Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

LLYTHYRAU Y MILWf E,

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYTHYRAU Y MILWf E, OR DWYRAIN. ] Dyddorol i'ch darllenwyr hwyr- ach fydd y llythyr hwn a dder- bvniais oddiwrth y Parch T. Gabriel Hughes, B.A., o El Arish. —E.R.] F'annwyl Gyfaill, Yn ol f'ad^ewid dyma ymgais i draethu tipyn o'm hanes am chwe mis yn EI Arish. Y mae pentref o'r enw rhyw ddwy neu dair mill tir o'r orsaf-gorsaf yw hon a wnaed gan ein bechgyn ni. Ei Arish y gelwir yr boll gylch Anodd yw deall ystyr y gair. Mewn dyddiadur y dydd o'r blaen gwelais 'Arish' yn gyfystyr al "limber of a gun, ond nis gwn pam os mai dyna ystyr yr enw Mae ar ffin naturiol Palestina a Sinai ar Ian Wadi El Arish. Cyfei- rir at hon yn y Beibl, a nodir hi ar fapiau Beiblaidd fel The brook or the river of Egypt. Wrth gwrs nid y Nile a elwir wrth yr enw yna. Y mae i El Arish hanes dyddorol. Sonir am dani yn hanes ambel! Pharo ymhell bell cyn geni Crist, ac fel y-dywed Ellis Lewis yn ei lythyr i'r G.N. yn ol traddodiad yma yr arhosodd y teulu sanctaidd a hwy yn ffoi o wydd Herod i'r Aifft. Nid yw heb ei hanes mewn cysylltiad a milwyr y groes. Bu Napoleon hefyd yma ac y mae iddi hanes yn y rhyfel yma. Nid oes rhydjid i fynd i mewn iddi a methaisgael 'permit y tro diw- eddaf y gofynais am un. Disgwyl- iaf gael cyfle i fynd iddi rhyw drd Mae yma mosque hardd ac ysgol i'r plant ac edrycha'n brydferth o'r lle'r wyf ynddo'n awr. Bedawin yw'r trigolion ac ant ar deithiau dros yr aniaiwch ar eu camelod, Yn y Wadi y mae gerddi lawer, a dyddorol yw mynd i lawr f weld y trigolion yn trin yr ardd. Mae yno pob matb o lysiau yn tyfu yno -tomatoes, vegetable marrows, a'r cyffelyb. Yn ymyl yr ardd y mae ffynnon a dyfrheir yr ardd ohoni. Codir y dwr mewn hen tin petrol a tywalltir ef i gafn ac o'r cafn rhed i lawr sianel ar ol sianel. Y mae'r sianelau hyn yn frith draph lith drwy'r ardd. Dyma ddull hwylus iawn i ddyfrhau mewn gwlad fel hon. Yn y Wadi gwelir coed mawr uchel—coed y palm- ( wydd. Gwelais hwy ynyr haf yn drwmlwythog, ac yn plygu eu pennau i'r llawr nes peri i ddyn feddwl eu bod yn ymgrymu mewn defosiwn i'r Hwn a rydd bob ffrwyth. Yma a thraw gwelir coed ffigys. Eisteddais ynghanol un unwaith achymerodd fy nghyd ymaith, Cymro o gyfeiriad Llan- beris, snap ohonof. Ni fedraf ddweyd imi eistedd "dan fy ffig- ysbren fy hun." Aç er fod yr un rhybudd yma ynglyn a choedffigys ag oedd ynglyn a'r pren arall yn Eden, rhaid cyfaddef mai'r un yw'r natur ddynol o hyd, a thorrir y gorchymyn. Nid oes gennyf lawer o awydd ffigys, ond meddyliais y carwn fwyta un oddiar y goeden. Yr oedd digonedd o honynt a gwelais ami ijrfigys ir yn syrthio i'r llawr. Rhed yr afon i'r mor,—y Mor Canoldir. Deallaf mai ei enw yma yw Mor Groeg. Dywedir mai epil y Philistiaid yw'r trigolion hyn. Sut bynnag am hynny nodir y wlad yma ym y mapiau Beiblaidd fel The land of the Philistines." Gwisgant yn debyg i'r hen bobl oedd yma ers talwm. Mae rhai yn grand ofnadwy, a'r Heillyn gwisgo hen sach. Doniol iawn yw gweld ambell uri o honynt a rhyw gerpyn o eiddo Tomi a adawyd ar ol ganddo. laith y bobl yma