodyr, a'n profiad yw ein bod wedi cael cyfarfod da iawn. Cafwyd trafodaeth ynglyn a'r Trem- ydd," a phasiwyd fod Pendref i gael llai c ddeuddeg o'r Tremydd, a Bethesda a-Nercwys i gael chwech yn ychwaneg- ol. Darparwyd yn garedig ar gyfer y frawdoliaeth gan gyfeillion Pendref, a gwasanaethwyd wrhhy byrddau gan Mrs Charles Pownall, a Mrs Henry R. Wil- liams. Diolchwyd yn wresog iddynt am eu caredigrwydd. T. H., Ysg.

ICYLCHDAITH LLANASA, -j

Advertising