Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Wyliedydd Newydd, arcs ar y mur, Ac edrych allan am yr iawn a'rpur, G .vas'naetha grefydd,—seinia ar ein clyw O* gelyn feiddia gyffwrdd Ddinas Duw. FALFARDD.
Heddwch-A Beth Wedyn?
Heddwch-A Beth Wedyn? Gair siriola galon dynoliaeth ydyw Heddwch, pan y daw grym ynddo. A thra heb feddu haw! i broffwydo, credaf ei fed yn ymyl. Mac cri gweriniaeth Europe hedd- yw am dano. Heddwch ar seiliau sicr na thorrir ef mwyach gan u-nrhyw wlad na theyrn-heddwch a grym gweriniaeth ddeffroedig y tu cefn iddo, i sylweddoli mai yn ei Haw hi y mae heddwch dyfodol y byd yn bosibl. Gwir yw fod y doll ar ddynoliaeth ar faes y frwydr yn fawr, nid yn unig mewn bywydau, ond mewn cymeriadau a thalentau nad all yr un wlad eu hebgor—yn gerddorion, beirdd, pregethwyr a gwyliedyddion moes a chrefydd y dyfodol. Yn ei dolur a'i chur credaf yr ymysgwyd gwer iniaeth yr amwisg i ffwrdd, gan benderfynu cael meddyginiaeth i'w hesgyrn. Y mae gweriniaeth yn dod i fewn i'w hawliau, a Duw o'r tu ol iddi. "A phwy asaif?" Yng ngoleuni y gosodiad carwn wr-eud ychydig o sylwadau Fod y gwahanol genhedloedd wedi diystyru i raddau helaeth €gwyddorion moes a dysgeidiaeth crefydd ar allorau y rhyfel presen- nol nes y maent mewn dyryswch sut i ddod yn ol at y gwirioneddau hynny. Faint bynnag aberthwyd gan gyfoethogion y wiad, nid ab- erthodd yr un dosbarth yn fyw na'f gweithwyr. Meddylier am fyd Ilafur. Mae yr boll freintiau enill wyd ynglyn a safon cyflog a'r moddion i benderfynu cwerylon fhwng y meistri a'r gweithwyr wedi eu habet thu ar allor y rhyfel bresennol. Erbyn heddyw nid ydyw y pethau hyn yn hawlfreintiau byd Ilafur. Poltonir heddyw ar roi rhyw concessions ail raddol. Breint- iau enillwyd drwy lafur meddyliau goleuedig byd Ilafur a moes ydynt heddyw wedi eu taflu yn aberth ar atlor gorfodaeth nlwrol. Breintiau neu Hawliau Byd Moes. Y mae hawliau cydwybod yn un a egwyddorion mawr y byd moesol. Y dyn nad ydyw yn ffyddlon i'w argyhoeddiadau, troseddwr ydyw yn y byd yma. Byd nas cyfrilir dim ynddo ond ffeithiau dyfnaf bodolaeth yn ei pherthynas a Duw. Beth bynnag yw safle y gwrthwyn- ebwyr cydwybodol, ac nid ydym am foment yn coleddu y syniad eu bod yn Gristionogion gwell na'r rhai sydd yn marw ar faes y frwydr, oblegid fe fernir pob gweithred o eiddo dyn yn ol y cymhellydd. Cenedlgarwch gymhellodd filoedd o'n bechgyn glan a phur eu cym- eriadau i fentro yr ofnadwy a'i ganlyniadau erchyll, angau a thra- gwyddoldeb cyn eu hamser, cyn rhoi o feluster eu bywyd mewn can a mawl, cyn rhoi ofarddoniaethna phregethiad eu bywyd yn gynysg- aeth gyfoethog i'r oes a ddel. Aberthu bywyd wnaethant yn ol y goleuni oedd ganddynt er mwyn hawliau cynhenid cenhedloedd bychain i fyw, ac er amddiffyn eg wyddorion mawr Rhyddid. Yn awr pa safle bynnag gymerwyd gennym, y mae un peth yn amiwg, fod y wladwriaeth yn hawlio sane'r Barnwr iddi ei hunan. Nid llais cydwybod sydd yn cyfrif, ond yn hytrach llais o'r maes yn ei chyn- ddaredd am waed ydyw seiliau y tarn wladwriaethol. Byd Crejydd a Dysgeidiaeth. "Ein Tad yr hwn wyt yn y nefoedd." Perygl mawr y wlad heddyw ydyw gwneud Duw yn Dduw cenedl, fel plant Israel gynt. Anghofir i