Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

MAENTWROG.

-NEFYN.■'I

..CLOCAENOG. I

I 'LLANBEDR PONT STEPHAN.

I DYFFRYN ARDUDWY.

CYLCHDAITH PONTYPRIDD. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYLCHDAITH PONTYPRIDD. I Cynhaliwyd Cyfarfod Ysgol Undeb y I Gylchdaith uchod yn Cilfynydd, Sul, Ionawr 13eg. Yn bresennol,-Swydd- ogion yr Undeb ynghyd a chynrychiol- aeth holl ysgolion y Gylchdaith ond Senghenydd. Treuliwyd cyfarfod y bore. i holi y I. IV. Dosbarth gan y brawd Owen A. Edwards, Abereynon, holwr apwynt- ¡ iedig yr Undeb. Oafwyd atebion pur dda, a'r holwr mewn hwyl dda fel arfer. Cyfarfod y Prydnawn.-Cyfarfod i'r plant a'r bobl ieuainc yn fwyaf arbennig I oedd hwn, pryd yrholwyd yr II. a'r III- Dosbarth yn y Gwyrthiau gan J. D. Jones, Cilfynydd. Adroddwyd pennod I gan Mrs Morris papur gan Mr James Patterson hefyd, adroddiadau, unawd au deuawdau a phedwarawd gan y plant, a parti Mrs John. Y mae rhaid i ni longyfarch Ysgol Cilfynydd am y sylw I a'r ddisgyblaetb arbennig a roddir i'r plant, ac hefyd am gadw i fyny mor dda yr hen iaith Gymraeg. Ac y maent wedi bod yn hynod o ffodus yn Mrs John-hen ysgol-feistres ydyw Mrs John, ac mae yn cymeryd dyddordeb neilltuol yn y plant. Cafwyd cyfarfod da, dyma yr unig ysgol yn y Gylchdaith sydd wedi dangos cynnydd yn ystod y pedair blynedd diweddaf, parhaed i fynd ymlaen. Cyfarfod yr Hwyr.—Cafwyd ychydig { adroddiadau ac unawdau, ond prif beth y cyfarfod hwn ydoedd papur gan Mr Owen A. Edwards, Abercynon. Yn Mhwyllgor yr Undeb, cafwyd trafod iaeth ar sefyllfa yr Ysgol Sul, a theimlid gofid oherwydd y lleihad y naill flwydd- yn ar ol y llall, ag i'r perwyl o geisio deffroi dipyn arnom fel ysgolion ag eglwysi penderfynwyd fod Owen A. Edwards i baratoi papur. Seiliodd ei bapur ar y geiriau a welir yn Actau yr 2 bennod a'r 17 a'r 18 adnodau. Ni raid dweyd wrth neb sydd yn adnabsd Mr Edwards ein bod wedi cael papur rhag orol, gyda rhesymau ac apeliadau cryfion dros gefnogi, a gweithio ynglyn-a'r Ysgol Sul. Bwriadwyd:cael rhyddymddiddan ar gynnwys y papur, ond hec^oad yr amser fel na chafwyd hamdden ond i air byr gau Mri J. D. Jones, R. C. Lewis, Ysgrifennydd yr Undeb, a J. E. Jones Llywydd yr Undeb. Trefynwyd cyfar- fod fydd, hyderwn, yn symbyliad i fwy o weithgarwch er cynnydd yr Ysgol Sul. CYMRO. I

I. : .-I::. WEASTE.I

EGREMONT. -j

.MALDWYN-LLEYN.1I

PWLLHELI.

[No title]