Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

GYLCBDAILH -LLANRWST.I

I- CAERGYBI.I

|CYLCHDAITH WYDDGRUG. I

ICYLCHDAITH LLANASA, -j

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I CYLCHDAITH LLANASA, j Cynhaliwyd cyfarfod chwaiterol y Gylchdaith uchod yn y Groes, prydnawn Sadwrn, Rhagfyr 29ain, o dan lywydd iaeth y Parch. Wm. Owen, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch W. G. Y/il- liams. Yn bresennol, y ddau Oruch- wyliwr, y Mri E. E. Davies a Thomas Williams, ynghyd a chynrychiolaeth o bob eglwys. Darllenwyd cofnodion y cyfarfod blaonorol, a chadarnhawyd y cyfryw. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad gyda'r rhai canlynol-Priod a mab y diweadar Edward McDonald; Joseph T. Luke, Mostyn, ar ol colli ei briod; Isaac Jones, Mostyn, wedi' colli mab yn y frwydr; Joseph Edwards, Ffynnon- groyw, yntau wedi colli mab ar faes y frwydr: y Parch Richard Hopwood, Wrexham, tIhb yr hwn a laddwydd ar faes y gwaed. Cynhygiodd y Parch W. G. Williams anfon llythyrau cydymdeimlad a'r rhai canlynol yn eu gwaeledd iechyd :—John Sauvage, Arthur Williams, John Price, Edward Williams, Wm. A. Jones, a John Hughes. Dywedodd y Llywydd y disgwylir i gasgiiadau y Genbadaeth Dramor fod mewn llaw erbyn Ionawr 17eg. Diolchwyd i'r Goruchwylwyr am eu gwasanaeth yn ystod y flwyddyn, ac ail- etholwyd hwy yn unfrydol. Diolchwyd i Mr John Parry am ei wasanaeth gwerthfawr yntau ynglyn a Thaflenni yr Ymddiriedolwyr, a phas- iwyd ofyn iddo barhau am flwyddyn arall. Galwodd y Llywydd sylwatySaboth cyntaf o'r flwyddyn, ac awgrymodd y priodoldeb o gynnal cyfarfodydd gweddio ar hyd y dydd. Penderfynwyd After the War Com- mittee'' i gael ei ffurfio o'r gwahanol eglwysi ar gais y Gynhadledd. Fod pob eglwys i ethol dau o leiaf ar y Pwyllgor, a bod Mr Wm. Parry, Picton, i fad yn ysgrifennydd. Cynhygiodd Mr W. Roberts, Mostyn, ar ran y frawdoliaeth, fod enw Mr J. R. Williams i fod pr y Plan nesaf fel un ar brawl. Cafwyd ymdrafosiaeth o berthynas i'r Assessment sydd ar y Gylchdaith, a phenderfynwyd derbyn ychwanegiad, oddeutu 4fc. yr aelod yn flynyddol. Penderfynwyd fod Pwyllgor yr Ysgol Sul, sydd i gyfarfod yn nechreu Ionawr, yn trefnu ar gyfer yr Arholiad ym mis Mawrth. Darllenwyd cyfrifon y chwarter blaenorol, a chafwyd fod yea ddiffyg o P,2 10s. Terfynwyd yn brydlon, wedi cael cyfarfod da ar y cyfan. i

Advertising