raddau heddyw mai Tad dynol- ryw ac nid cenedl ydyw Duw. Pwy heddyw sydd yn gweddio dros eu gelynion, gan eu hystyried yn blant i'rTad. Dysgeidiaeth jawr Cristionogaeth ydyw brawdoliaeth dyn —Perygl arati pob gwlad heddyw o dan deimladdu gelyniaethus a chyn ddaredd cenhedlaethol wedi ei ysu gan siomiant a soriant y rhyferth- wy ofnadwy presennol ydyw angh ofio dysgeidiaeth fawr y Crist croehoeliedig ddaeth yma trwy ei ymgnawdoliaeth i ddatguddio meddyliau anfeidrol Duw ei Dad mat" Duw cariad yw." Gwaith yr Efengyl ydyw gwneuthur dyn a dyn yn frawd. Cerwch eich gelyn- ion. Galluoedd dihysbydd yr EgZwys. —Y mae y nerthoedd tragwyddol yn ffynhonell ei bywyd (Esaiah, pen. xxvi. 1-4 adn). "lachawdwr- iaeth Duw yn gaerau ac yn furiau o'i hamgylch." Sefydlogrwydd yr Arglwydd yn sail ei hymddiried. aeth. Yn yr Arglwydd Dduw y mae cadernid tragwyddol. "Diau fod yr Eglwys wedi anghofio ei nherth, ac wedi gwyro i rhyw raddau o'r hen lwybrau. Ond y mae argodi heddyw ei bod yn barod i ddod yn ol at Grist. Yn ol yr argoelion; sisial mae yr awel fod Heddwchyh dod, ac hyd y canfyddir gan feddwl gwan, credaf y daw yn Haw gwer- iniaeth ddenroedig. Dyma fydd gwaith yr Eglwys'-dod yn ol at wirioneddau mawr moes a chref ydd. Gwaith Eglwys Dduw fydd cymwyso ei nerth at y cyfnod yma. Rhaid iddi fod yn fyw i hawliau dynoliaeth—hawliau dynion i gael byw uwchlaw angen—cynogau teg am lafur, amddiffyn y breintiau aberthwyd gan y werin, a chymer yd ei sane ar Iwyfannau fydd a u hymgais at wneud i ffwrdd a phob arlliw o nlitariaeth. Cri y ddynoliaeth adewir o'r rhyferthwy ofnadwy fydd am wyb od pwy a beth ydyw Duw. Beth ydyw gwerth dyn ? Beth ydyw perthynas Duw a dyn, a dynion a'u gilydd ? Gwaith yr Eglwys fydd cyhoeddi y Dadolaeth dragwyddol a brawdoliaeth gyffredinol dynion, gan ddysgu y byd y gwirionedd sydd yn llinellau y bardd Seisnig: For all the blessed soul in heaven Are both forgivers and forgiven Bedyddied Duw yr Eglwys a'r Ysbryd Glan i'w chymhwyso ar gyfer y gwaith sydd o'i blaen. I Ffrainc. T. J. PRYTHERCH. I
Saf!e GweinidogioQ Wesleaidd…
Saf!e GweinidogioQ Wesleaidd Cymreig ynglyn a PbryMRt y FmMhFeddwo!. MrGol— Rhyfeddaf fod y Parch. Thos. Hughes, fu yn ei elfen mewn "brwydrau papur" am lawer blwyddyn, yn tuchan cymaint o herwydd y dreth a osodir arno i barhau yr ohebiaeth ar y mater uchod. Ni ofynais iddo wastraffu ei amser gwerthfawr i ddadleu a mi ond gan nad allai ymatal rhag rhuthro arnaf, da gennyf na chil- iodd o'r frwydr,—y gwelodd ef ei hun yn dda ei chyhoeddi, cyn ysgrifennu ei lith diweddaf, oblegid teifl hwnnw gryn dipyn o oleuni ar ei safle ef ynglyn a Dirwest, ac ar y Mudiad Cymreig (?) i brvnu y Fasnach FeddwoL Dywed fod llawer amgenach gwaith yngalw am ei sylw ef a minnau. Dyma'r gwahaniaeth cydrhwng ein safle mewn byr eiriau. Ni farnaf n fod i neb a gar ei wlad, ac a sylwedd- ola ei gyfrifoldeb moesol fel dines ydd, amgenach gwaith na cheisio gwasgu ar y Llywodraeth i wah ardd gwastraffu grawn a siwgr i wneud diod feddwol, pan wynebir y wlad a newyn, a miloedd o blant bach yn bwyta bara sych, anach,— heb enllyn arno, am y myn y Llyw- odraeth barhau i ganiatau bragu. Gwyr pawb i dunelli o ffrwythau bydru eleni am na