Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Y Rhyfel o Ddydd i Ddydd.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y Rhyfel o Ddydd i Ddydd. Dydd LIun, louawr 28 Y mae'r llongau awyr wedi bob yn lied brysur ar y ffrynt orllewin- ol. Yrnwelodd yr ehedwyr Pryd- einig a Treves, a gollyngasant bombs ar y ffordd haearn yno. Ychydig cyn hynny gollyngasant dros wyth dunell o bombs ar chwech o aerodromes mawr ym Melgium, ar wahan i'r pelennau ffrwydrol a ollyngwyd ar ffyrdd haearn, &c. Y mae'r gwrth-ryfel yn ymeangu yn Rwsia ar bob llaw. Yn Fin- land, yn yr Ukraine, ac yn y Cossack Don y mae ymladd tost yn myned ymlaen. Y mae adroddiadau pell. ach am frwydrau rhwng milwyr Rumanaidd a milwyr Rwsiaid. Dywedodd Kuhlmann, yn y Sen- edd Germanaidd, wrth adolygu'r gwaith yn Brest, fod ymddanghos- iad Trotsky yn Brest wedi newid holl agwedd y Rwsiaid. Y mae'r brawdgarwch wedi ei atal a'r ymgomniau preifat wedi dod i ben. Dydd Mawrth. Gwnaed ymosodiad ar Lundain gyda'r llongau awyr nos Lun; hefyd, ar y Siroedd de-ddwyrein iol. Croeswyd glannau Kent ac Essex ganddynt tuag wyth o'r gloch. Cyrhaeddodd rhai o'r peir- ianau Lundain, a gollyngasant bombs rhwng naw a deg yr hwyr. Dygwyd un peiriant Germanaidd i lawr gan ein ehedwyr yn Essex. Dywedir fod cryn brysurdeb gyda'r llongau awyr ar hyd y ffrynt Italaidd, ac yn ol yr adrodd iad Awstriaidd, y mae'r cyflegrau yn brysur iawn ar y Sette Communi Plateau, ac yn ffyrnig neilltuol ar brydiau. Dywed teligramau o Vienna fod yr Ukraniaid a'r Bolsheviksiaid wedi gael brwydr fawr o amgylch Livek, yn ymyl ffiniau Poland, am amryw ddyddiau. Gwrthododd yr Awstriaid roddi cynorthwy i'r olaf, er eu cais taer. Ymhellach i'r dwyrain, yn Kieff, edrychir ymlaen am frwydr derfyn- ol rhwng Bolsheviksiaid a'u gwrth- wynebwyr. Dywed adroddiadau swyddogol Germanaidd fod y Goeben wecfi llwyddo i nofio o'r diwedd, ac wedi myned i'r Dardanelles. Dydd Mercher Gwnaeth yr Italiaid ymosodiad llwyddianus yn erbyn y bryniau i'r dwyrain o Asiago Basin, ger yr Upper Brenta. Ymosodasant ar y safleoedd Awstriaidd mewn amryw leoedd, a gwrthsafasant wrth ymosodiadau ffyrnig, v gan gymeryd dros 1,500 o garcliarorion. Cynorthwyid hwy gan gyflegrau ac ehedwyr y Cynghreiriaid. Dywed yr adroddiad sv yddogol am yr ymosodiadau awyrol ar Lundain, nos Lun, fod 46 o berson- au wedi cael eu liadd a 162 wedi eu niweidio Aeth deg a thri ugain o'n ehedwyr ni i fyny, a dychwel odd yr oil. Llosgwyd criw y Gotha, a ddaeth i lawr, yn llwyr. Y mae'r Bolsheviksiaid ar hyn o bryd yn ymladd yn agored gyda'r Rumaniaid a'r.Ukraniaid. Bryn- hawn Llun rhoddasant ddeng awr o rybudd i'r Llywodraeth Ruman- aidd ym Mhetrograd. Mewn ymgom dywedodd y Llynghesydd Von Tirpitz, ei fod yn tybio fod heddwch gyda Phryd- ain yn bosibl drwy gyd ddealltwr. iaeth, pe na bai Prydain ond yn rhoddi yr hyn sydd arni eisiau. Gan na wna hynny'n wirfoddol rhaid iddi gyrraedd ei hamcanion drwy orfodaeth. Dydd Iau Methodd. yr ehedwyr German- aidd a threiddio i amddiffynfeydd Llundain. nos Fawrth, er eu bod wedi gwneud nifer o ymosodiad- au. Gollyngwyd bombs ar y terfyn- au, a dywedir yn swyddogol fod tri wedi eu-lladd a deg wedi eu ni weid- ia. Yn ychwar.gol, ofnir fod chwech o gyrff wedi cael eu claddu o dan adfeilion ty. Dywedir mewn adroddiad swyddogol fod wyth o bersonau wedi cael eu lladd yn y ty hwn. Agorwyd Cynhadleddau y Cyng rhreiriaid yn Versailles, dydd Mercher. Y mae ymosodiadau yr Italiaid yn y mynyddoedd sydd i'r dwyrain o Asiago Plateau vn datblygu'n llwyddiannus iawn. Meddianodd ein milwyr Coldel Rossa, Col d' Echele, y Monte di Val Bella, a'r safleoedd i'r gorllewin o Ddyffryn Freuzela. Cafodd yr Awstriaid golledion trymion—dinistriwyd dwy adran bron yn llwyr. Cym- erwyd drbs 2,000 o garcharorion, 6 o ynnau, a 100 o wn beiriannau. Y mae'r llongau a gollwyd yn cynnwys 9 o longau mawr, a 6 o longau llai. Dydd Gwener. Cymysglyd yw'r adroddiadau parthed y streic yn Germani. Ar un llaw dywedir fod tua 750,000 allan ar streic yn Berlin, a t'bd yr haint yn ymledu i leoedd ereill, ond ar y llaw arall, dywedir y gellir bod yn wyliadwrus wrth dderbyn y newydd, oherwydd yr awgrymir y gall y Llywodraeth Germanaidd wasgaru'r newyddion hyn i geisio dangos i wledydd ereill fod yr amodau yn llawer gwaeth nag ydynt. Adroddir heddyw am ymosodiad gan aeroplanes Germanaidd ar Paris yn hwyr nos Fercher. Dywedir i 14 tunell o bombs ddis- gyn yn ac o amgylch y ddinas. Lladdwyd 20, a chlwyfwyd oddeu- tu 50. Dygwyd un o aeroplanes y gelyn i lawr, a daliwyd yn fyw y ddau oedd yn ei hwylio. Dydd Sadwrn Heddyw, ceir eglurhad pellach ar y rhuthr awyrenol Germanaidd ar Paris. Dywedir fod nifer" y lladdedigion yn 45, a'r clwyfedig ion yn 207. Cymerwyd rhan yn yr ymosodiadau gan 28 o aeroplanes. Adroddir fod un rhan o'r ffrynt Ffrengig yn awr yn gael ei dal gan Americaniaid. Ychydig o newyddion geir am y streic yn Germani, ond dywedir fod dros filiwn yn sefyll allan.

Gt YNDYFRDWY.I

Advertising