yw'r Arabaeg. Perthyn i'r teulu Semit- aidd. Ysgrifennir hi yn chwithig i'r eiddom ni. Mae ynddi lawer gair yn hollol yr un fath a'r Heb raeg ac y mae llawer tafodiaith ynddi. Gwahanol yw tafodiaith yr Aifft ag eiddo Syria, ond cym- ysgfa o'r ddwy yw tafodiaith El Arish. Mae i'r mwyafrif o'r cydsein- iaid bedair ffurf, yn dibynnu ar le'r cydseiniaid mewn gair. Gwahanol yw ffurf y gydsain os yn nechreu gair i'r hyn yw yn niwedd gair, a gwahanol drachefn os yn y canol. Yr un ffurf sydd i'r ferf yn yr amser presennol a'r dyfodol megis Ktub. Mae eisoes lawer o eiriau Arabaeg yn yr iaith Seisnig, megis Alkali, Algebra, Admiral, ond yn sicr fe ddaw'r bechgyn a llawer ohonynt eto adre gyda hwynt. Dyma rai o eiriau newydd i'r iaith Seisnigfeli is (money), bakshish (rhywbeth am ddim) —mae ystyr hwn yn eang iawn bint (girl) yr i yn fer fel y gair bin, imshi (go away) Defnyddir hwn yn gyffredin gan y bechgyn megis —" They imshied him am "They sent him away," "I am going to be imshied tomorrow," h y., discharched from hospital," wal- ad (lazy), ma fish,' nothing, Kweis Ketir (very good), mush Kiveis (no good). Dyma rai o'r geiriau mwyaf cyffredin y mae'r bechgyn wedi eu pigo, ac yn eu defnyddio bron bob dydd wrth siarad a'l gilydd. Cefais amser prysur iawn drwy'r haf a bum mewn cyffyrddiad a bron bob Division oedd ar y frynt. Deuthum i adnabod bechgyn o bob parth. Yn y dechreu gwnaem waith Clearing Station, ond ymhen ychydig wedi i ni gyrra-edd yma gwnaed cyfnewidiad, a byth er hyrmy gweithir yr ysbyty hon fel Infectious Disease Hospital. Bu yma rai yn wael iawn, ond n ffortunus ychydig fu farw. Ni chawsom vn y chwe mis fwy na phedwar o farwolaethau, ac aeth canoedd lawer drwy'r ysbyty yn yr amseryna., Deual ambeli Gymro yno. Ysgrifenais at deuluoedd ilawer ohonynt, a chefais air yn ol gan rai. Heblaw N. r ysbyty yma bu gennyf bedair arall i ofalu am dariynt. Hefyd yr oedd yma Rest Camp mawr, a gwelais lawer o'n nen ffrindiau o dro i dro, megis Williams (Rachub), Hughes (Ban- gor),Sergt. Fraser Willi a ms, ac Ellis Lewis. Pregettio jd y Serg. yn fy lie un nos Sul a chafodd oedfa gampus. Y mae gair da iddo yn y /.M.C.A huts. Canodd hefyd fel yr eos a mwynhawyd ef yn fawr. Un nos Sul ca,sg.odd nifer o fechgyn at ei gilydd a chafwyd ychydig o gyfarfod canu ar rai o'r hen donau, a- chanwyd hwy gyda bias Ymhlith y bech gyn yr oeddrhai o'r De a'r Gogledd a rhai a fu yn Park Hall. Dyma rai-Sergt. Williams, Ellis Lewis (Cwm Penmachno), Glyn Jones (Rhoscolyn), Llew Roberts (Ler pwl), Jones (Hirwaen), H. Roberts (Abergele), J. D. Hughes, J. D. Jones (Conwy), K. J. Lewis (Llan- fairfechan), H. G. Jones, a D. C. Evans (Penmaenmawr), Hugh Davies (Dwygyfylchi), Peter Wil- liams (Llanddulas), Rhys Edwards (Slaenau Ffestiniog), E. Roberts, (Trawsfynydd). Nid wyf wedi cael gwasanaeth Cymreig ers pan adewaisGroesoswallt a gadawodd y parti yma fi fel: pelican yn yr anialwch. Rhaid i mi ddweyd wrthych wrth derfynu'r llith hwn fel un arall, "I am writing under difficulties "-ofni bob eiliad gweld y tent a phopeth sydd ynddi yn mynd efo'r gwynt. Cofion serchog, I T. G. HUGHES.

[No title]

Advertising