ellid gwneud jam, ac etc cyflenwir y bragwyr blonegog a thunelli o siwgr at fragu. Waeth i Mr Hughes na'r Prif Weinidog heb ddadleu y bydd- ai prynu y Fasnach yn help i'w therfynu. Ceisir rhoi'r bai am barhad y gwastraff ar y gweithwyr (a Dirwestwyr), ond ffwlbri yw hynnv. Os elai gweithwyr ar strike pe gwaherddid yn awr, pa sail sy dros gredu nad elent ar strike, pe gwaherddid y Fasnach ar ol talu rhyw bump i chwe miliwn o bun- nau am dani ? Adaefodd Mr Lloyd George, ychydig amser yn ol, na wrthwynebid gwaharddiad gan weithwyr Cymru, ac feallai Ysgot land. O'r goreu, os mai wrth ddrws y gweithiwr y gornwys y bai, pam na waherddir ynte ? A pha !angen am ymgyrch i berswadio gwlad sy'n aeddied i Waharddiad i Brynu ? Ymddigrifa Mr Hughes yn y safle amiwg a gymer ef a'i frodyr yn y Weinidogaeth, yn y mudiad i roi ychydig rhagor o filiwnau yn llog- ellau y bragwyr sydd wedi ymbesgi mwy nag odid yr ua dosparth arall yn y wlad ar y Rhyfel. Trist iawn ydyw gweled y Weinidogaeth wedi syrthio i'r fath amryfusedd cywil- yddus, ac ofnaf y gwawria'r dydd V teimla y pwipud anfantais oddi wrth y gwrthuni. Amgenach gwaith" yn wir! A dybia Mr Hughes fod trefnu cynhadleddau i dalu iawn i fragwyr a thafarnwyr yn amgenach gwaith na milwrio yn erbyn Masnach sy'n fwy o elyn i'n Teyrnas na Germani—yn ol cyf. addenad y Prif Weinidog ei hun ? Ond i ddod at y cwestiwynau gwirionffol y bernais yn "ddoetli, I eu gofyn i Mr Hughes. Teifl ei atebion lawer ooleuni ar y mudiad i brynu. Yn un peth cydnebydd Mr Hughes mai yr hyn a elVf ir yn Temperance Legislation League a drefnodd Gynhadledd Llandrindod. Dadleuais o'r cychwyn mai plan- higyn dieithr oedd Pryniant, croes i anianawd a deltrydau y Genedl. Ategir hyn gan Mr Hughes. Da gennyf y cydnebydd nad oedd ef a'i gyfeillion yn ddigon brwd- frydig o blaid y mudiad i fynd i Landrindod ar eu costau eu hun- ain. Dywed mai Mri John Hinds, AS., a Dan Thomas a etholwyd gan y Gynhadledd i ofalu am am- munition ariannol yr ymgyrch." Ond ni ddywedodd fod y daledig. aeth wedi ei sicrhau i'r pererinion cyn yr etholedigaeth. Tybed mai o'i pocedau eu hunain y talodd y ddau wr hael ? Hwyrach y ceir rhestr o'r cyfranwyr at y gronfa rhyw dro. Digon prin, ond os ceir, tybed a fydd Mr Hughes mor barod i ymffrostio nad oes ganddo "fymryn o gywilydd arddel ei waith." Digrif yw gweled Mr Hughes yn cyfatebu cronfa y Pryhwyr a chron- fa yr United Kingdom Alliance. Ni ddisgwylia caredigi on dirwestol y naill fudd ariannol, pan gyr- haeddir y nod ac y llwyr ysgubir y ddiod o'r tir, ond a all Mr Hughes bron fod hyn yn wir am yr 011 gyfranant at fudiad y prynu ? Ni ofynaf i Mr Hughes wastraffu ei amser gwerthfawr i roddi i mi enwau y Pwyllgor Gwahoddiadol Cynhadledd Llandrindod. Prawf o ddoethmeb a chynhildeb y Pwyll- gor oedd peidio fy ngwahodd i yno. A dilys gennyf mai ysmalio y mae Mr Hughes pan yn son y disgwyl- iwn i gael fy ngwahodd yno. Ym ffrostiaf yn y fiaith i mi fod yn ddraen yn ystlys bragwyr a that* arnwyr ymhob tref y trigais ers llawer blwyddyn, yn unig, am y gwerthant ddiod, a pherwn ninder hyd yn oed i'r Prif Athro Rees a Mr Hughes pe gwerthent ddiod feddw- ol, Ar ba dir, ys gwn i, y mae Mr Hughes mor sicr fod holl aelodau y Pwyllgor Gwahoddiadol yn par- hau i beidio cywilyddio arddei eu gwaith. Oblegtd gwyr fed o leiaf un arwyddodd ei ddeiseb wedt newideifarn,acarwyddoyddeiseb yn erbyn Prynu Wrth enwi y prison drefnodd y Gynhadledd, pa un ai cywilydd ynte angof barodd iddo adael allan enw Syr A. Mond ? Rhydd Mr Hughes gymaint o bwyslais ar yr un cwestiwn a ofyna i mi, a phe bar fy nghynged yn dibynu ar ei ateb. Diolchaf iddo am gyfle i ddynoethi y mud- l iad. Mewn arholiad yn gynredin nid oes angen ysgrifennu y gofyn- iad, ond rhag ofn fod fy arholydd wedi ei anghono dyma fo etc:— Ym mha Ie a thua pa bryd y cyn- haliwyd y Cynhadieddau llechwr- aidd ymhlaid Pryniant sydd,.wedi eu "hoirain" i Mr Lloyd George? Ac os na all ateb, gofynaf iddo ar ba awdurdod y taena ef stori o'r fath? 1. Perthynas Mr Lloyd George a'r mudiad. Yn ei enw ef y galwyd Cynhadledd Llandrindod. Gofyna Mr Hughes i mi fod yn ddealladwy yn fy atebiad. Ni fydd difynu yn Saesneg yn anfantais iddo ef, ond ymddiheuraf ich daillenwyr un- ieithog. Yn y Monthly Notes," papuryn swyddogol y "Temperance Legislation League," Vol. 7, Sep- tember to October, Nos. 9 and 10, dywedir:— "A definite step towards the fulfilment of the Prime Minister's desire has since been made by the holding of a National Convention at Llandrindod Wells to inaugur- ate a Welsh National Campaign through which it is hoped to orga- nisê meetings in all the towns of any importance in the Principal ity.1' Yn awr, pwy sy'n awdurdod ar y pwnc ? Mr Hughes ynte taflen swyddogol y sawl drefnodd y Gyn- hadledd ? Os nad oes a wnelo Mr Lloyd George a'r mudiad, nid y n sy'n gyfrifol am daenu "ston o'r fath." 2. Cynhadleddau llechwraidd. Ni wn fawr am y Gynhadledd a drefn- odd Mr Hughes ym Mangor, ac eithrio y nifer oedd yn bresenno!, a'r nifer pleidleisiodd dros Pryn- iant. Ca Mr Hughes gyhoeddi y mgyrrau. Y ddwy oedd ar fy meddwl oedd un LIandrindod a Wrecsam. Ni threthaf eich gofod i adrodd y croeso (?) roed i'r hen arwr Dirwestol Henadur Jos. Malins, U.H, a'r Parch Wilson Stuart, M.A.,B.Sc.,yng Nghynhad- ledd Wrecsa,m, ond difynaf o lythyr yr Athro T. A. Levi, M.A., B C.L., oedd yn LIandrindod pan gynhal" iwyd y Gynhadledd yno :— I,went to my friend PrinciPal Rees to ask for an admission ticket, dMd he took me aside to Mr A. F. Harvey, Secretary to the Temper. ance Legislation League. 7 asked for a ticket on the ground that the meeting had been announced as a Conference to explain the new pro- posed State Purchase combined with Local Veto. He rePlied, This is not a public conference- this is a conference only forsup. porters of the policy of the r. L. League. If you agree to support this policy, we shall be glad to give you a platform ticket.' Dyma fy atebiad i'm arholydd, a disgwyliaf farciau llawn am fy special research work i gychwyniad agweithrcdiadau y Mudiad Cen- hedlaethol i Brynu y Fasnach Feddwol yng Nghymru. W. RICHARD ROBERTS. O.Y.—Prm y mae angen i mi ychwanegu na thelir i mi am ysgrifennu i hyrwyddo Gwa- harddiad, ac na chefais erioed ddimauo'rswmnodaMrHughes a gasglwyd gan yr United King- dom Alliance yn ystod yr banner can mlynedd diweddaf er cario allan ei pholisi dirwestol.